Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon ar gyfer mesur data cynhyrchiant llafur ar gyfer rhanbarthau islaw lefel Cymru ar gyfer 2002 i 2021.

Caiff amcangyfrifon o gynhyrchiant llafur [troednodyn 1] ei gyfrifo drwy rannu allbwn (gwerth ychwanegol crynswth, GYC) â mesuriad o fewnbwn llafur (cyfanswm yr oriau a weithiwyd neu swyddi)

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer Cymru [troednodyn 2]

  • Bod y GYC fesul awr a weithiwyd (o’i gymharu â’r DU) yn 2021 yn 84.1%, cynnydd o 0.7 pwynt canran dros y flwyddyn flaenorol.
  • Y ffigur hwn oedd yr ail isaf o’r ddeuddeg rhanbarth Lloegr a gwledydd y DU.
  • Yn 2021, roedd y GYC fesul swydd wedi’i llenwi yn 82.1% o ffigur y DU, gostyngiad o 0.8 pwynt canran dros y flwyddyn flaenorol.
  • Y ffigur hwn oedd yr ail isaf o’r ddeuddeg rhanbarth Lloegr a gwledydd y DU.
  • Dengys amcangyfrifon a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2023 fod GYC y pen (o’i gymharu â’r DU) yn 74.1%. Dyma’r GYC y pen ail isaf o’r ddeuddeg rhanbarth Lloegr a gwledydd y DU.

Amcangyfrifon is-Gymru [troednodyn 3] [troednodyn 4]

  • Powys oedd yr ardal â’r GYC isaf fesul awr a weithiwyd o’r holl ardaloedd yn y DU yn 2021 (sef 62.7% o ffigur y DU), a Gwynedd a Chonwy oedd y pedwerydd a’r pumed isaf (gyda 70.3% a 70.5% o ffigur y DU yn y drefn hyn).
  • Powys hefyd oedd yr ardal â’r GYC ail isaf fesul swydd yn y DU yn 2021 (62.0% o ffigur y DU).
  • Sir y Fflint a Wrecsam oedd yr ardal â’r safle uchaf yng Nghymru o ran GYG yr awr a GYG y swydd (94.8% a 95.0% o ffigur y DU yn y drefn hyn).

Troednodiadau

[1] Ystyrir bod GYC yr awr a weithir yn ddangosydd mwy cynhwysfawr o gynhyrchiant llafur na GYC fesul swydd a lenwyd, gan ei fod yn cyfrif am wahanol oriau gwaith a sut mae'r rheini'n wahanol ar draws rhanbarthau. Sylwch fod y ddau fesur yn well i asesu cynhyrchiant na GYC y pen, sy'n cynnwys pobl nad ydynt yn y gweithlu a gall llifoedd cymudo hefyd effeithio'n sylweddol arno.

[2] Mae’r ffigurau ar lefel Cymru a ddefnyddir yn y pennawd hwn yn dod o'r tablau data cynhyrchiant rhanbarthol a gyhoeddwyd gan SYG

[3] Daw'r amcangyfrifon is-Gymru a ddefnyddir yn y pennawd hwn o'r tablau data cynhyrchiant isranbarthol a gyhoeddir gan y SYGl ac nid oes modd eu cymharu'n uniongyrchol â data lefel Cymru o'r tablau cynhyrchiant rhanbarthol.

[4] Lefelau Tiriogaethol Rhyngwladol (ITL) yw system ddaearyddol dosbarthiad newydd y DU. Mae hyn wedi disodli y system Enwau Unedau Tiriogaethol at Ddibenion Ystadegaeth (NUTS). Mae’r ITL yn ddosbarthiad daearyddol sydd yn gwahanu y DU i ranbarthau at dair lefel wahanol (ITL 1, 2 a 3, yn y drefn hyn, yn symud o unedau bras i unedau fach). Mae amcangyfrifion Is-Gymru uchod yn cyfeirio at ITL3.

Adroddiadau

Cyswllt

Emma Horncastle

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.