Neidio i'r prif gynnwy

Mae cefnogi busnesau Gogledd Cymru i anelu’n uwch yn allweddol i lwyddiant mewn marchnadoedd rhyngwladol, medd Gweinidog Gogledd Cymru Lesley Griffiths.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:


Roedd y Gweinidog yn siarad yng nghynhadledd Archwilio Allforio Cymru a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Village yn Ewlo.

Nod y digwyddiad oedd hyrwyddo manteision allforio i fusnesau a'r gefnogaeth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid. Roedd hefyd yn gyfle i archwilio cyfleoedd yn y farchnad a datblygu gwell dealltwriaeth o brosesau allforio.

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i gymorth ar gyfer busnesau ynghylch allforio, a thrwy ei Chynllun Gweithredu Allforio mae wedi sefydlu ystod gynhwysfawr o gefnogaeth i gwmnïau sy'n awyddus i archwilio marchnadoedd rhyngwladol ac ehangu eu gwaith dramor.

Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £4 miliwn dros y flwyddyn nesaf i gefnogi allforwyr o Gymru fel y gallant ganfod cyfleoedd newydd yn y farchnad a pharatoi ar eu cyfer.

Dywedodd Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths:

"Pwrpas y gynhadledd hon oedd ysbrydoli busnesau a'u helpu i ddeall sut y gallan nhw fanteisio ar gyfleoedd allforio.

"Rydyn ni'n gwybod bod cwmnïau Cymru wedi wynebu heriau eithriadol, ond maent wedi parhau i ddangos eu gwytnwch ac rwy'n falch bod allforion yn parhau i dyfu.

"Mae gennym gwmnïau gwych yma yng Ngogledd Cymru ac mae'r digwyddiad wedi creu cyfle i ni ddathlu eu llwyddiannau allforio hyd yma a hefyd i ystyried sut y gall mwy o farchnadoedd tramor fwynhau ac elwa ar eu cynnyrch a'u gwasanaethau."

Roedd gwahanol seminarau, trafodaethau bwrdd crwn, cyfarfodydd ac arddangosfeydd un-i-un ar gael i roi cefnogaeth werthfawr i fusnesau ar eu taith allforio, a daeth dros 120 o gynrychiolwyr.

Wrth siarad yn y gynhadledd, tynnodd y Gweinidog sylw at lwyddiant sawl cwmni yng Ngogledd Cymru o ran allforio a chyflawniadau diwydiant bwyd a diod Cymru.

Ychwanegodd y Gweinidog:

"O ganlyniad uniongyrchol i'r gefnogaeth ariannol mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i fusnesau Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf trwy ein cyfres helaeth o wasanaethau a rhaglenni, maen nhw wedi sicrhau cytundebau allforio gwerth degau o filiynau o bunnoedd.

"Mae'n amlwg bod y rhai sy'n mynychu'r gynhadledd yn cydnabod pwysigrwydd allforio, p'un a ydynt wedi bod yn masnachu'n rhyngwladol am flynyddoedd lawer neu'n newydd i allforio.

"Rydyn ni eisiau parhau i arddangos ein busnesau ardderchog ar lwyfan y byd a bydd ein rhaglenni cymorth yn helpu cwmnïau Cymru i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a'r manteision a all fod ynghlwm wrth allforio."

Mae rhagor o wybodaeth i fusnesau Cymru am allforio ar gael yn Busnes Cymru: Allforio