Cynhyrchiant is-ranbarthol: 2002 i 2023
Amcangyfrifon ar gyfer mesur data cynhyrchiant llafur ar gyfer rhanbarthau islaw lefel Cymru ar gyfer 2002 i 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Prif bwyntiau
Caiff amcangyfrifon o gynhyrchiant llafur [troednodyn 1] eu cyfrifo drwy rannu allbwn (gwerth ychwanegol crynswth, GYC) â mesuriad o fewnbwn llafur (cyfanswm yr oriau a weithiwyd neu swyddi).
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer Cymru [troednodyn 2]
- Roedd GYC yr awr a weithiwyd (o’i gymharu â’r DU) yn 84.9% yn 2023, cynydd o 1.3 pwynt canran dros y flwyddyn flaenorol.
- Y ffigur hwn oedd yr isaf o’r ddeuddeg rhanbarth Lloegr a gwledydd y DU.
- Roedd gan Gymru gyfradd twf blynyddol cyfartalog cronnus fesul awr a weithiwyd o 0.2% rhwng 2019 a 2023.
- Yn 2023, roedd y GYC fesul swydd wedi’i llenwi yn 82.3% o ffigur y DU, cynydd o 0.3 pwynt canran dros y flwyddyn flaenorol.
- Y ffigur hwn oedd yr isaf o’r ddeuddeg rhanbarth Lloegr a gwledydd y DU.
- Dengys amcangyfrifon a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2025 fod GYC y pen (o’i gymharu â’r DU) yn 72.2%. Dyma’r GYC y pen ail isaf o’r ddeuddeg rhanbarth Lloegr a gwledydd y DU.
Amcangyfrifon is-Gymru [troednodyn 3] [troednodyn 4] [troednodyn 5]
- Canolbarth Cymru oedd â'r ail GYC isaf yr awr a weithiwyd o'r holl ardaloedd yn y DU yn 2023, (67.5% o ffigur y DU), o flaen Torbay. Gwynedd, a Chonwy a Sir Ddinbych oedd â'r trydydd a'r pumed GYC isaf yr awr a weithiwyd (69.9% a 71.7% o ffigur y DU yn y drefn honno).
- Yn yr un modd, Canolbarth Cymru oedd â'r ail GYC isaf y swydd yn y DU yn 2023 (ar 64.3% o ffigur y DU). Gwynedd, a Chonwy a Sir Ddinbych oedd â'r trydydd a'r pedwerydd GYC isaf y swydd (64.9% a 67.5% o ffigur y DU yn y drefn honno).
- Sir y Fflint a Wrecsam oedd yr ardal â’r safle uchaf yng Nghymru ar gyfer GYC yr awr a GYC y swydd (sef 101.9% a 100.4% o ffigur y DU yn y drefn honno).
- Caerdydd a Bro Morgannwg, a Sir Fynwy a Chasnewydd, oedd yr ail a'r drydedd ardal uchaf yng Nghymru yn y drefn honno o ran GYC yr awr a GYC y swydd. (90.6% ac 88.9% o ffigur y DU ar gyfer Caerdydd a Bro Morgannwg, 90.2% ac 87.3% ar gyfer Sir Fynwy a Chasnewydd.)
Troednodiadau
[1] Ystyrir bod GYC yr awr a weithir yn ddangosydd mwy cynhwysfawr o gynhyrchiant llafur na GYC fesul swydd a lenwyd, gan ei fod yn cyfrif am wahanol oriau gwaith a sut mae'r rheini'n wahanol ar draws rhanbarthau. Sylwch fod y ddau fesur yn well i asesu cynhyrchiant na GYC y pen, sy'n cynnwys pobl nad ydynt yn y gweithlu a gall llifoedd cymudo hefyd effeithio'n sylweddol arno.
[2] Mae’r ffigurau ar lefel Cymru a ddefnyddir yn y pennawd hwn yn dod o'r tablau data cynhyrchiant rhanbarthol a gyhoeddwyd gan Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)
[3] Daw'r amcangyfrifon is-Gymru a ddefnyddir yn y pennawd hwn o'r tablau data cynhyrchiant isranbarthol a gyhoeddir gan y SYGl ac nid oes modd eu cymharu'n uniongyrchol â data lefel Cymru o'r tablau cynhyrchiant rhanbarthol.
[4] Lefelau Tiriogaethol Rhyngwladol (ITL) yw system ddaearyddol dosbarthiad newydd y DU. Mae hyn wedi disodli y system Enwau Unedau Tiriogaethol at Ddibenion Ystadegaeth (NUTS). Mae’r ITL yn ddosbarthiad daearyddol sydd yn gwahanu y DU i ranbarthau at dair lefel wahanol (ITL 1, 2 a 3, yn y drefn hyn, yn symud o unedau bras i unedau fach). Mae amcangyfrifion Is-Gymru uchod yn cyfeirio at ITL3.
[5] Oherwydd problemau diweddar gyda meintiau sampl ar gyfer yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gallai fod cynnydd mewn anwadalrwydd yn y data cynhyrchiant isranbarthol ar gyfer 2023.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Emma Horncastle
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
