Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor i'r Prif Weinidog ar yr adolygiad 21 diwrnod o gyfyngiadau COVID-19.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n nodi’r mân newidiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020.

Ymddengys bod trosglwyddiadau COVID-19 yn y gymuned yng Nghymru yn cynyddu ac mae’n debygol o gynyddu ymhellach pan fydd dysgu mewn ysgolion a phrifysgolion yn ailddechrau. Mae’r cyfraddau brechu uchel wedi cyfrannu at wanhau’r cysylltiad rhwng nifer yr heintiadau a gofnodir ac effeithiau difrifol y clefyd, fel yr amlygir yn y niferoedd cymharol isel o bobl yr amheuir neu y cadarnhawyd bod ganddynt COVID-19 a dderbynnir i’r ysbyty bob dydd.

Fodd bynnag, mae rhywfaint o ansicrwydd yn parhau ynglŷn â’r misoedd sydd o’n blaenau. Mae effaith llacio’r cyfyngiadau yn ystod yr haf, gyda mwy o gymysgu cymdeithasol ar Lefel Rhybudd 0, yn cael ei hadlewyrchu yn y cynnydd yn nifer yr achosion ac ym mhositifedd profion ym mhob ardal o Gymru, er bod hyn yn digwydd yn arafach o gymharu â’r tonnau blaenorol. Rhaid inni barhau i fonitro’r sefyllfa yn agos iawn, yn enwedig oherwydd y pwysau ehangach sy’n cael ei brofi ar draws y system iechyd a gofal ar hyn o bryd. 

Cael ein brechu yw un o’r ffyrdd fwyaf effeithiol inni ddiogelu ein teuluoedd, ein cymunedau a ni ein hunain rhag COVID-19. Mae’r rhaglen frechu yn canolbwyntio yn awr ar gynyddu nifer yr oedolion sy’n cael dos cyntaf ac ail ddos ac annog y carfannau iau i drefnu i gael eu brechu. Yn ogystal â hyn, mae Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru wedi dechrau brechu plant 12-17 oed sy’n cael eu hystyried fel unigolion sy’n agored i niwed yn glinigol, ac mae’r gwaith o gynllunio ar gyfer rhaglen pigiadau atgyfnerthu yn yr hydref yn parhau. 

Mae’r brechlyn rhag y ffliw hefyd yn flaenoriaeth bwysig inni er mwyn lleihau lefelau afiechyd a marwolaethau sy’n gysylltiedig â’r ffliw ac i leihau nifer y bobl a fydd yn cael eu derbyn i’r ysbyty pan allai’r GIG a’r system gofal cymdeithasol fod yn rheoli brigiadau o achosion COVID-19 yn ystod y gaeaf.  
Nid nawr yw’r amser inni orffwys ar ein rhwyfau. Mae’r feirws yn cylchredeg o hyd ac mae perygl bob amser y gallai amrywiolynnau newydd ddod i’r amlwg. Mae’n hollbwysig bod pob un ohonom yn arfer yr ymddygiadau iach sy’n cyfyngu ar ledaeniad COVID-19:

  • cael ein brechu’n llawn 
  • hunanynysu os bydd gennym symptomau a chael prawf 
  • dilyn arferion hylendid dwylo ac anadlol da 
  • cyfyngu ar ein cysylltiadau ac aros mewn lleoliadau awyr agored pan fo’n bosibl 
  • sicrhau bod amgylcheddau o dan do yn cael eu hawyru’n dda 
  • gwisgo gorchudd wyneb mewn rhai mannau cyhoeddus dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus 
  • gweithio gartref pan allwn ni wneud hynny 

Dr Frank Atherton
Y Prif Swyddog Meddygol