Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn cael £152,575 i helpu gyda gwaith i atgyweirio asedau rheoli perygl llifogydd ar draws y sir a ddifrodwyd gan lifogydd fis Tachwedd diwethaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Arweiniodd glaw trwm iawn at lifogydd mewn sawl ardal o'r sir. Yn ogystal ag effeithio ar eiddo, achosodd y llifogydd ddifrod hefyd i nifer mawr o asedau draenio ac asedau rheoli perygl llifogydd sy'n lleihau'r perygl i eiddo.

Wrth gyhoeddi'r cyllid, dywedodd Hannah Blythyn: 

"Dw i'n falch o gael cytuno ar swm o dros £150,000 i Gyngor Ynys Môn i helpu i atgyweirio'r difrod sylweddol a achoswyd gan lifogydd fis Tachwedd diwethaf. Ar ôl glaw trwm, effeithiodd llifogydd ar 31 o adeiladau yn Llangefni, Dwyran a Benllech.  Cafodd nifer o bobl eu symud o'u cartrefi hefyd yn Llangefni.  Cafodd llawer o asedau rheoli perygl llifogydd fel waliau ac argloddiau pridd eu difrodi hefyd. 

"Wrth i batrymau'r tywydd barhau i newid, mae'n debyg y byddwn ni'n gweld llifogydd yn amlach. Rydyn ni am wneud popeth o fewn ein gallu i leihau perygl llifogydd i'n cymunedau, gan eu helpu ar yr un pryd i addasu er mwyn ymdopi â'r risgiau sy'n eu hwynebu. Mae'n hanfodol bod yr asedau a'r systemau draenio a gafodd eu difrodi yn cael eu hatgyweirio er mwyn sicrhau bod y cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu yn parhau i fedru ymdopi â stormydd yn y dyfodol.”