Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 15 Chwefror 2023.

Cyfnod ymgynghori:
23 Tachwedd 2022 i 15 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Adolygu ymatebion

Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym yn ceisio barn ar ddulliau gorfodi i annog cydymffurfiaeth â rheoliadau arfaethedig a fydd yn gwella ansawdd a lefel yr ailgylchu o safleoedd annomestig.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Rydym yn cyflwyno rheoliadau newydd y disgwylir iddynt ddod i rym ar 1 Hydref 2023 ac sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob safle annomestig (gan gynnwys busnesau, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector) wahanu deunyddiau allweddol y gellir eu hailgylchu yn y ffordd y mae mwyafrif deiliaid tai Cymru eisoes yn gwneud.

Rydym hefyd yn cynnal ymgynghoriad ar Gasglu Deunyddiau Gwastraff Ar Wahân ar gyfer Ailgylchu: Cod Ymarfer Cymru.

Gweler yr ymgynghoriad cysylltiedig a ddaeth i ben: Cynyddu ailgylchu gan fusnesau 
 

 

Help a chymorth

Am fwy o wybodaeth amdano’r ymgynghoriad hwn, e-bostiwch YmgyngoriadauDiwygiadauAilgylchu@llyw.cymru