Neidio i'r prif gynnwy

Araith gan Jerermy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth i ni edrych ‘nôl dros flwyddyn gyntaf y Cwricwlwm i Gymru, mae’n rhaid dweud bod eich ymrwymiad parhaus i’r rhaglen ddiwygio a'ch awydd i gynnal momentwm wedi bod yn drawiadol. Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai heriol tu hwnt, ond er hynny ryn ni dechrau ar y gwaith o gyflwyno’r cwricwlwm mewn sefyllfa o gryfder, a dweud y gwir - a hynny oherwydd eich arweinyddiaeth chi ac ry’ ni’n ymddiried ynoch chi i arwain.

Ym mhob cwr o Gymru mae enghreifftiau gwych ac ysbrydoledig o ysgolion yn dangos y gwahaniaeth y gall diwygio'r cwricwlwm ei wneud i ddysgwyr ac i athrawon.

Y llynedd, fe ddwedais i byddai’r broses o gyflwyno’r cwricwlwm yn cymryd amser. Dim ond o fis Medi eleni ymlaen y bydd pob ysgol yn addysgu'r cwricwlwm newydd, a dim ond o 2026 y bydd yn ymestyn i bob blwyddyn ym mhob ysgol.

Felly byddwn ni’n eich cefnogi chi gyda’r gwaith: ers i mi siarad yma llynedd, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu mwy o adnoddau, wedi parhau i ddod ag ymarferwyr at ei gilydd fel rhan o rwydwaith cenedlaethol - ac wedi cyhoeddi canllawiau gwella ysgolion yn sail i hyn. Ond byddai’n sôn heddiw am y gefnogaeth bellach sydd ar y ffordd.

Eto fel y llynedd, rwy'n falch fod Owen Evans wedi ymuno â mi heddiw i siarad am y gwaith o gefnogi diwygiadau addysg. 

Dros y flwyddyn ddiwethaf, wrth i’n diwygiadau ni wreiddio - a hynny o fewn cyfnod o bwysau ar ysgolion ac ar ymarferwyr, rydyn ni wedi clywed, yng ngoleuni profiad, sut gallwn helpu ymhellach. Mae ein cyllideb ar gyfer diwygio'r cwricwlwm a dysgu proffesiynol dros y flwyddyn nesaf £35 miliwn yn dystiolaeth, gobeithio, o'n hymrwymiad. A wnâi amlinellu ambell cam pellach heddiw hefyd.

Mewn cyfnod o ddiwygio pan mae cynifer o ddatblygiadau a gofynion, mae’n gallu bod yn anodd cadw mewn golwg sut mae un elfen yn perthyn i’r llall, beth yw’r weledigaeth gyfannol, a beth sydd yn digwydd pryd. A wedyn hyn yn gall fod yn heriol o ran cynllunio a pharatoi.

Felly yr wythnos hon, wnes i gyhoeddi 'Cenhadaeth ein cenedl: safonau a dyheadau uchelgeisiol i bawb'. Dogfen sydd yn fath o fap trywydd os hoffwch chi - mae’n nodi ein blaenoriaethau ar gyfer addysg, yr amserlen ar gyfer eu gwireddu nhw a'r cymorth sydd ar gael.

Dyw'r map trywydd ddim yn cynnwys camau gweithredu newydd, ond mae’n bwysig eu rhoi i gyd yn yr un lle - a gyda llinellau amser rwy’n gobeithio fydd yn ddefnyddiol. Mae hefyd yn tynnu sylw at fy ymrwymiad i ddysgu gydol oes, drwy roi ein cefnogaeth i ysgolion ochr yn ochr â'n cefnogaeth i golegau a sefydliadau addysg uwch mewn un system gyfannol.

Nawr rwy am edrych ar ambell elfen, a’ch diweddaru chi ar yr hyn sydd ar waith a’r gefnogaeth byddwn ni’n darparu.

Yn gyntaf, boed yn feithrinfa, yn ysgol, yn goleg, yn prifysgol, neu ddysgu oedolion, yr un yw’r flaenoriaeth i fi – galluogi pob dysgwr i gyrraedd ei lawn botensial, beth bynnag ei gefndir.

Yr wythnos nesaf, byddai’n gwneud datganiad yn y Senedd ar ein gwaith i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Yn dilyn ar y datganiad yn y Senedd llynedd a’r araith wnes i rhoi i Sefydliad Bevan. Byddwn yn rhannu’r diweddariad ar Dysg, fel y gallwch weld beth sydd ar waith.

I fod yn effeithiol, rhaid i’r camau y byddwn ni i gyd yn eu cymryd fynd ar draws y system gyfan. Rwy’ am weithio gyda chi er mwyn sicrhau - gyda'n gilydd – bod ein dull o fynd i'r afael ag effeithiau tlodi ar ganlyniadau addysgol yn fwy na’r elfennau unigol.

Dwy agwedd sylfaenol ar y dull gweithredu hwn yw'r Grant Datblygu Disgyblion ac Ysgolion Bro.

Mae gan y Grant Datblygu Disgyblion, sydd bellach yn £130 miliwn, rôl allweddol i'w chwarae. Fel arweinwyr ysgol, rwy’n credu mai chi sydd yn y lle gorau i benderfynu pa atebion – yn seiliedig ar dystiolaeth - fydd fwyaf effeithiol i'ch dysgwyr. Y cam nesaf ar hyn yw y byddwn ni cyn bo hir yn cyhoeddi ganllawiau’r grant wedi eu diweddaru - i helpu athrawon i gynllunio a defnyddio'r cyllid hwn yn strategol.

A fel penaethiaid byddwch chi hefyd yn gwybod pa mor bwysig yw estyn llaw at deuluoedd, cymunedau, ac asiantaethau eraill i ddarparu'r gefnogaeth orau bosib i ddysgwyr. Dyna pam rydyn ni wedi buddsoddi’n sylweddol i gynyddu nifer y Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd sy’n cael eu cyflogi gan ysgolion. Felly gallai gadarnhau byddai’n darparu dros dau filiwn a hanner o bunnoedd pellach i allu gynyddu’r ddarpariaeth ar gyfer ymgysylltu teuluol.

Rydyn ni hefyd yn parhau i ariannu swyddi rheolwyr ysgolion bro er mwyn helpu ysgolion i weithio mewn partneriaeth â'u cymunedau.

A dros y ddwy flynedd nesaf bydd cyllideb bellach o £40 miliwn o gyfalaf ar gael i awdurdodau lleol i gefnogi ysgolion i fod yn ysgolion bro. Cronfa fydd hon i alluogi ysgolion i greu cysylltiadau dyfnach gyda’r gymuned leol, a theuluoedd dysgwyr.

Yn olaf yn y maes hwn, ryn ni’n gwybod pa mor bwysig yw cefnogi dysgwyr gyda llafaredd a darllen. A ffocws ysgol gyfan ar hyn yn gallu helpu yn sylweddol iawn. Felly welwch chi yn y dyddiau nesaf y byddwn ni’n cyhoeddi twlcit ar gyfer llafaredd a darllen, rwy’n gobeithio fydd yr adnodd defnyddiol i chi fel ymarferwyr.

Gydweithwyr, rydyn ni eisiau i’n holl ddysgwyr elwa ar safonau uchel ond hefyd ar ddyheadau uchel. Mae gallu pob plentyn i ddyheu yn gyfartal.

Yr allwedd i ddatgloi’r holl ddyheadau hyn yw cynnydd dysgwyr. Fe fydd prosiect cynnydd 'Camau i’r Dyfodol' yn cyhoeddi ei adroddiad cam cyntaf ar gynnydd cyn bo hir. Mae’n tynnu sylw at y gwaith ardderchog rydych chi wedi’i wneud. Mae cynnydd yn ymwneud â thaith ddysgu’r unigolyn, ac fel gweithwyr proffesiynol medrus iawn, rydych chi’n arbenigwyr yn y maes hwnnw.

Ond mae’r olwg ymarferol ar beth mae hyn yn ei olygu yn yr ystafell ddosbarth yn hanfodol. Beth ydyn ni’n ei wneud i sicrhau bod gennych chi’r offer ymarferol sydd ei angen arnoch chi?

Yn gyntaf, mae cydweithio ar draws ysgolion yn hanfodol i gynllunio cynnydd – mae’n amhosib i un ysgol ddatblygu ei chwricwlwm ar wahân i bawb arall. Yn ystod tymor yr haf, fe fyddwn ni’n gweithio gydag ysgolion i brofi sut olwg sydd ar agwedd gyffredin tuag at gynnydd. Mae gweithio mewn clystyrau yn ganolog i lwyddiant y cwricwlwm hwn – mae’r enghreifftiau arbennig rwy’n eu gweld ledled y wlad yn fy nghalonogi. Mae’n rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth i bawb.

Yn ail, mae mwy o adnoddau ar gynnydd ar gael nawr nag erioed o’r blaen. Mae’r adran deunyddiau ategol ar dudalen y Cwricwlwm i Gymru ar Hwb yn cynnwys:

  • Canllawiau ar ddefnyddio egwyddorion cynnydd
  • Cefnogaeth i asesu dysgwyr a gwerthuso eu cynnydd dros amser, gan gynnwys templed ar gyfer cynllunio asesiad
  • Ffyrdd ymarferol i sicrhau cyd-ddealltwriaeth o gynnydd

Mae’r rhain yn adnoddau ymarferol, syml sy’n eich helpu i ddatblygu cynnydd mewn cyd-destun ysgol ac sy’n darparu sbardunau wrth i chi ddatblygu eich dull gweithredu. Rwy’n eich annog i bwyso ar y deunyddiau hyn, os nad ydych chi wedi gwneud hynny eisoes.

Yn drydydd, mae cannoedd o ymarferwyr ledled Cymru wedi cymryd rhan mewn sgyrsiau Rhwydwaith Cenedlaethol ar gynnydd ac asesu, gan roi amser a lle iddyn nhw fyfyrio, ac i rannu dulliau gweithredu. Felly fel cam nesaf, heddiw rydyn ni’n sicrhau bod ein holl ddeunyddiau Rhwydwaith Cenedlaethol ar gael – fel rhestrau chwarae hygyrch, dwyieithog ar Hwb, gan hwyluso cynnal y sgyrsiau dwys, difyr hynny sydd eu hangen fel rhan o’r gwaith o gyd-lunio’r cwricwlwm.

Yn bedwerydd, mae 'Camau i’r Dyfodol' wedi datblygu deunyddiau penodol ar gyfer y digwyddiad hwn heddiw, gan nodi’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu o gam cyntaf y prosiect, a’r goblygiadau i chi fel arweinwyr ysgolion wrth i chi barhau ar y daith i’w rhoi ar waith. Mae hyn yn cyfuno’r ymchwil ddiweddaraf ar gynnydd yng Nghymru ac yn rhyngwladol gyda phrofiadau athrawon ac arweinwyr. Y cam nesaf, yn ystod tymor yr haf, yw cyhoeddi’r gyfres nesaf o ddeunyddiau ategol ymarferol sy’n adeiladu ymhellach ar y gwaith ymchwil hwn.

Ac yn bumed, eleni hefyd, lansiwyd ein cynllun peilot ar Ddylunio Dealltwriaeth: rhoi amser i ysgolion ymgysylltu’n ymarferol â’r meddylfryd ar ddylunio’r cwricwlwm ac asesu a chynllunio ar gyfer cynnydd pwrpasol mewn dysgu. Fel cam nesaf, fe fyddwn ni’n cyhoeddi deunyddiau ategol yn seiliedig ar y dysgu hwn yn ddiweddarach eleni.

O reidrwydd, mae ein gweledigaeth ar gyfer diwygio’r cwricwlwm yn ystyried dysgwyr beth bynnag fo’u hanghenion, gan gynnwys y rhai sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Rydw i eisiau pwysleisio pa mor hanfodol yw’r angen i ystyried diwygiadau i’r cwricwlwm ac i ADY fel rhan o’r un broses.

Rydyn ni’n gweld cynnydd cadarnhaol cyson tuag at weithredu’r diwygiadau ADY ac yn clywed bod ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn bellach yn dod â manteision go iawn – ond er gwaethaf hyn, rwy’n clywed am y gofynion, yn enwedig ar Gydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol, sydd â rôl hanfodol i lwyddiant y diwygiadau hyn, a bod angen mwy o amser ar ysgolion i ymgorffori newid effeithiol.

Rwy’n gwybod pa mor benderfynol ydych chi o wneud hyn yn iawn. Ac mae’n hanfodol i’n dysgwyr gydag ADY fod y diwygiadau hyn yn cael eu gweithredu’n effeithiol. Felly, yn sgil y pwysau rydych chi wedi sôn wrthon ni amdano, rwy’n ymestyn y cyfnod gweithredu ar gyfer y ddeddf o dair blynedd i bedair blynedd (Medi 2021 i Awst 2025). Rydw i hefyd bron iawn yn dyblu’r arian i bartneriaid ar gyfer gweithredu ADY, sef £12 miliwn yn 2023 i 2024 a 2024 i 2025 fel y gall pob un ohonoch chi, fel penaethiaid, adolygu a buddsoddi’n strategol yn yr adnoddau sydd eu hangen ar eich ysgol.

Ac mae’r dysgwr yn ganolog i bopeth rydyn ni’n ei wneud.

Yn gynharach yn yr wythnos, fe wnes i gyhoeddi ychydig mwy o wybodaeth am y berthynas rhwng ein diwygiadau i’r cwricwlwm ac i gymwysterau. Mae angen i ni werthfawrogi’r ystod o wybodaeth, sgiliau a phrofiad y mae pob dysgwr unigol wedi’i gaffael pan fyddwn ni’n cydnabod eu cyflawniadau a’u cynnydd. Fe fydd cymwysterau bob amser yn rhan hanfodol o hyn. Ond rydyn ni hefyd yn gwybod bod cyflogwyr a darparwyr addysg eisiau gweld y dysgwr yn ei gyfanrwydd, ynghyd â gweld dyfnder ac ystod y sgiliau a’r profiadau maen nhw wedi’u cael yn yr ysgol.

Mae ein deunyddiau newydd yn cyfuno cynnydd a chyflawniad dysgwyr a’n dull newydd o werthuso a gwella ysgolion.

Fe wnes i gyhoeddi ym mis Ionawr y byddwn ni’n gweithio gydag ymarferwyr i ddatblygu dull newydd o ymdrin â gwybodaeth a gwella ysgolion: un sy’n rhoi dysgu a dysgwyr yn ganolog. Fe ddylai adrodd fod yn seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig ac, mae angen i ni ddileu adrodd diangen, adrodd sy’n dyblygu neu nad yw’n ychwanegu gwerth go iawn i daith addysgol ein dysgwyr. Rydw i eisiau gweld dull symlach, cydlynol o ymdrin â gwybodaeth ar draws ein system addysg.

Rwy’n gwybod nad yw fy mhenderfyniad i adfer mesurau Cyfnod Allweddol 4 yn seiliedig ar ddeilliannau cymwysterau ar lefel ysgol wedi cael croeso gan bawb. Y rhesymeg yw bod hwn yn drefniant dros dro yn ein taith tuag at ecosystem gwybodaeth fwy cyfannol, sy’n gyson ag ethos y cwricwlwm. Ac ni fydd yn berthnasol i ddysgwyr sy’n dysgu o dan y Cwricwlwm i Gymru. Roeddwn i’n awyddus i osgoi’r llwyth gwaith ychwanegol o gyflwyno cyfres arall o fesurau dros dro.

Mae angen canolbwyntio ein hegni ar gynllunio’r hyn sy’n dilyn, felly mae fy swyddogion ar hyn o bryd yn trafod gydag ystod o ysgolion – er mwyn helpu i ddatblygu ein ffordd o feddwl am yr ecosystem wybodaeth newydd hon. Fel cam nesaf, yn ystod tymor yr haf, fe fyddwn ni’n sefydlu grŵp ymarferwyr i ddatblygu cynigion manylach.

Fe wnes i ddweud hyn wrthych chi y llynedd, ac rwy’n ei ddweud eto eleni, yn glir ac yn groyw fel bod ein bwriad yn amlwg: o dan y Cwricwlwm i Gymru, mae gwybodaeth am gynnydd yn ymwneud â hunanwerthuso nid ag atebolrwydd. Mae atebolrwydd yn hollbwysig, ond mae ar wahân.

Fe fyddwn ni hefyd yn gweithio gyda’n partneriaid ar draws y system addysg i ddarparu dull symlach sy’n lleihau llwyth gwaith, dull symlach, dull mwy eglur.

Ar berwyl arall, dyma’r amser cywir ar ein taith ddiwygio i ni adolygu rolau a chyfrifoldebau rhai o’n partneriaid cefnogol yn yr haen ganol, er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu’r dirwedd ddiwygiedig newydd yn iawn.

Mae angen y gefnogaeth orau ar ysgolion, wedi’i chanoli o amgylch diben cyffredin a rhannu nodau yng nghyd-destun system hunan-wella. Fe fyddwn ni’n edrych o’r newydd ar sut rydyn ni’n cydweithio er mwyn gwella ysgolion yn ystod cam nesaf y daith. Ac fe fydda i’n rhannu mwy o wybodaeth am sut y byddwn ni’n gwneud hyn yn ystod yr wythnosau nesaf.

Y peth olaf rydw i am gyffwrdd arno yw dysgu proffesiynol. Y llynedd, fe wnes i siarad am gynnig sy’n gydlynol ac yn hygyrch, yn ogystal ag yn gynhwysfawr. Gobeithio y byddwch chi’n cydnabod ein bod ni wedi cymryd camau breision ers hynny, yn bennaf drwy gyflwyno’r hawl genedlaethol.

Y cam nesaf nawr yw i ni wneud yn siŵr eich bod chi’n hyderus o ran natur gyfredol ac awdurdodol dysgu proffesiynol mewn tirwedd newidiol. Rydyn ni wedi bod yn gwerthuso ein hadnoddau dysgu proffesiynol a chyn diwedd tymor yr haf fe fyddwn ni’n lansio cynllun nod barcut newydd a fydd yn cynnig y sicrwydd sydd ei angen ar ymarferwyr.

Fel y gwyddoch, rydyn ni hefyd wedi cytuno ar ddiwrnod HMS dysgu proffesiynol cenedlaethol ychwanegol ar gyfer eleni a’r ddwy flwyddyn academaidd nesaf. Ochr yn ochr â’r grant dysgu proffesiynol o £12 miliwn, bydd hyn yn cyfrannu at yr amser a’r lle sydd ei angen arnoch i barhau ar eich taith i gyflwyno’r cwricwlwm. Ein cam nesaf yw cyhoeddi canllawiau ar ddefnyddio’r amser hwn, a bydd hynny’n digwydd fis nesaf.

Hoffwn bwysleisio bod yn rhaid i gynorthwywyr addysgu gael y cyfle i gymryd rhan mewn dysgu proffesiynol fel rhan o ddiwrnodau HMS ac fel rhan o’ch taith gwella ysgolion. Maen nhw’n cyflawni rôl hollbwysig wrth gefnogi dysgwyr yn yr ystafell ddosbarth, ac mae’n hanfodol eu bod nhw’n parhau i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol a’u dealltwriaeth fel unrhyw ymarferydd arall. Bellach, fe fydd dyraniadau grant dysgu proffesiynol yn y dyfodol yn adlewyrchu hyn hefyd.

I gloi, mae’r Cwricwlwm i Gymru yn dibynnu’n sylfaenol ar eich arweinyddiaeth chi. Ar adolygu, myfyrio a datblygu parhaus. Fe fydd sgyrsiau’r Rhwydwaith Cenedlaethol yn parhau i ddysgu o’ch profiadau chi – ac mae’r rhwydwaith yn hollbwysig o ran esblygiad y cwricwlwm, felly rwy’n eich annog i gymryd rhan.

Fe fydd yn llunio’r gefnogaeth, y dysgu proffesiynol a’r adnoddau fwyfwy wrth ymateb i’ch myfyrdodau.

Rydw i am i’n negeseuon fod yn syml, yn uniongyrchol ac yn gefnogol. Wrth i bob ysgol gyflwyno’r cwricwlwm newydd ym mis Medi eleni, fe fyddwn ni hefyd yn adolygu ein disgwyliadau ar gyflwyno’r cwricwlwm i ddatblygu ar yr hyn rydyn ni wedi’i ddysgu gyda’n gilydd. Os yw’r rhwydwaith yn dweud fod angen mwy o fanylion, fe fyddwn ni’n datblygu hynny gyda chi, ac yn sicrhau ei fod yn gyson ag ethos y cwricwlwm.

Mater o egluro a mireinio yw hyn, nid newid ac ymestyn.

Dyna’r cyfan roeddwn i am ei ddweud am y diwygiadau. Rydw i eisiau gorffen drwy sôn ychydig am y gweithredu diwydiannol sydd wedi digwydd yng Nghymru. Dydw i ddim yn mynd i ddweud celwydd – rwy’n credu bod y trafodaethau wedi bod yn anodd i bob un ohonom ni. Rydych chi i gyd yn ymwybodol o’n sefyllfa ni – fel eich cyllidebau ysgol, mae pwysau chwyddiant wedi golygu bod llai o arian ar gael gan Lywodraeth Cymru, nid mwy. Ond rydyn ni wedi defnyddio pob sbardun sydd ar gael i geisio dod i gytundeb gyda’n cydweithwyr yn yr undebau. Rydych chi i gyd wedi profi tarfu sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf – rydyn ni eisiau sicrhau nad ydych chi’n profi mwy o hynny. Mae’r llywodraeth dros y ffin wedi treulio mis yn gwrthod hyd yn oed siarad â’r undebau, ond rwy’n gobeithio y byddwch chi’n cydnabod ein bod ni’n gweld rhyw gynnydd yng Nghymru. Fe hoffwn i ddiolch i’n partneriaid yn yr undebau am hynny. Rwy’n rhoi fy ngair i chi y byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau bod ysgolion yn aros ar agor, bod cyn lleied o darfu ag sy’n bosib, ac y bydd y sefyllfa’n cael ei datrys.

Fe wnes i ddechrau drwy sôn eich bod chi wedi gwneud y dechrau gorau posib i’n taith gwricwlwm ac rwy’n falch iawn o’n llwyddiannau fel system. Mae angen amser i gael diwygiadau o’r raddfa hon yn iawn, ac mae rhagor i’w wneud.

Ond rhaid i ni beidio â cholli golwg ar ein nod sylfaenol: yn gyntaf, i roi hwb i ddyheadau pob plentyn, ac yn ail i’w helpu i’w cyflawni, ac i sicrhau nad yw anfantais yn eu rhwystro mewn unrhyw ffordd. Ac rwy’n hynod falch ein bod ni ar y daith honno gyda’n gilydd.

Fel partneriaid i ni ar y daith honno, yn syml iawn, rydw i eisiau dweud hyn: mae gen i ffydd ynoch chi, ac rwy’n ddiolchgar i chi am eich arweinyddiaeth.

Diolch yn fawr.