Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon ar gyfer mesur data cynhyrchiant llafur ar gyfer rhanbarthau islaw lefel Cymru ar gyfer 2002 i 2018.

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer Cymru(1)

  • Bod y GYC fesul awr a weithiwyd (o’i gymharu â’r DU) yn 2018 yn 83.3%; yr isaf o ddeuddeg, sef gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.
  • Bod y GYC fesul swydd (o’i gymharu â’r DU) yn 81.8% yng Nghymru. Dyma’r GYC isaf, fesul swydd, o blith y deuddeg, sef gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.
  • Bod amcangyfrifon a gyhoeddwyd fis Rhagfyr 2019 yn dangos bod GYC y pen (o’i gymharu â’r DU) yn 72.8% yn 2018.
  • Dyna’r GYC ail isaf y pen o blith y deuddeg, sef gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.

(1) Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cyhoeddi ffigurau ar gyfer Cymru fel rhan o’r datganiad blynyddol ar gynhyrchiant rhanbarthol ac is-ranbarthol yn y DU a’r datganiad chwarterol ar gynhyrchiant llafur. Caiff y ffigurau ar gyfer Cymru yn y ddau ddatganiad hyn eu cyfrifo gan ddefnyddio’r un fethodoleg ond maent wedi’u seilio ar ddwy ymagwedd wahanol o ran GVA. Mae’r ffigurau ar gyfer Cymru a gynhwysir yn y pennawd ystadegau hwn wedi’u cymryd o’r datganiad cynhyrchiant is-ranbarthol er mwyn bod yn gyson â gweddill y data a ddefnyddir yn y pennawd ystadegau hwn.

Amcangyfrifon is-Gymru(2)

  • Powys oedd yr ardal â’r GYC isaf fesul awr a weithiwyd o’r 174 ardal yn y DU yn 2018 (sef 59.7% o ffigur y DU), a Conwy a Sir Ddinbych oedd y trydydd isaf (gyda 70.0% o ffigur y DU).
  • Caerdydd a Bro Morgannwg oedd yr ardal â’r safle uchaf yng Nghymru o ran (gyda 96.2% o gyfartaledd y DU).
  • Powys oedd yr ardal â’r GYC isaf fesul swydd yng Nghymru yn 2018 (62.1% o gyfartaledd y DU fesul swydd).
  • Caerdydd a Bro Morgannwg oedd yr ardal â’r safle uchaf yng Nghymru o ran (gyda 92.4% o gyfartaledd y DU).

(2) Mae’r Enwau Unedau Tiriogaethol am Ddibenion Ystadegaeth (NUTS) yn ddosbarthiad daearyddol sydd yn gwahanu’r Undeb Ewropeaidd mewn i ranbarthau ar dair lefel wahanol (NUTS 1, 2 a 3, yn ôl eu trefn, yn symud o unedau mwy i unedau llai). Mae’r amcangyfrifon is-Gymru uchod yn cyfeirio at NUTS3.

Nodyn

Fel y cytunwyd gyda’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, bydd yr ystadegau hyn yn cael eu diweddaru am 12.30yp ar y diwrnod y bydd SYG yn eu cyhoeddi.

Adroddiadau

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.