Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor a gyflwynwyd i'r Prif Weinidog ar adolygu trefniadau’r cyfyngiadau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyngor y Prif Swyddog Meddygol ar gyfer yr Adolygiad 21 Diwrnod

Rwyf wedi adolygu’r diwygiadau arfaethedig i’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 sy’n cynnwys;

  • ei gwneud yn ofynnol i fusnesau lletygarwch a safleoedd risg uchel eraill gasglu manylion cyswllt
  • ehangu aelwydydd estynedig: gan gynnwys hyd at bedair aelwyd fel rhan o un aelwyd estynedig:
  • caniatáu derbyniad bychan ar ôl seremoni priodas neu bartneriaeth sifil a chynulliadau ar ôl angladd, o hyd at 30 o bobl  
  • diwygiad technegol i’r Rheoliadau i egluro mai’r unig ddedfryd y gall ynad ei roi yw dirwy o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1984

Rwy’n cefnogi’r cynigion hyn sydd yn unol â’r dull darbodus o lacio’r cyfyngiadau sydd wedi’i fabwysiadu gennym yng Nghymru.

Er bod yr amodau iechyd y cyhoedd yn sefydlog yn gyffredinol, dylid ystyried yn ofalus cyn ehangu’r aelwydydd estynedig i alluogi mwy o bobl i gwrdd yn nhai ei gilydd. Yn yr amgylchiadau hyn, gwyddom o dystiolaeth ryngwladol bod y risgiau yn uwch mewn mannau caeedig dan do heb lawer o aer yn cylchredeg, lle mae’r pethau sy’n ein hatgoffa i gadw pellter cymdeithasol yn absennol neu’n cael eu hanwybyddu, a lle bydd cyfleusterau’n cael eu rhannu.

Yn Lloegr, mae nifer yr achosion dyddiol wedi cynyddu a’r rhif R bellach yn agos at un. Mae’r darlun yn debyg mewn gwledydd Ewropeaidd eraill, er enghraifft yn yr Eidal lle gwelwyd y cynnydd dyddiol mwyaf ers 29 Mai ar 7 Awst. Mae achosion lleol yn ymddangos a chyfyngiadau yn cael eu rhoi ar waith unwaith eto yng ngwledydd eraill y DU ac ar draws y byd. Mae’n debygol iawn bod y tueddiadau hyn yn gysylltiedig ag ailagor y sector lletygarwch dan do felly rwy’n cefnogi’r gofyniad i’r sector hwn a lleoliadau risg uchel eraill gasglu gwybodaeth gyswllt at ddibenion olrhain cysylltiadau. 

O ran gorchuddion wyneb, mae ein hailasesiad diweddar o’r dystiolaeth gan Dechnoleg Iechyd Cymru yn dal i ddod i’r casgliad mai tystiolaeth wan sydd o’r effaith fanteisiol fychan bosibl ar drosglwyddiad a bod effeithiau negyddol posibl hefyd. Oherwydd hyn, rwy’n cytuno y dylem ddal i gynghori bod gorchuddion wyneb tair haen yn cael eu hargymell mewn lleoliadau prysur dan do lle nad yw’n bosibl cadw pellter cymdeithasol.

Os bydd y trosglwyddiad feirysol yn cynyddu neu os oes achosion yn dod i’r amlwg, byddai’n rhesymol i fynd gam ymhellach a gorfodi’r defnydd o orchuddion wyneb. Felly rwy’n cefnogi’r cynnig i gysylltu camau i orfodi’r defnydd o orchuddion wyneb gyda’n sbardunau ar gyfer tynhau ein trefniadau diogelu iechyd. Bydd hyn yn rhoi cyfle inni lacio’r mesurau pan fydd y trosglwyddiad feirysol wedi’i reoli.

 

Dr Frank Atherton

Prif Swyddog Meddygol

13 Awst 2020