Neidio i'r prif gynnwy

Manylion

Statws:

Gweithredu.

Categori:

Y gweithlu.

Teitl:

Cynhadledd a Gwobrau Cynaliadwyedd GIG Cymru, diweddariad.

Dyddiad dod i ben:

30 Mehefin 2024.

I’w weithredu gan:

  • Prif weithredwyr y byrddau iechyd / yr ymddiriedolaethau.
  • Cyfarwyddwyr meddygol y byrddau iechyd / yr ymddiriedolaethau.
  • Cyfarwyddwyr ac arweinwyr ymchwil a datblygu y byrddau iechyd / yr ymddiriedolaethau.
  • Cyfarwyddwyr gweithredol nyrsio y byrddau iechyd / yr ymddiriedolaethau.
  • Cyfarwyddwyr therapïau a gwyddorau iechyd y byrddau iechyd / yr ymddiriedolaethau.
  • Cyfarwyddwyr cynllunio y byrddau iechyd / yr ymddiriedolaethau.
  • Cyfarwyddwyr gofal sylfaenol y byrddau iechyd / yr ymddiriedolaethau.
  • Cyfarwyddwyr iechyd y cyhoedd y byrddau iechyd / yr ymddiriedolaethau.
  • Cyfarwyddwyr gweithlu a datblygu sefydliadol y byrddau iechyd / yr ymddiriedolaethau.
  • Cyfarwyddwyr cyllid y byrddau iechyd / yr ymddiriedolaethau.

Angen gweithredu erbyn: 

Uniongyrchol. 

Anfonwr:

Rachel Gardiner,
Newid Hinsawdd ac EPH,
y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol,
Rachel.Gardiner@llyw.cymru.

Enw(au) cyswllt Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru Llywodraeth Cymru:

Y Rhaglen Genedlaethol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Daclo’r Argyfwng Hinsawdd: 

Dogfennau amgaeedig:

Gwobrau Cynaliadwyedd GIG Cymru:
Dogfen Categorïau a Chanllawiau.
Poster Gwnewch Gais Nawr.
Poster Arbed y Dyddiad.

Cynhadledd a Gwobrau Cynaliadwyedd GIG Cymru, diweddariad

Y cefndir

Yn 2019, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddatgan argyfwng hinsawdd i Gymru er mwyn sbarduno mwy o ffocws a gweithgarwch wrth inni ymateb i’r heriau sy’n codi yn sgil yr argyfwng hinsawdd.

Mae gan Gymru darged sy’n ymrwymiad cyfreithiol i sicrhau allyriadau sero net erbyn 2050, ochr yn ochr ag uchelgais i’r sector cyhoeddus cyfan fod yn garbon sero net erbyn 2023.

Yn 2018 i 2019, amcangyfrifwyd mai 1,001,378 tCO2e oedd ôl troed carbon GIG Cymru, ac mae’r 'allyriadau iechyd' hyn oddeutu 2.6% o gyfanswm allyriadau Cymru.

Er mai Llywodraeth Cymru sydd wedi sefydlu’r Rhaglen Genedlaethol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Daclo’r Argyfwng Hinsawdd, gyda’r nod o hwyluso’r math o arweinyddiaeth a chydweithredu y mae eu hangen i gyrraedd sero net a chreu sector sy’n gallu dygymod â’r newid yn yr hinsawdd, rydym yn cydnabod mai holl staff GIG Cymru sydd yn y sefyllfa orau i sicrhau bod newidiadau cynaliadwy yn cael eu gweithredu’n llwyddiannus.

Cynhadledd a Gwobrau Cynaliadwyedd GIG Cymru

Mae Cynhadledd a Gwobrau Cynaliadwyedd Cymru GIG, dan arweiniad Hywel Dda gyda chefnogaeth cydweithwyr o bob rhan o GIG Cymru, wedi cael eu sefydlu a'u lansio i hyrwyddo egwyddorion gofal iechyd cynaliadwy a chefnogi’r ymgyrch i ymwreiddio arferion cynaliadwy mewn gofal clinigol.

Gofynnwn yn garedig i chi gymryd rhan.

Dyddiad newydd

Gan gydnabod y pwysau mae'r GIG yn ei wynebu dros y gaeaf, ac i fanteisio ar flwyddyn ariannol lawn o gynnal prosiectau, mae'r penderfyniad wedi'i wneud i newid dyddiad y gynhadledd a'r gwobrau.

Mae'r dyddiadau newydd fel a ganlyn:

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno prosiectau: 10 Mai 2024.

Y dyddiad ar gyfer y Gynhadledd a'r Gwobrau: 13 Mehefin 2024.

Bydd estyn y dyddiadau hyn yn ein galluogi i ymwreiddio mwy o weithgareddau yn ein llwybrau gofal, lleihau ein hallyriadau carbon ymhellach, a rhoi gofal iechyd cynaliadwy a'n rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wrth wraidd popeth a wnawn.

Gofynnwn am eich cymorth

Rydym yn gofyn i’r holl gydweithwyr sy’n cael copi o’r cylchlythyr iechyd hwn raeadru a hyrwyddo’r wybodaeth ynglŷn â Chynhadledd a Gwobrau Cynaliadwyedd Cymru GIG a'r dyddiadau newydd, drwy rwydweithiau a sianeli cyfathrebu eu staff.

Cynhadledd a Gwobrau Cynaliadwyedd GIG Cymru

Cynhelir Cynhadledd a Gwobrau Cynaliadwyedd GIG Cymru ar 13 Mehefin 2024 yng Ngwesty'r Vale, Caerdydd.

Y gynhadledd: fe'ch gwahoddir i 'Arbed y Dyddiad' ac ymuno â ni ar gyfer diwrnod lle bydd cyfle i fwynhau arddangosfeydd a gwrando ar anerchiadau pwysig gan ein siaradwyr, sy'n canolbwyntio ar ofal clinigol; y mannau lle mae problemau carbon yn eich gwasanaethau; a'r angen i sicrhau gwerth cynaliadwy.

Mae'r siaradwyr sydd wedi'u cadarnhau yn cynnwys: 

  • y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Judith Paget, Prif Weithredwr GIG Cymru
  • Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol

Y Gwobrau: Beth am gymryd rhan eich hunain? Gallwch ymgeisio drwy gyflwyno prosiect cynaliadwyedd mewn un o'r naw categori o wobrau cyn 10 Mai 2024 i gael y cyfle i fod yn rhan o fwrlwm y digwyddiad unigryw hwn. Darllenwch y cyfarwyddiadau ar gyfer y digwyddiad a chofrestrwch eich cais yma!

Cofion cynnes,
Irfon Rees,
Cyfarwyddwr Iechyd a Llesiant,
Llywodraeth Cymru.