Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wedi croesawu Cynhadledd Fusnes Heathrow i Gymru am y tro cyntaf, gan ddweud ei bod yn hanfodol er mwyn i fusnesau o Gymru allu manteisio ar y drydedd redfa.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae rhyw 90 o fusnesau o Gymru wedi ymgasglu yng Nghaerdydd i ddysgu am y cyfleoedd cyffrous y bydd cynllun Heathrow yn eu cynnig i'r gadwyn gyflenwi.  Disgwylir y daw â hyd at 8,400 o swyddi crefftus newydd a hwb o £6.2bn i'r economi.  

Amcan y gynhadledd yw helpu busnesau bach a chanolig (BBaChau) o Gymru i ddeall yn well beth yw anghenion Heathrow a'i gadwyn gyflenwi, a'u helpu i chwilio am gyfleoedd i'w busnesau. 

Ym mis Mawrth eleni, arwyddodd y Prif Weinidog a'r Arglwydd Deighton, Cadeirydd Maes Awyr Heathrow, Ddatganiad o Fwriad i wella'r cyfleoedd i Gymru a Heathrow gydweithio â'i gilydd. Mae'r gynhadledd a gynhelir heddiw yng Nghaerdydd yn ganlyniad uniongyrchol i'r datganiad hwnnw. 

Cyn dechrau'r gynhadledd, dywedodd Ken Skates:  

"Adeiladu trydedd redfa Heathrow fydd prosiect isadeiledd preifat mwyaf Ewrop, gan greu cyfleoedd twf aruthrol ym mhob rhan o'r DU. 

"Rydym am weithio'n adeiladol gyda Heathrow a'u cyflenwyr haen 1 er mwyn gwneud yn siŵr bod busnesau o Gymru'n cael chwarae eu rhan wrth gynnal y prosiect anferth hwn a fydd yn creu hyd at 8,400 o swyddi crefftus newydd ac yn rhoi £6.2bn o hwb i'r economi.  

"Mae'r Gynhadledd yn llwyfan i BBaChau o Gymru gael rhoi troed yn y drws a manteisio ar y cyfleoedd y bydd Heathrow yn eu cynnig ynghyd â deall yn well beth yw anghenion y maes awyr a'i gadwyn gyflenwi. 

"Y math hwn o bartneriaeth broactif a chydweithredol fydd yn sicrhau bod ffyniant yn dod i bob cymuned ym mhob rhan o Gymru.”   

"Rwy'n falch iawn gweld hefyd y bydd Maes Awyr Caerdydd yn bresennol yn y Gynhadledd.  Bydd hynny'n helpu BBaChau Cymru i ddeall anghenion ein Maes Awyr Cenedlaethol ac yn sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o'r cyfleoedd y bydd prosiectau yn y dyfodol ym Maes Awyr Caerdydd yn gallu eu cynnig i'r gadwyn gyflenwi. "

Dywedodd Emma Gilthorpe, Cyfarwyddwr Gweithredol Heathrow ar gyfer Ehangu:

“Rydym yn awyddus i gynnal cadwyn gyflenwi amrywiol a chroesawu gwaith arloesol er mwyn helpu i gyflawni safonau cyflenwi newydd sy’n cynnwys ymrwymiad Heathrow i’n Datganiad Bwriad, ar y cyd â Llywodraeth Cymru. 

“Er mwyn gallu gwneud hyn mae arnom angen mwy o BBaCh o Gymru i gyflawni atebion blaengar a fforddiadwy i Brydain.

“Dyma pam y mae’n bleser gen i gynnal Uwchgynhadledd Fusnes Heathrow yng Nghaerdydd eleni. Bydd y digwyddiad yn creu cyfle i ni fanteisio ar yr arbenigedd a fydd ar gael ac atgyfnerthu ein partneriaeth newydd â Llywodraeth Cymru ac â busnesau Cymru. ”