Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor i'r Prif Weinidog ar gyfyngiadau cyn y Nadolig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf wedi adolygu'r cynigion i gadw'r cyfyngiadau presennol yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020, ac i osod cyfyngiadau newydd ar deithio, lletygarwch, adloniant o dan do ac atyniadau ymwelwyr o dan do. Rwyf hefyd wedi ystyried cynllun pedair gwlad Llywodraethau’r Alban, Gogledd Iwerddon a'r Deyrnas Unedig ar gyfer cyfnod yr ŵyl. 

Mae fy nghyngor yn parhau i gael ei lywio gan allbynnau Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar Argyfyngau (SAGE) a Chell Cyngor Technegol Cymru (TAC), a thrwy drafodaethau gyda Phrif Swyddogion Meddygol y pedair gwlad a Phrif Gynghorydd Economaidd Cymru.

Cafodd y cyfnod atal byr yng Nghymru yr effaith y bwriadwyd iddo’i gael, sef ymyriad byr a chynnar i wthio'r epidemig yn ei ôl tua thair wythnos. Bellach, yn dilyn y cyfnod hwn o dwf negyddol, gwelwyd twf yn y cyfraddau trosglwyddo ar draws ardaloedd y byrddau iechyd, gyda'r cyfraddau uchaf yn Aneurin Bevan a Bae Abertawe. Gwelwyd effaith hefyd ar bobl 60 oed a throsodd. Ar 29 Tachwedd, roedd 1,687 o gleifion yn yr ysbyty y cadarnhawyd neu yr amheuid bod Covid-19 arnynt, neu a oedd yn gwella ohono. Roedd hyn yn cynnwys 68 o gleifion mewn gofal crigitol am resymau’n gysylltiedig â Covid-19.

Cyngor Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar Argyfyngau (SAGE) a'n Cell Cyngor Technegol (TAC) yw mai rhoi ymyriadau ar waith yn gynharach a chyn i’r cyfraddau dyfu fwyfwy yw'r ffordd fwyaf effeithiol o reoli'r pandemig. Mae'n ymddangos bod system lefel 3 yr Alban a chyfyngiadau haen 3 Lloegr yn cael effaith gadarnhaol ar leihau lledaeniad y coronafeirws. Rwyf felly'n cefnogi'r diwygiadau arfaethedig i reoliadau Cymru er mwyn gwahardd gwerthu alcohol a lleihau’r oriau agor mewn tafarndai, bariau, bwytai a chaffis, ac er mwyn cau lleoliadau ac atyniadau adloniant o dan do. 

Mae'r mesurau hyn yn rhai penodol, wedi'u targedu, sydd â’r nod o leihau’r cyfleoedd i gymysgu a chymdeithasu mewn lleoliadau o dan do sy’n orlawn ac wedi'u hawyru'n wael, lle gall y feirws drosglwyddo'n hawdd. Bydd y cyfyngiadau ychwanegol hyn, ynghyd â’r trefniadau presennol ar gyfer aelwydydd estynedig, yn ein helpu i ddechrau ar gyfnod yr ŵyl gyda nifer is o achosion cymunedol o Covid-19 nag a fyddai fel arall.

Rwy’n cydnabod yr effeithiau economaidd-gymdeithasol andwyol a'r niwed cysylltiedig a fydd yn deillio o'r mesurau hyn ac a fydd yn effeithio'n arbennig ar y sector lletygarwch a'i gadwyni cyflenwi cysylltiedig mewn cyfnod sydd wedi bod yn bwysig iawn yn draddodiadol ar gyfer refeniw. Felly, rwy'n croesawu'n fawr y pecyn cymorth arfaethedig a fydd yn cael ei roi ar waith gan Lywodraeth Cymru. Byddwn i hefyd yn nodi, er na fydd yn bosibl lliniaru'r holl effeithiau andwyol yn llawn, y gallai'r niwed fod hyd yn oed yn fwy pe baem yn gohirio gweithredu ac yn gorfod gosod mesurau  a fyddai yn oed yn fwy cyfyngus a hirfaith yn y dyfodol.

Mae'r dull pedair gwlad o ymdrin â chyfnod yr ŵyl i'w groesawu; mae'n darparu rheolau clir a dealladwy a ddylai fod yn haws eu deall a'u dilyn. Fodd bynnag, er y caniateir dod â thair aelwyd at ei gilydd i ffurfio swigen Nadolig rhwng 23 a 27 Rhagfyr, rwy’n annog y cyhoedd i feddwl yn ofalus am eu cynlluniau ac i ddewis cael Nadolig tawel a diogel os oes modd. Mae hyn yn arbennig o wir am unrhyw gyfarfodydd wyneb yn wyneb a drefnir gyda pherthnasau oedrannus, gan y gellid defnyddio ffyrdd mwy diogel o gyfarfod, er enghraiff trwy gyfarfod rhithwir. 

Gwyddom fod trosglwyddo ar aelwydydd yn digwydd yn gyflym a bod unigolion yn heintus iawn cyn i’r symptomau ymddangos ac yng nghyfnod cynnar y symptomau. Y ffordd orau o ddiogelu aelodau o'r teulu sy'n agored i niwed yw peidio â'u hamlygu i haint posibl, waeth pa mor dda yw’r rheswm dros fod eisiau cwrdd â hwy. Os nad oes modd osgoi hyn, byddwn yn cynghori na ddylai aelwydydd gymysgu yn yr wythnosau cyn y Nadolig, fel ffordd o ostwng y risg o heintio rhwng cenedlaethau; a phan fyddant yn cyfarfod gyda'i gilydd, i gadw pellter cymdeithasol, dilyn arferion hylendid da, lleihau hyd yr arhosiad o dan do a sicrhau bod y lle wedi’i awyru’n dda.  

Heb unrhyw amheuaeth, bydd cyfarfod â theuluoedd a ffrindiau dros gyfnod yr ŵyl yn arwain at fwy o gyfleoedd i drosglwyddo'r clefyd.  Mae'n anochel mai canlyniadau'r llacio byr hwn fydd cynnydd mewn achosion, derbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau ym mis Ionawr a mis Chwefror. Felly, argymhellaf ein bod yn mapio ac yn rhoi cyhoeddusrwydd i'n cynlluniau ar gyfer y cyfnod ar ôl y Nadolig mewn ffordd sy'n caniatáu inni roi cyfyngiadau pellach ar waith yn gyflym yn y flwyddyn newydd pe bai eu hangen.    

Mae’r cynlluniau i ddatblygu, trwyddedu, cynhyrchu a defnyddio brechlyn yn mynd rhagddynt yn dda ac yn cynnig ffordd i ni symud o ddelio â'r pandemig i fyw gyda chlefyd endemig. Yn y cyfamser, hyd nes y bydd brechlynnau effeithiol ar gael yn eang bydd angen i'r cyhoedd yng Nghymru gadw pellter cymdeithasol a glynu wrth y mesurau cysylltiedig sy’n angenrheidiol er mwyn osgoi dal a lledaenu Covid-19, a thrwy hynny  ddiogelu iechyd y cyhoedd ac achub bywydau. 

Dr Frank Atherton
Y Prif Swyddog Meddygol
2 Rhagfyr 2020