Neidio i'r prif gynnwy

Anerchiad gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Mehefin 22, 2023

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bron canrif a hanner yn ôl, yn 1891, roedd bron i saith o bob deg person ym Merthyr yn gallu siarad y Gymraeg. Saith o bob deg!

Heddi, ychydig yn llai nag un ymhob deg sy’n medru’r iaith.

Beth achosodd y newid?

Pa wersi sy gan y gorffennol wrth i ni drafod dyfodol ein hiaith yma ym Merthyr heddi?

A dyfodol ein hiaith dwi yma i drafod. A dwi isie trafod beth gall pob un ohonon ni ei wneud er mwyn sicrhau cynnydd ym Merthyr o heddi ymlaen.

Ddiwedd y llynedd, fe gawson ni ganlyniadau cyfrifiad 2021 o ran y Gymraeg. Ar lefel genedlaethol, roedd y ffigurau’n siom. Nid dyna beth roedden ni’n dymuno ei weld. Yn ôl y cyfrifiad, roedd llai o blant 3 i 15 oed yn gallu siarad Cymraeg yn 2021 nag oedd yn 2011. Ond yn ystod yr un cyfnod ry’n ni wedi gweld cynnydd yn niferoedd y plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg, gyda thros 11,000 yn fwy o blant yn 2022 nag yn 2011. Ry’n ni hefyd wedi gweld cynnydd yng nghanran y bobl ifanc 16-19 oed, ac 20 i 44 oed sy’n gallu siarad Cymraeg – rhieni’r genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cymraeg.

Mae’n bwysig, felly, edrych ar yr holl ystod o dystiolaeth sydd gyda ni i ddeall beth ydy sefyllfa’r Gymraeg ar lawr gwlad heddi.

Mae mwy i ystadegau na’r cyfrifiad yn unig, ac mae mwy i bolisi iaith nag ystadegau! Peth pobl yw iaith yn y bôn ac mae gyda phob un ohonon ni yma heddi rôl a chyfraniad i’w wneud. Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, felly hefyd y cyfrifoldeb am ei dyfodol. Ry’n ni yn Llywodraeth Cymru’n parhau i fod yn gwbl ymroddedig i’n nod o filiwn o siaradwyr erbyn 2050. Ac wrth i mi fynd o amgylch Cymru rhwng nawr a’r Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst, dwi isie clywed eich barn chi a’ch profiadau chi. Beth fyddai’n ‘gwneud’ y Gymraeg yn haws? Beth yw’r rhwystrau? Beth sydd isie newid? 

Mae’n amlwg i mi eich bod chi yma ym Merthyr am weld y Gymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg yn ffynnu. Mae’ch strategaeth iaith Gymraeg chi’n pwysleisio’r angen i normaleiddio’r Gymraeg a chynyddu’r defnydd ohoni hi ar draws Merthyr. Mae’r ymrwymiadau sydd yn eich cynllun 10 mlynedd ar gyfer y Gymraeg mewn addysg hefyd yn cadarnhau hynny wrth gwrs. Diolch am rannu’n gweledigaeth ni. Rwy’n siŵr bod lot gallwn ni wneud gyda’n gilydd i godi’r niferoedd ym Merthyr. Y ‘sut’ yw’r hyn licen i drafod gyda chi wedyn.

Dwi’n croesawu’n fawr eich ymrwymiad i agor trydedd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg. Mae’r ysgol honno wrth gwrs yn adeiladu ar lwyddiant y ddwy ysgol gynradd sy ‘ma nawr. Ac rydych chi wrthi’n ystyried addysg uwchradd Gymraeg. Gwych o beth.

Dwi hefyd yn falch iawn ein bod wedi gallu ariannu swydd pencampwr hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yn rhanbarth y de ddwyrain yn ddiweddar. Mae’r gwaith yma ar y cyd rhwng awdurdodau lleol, y mentrau iaith a llu o bartneriaid eraill yn y rhanbarth, a bydd hi’n gyffrous iawn i weld sut bydd y gwaith yn datblygu!

Er mwyn cynyddu nifer y teuluoedd sy’n dewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant mae isie siarad gyda theuluoedd wrth gwrs. Peth pobl yw iaith.

Ac wrth i mi siarad gyda phobl am hyn oll, dwi’n teimlo weithiau ein bod ni ychydig yn rhy rational wrth drafod y Gymraeg. Ry’n ni’n trafod ‘buddion hyn’ a ‘manteision y llall’. Ac efallai y dylen ni bwysleisio’r ochr emosiynol, ddynol ar bethe’n fwy. Gofynnwch i rieni sy ddim yn siarad Cymraeg pa mor falch maen nhw’n teimlo yn clywed eu plentyn bach yn parablu mewn dwy iaith. Gofynnwch i rywun ym Merthyr aeth i ysgol Gymraeg ond sy wedi colli hyder pa mor benderfynol maen nhw i gael addysg Gymraeg i’w plant. Gofynnwch i mam-gus a thad-cus Merthyr oedd yn cofio eu teuluoedd nhw yn siarad Cymraeg pa mor hapus bydden nhw’n teimlo o wybod y bydd yr iaith yn fyw yn eu teuluoedd unwaith eto. Peth pobl yw iaith sy’n helpu ni berthyn i'n gilydd. Ac mae’n bwysig bo ni gyd yn cofio hynny yn ein gwaith bob dydd.

Felly diolch i chi am yr uchelgais. Bydd pobl Merthyr yn diolch i chi amdano fe. A dwi’n diolch i chi amdano fe nawr. Dwi am i ni barhau i weithio gyda’n gilydd i wneud yn siŵr bod y penderfyniadau ry’n ni’n eu gwneud a’r camau ry’n ni’n eu cymryd, yn dod â ni’n agosach at ein huchelgais o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Ac mae’n dda gweld bod nifer o’r partneriaid hanfodol yma heddiw yn cyfrannu i’r cyflwyniadau a’r trafodaethau ehangach.

Mae bwriad yn eich CSCA i newid categori iaith dwy ysgol cyfrwng Saesneg er mwyn cynnig y Gymraeg i fwy o blant ar draws y sir. Ymhellach, mae Merthyr wedi manteisio ar y gefnogaeth trwy’r grant cyfalaf cyfrwng Cymraeg a’r grant trochi hwyr. Rwy’n falch o’r hyn ry’n ni wedi’i gyflawni yn y maes hwn. Mae ein darpariaeth trochi hwyr yn unigryw i ni yng Nghymru ac mae’r potensial i ni fynd hyd yn oed ymhellach yn glir i’w weld.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno Bil Addysg Gymraeg yn ystod y Senedd yma. Pwrpas y Bil yw cryfhau a chynyddu darpariaeth addysg Gymraeg ledled Cymru i gyrraedd ein targedau Cymraeg 2050.

Ry’n ni am sicrhau bod pob dysgwr ym mhob ysgol yn cael y cyfle gorau i fod yn siaradwyr Cymraeg hyderus – mewn ysgolion cyfrwng Cymreg a Saesneg. Ry’n ni wedi ymrwymo i sefydlu a gweithredu continwwm o ddysgu Cymraeg fel bod gan bawb ddealltwriaeth gyffredin o’r daith i ddysgu’r Gymraeg fel unigolyn.

Bydd gwreiddio’r continwwm yn cymryd amser i'w gyflawni, ond mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd a dyna’r athroniaeth dwi am ei gwreiddio drwy’r system addysg yn ei chyfanrwydd.

Byddwn ni’n parhau i weithio i sicrhau bod y ffordd ry’n ni’n dysgu’n hiaith yn arloesol ac yn cael ei chefnogi gan ddysgu proffesiynol ac adnoddau. Mae’n rhaid i ni ailffocysu ein hymdrechion yn y sector cyfrwng Saesneg. Rwy’n ymfalchïo yn y gwaith caled sy’n digwydd mewn ysgolion - rhywbeth y gall ysgolion Merthyr ymfalchïo ynddo - ac rwy’n gwybod bod brwdfrydedd ymhlith athrawon i fanteisio ar y cyfleoedd sy’ ar gael trwy’r cwricwlwm i Gymru. Ry’n ni eisoes wedi cyhoeddi’r fframwaith ar gyfer y Gymraeg mewn addysg cyfrwng Saesneg a’r gwersi Cymraeg am ddim trwy’r ganolfan dysgu Cymraeg cenedlaethol i ddysgwyr 16 i 25 a hefyd y gweithlu addysg. Dyma dda wych o’r cydweithio sy’n digwydd gyda’n partneriaid. Ry’ ni hefyd wedi ariannu’r ganolfan a chwmni Say Something in Welsh i ddatblygu ap i atgyfnerthu sgiliau Cymraeg dysgwyr a datblygu eu hyder. Mae ysgol Pen-y-dre yma ym Merthyr yn rhan o’r prosiect cyffrous hwn. Mae gan ddatblygiadau fel hyn y gallu i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ym mhob un o’n hysgolion. Da iawn Pen-y-dre. Beth amdani, weddill Cymru?

Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Mae hi ym mêr ein hesgyrn ni. Mae’n rhan o beth sy’n ein gwneud ni’n ‘ni’, waeth faint o’r Gymraeg ry’n ni’n ei siarad, a hyd yn oed os nad ydyn ni’n ei siarad hi o gwbl.

Mae hynny’n golygu ei bod hi’n gyfrifoldeb arnon ni i gyd i ddod at ein gilydd i sicrhau ei dyfodol—yma ym Merthyr a ledled Cymru. A dyna licen i drafod nawr.

Nes i ddweud yn gynharach mod i am glywed eich barn chi a’ch profiadau chi. A dwi wrth gwrs yn fodlon cymryd cwestiynau oddi wrthych chi.

Nes i ddweud bod ‘da fi ddiddordeb mawr cael gwybod mwy am:

Beth fyddai’n ‘gwneud’ y Gymraeg yn haws yma ym Merthyr?

  • Beth sydd isie newid?
  • A beth yw’r rhwystrau?
  • Does dim monopoli da fi na Llywodraeth Cymru ar syniadau da - dwi yma i glywed awgrymiadau a syniadau. Trwy wrando ar ein gilydd a thrwy weithio gyda’n gilydd mae cyrraedd y nod. Diolch yn fawr iawn am y croeso.