Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor i'r Prif Weinidog ar yr adolygiad 21 diwrnod o gyfyngiadau COVID-19.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n cefnogi cyfeiriad cyffredinol y penderfyniadau arfaethedig. Bydd y dull hwn yn cadw’r mesurau a gynlluniwyd i leihau nifer y bobl heintus sy’n dod i gysylltiad ag eraill, yn parhau i gefnogi elfennau craidd y system Profi, Olrhain, Diogelu ac yn cadw set fwy cyfyngedig o gyfyngiadau pan fo’n briodol yn unig.

Bydd y newid cyffredinol o ddeddfwriaeth i ganllawiau yn briodol pan fyddwn yn gadarn yn ein dealltwriaeth fod y brechlyn yn gwanhau’r cysylltiad rhwng trosglwyddiad cymunedol a niweidiau.

Mae trosglwyddiad cymunedol yn uchel; mae cyfraddau a nifer yr achosion yn cynyddu; yn bennaf ymhlith pobl ieuengach, y mae llai ohonynt wedi’u brechu; Mae’r cyfraddau ymhlith y rhai dros 60 oed yn cynyddu ond ar raddfa arafach.

Mae’n debygol y bydd nifer y cleifion sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty yn cynyddu ond, os byddwn yn dilyn patrwm tebyg i’r Alban a Lloegr mae’n debygol y bydd y cyfraddau  trosi rhwng achosion; niferoedd sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty; nifer y cleifion yn yr Unedau Gofal Dwys a marwolaethau yn debygol o fod yn llawer llai nag yn y tonnau blaenorol. Gallwn ragweld y bydd y bobl sydd angen triniaeth yn yr ysbyty yn ieuengach ac yn llai sâl yn y don bresennol ond gall y niferoedd fod yn uchel a bydd peth niwed yn anorfod. Dylai cyrff y GIG ragweld yr angen i ofalu am y grŵp cynyddol hwn wrth i’r cyfyngiadau lacio.

Mae’r nifer sydd wedi cael y brechlyn yn y grŵp dros 40 oed yn uchel; mae’n ymddangos fod hyn yn newid y berthynas rhwng trosglwyddiad cymunedol a niweidiau. Mae angen inni annog mwy o bobl yn y grŵp 18-40 oed i fanteisio ar y brechlyn yn ogystal â’r grwpiau eraill sydd â lefelau isel wedi’u brechu fel cymunedau na wasanaethir yn ddigonol neu gymunedau sy’n betrusgar am y brechlyn.

Mae’r darlun epidemioleg presennol yn newid y cydbwysedd rhwng niweidiau uniongyrchol ac anuniongyrchol o ganlyniad i COVID-19 ac yn ei gwneud yn gynyddol anodd i gyfiawnhau defnyddio pwerau iechyd cyhoeddus i barhau i gyfyngu ar weithgareddau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol. Rwy’n cytuno ei bod yn briodol i symud oddi wrth ddeddfwriaeth a chosbau tuag at ganllawiau a chymorth ymddygiad. Rwy’n cefnogi’r broses o symud i gyfyngiadau lefel 1 a symud yn ofalus tuag at lacio’r cyfyngiadau sy’n weddill.

Byddai dileu rhai cyfyngiadau yn ystod misoedd yr haf yn ein galluogi i fanteisio ar bedwar ffactor, y gallai pob un ohonynt fod yn llai ffafriol yn ystod misoedd yr hydref/gaeaf.

  • mae trosglwyddiad COVID-19 yn llai tebygol mewn tywydd cynnes a sych ac mae mwy o gymdeithasu yn digwydd yn yr awyr agored 
  • mae lefelau uchel o imiwnedd naturiol ac imiwnedd o ganlyniad i frechlynnau yn y boblogaeth (yn enwedig ymhlith pobl sy’n fwy agored i niwed) 
  • mae gwyliau’r ysgol ac addysg uwch ar fin arwain at doriad naturiol yn y cadwyni trosglwyddo 
  • mae lefelau isel o’r ffliw/pathogenau anadlol eraill yn cylchredeg yn y gymuned ar hyn o bryd 

Wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio ymhellach mae angen inni barhau i gefnogi ymddygiadau iach sy’n cyfyngu ar ledaeniad COVID-19. Mae angen negeseuon iechyd y cyhoedd cryf ac mae angen atgyfnerthu polisïau er mwyn i bobl fedru barnu’n well sut y gallant gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel.

  • cadw negeseuon am fod yn ofalus ac addysgu’n barhaus am hylendid dwylo ac anadlol
  • cyfyngu ar gysylltiadau a pheidio â chymysgu ag eraill ar ôl sylwi ar symptomau clefydau anadlol (hyd yn oed os yw’r symptomau’n rhai ysgafn), i gyfyngu ar ledaeniad y feirws
  • parhau i gynnal asesiadau risg penodol i COVID-19, a gweithio tuag at gynnwys mesurau iechyd a diogelwch ehangach i atal lledaeniad haint

Dylem ystyried cynnal adolygiad cynhwysfawr o'r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu gan fod y cyd-destun a'r epidemioleg wedi newid ers i'r strategaeth gael ei rhoi ar waith fis Mehefin 2020. Mae’n bosibl y gallai’r rhaglen symud tuag at broses o 'rybuddio a hysbysu'.

Mae angen mesurau iechyd cadarn ar y ffin o hyd i helpu i atal heintiau rhag dod i mewn i’r wlad, yn enwedig amrywiolion sy’n peri pryder. Mae rhywfaint o risg ynghlwm wrth fwriad Llywodraeth y DU i gael gwared ar gwarantin a llacio’r gofynion profi ar gyfer oedolion sydd wedi’u brechu’n llawn ac sy'n cyrraedd o wledydd sydd ar y rhestr oren. Er bod ansicrwydd a risgiau’n bodoli o hyd o ran mewnforio amrywiolion sy’n peri pryder, cydnabyddir y byddai'n anodd i Gymru ddilyn polisi iechyd gwahanol i Lywodraeth y DU o ran y ffin. Os oes angen i’r safbwynt polisi gyd-fynd ag un Llywodraeth y DU, mae angen ystyried y materion canlynol yn ofalus:

  • Lle y bo'n briodol, dylid cael cysondeb ar draws y trefniadau cwarantin a hunanynysu domestig ar gyfer teithio rhyngwladol (ar gyfer oedolion sydd wedi’u brechu’n llawn sydd wedi dod i gysylltiad ag achosion). 
  • O ystyried y risgiau sy'n gysylltiedig â theithio rhyngwladol, efallai y byddai'n ddoeth cynghori pawb sy'n cyrraedd sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer yr eithriad hwn na ddylent ymweld â chartrefi gofal neu leoliadau sensitif eraill lle gallai unigolion a grwpiau sy'n agored i niwed neu risg fod yn bresennol. 
  • Gallai’r bwriad i gael gwared ar y gofyniad cwarantin fod yn gymhelliad i rai gael eu brechu. Fodd bynnag, mae hyn yn annhebygol o unioni'r anghydraddoldeb presennol o ran brechu ar draws grwpiau economaidd-gymdeithasol.
  • Dylid rhoi’r newidiadau y bwriedir eu gwneud i’r Ffurflen Lleoli Teithwyr ar waith er mwyn gwella'r broses o wirio statws brechu teithwyr (gan gludwyr a Llu Ffiniau'r Swyddfa Gartref) ac er mwyn helpu’r Tîm Teithwyr sy’n Cyrraedd Cymru i roi blaenoriaeth i’r teithwyr hynny sy’n cyrraedd nad ydynt yn bodloni’r meini prawf ar gyfer yr esemptiad hwn.

Dr Frank Atherton
Y Prif Swyddog Meddygol