Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Prif Swyddog Meddygol Cymru ar lacio’r cyfyngiadau Diogelu Iechyd - 12 Mawrth 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf wedi adolygu’r diwygiadau arfaethedig i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 ac rwy’n credu eu bod yn cynnwys camau gofalus, fesul cam ar gyfer llacio’r cyfyngiadau.

Mae nifer yr achosion COVID-19 newydd yn parhau i ostwng yng Nghymru, gyda’r nifer cyfartalog dros gyfnod o 7 diwrnod yn is na 50 achos/100,000 o’r boblogaeth am y tro cyntaf ers mis Medi, a’r gyfradd positifedd profion nawr yn llai na 4.5%.  

Mae’r cyfyngiadau presennol wedi bod yn effeithiol o ran lleihau cyfraddau heintio, a’n nod ni yn awr yw ceisio cadw trosglwyddiad cymunedol ar y lefelau isaf posibl. Mae cadw cyffredinrwydd COVID-19 yn isel yn strategaeth atal bwysig er mwyn osgoi niwed uniongyrchol ac amddiffyn yn erbyn amrywiolynnau newydd sy’n dod i’r amlwg. Mae gofyn llacio’r cyfyngiadau yn araf er mwyn sicrhau cyffredinrwydd isel y feirws; bydd llacio’r cyfyngiadau’n rhy gynnar neu’n rhy gyflym yn golygu y bydd yr epidemig yn cryfhau eto. Mae ein senarios modelu yn awgrymu y gallai llacio’r cyfyngiadau’n rhy gyflym, wedi’i gyfuno â throsglwyddadwyedd uwch yr amrywiolyn amlycaf a lefel isel o ymlyniad i’r cyfyngiadau gan y cyhoedd, arwain at drydedd ton o’r feirws tua diwedd y gwanwyn (Mai/Mehefin). Os na allwn osgoi sefyllfa o’r fath, yna mae’n debygol, er gwaethaf llwyddiant ein rhaglen frechu, y byddwn yn gweld cyfnod o drosglwyddiad feirysol uchel yng Nghymru unwaith eto, gyda chynnydd yn y nifer sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty a chynnydd mewn marwolaethau.  

Mae camau gweithredu ar draws y DU i atal mewnforio’r haint (yn enwedig amrywiolynnau newydd) drwy deithio rhyngwladol hefyd yn bwysig. I liniaru’r risgiau i iechyd y cyhoedd, mae cyfres o fesurau rheoli ar waith ar y ffiniau. Mae’r rhain yn ei gwneud yn ofynnol i deithwyr gyflwyno eu manylion personol a’u manylion teithio a thystiolaeth o brawf coronafeirws negatif cyn teithio i’r DU. Hefyd, mae angen i bob teithiwr ynysu am 10 diwrnod llawn ar ôl cyrraedd y DU. Os yw unigolion yn cyrraedd o wledydd “rhestr goch” (sy’n gysylltiedig ag amrywiolynnau sy’n peri pryder), byddant yn gorfod ynysu mewn cyfleuster pwrpasol yn agos at y man lle byddant yn cyrraedd y DU; os yw pobl yn cyrraedd o wledydd eraill, byddant yn cael ynysu gartref. Er bod y mesurau hyn yn cyfrannu ychydig tuag at amddiffyn rhag mewnforio COVID-19 a chyflwyno amrywiolynnau newydd i’r DU, dylem barhau i weithio gyda gwledydd eraill y DU i gryfhau ein trefniadau rheoli ffiniau ymhellach. Efallai y bydd angen gosod cyfyngiadau parhaus ar deithio rhyngwladol os gwelwn fod cyfraddau achosion yn dechrau cynyddu.

Dylem barhau i ddefnyddio deddfwriaeth a chyngor i sicrhau nad oes cynnydd mewn aelwydydd yn cymysgu o dan do. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod y cyhoedd yn cadw at y cyfyngiad hwn; mae ein gwaith modelu’n dangos mai aelwydydd yn cymysgu yw’r prif beth a fydd yn penderfynu a ydym yn debygol o brofi trydedd ton sylweddol. Mae gweithredu mesurau lliniaru personol, gweithdrefnol, peirianyddol a chymdeithasol i leihau trosglwyddiad feirws SARS-CoV-2 yn parhau i fod yn rhan hanfodol o’n dull gweithredu, ond oherwydd bod yr amrywiolyn newydd yn trosglwyddo yn haws, mae angen bod yn fwy llym wrth roi’r mesurau ar waith, oherwydd y risg cynyddol y bydd yn lledaenu. Yn bwysicaf oll, dylai ein negeseuon i’r cyhoedd esbonio pam bod angen cyfyngiadau parhaus ar gwrdd â theulu a ffrindiau yn ein cartrefi, mewn carafannau ac mewn lletyau gwyliau.

Yn olaf, dylem barhau i fonitro effaith llacio’r cyfyngiadau a bod yn fodlon ymyrryd eto os gwelwn dystiolaeth fod trosglwyddiad yn y cynyddu.  

Dr Frank Atherton
Prif Swyddog Meddygol
12 Mawrth 2021