Yr hyn rydym yn ei wneud i wneud yn siŵr bod pawb sydd eisiau ymgysylltu â thechnoleg ddigidol yn gallu gwneud hynny'n ddiogel ac yn hyderus.
Cynnwys
Strategaeth cynhwysiant digidol
Mae Strategaeth Ddigidol Cymru yn disgrifio sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio digidol, data a thechnoleg i wella bywydau pobl yng Nghymru. Mae Cenhadaeth 2: cynhwysiant digidol yn disgrifio sut y byddwn yn helpu pobl sydd eisiau ymgysylltu â thechnoleg ddigidol (gan gynnwys y rhyngrwyd) a mwynhau manteision niferus y byd digidol.
Mae cynllun cyflawni’r strategaeth ddigidol yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r blaenoriaethau yn ein strategaeth ddigidol a Chenhadaeth 2.
Safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol
Ar hyn o bryd rydym yn mesur cynhwysiant digidol yng Nghymru drwy Arolwg Cenedlaethol Cymru, gan ganolbwyntio ar a yw unigolion yn defnyddio'r rhyngrwyd yn bersonol. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall pobl elwa ar ddefnyddio technoleg ddigidol yn ddiogel ac yn hyderus, ac felly mae'n rhaid i ni gydnabod bod cynhwysiant digidol yn fwy na dim ond defnyddio'r rhyngrwyd. Mae'r cysyniad o safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol yn adlewyrchu hyn, gan bwysleisio'r angen i gael y dyfeisiau priodol, cysylltedd a sgiliau digidol sylfaenol.
Rydym wedi arwain ar archwilio, diffinio a threialu gwaith ar y cysyniad o safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol.
Rydym yn paratoi i gynnal arolwg a fydd yn sefydlu llinell sylfaen o ran faint o bobl 16 oed a hŷn yng Nghymru nad ydynt yn bodloni’r safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol. Disgwylir i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi yn gynnar yn 2026.
Mae ein Canllaw ar sut i wneud gwasanaeth yn gynhwysol wedi'u hanelu at y sector cyhoeddus. Bydd yn ein helpu i weithio tuag at Genhadaeth 1, sef cynllunio gwasanaethau cyhoeddus ar sail anghenion y bobl sy'n eu defnyddio.
Cynhwysiant Digidol Cymru (gwasanaeth a gaffaelwyd)
Mae Cynhwysiant Digidol Cymru (gwasanaeth a gaffaelwyd) yn fan canolog i sefydliadau sy'n ceisio cyngor a chefnogaeth ar gynhwysiant digidol. Mae'n helpu i sicrhau bod cynhwysiant digidol yn cael ei gydnabod a'i ymgorffori ar draws pob sector.
Mae Cynhwysiant Digidol Cymru yn helpu sefydliadau i ddeall pwysigrwydd galluogi pobl i gael eu cynnwys yn ddigidol ac i fodloni’r safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol, a’u rôl o ran cefnogi pobl i gyflawni hyn.
Cynhwysiant Digidol Cymru (grant)
Mae ein grant, a gafodd ei lansio yng ngaeaf 2025, yn canolbwyntio ar ddiwallu anghenion lleol a nodir gan sefydliadau i gefnogi pobl i ymgysylltu â thechnoleg ddigidol mewn ffordd ddiogel a hyderus.
Ystadegau ac ymchwil
Rydym yn gwybod, drwy Arolwg Cenedlaethol Cymru 2024 i 2025 (sampl o 6,000), nad yw oddeutu 4% o bobl 16 oed a hŷn sy'n byw yng Nghymru yn defnyddio'r rhyngrwyd yn bersonol. Rydym yn gweithio gyda thîm Arolwg Cenedlaethol Cymru i sicrhau bod cwestiynau'n ymwneud â'r safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol yn cael eu cynnwys mewn Arolygon Cenedlaethol yn y dyfodol.
Dod o hyd i ystadegau ac ymchwil ar y rhyngrwyd a'r cyfryngau yn Arolwg Cenedlaethol Cymru.
