Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor a gyflwynwyd i’r Prif Weinidog ar adolygu trefniadau’r cyfnod atal byr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf wedi adolygu'r cynigion i wneud y canlynol:

  1. cyflwyno cyfyngiadau cenedlaethol newydd (cyfnod atal byr) am gyfnod o bythefnos sy’n cyd-daro â'r gwyliau hanner tymor sydd i ddod yn yr ysgolion
  2. gweithio ar y sefyllfa ar ôl y cyfnod atal byr a set newydd o reolau cenedlaethol 

Mae’r cyngor yn parhau i gael ei seilio ar waith Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau y Deyrnas Unedig (SAGE) a Chell Cyngor Technegol Cymru, ac ar drafodaethau â Phrif Swyddogion Meddygol y pedair gwlad a’r Prif Gynghorydd Economaidd yng Nghymru.

Yr wyf yn bryderus bod trosglwyddiad coronafeirws wedi cynyddu'n sylweddol yng Nghymru dros y ddau fis diwethaf a'i fod yn symud yn fwyfwy i bobl hŷn, eiddilach. Mae bron yn sicr y bydd yr achosion yr ydym yn eu gweld yn y gymuned ar hyn o bryd yn rhoi mwy o bwysau ar y GIG dros yr wythnosau nesaf. Mae'r trefniadau Ardal Diogelu Iechyd Lleol a sefydlwyd gennym mewn sawl rhan o Gymru wedi arwain at rywfaint o sefydlogrwydd tymor byr ond nid ydynt wedi atal y twf mawr yn nhrosglwyddiad y feirws. Gydag amcangyfrif Rt o 1.4, cyfradd dwf o 5% y dydd, ac amser dyblu presennol o 10-14 diwrnod, cyfnod byr sydd gennym i weithredu os ydym am atal capasiti ein GIG rhag bod o dan straen a chael ei lethu o bosibl. Er mwyn atal marwolaethau uniongyrchol yn sgil COVID-19 a marwolaethau sy'n gysylltiedig â diffyg argaeledd gwasanaethau'r GIG, argymhellaf felly y dylid cynnal cyfnod atal byr gan ddychwelyd at rai o’r mesurau a oedd mewn grym yn gynharach yn y flwyddyn yn ystod y cyfyngiadau symud. 

Mae’r gwaith modelu'n amhendant ond y ffactorau a ddylai lywio ein penderfyniadau ar natur cyfnod atal byr yw:

  • dylid ei weithredu cyn gynted â phosibl gan gydnabod yr angen am rywfaint o ymgynghori a chyfathrebu angenrheidiol i baratoi sectorau a'r cyhoedd
  • cyfnod o bythefnos yw'r cyfnod lleiaf sy'n debygol o gael effaith; po hiraf yw’r cyfnod y gorau fydd yr effaith
  • mae’r neges syml o aros gartref yn fwy tebygol o gael ei deall a'i monitro'n haws na chyfyngiadau mwy cymhleth ar deithio daearyddol
  • dylem sefydlu eithriadau addas sy'n caniatáu i'r cyhoedd barhau i ymgymryd â gweithgarwch corfforol, cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored risg isel, a chefnogi aelwydydd un person a rhieni sengl
  • byddai'n ddoeth galluogi plant iau a phlant sy'n agored i niwed o oedran ysgol uwchradd i aros yn yr ystafell ddosbarth, gan gefnogi rhieni sy'n weithwyr allweddol. Mewn ysgolion uwchradd ac annibynnol, byddai'n ddoeth i'n plant ieuengaf a'n plant mwyaf agored i niwed barhau i dderbyn addysg wyneb yn wyneb. Ar gyfer plant hŷn mewn ysgolion uwchradd ac addysg bellach, bydd parhad yr addysgu drwy ddulliau ar-lein yn lleihau unrhyw darfu ar addysg ac ar yr un pryd yn lleihau rhyngweithio cymdeithasol, yn unol â diben y cyfnod atal byr  
  • bydd prifysgolion sy'n aros ar agor hefyd yn atal canlyniadau andwyol yn sgil myfyrwyr yn mudo ar raddfa fawr i wahanol rannau o'r DU a Chymru  

Yr wyf yn ymwybodol iawn o'r niwed anuniongyrchol a fydd yn deillio o'r cyfyngiadau arfaethedig. Mae ein Prif Gynghorydd Economaidd yn amcangyfrif y gellid colli dros £300 miliwn o allbwn (GDP) a'r incwm cysylltiedig, a hynny cyn ystyried holl effeithiau'r gadwyn gyflenwi. Ni fydd taliadau o dan gynlluniau cymorth swyddi Llywodraeth y DU yn gwrthbwyso'r allbwn a'r incwm hwn a gollwyd yn llawn. Mae'r effeithiau economaidd a chymdeithasol anffafriol yn debygol o bara y tu hwnt i’r cyfnod atal byr, gan waethygu rhagolygon y farchnad lafur i'r rhai sy'n colli eu gwaith neu sydd wedi ymuno â'r farchnad lafur yn ddiweddar. Mae tystiolaeth o ddirwasgiadau blaenorol yn awgrymu bod pobl ifanc sy'n ymuno â'r farchnad lafur mewn amgylchiadau o'r fath yn dioddef canlyniadau andwyol hirdymor, sy'n effeithio ar ganlyniadau economaidd, iechyd a llesiant, a bod mwy o berygl y byddant yn marw yn ieuengach. Mae’r effeithiau hyn, ac effeithiau eraill, yn tueddu i waethygu anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol. Fodd bynnag, gallai'r niwed anuniongyrchol fod yn llawer mwy pe na bai'r cyfnod atal byr arfaethedig yn cael ei gyflwyno, bod y GIG yn cael ei llethu, ac o ganlyniad bod angen cyfnod atal cenedlaethol hirach neu lymach.

Rwy’n bwriadu cyfathrebu â'r unigolion hynny sydd yn y "grŵp gwarchod" i'w cynghori ynglŷn â’r mesurau y gallant eu cymryd i’w hamddiffyn eu hunain a rhoi gwybod am y cymorth sydd ar gael iddynt.

Ni fydd cyfnod atal byr ar hyn o bryd, ynddo'i hun, yn dod â'r pandemig i ben; efallai y bydd angen inni osod cyfyngiadau tebyg yn ystod misoedd y gaeaf. Mae’r rhagolygon am frechlynnau yn erbyn y feirws yn gwella a dylem ni yng Nghymru fod yn parhau i weithredu i leihau nifer y marwolaethau ac osgoi niwed cyhyd ag y bo modd nes bydd y brechlynnau hyn ar gael.

Yn olaf, cytunaf y dylem wneud y defnydd gorau o'r cyfnod atal byr i fonitro'n ofalus yr effaith ar drosglwyddiad feirysol, er mwyn cryfhau ymhellach ein paratoadau ar gyfer y GIG dros fisoedd y gaeaf, cryfhau ein rhaglen Profi Olrhain Diogelu, ac ailymgysylltu â'r cyhoedd yng Nghymru ar y camau hanfodol y mae angen i bob un ohonom eu cymryd i’n hamddiffyn ni ein hunain: drwy leihau pob math o gymysgu cymdeithasol; yn ein cartrefi, ac mewn bwytai, siopau, canolfannau hamdden a gweithleoedd am gyfnod byr, gallwn osgoi dal neu ledaenu'r feirws, gallwn atal derbyniadau i'r ysbyty, a gallwn leihau nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID-19 dros fisoedd y gaeaf. 

Dr Frank Atherton
Y Prif Swyddog Meddygol
19 Hydref 2020