Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Drwy'r ymgynghoriad hwn, gofynnodd Llywodraeth Cymru am farn ar gynigion i gyflwyno lluosyddion gwahaniaethol ar gyfer ardrethi annomestig yng Nghymru. 

Mae Llywodraeth Cymru’n cyflwyno amrywiaeth o ddiwygiadau i'r system ardrethi annomestig yn ystod tymor presennol y Senedd. Mae'r lluosydd yn un o benderfynyddion allweddol biliau ardrethi annomestig y mae'n ofynnol i dalwyr ardrethi eu talu. Cyfrifir atebolrwydd ardrethi annomestig, cyn gweithredu unrhyw ryddhadau, drwy gymryd gwerth ardrethol yr eiddo, fel y pennir gan Asiantaeth annibynnol y Swyddfa Brisio, a'i luosi â'r lluosydd, a bennir yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru. Yng Nghymru, un lluosydd sy’n berthnasol i bob eiddo yn y sylfaen drethu ar hyn o bryd. 

Mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024 yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddefnyddio rheoliadau i gyflwyno lluosyddion gwahaniaethol i Gymru. Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn am farn ar gynigion Llywodraeth Cymru i gyflwyno lluosyddion gwahaniaethol o 1 Ebrill 2026 ymlaen.

Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig cyflwyno lluosydd is ar gyfer manwerthwyr bach i ganolig eu maint. Roedd y cynnig hwn yn cydnabod yr heriau unigryw sy'n wynebu siopau manwerthu 'brics a morter', yn enwedig gan eu bod yn gorfod cystadlu â manwerthwyr ar-lein. Byddai'r lluosydd manwerthu arfaethedig yn berthnasol i eiddo sydd â gwerthoedd ardrethol o lai na £51,000 a disgrifiadau penodol mewn rhestr ardrethi lleol sy'n berthnasol i siopau manwerthu. 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried cyflwyno lluosydd uwch ar gyfer eiddo gwerth uchel, i wrthbwyso'r refeniw a fyddai'n cael ei ildio drwy'r lluosydd (adwerthu) is arfaethedig. Cynigir y byddai lluosydd uwch yn berthnasol i eiddo sydd â gwerth ardrethol o fwy na £100,000, yn amodol ar eithriadau ar gyfer mathau penodol o eiddo sy'n cael eu meddiannu gan gyrff sector cyhoeddus neu sefydliadau eraill sy'n cael eu cynnal yn bennaf gan fodelau cyllid cyhoeddus.

Roedd yr ymgynghoriad ar agor am gyfnod o 12 wythnos, o 2 Mai tan 12 Awst 2025.

Cwestiynau ac ymatebion

At ei gilydd, cafwyd 172 ymateb i’r ymgynghoriad. Cafwyd ymatebion gan amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys busnesau, unigolion, awdurdodau lleol, cynrychiolwyr y sector, cyrff proffesiynol, asiantau ardrethu ac academyddion. Mae rhestr lawn o’r ymatebwyr wedi’i chynnwys yn atodiad a.

Ceir crynodeb isod o'r ymatebion a gafwyd i bob cwestiwn. Nid yw’n ceisio cyfleu pob pwynt a godwyd gan ymatebwyr, ond tynnu sylw yn hytrach at themâu allweddol.

Ni wnaeth rhai o’r ymatebwyr ateb bob cwestiwn. Mae'r holl ganrannau'n seiliedig ar ymatebion i'r cwestiwn perthnasol, yn hytrach na chyfanswm yr ymatebwyr i'r ymgynghoriad cyffredinol.

Cwestiwn 1: Ydych chi'n cytuno â'r cynnig i gyflwyno lluosydd manwerthu is?

Atebwyd y cwestiwn gan 169 o ymatebwyr, gyda 81% ohonynt yn cefnogi'r cynnig a 16% yn ei erbyn. Gwnaeth y gweddill (3%) sylwadau heb nodi a oeddent yn cefnogi'r cynnig ai peidio. Gwnaeth 155 o’r ymatebwyr sylwadau penodol. 

Ni wnaeth llawer o'r ymatebwyr a oedd yn cefnogi'r cynnig roi sylwadau manwl neu roeddent ond yn gwneud sylwadau i gadarnhau eu barn y byddai'n cefnogi siopau annibynnol i gystadlu â manwerthwyr ar-lein. Dywedodd rhai ymatebwyr y byddai hefyd yn helpu siopau llai i gystadlu â busnesau manwerthu mwy o faint yn fwy cyffredinol ac yn lleihau eiddo gwag. Roedd ymatebwyr eraill a oedd yn cefnogi'r cynnig o'r farn y dylid ehangu cwmpas y lluosydd manwerthu, i gynnwys sectorau eraill (yn enwedig lletygarwch) neu fanwerthwyr mawr. Roedd rhywfaint o gydnabyddiaeth ymysg ymatebwyr a oedd yn cefnogi'r cynnig y byddai'n cynyddu cymhlethdod gweinyddol.

Y prif bryder gan yr ymatebwyr a oedd yn cefnogi'r cynnig oedd bod y ffocws ar fanwerthwyr bach a chanolig yn rhy gul. Roedd ymatebwyr oedd o'r farn hon yn dadlau y dylai busnesau eraill elwa o luosydd is, yn aml yn seiliedig ar amcan polisi amgen sy'n ymwneud â'r stryd fawr ac ystod ehangach o bwysau sy'n wynebu sectorau ‘eiddo-ddwys’. Roedd yr ymatebwyr yn eirioli fwyaf dros y sector lletygarwch (e.e. tafarndai, caffis, bwytai a gwestai), ar sail barn bod ardrethi annomestig yn cael effaith anghymesur ar y sector a'i fod yn wynebu heriau eraill. Roedd rhai hefyd yn eiriol dros hamdden a nifer fach yn eirioli dros sectorau gweithgynhyrchu neu’r gadwyn gyflenwi. Roedd gwrthwynebiad hefyd i'r lluosydd manwerthu gan rai ymatebwyr a oedd yn poeni'n bennaf am effaith y cynnig cysylltiedig ar gyfer lluosydd uwch.

Roedd ymatebwyr eraill nad oeddent yn cefnogi'r cynnig o blaid cadw un lluosydd ar gyfer y sylfaen drethu gyfan, am amrywiaeth o resymau'n ymwneud â symlrwydd a thegwch y system ardrethi annomestig. Roedd rhai o'r farn y byddai lluosyddion gwahaniaethol yn cymhlethu pethau, yn creu dryswch i dalwyr ardrethi neu'n arwain at rai anghysondebau a chanlyniadau anfwriadol. Awgrymwyd hefyd y byddai ailbrisiadau rheolaidd a rhyddhadau presennol yn mynd i'r afael â'r heriau perthnasol. 

Cwestiwn 2: Ydych chi'n credu y byddai'r diffiniad arfaethedig ar gyfer lluosydd manwerthu yn cyd-fynd â bwriad y polisi?

Atebwyd y cwestiwn gan 162 o ymatebwyr, ac roedd 56% ohonynt yn cytuno fod y diffiniad arfaethedig yn cyd-fynd â bwriad y polisi ac roedd 43% yn anghytuno. Gwnaeth y gweddill (1%) sylwadau heb nodi a oeddent yn cytuno ai peidio. Gwnaeth 85 o’r ymatebwyr sylwadau penodol. 

Ni wnaed sylwadau pellach gan y rhan fwyaf o'r ymatebwyr a oedd yn cytuno y byddai'r diffiniad yn cyd-fynd â bwriad y polisi neu roeddent yn cadarnhau eu barn y dylai'r disgrifiadau eiddo a ddewiswyd a'r trothwy gwerth ardrethol gynnwys y rhan fwyaf o fanwerthwyr bach, annibynnol. Roedd rhai ymatebwyr o'r farn y dylai'r diffiniad weithio ar y cyfan os yw'r disgrifiadau mewn rhestrau ardrethu yn gywir ac yn cael eu gweithredu’n gyson. Nodwyd y gallai eiddo a ddisgrifir fel siop gael ei ddefnyddio, mewn rhai achosion, at ddiben ar wahân i fanwerthu, neu y gallai mathau eraill o eiddo gael eu defnyddio'n rhannol ar gyfer manwerthu.

Roedd prif bryder yr ymatebwyr nad oeddent yn cefnogi'r diffiniad arfaethedig yn adlewyrchu eu barn y dylai lluosydd is hefyd fod yn berthnasol i sectorau eraill, yn enwedig lletygarwch, fel y disgrifir mewn perthynas â chwestiwn 1. Roedd y safbwyntiau hyn yn aml yn seiliedig ar amcan polisi amgen a gynigiwyd yn ymhlyg (gan yr ymatebwyr) a oedd yn ymwneud ag anghenion y stryd fawr yn fwy cyffredinol, yn hytrach na'r bwriad a ddatganwyd i ail-gydbwyso'r system ardrethi annomestig o blaid manwerthwyr bach i ganolig yn benodol.

Roedd rhai ymatebwyr o'r farn bod y trothwy gwerth ardrethol arfaethedig yn ymddangos yn fympwyol neu fod perygl y byddai yn cymell rhai busnesau i beidio â gwella eu heiddo neu ehangu i eiddo mwy o faint. Un pryder cysylltiedig oedd y gallai amrywiadau daearyddol ym maint a gwerthoedd cysylltiedig eiddo olygu bod busnesau mewn rhai ardaloedd yn elwa mwy nag eraill. Roedd nifer fach o ymatebwyr yn poeni nad yw bob amser yn glir a yw eiddo yn siop fanwerthu yn bennaf. 

Cwestiwn 3: Ydych chi'n meddwl y dylai lluosydd uwch fod yn berthnasol i eiddo sydd â gwerth ardrethol o fwy na £100,000 (yn amodol ar yr eithriadau a ddisgrifir)?

Atebwyd y cwestiwn gan 166 o ymatebwyr, gyda 56% ohonynt yn cefnogi'r cynnig a 41% yn ei erbyn. Gwnaeth y gweddill (3%) sylwadau heb nodi a oeddent yn cefnogi'r cynnig ai peidio. Gwnaeth 135 o’r ymatebwyr sylwadau penodol. 

Ni wnaeth llawer o'r ymatebwyr a oedd yn cefnogi'r cynnig roi sylwadau manwl neu fe wnaethant sylwadau i gadarnhau eu barn y dylai busnesau mwy allu fforddio talu cyfradd ychydig yn uwch i gefnogi busnesau llai. Ymysg yr ymatebwyr a oedd yn cefnogi'r cynigion, dywedodd rhai y dylid ystyried lefel y lluosydd uwch yn ofalus, er mwyn cydnabod cyfraniad busnesau mwy at y stryd fawr a chanol trefi. Aeth rhai gam ymhellach ac awgrymu y dylid eithrio rhai sectorau, fel manwerthu a lletygarwch, o’r lluosydd uwch. Cyflwynwyd barn groes gan ymatebwyr a oedd yn poeni am effaith busnesau manwerthu a lletygarwch y tu allan i drefi ar y stryd fawr. Awgrymodd nifer fach o ymatebwyr eithriadau eraill o luosydd uwch.

Prif bryder yr ymatebwyr nad oeddent yn cefnogi'r cynnig oedd bod busnesau sy'n meddiannu eiddo gwerth uchel eisoes yn gwneud cyfraniad mawr at refeniw ardrethi annomestig ac na ddylai fod yn ofynnol iddynt dalu atodiad ychwanegol. Roedd sylwadau cysylltiedig yn pwysleisio'r cyfraniadau economaidd ehangach roedd busnesau mawr yn eu gwneud, yr amrywiaeth o gostau ychwanegol y maent yn eu hwynebu a phryder y gallai'r cynnig atal twf a buddsoddiad. 

Roedd rhai ymatebwyr yn dadlau y dylid cynyddu'r trothwy gwerth ardrethol ar gyfer unrhyw luosydd uwch. Gwnaed sylwadau penodol dros eithrio busnesau manwerthu a lletygarwch rhag lluosydd uwch, ar sail pryder y gallai costau uwch arwain at risg y byddai busnesau nad ydynt yn gwneud elw mawr yn gorfod cau. Roedd pryderon penodol hefyd ynghylch effaith lluosydd uwch ar eiddo diwydiannol a gweithgynhyrchu uchel eu gwerth. Fel y disgrifiwyd mewn perthynas â chwestiwn 1, roedd ymatebwyr eraill yn gwrthwynebu'r cynnig ac yn ffafrio cadw un lluosydd ar gyfer y sylfaen drethu gyfan.

Roedd rhai ymatebwyr yn cydnabod neu'n derbyn y nod o sicrhau bod y cynigion yn niwtral o ran refeniw ar y cyfan, ond yn ei chael yn anodd dod i farn heb wybod ar ba lefel y bydd y lluosydd uwch yn cael ei osod arno. Awgrymwyd hefyd y dylid ystyried y sefyllfa yn Lloegr wrth bennu unrhyw luosydd uwch, er mwyn lleihau unrhyw ddylanwad posibl ar fusnesau sy'n agos at y ffin.

Cwestiwn 4: Ydych chi'n credu y byddai'r diffiniad arfaethedig ar gyfer lluosydd uwch yn cyd-fynd â bwriad y polisi?

Atebwyd y cwestiwn gan 159 o ymatebwyr, ac roedd 51% ohonynt yn cytuno fod y diffiniad arfaethedig yn cyd-fynd â bwriad y polisi ac roedd 46% yn anghytuno. Gwnaeth y gweddill (3%) sylwadau heb nodi a oeddent yn cytuno ai peidio. Gwnaeth 83 o’r ymatebwyr sylwadau penodol. 

Nid oedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr a oedd yn cytuno y byddai'r diffiniad yn cyd-fynd â bwriad y polisi wedi gwneud sylwadau pellach neu roedd eu sylwadau ond yn cadarnhau eu barn y byddai'r dull gweithredu yn galluogi cyflawni'r bwriad i ail-gydbwyso'r system ardrethi annomestig mewn ffordd niwtral o ran refeniw. Fel y disgrifiwyd mewn perthynas â chwestiwn 2, roedd rhai ymatebwyr o'r farn y dylai'r diffiniad weithio ar y cyfan os yw'r disgrifiadau a ddefnyddir i nodi eithriadau mewn rhestrau ardrethu yn gywir ac yn cael eu gweithredu’n gyson. Nodwyd na ddylai hyn fod yn fater arwyddocaol i'r mathau penodol o eiddo y bwriedir eu heithrio.

O'r ymatebwyr a wnaeth sylwadau penodol ar yr eithriadau arfaethedig o gyflwyno lluosydd uwch, roedd y rhan fwyaf yn cytuno eu bod yn briodol. Roedd rhai o'r farn y dylid eithrio swyddfeydd hefyd lle’u bod yn cael eu defnyddio gan gyrff cyhoeddus, er nad oes disgrifiad cysylltiedig yn y rhestr ardrethu. Roedd nifer fach o ymatebwyr yn anghytuno â'r eithriadau arfaethedig o luosydd uwch, ar sail y farn y byddent yn creu annhegwch ac anghysondeb.

Roedd y prif bryder gan ymatebwyr nad oeddent yn cefnogi'r diffiniad arfaethedig yn adlewyrchu eu gwrthwynebiad i luosydd uwch neu’r farn na ddylai fod yn berthnasol i sectorau penodol, yn enwedig manwerthu a lletygarwch, fel y disgrifir mewn perthynas â chwestiwn 3. O ran busnesau manwerthu a lletygarwch mwy o faint, roedd rhai ymatebwyr o'r farn y byddai cwmpas y lluosydd uwch yn tanseilio bwriad y polisi os oes yn cael effaith negyddol ar yr amodau angenrheidiol maen nhw'n helpu eu creu ar gyfer sector manwerthu hyfyw a chynaliadwy. Cafwyd sylwadau hefyd am eithrio rhai mathau eraill o eiddo masnachol yn y sectorau hamdden a diwydiannol. 

Roedd rhai ymatebwyr nad oeddent yn cefnogi'r diffiniad arfaethedig o'r farn y byddai mabwysiadu trothwy gwerth ardrethol llawer uwch yn fwy cydnaws â bwriad y polisi. Gwnaed awgrym penodol o £500,000 gan nifer fechan o ymatebwyr. Un pryder cysylltiedig oedd y byddai trothwy o £100,000 yn cynnwys rhai busnesau sydd, er eu bod yn meddiannu eiddo mawr, yn gweithredu ar elw isel mewn ffordd debyg i fusnesau llai. Rhannwyd sylw tebyg gan rai ymatebwyr a oedd yn cytuno ar y cyfan â'r diffiniad, ond yn awgrymu y dylid adolygu'r trothwy gwerth ardrethol o bryd i'w gilydd i ystyried canlyniad ailbrisiadau ac effeithiolrwydd y lluosydd uwch yn ehangach. 

Cwestiwn 5: Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol y cynigion ar yr iaith Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

  • Ydych chi’n credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?

  • Ydych chi’n credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol? 

Gwnaeth 74 o’r ymatebwyr sylwadau perthnasol. Nid oedd y rhan fwyaf yn credu y byddai'r cynigion yn cael unrhyw effaith ar y Gymraeg neu nid oeddent yn siŵr. Teimlai rhai ymatebwyr y byddai'r cynigion yn cael effeithiau cadarnhaol ar y Gymraeg drwy gefnogi siopau mewn cymunedau lle mae llawer yn siarad yr iaith. Roedd nifer fach o'r farn y byddai effeithiau niweidiol yn deillio o’r ffaith nad oedd lluosydd is yn cael ei gyflwyno ar gyfer eiddo lletygarwch neu nad oeddent yn cael eu heithrio o luosydd uwch.

Cwestiwn 6: Yn eich barn chi, a ellid llunio neu newid y cynigion er mwyn gwneud y canlynol:

  • cael effeithiau positif neu effeithiau mwy positif ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg

  • liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?

Gwnaeth 56 o’r ymatebwyr sylwadau perthnasol. Nid oedd y rhan fwyaf yn credu bod angen unrhyw newidiadau, gan na fyddai'r cynigion yn cael unrhyw effaith ar y Gymraeg, neu nid oeddent yn siŵr. Roedd amrywiaeth o’r awgrymiadau i annog pobl i ddefnyddio'r Gymraeg yn canolbwyntio'n bennaf ar ddarparu cymorth i fusnesau bach, naill ai drwy gymhellion treth neu fuddion ehangach. Roedd nifer fach o'r farn y gellid sicrhau effeithiau cadarnhaol, a lliniaru effeithiau negyddol, pe bai busnesau lletygarwch yn destun luosydd is. 

Cwestiwn 7: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw bwyntiau cysylltiedig nad ydym wedi mynd i'r afael â nhw’n benodol, defnyddiwch y gofod hwn i'w nodi.

Gwnaeth 99 o’r ymatebwyr sylwadau pellach. Fe wnaeth y rhan fwyaf o ymatebwyr ailadroddodd eu cefnogaeth neu eu pryderon ynghylch y cynigion, fel y nodir mewn ymatebion i gwestiynau blaenorol. Roedd rhai yn croesawu ymdrechion Llywodraeth Cymru i wella'r system ardrethi annomestig ac roeddent o'r farn y byddai cyflwyno lluosyddion gwahaniaethol yn gam cadarnhaol, hyd yn oed os nad oeddent yn cytuno â phob agwedd ar y cynigion. 

Nododd rhai ymatebwyr ei fod yn dibynnu ar gywirdeb y disgrifiad a ddangosir mewn rhestr ardrethi, yn enwedig mewn perthynas â'r lluosydd manwerthu. Awgrymodd nifer fach y dylai Asiantaeth y Swyddfa Brisio adolygu'r defnydd o ddisgrifiadau perthnasol gan gydnabod y byddai eu defnyddio yn galluogi awdurdodau bilio i weithredu'r lluosydd priodol yn awtomatig, gan osgoi'r angen am brosesau neu geisiadau â llaw. Nodwyd hefyd, ar y cyfan, efallai mai'r dull gweithredu yw'r opsiwn gorau sydd ar gael ar gyfer cyflawni'r cynigion.

Rhoddwyd sylwadau ychwanegol am oblygiadau gweinyddol ac ymarferol y cynigion i awdurdodau lleol ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Roedd rhai ymatebwyr yn rhagweld y byddai mwy o ymholiadau gan dalwyr ardrethi a fyddai’n ceisio deall neu gwestiynu eu rhwymedigaethau. Nodwyd hefyd y byddai angen diweddaru systemau bilio awdurdodau lleol i gefnogi'r gwaith o roi'r cynigion ar waith, a gofynnodd rhai yn benodol am gymorth ariannol. 

Dywedodd rhai ymatebwyr ei bod yn anodd rhoi barn bendant ar y cynigion heb wybod ar ba lefelau y byddai'r lluosyddion yn cael eu gosod a beth fyddai effaith ailbrisiad 2026. Gofynnodd nifer fach am eglurder ynghylch sut y byddai'r lluosydd manwerthu yn rhyngweithio ag unrhyw ryddhad parhaol presennol. Gwnaed cymariaethau hefyd â chwmpas unrhyw ryddhad dros dro a ddarparwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf a chyda'r lluosyddion newydd sydd ar y gweill ar gyfer Lloegr.

Gwnaeth llawer o ymatebwyr sylwadau am agweddau ehangach ar y system ardrethi annomestig, gan gynnwys pryderon am effaith gyffredinol atebolrwydd. Gwnaeth rhai ddadleuon dros newidiadau eraill i fynd i'r afael â materion canfyddedig a helpu i gymell twf. Gwnaed amryw o awgrymiadau ar gyfer diwygiadau ehangach.

Ymatebion y Llywodraeth

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr amrywiaeth o safbwyntiau a gyflwynwyd mewn ymateb i'r ymgynghoriad hwn. Er ein bod yn cydnabod yr hoffai mwy o drethdalwyr elwa o luosydd is neu gael eu heithrio o luosydd uwch, cafodd cynigion yr ymgynghoriad gefnogaeth ar y cyfan gan fwyafrif yr ymatebwyr. Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd y camau sydd eu hangen er mwyn i’r cynigion ddod i rym ar 1 Ebrill 2026. 

Bydd lefelau'r holl luosyddion ar gyfer 2026 i 2027 yn cael eu pennu’n ddiweddarach eleni, pan fydd yr holl wybodaeth angenrheidiol ar gael i lywio'r penderfyniadau hynny. Bydd hyn yn ystyried canlyniad yr ailbrisiad ardrethi annomestig nesaf, a fydd hefyd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2026 ac yn arwain at ail-sylfaenu’r lluosydd safonol sy'n berthnasol ar hyn o bryd i bob eiddo yn y sylfaen drethu. 

Lluosydd manwerthu

Amcan polisi penodol y lluosydd manwerthu is yw ail-gydbwyso'r system ardrethi annomestig yn barhaol o blaid siopau manwerthu bach i ganolig, er mwyn cefnogi hyfywedd a chynaliadwyedd parhaus y sector. Mae hyn yn adlewyrchu’r heriau unigryw sy'n wynebu siopau manwerthu ‘brics a morter’, yn enwedig gan eu bod yn gorfod cystadlu â manwerthwyr ar-lein. Er y byddai disgwyl hefyd i sectorau eraill o economi'r stryd fawr elwa'n anuniongyrchol, drwy lif ymwelwyr a gefnogir gan y sector manwerthu, nid oedd yr ymgynghoriad yn cynnig ‘lluosydd stryd fawr’. Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi y byddai cynnig ar y sail honno yn debygol o awgrymu lluosydd is gyda chwmpas ehangach.

Mae’n fwriadol bod cwmpas y lluosydd manwerthu arfaethedig yn gulach na'r rhyddhad dros dro a ddarparwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan ein bod yn ceisio ymateb i fater penodol parhaus yn hytrach na sioc economaidd annisgwyl. Mae'r sector manwerthu yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb yn bennaf gan ddefnyddio eiddo annomestig ac yn rhannol, ond yn gynyddol, ar-lein. Mae gwerthiannau ar y rhyngrwyd bellach yn cyfrif am dros chwarter o gyfanswm y gwerthiannau manwerthu blynyddol. Fel y nodir yn yr ymgynghoriad, mae hyn yn creu anghydbwysedd o ran effaith ardrethi annomestig ar y sector manwerthu, na fydd yn cael sylw naturiol dros amser drwy ailbrisio'r sylfaen drethu'n rheolaidd. 

Ar gyfer sectorau ‘eiddo-ddwys’ eraill na ellir eu gwneud ar-lein, dylid adlewyrchu newidiadau yn y farchnad dros amser wrth ailbrisio mewn ffordd sy'n effeithio ar y sector cyfan yn fwy cyson. Rydym yn cydnabod bod sawl sector o'r economi yn talu cyfran fawr o ardrethi annomestig, oherwydd eu bod yn llenwi cyfran fawr o'r sylfaen drethu (nad yw'n annisgwyl nac yn anfwriadol ar gyfer treth eiddo). Mae manwerthu yn un sector o'r fath, ond nid y ffaith ei bod yn gwneud cyfraniad cyffredinol mawr ynddo’i hun yw'r rheswm dros y cynnig hwn. Y cyd-destun y mae'r sector manwerthu yn gwneud ei gyfraniad ynddo yw'r sail i'r amcan polisi.

Lluosydd uwch

Mae'n bwysig bod modd gweithredu a chynnal y polisi hwn heb leihau’r cyfraniad cyffredinol a wneir gan ardrethi annomestig tuag at ariannu gwasanaethau lleol hanfodol ledled Cymru. Byddai lluosydd uwch yn codi swm bach o refeniw ychwanegol o eiddo uchel eu gwerth i gefnogi'r nod hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y bydd angen taro cydbwysedd wrth bennu'r lluosyddion gwahaniaethol. Rhagwelir y byddai atodiad ymylol ar y lluosydd uwch yn ddigon i gefnogi lluosydd manwerthu sydd gryn dipyn yn is. 

Mae'r trothwy gwerth ardrethol arfaethedig (dros £100,000) yn adlewyrchu cyfansoddiad y sylfaen ardrethu yng Nghymru. Byddai eithrio sectorau masnachol mawr rhag bod yn rhan o’r lluosydd uwch yn tanseilio'r cyfle i gefnogi’r ymdrech i wneud y cynnig yn un refeniw niwtral ac yn un sy’n cael effaith gymedrol ar y rhai sy'n destun iddo. Gan gymryd pethau gam ymhellach, ni allai lluosydd uwch gyda chwmpas cyfyng iawn godi digon o refeniw i gael effaith sylweddol ar yr amcan polisi.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod cyfraniad y manwerthwyr mawr, gan gynnwys siopau sy’n gonglfaen i ganolfannau ac archfarchnadoedd, ochr yn ochr â'r manwerthwyr llai y mae’r cynigion hyn yn canolbwyntio arnynt. Mae'r manwerthwyr mwy hyn hefyd yn cystadlu â'u cymheiriaid llai ac yn aml mae ganddynt ddarpariaeth sylweddol ar-lein ochr yn ochr â'u presenoldeb brics a morter. Felly, ystyrir ei bod yn deg ac yn briodol i fanwerthwyr sy'n meddiannu eiddo mawr wneud cyfraniad drwy'r lluosydd uwch yn yr un modd â sectorau eraill.

Ystyriaethau eraill

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr ystyriaethau gweinyddol ac ymarferol a ddisgrifir mewn rhai ymatebion, mewn perthynas â defnyddio disgrifiadau’r rhestrau ardrethi. Er bod cryfderau a gwendidau'n gysylltiedig ag unrhyw ddull posibl o ganfod eiddo cymwys, ni allem ystyried mecanweithiau eraill gyda'n pwerau presennol i osod lluosyddion gwahaniaethol drwy reoliadau. Bwriad y dull hwn yw osgoi'r posibilrwydd o anghysondebau daearyddol a sicrhau bod awdurdodau bilio yn gallu defnyddio lluosyddion yn awtomatig, ar sail elfennau presennol rhestrau ardrethu gyda’r hawliau apelio cysylltiedig. 

Mae'r disgrifiadau perthnasol wedi cael eu dewis oherwydd eu bod yn cael eu defnyddio i dargedu mathau o eiddo sy'n cael eu defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf i werthu nwyddau i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld. Fel y nodir yn yr ymgynghoriad, ac i adlewyrchu pa mor gyffredin yw eiddo bach a chanolig yn y sylfaen drethu, mae'r disgrifiadau hyn yn berthnasol i bron i 95% o'r holl siopau manwerthu. Rydym yn gweithio gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio i sicrhau bod y disgrifiadau perthnasol yn cael eu gweithredu’n gyson, i gefnogi'r broses weithredu. Dyma ein defnydd cyntaf o fecanweithiau newydd ar gyfer pennu lluosyddion gwahaniaethol. Rydym yn dechrau'n fwriadol gyda chynigion cymharol fach, er mwyn i ni allu dysgu o'r ystyriaethau ymarferol sy'n codi wrth eu rhoi ar waith.

Yn olaf, rydym yn cydnabod bod rhywfaint o debygrwydd a rhywfaint o wahaniaethau rhwng ein cynigion ar gyfer lluosyddion gwahaniaethol a rhai o'r polisïau a fabwysiadwyd yng ngwledydd eraill y DU, ac mae crynodeb o hyn yn yr ymgynghoriad. Defnyddir trothwyon gwerth ardrethol cyfatebol i weithredu lluosyddion perthnasol yn Lloegr a'r Alban, tra bod gwahaniaethau eraill yng nghwmpas y lluosyddion manwerthu a’r lluosyddion uwch yn codi o amcanion polisi penodol Llywodraeth Cymru. Mae gwahaniaethau pwysig eraill rhwng y systemau ardrethi annomestig yng Nghymru a gwledydd eraill y DU, sy'n adlewyrchu cyfansoddiad unigryw ein sylfaen drethu a'n cefnogaeth hirsefydlog i fusnesau bach. Bydd pob talwr ardrethi cymwys yn parhau i elwa o'n rhyddhadau statudol parhaol gwerth £250 miliwn y flwyddyn, ni waeth pa luosydd sy'n berthnasol i'w heiddo.

Y camau nesaf

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r rheoliadau sy'n ofynnol i bennu'r eiddo y bydd lluosydd manwerthu neu luosydd uwch yn berthnasol iddynt, o 1 Ebrill 2026 ymlaen. Bydd hyn yn galluogi awdurdodau lleol i baratoi eu systemau bilio ar gyfer rhoi’r lluosyddion gwahaniaethol ar waith. Bydd lefelau'r holl luosyddion ar gyfer 2026 i 2027 yn cael eu pennu’n ddiweddarach yn y flwyddyn, pan fydd yr holl wybodaeth angenrheidiol ar gael i lywio'r penderfyniadau hynny.

Atodiad a: rhestr o’r ymatebwyr

Cafwyd ymatebion gan y canlynol:

  • A G Meek Limited
  • Andrew Douglas
  • Anita Woods
  • Cymdeithas Siopau Cyfleustra
  • Ben Rive
  • Cymdeithas Gwerthwyr Llyfrau'r DU ac Iwerddon
  • Boots
  • Cyngor Harddwch Prydain
  • Cymdeithas Parciau Gwyliau a Pharciau Cartrefi Prydain
  • Ffederasiwn Eiddo Prydain
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
  • CAMRA - Ymgyrch dros Gwrw Iawn
  • Caradog Hotels
  • Cyngor Dinas Caerdydd
  • CBI Cymru
  • Celf Greadigol Cyf
  • Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth
  • Sefydliad Siartredig Trethu
  • Cheryl Jones
  • Claire Hughes AS
  • Clement Jones
  • Colliers
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad Cymru
  • Creative Hospitality Group
  • Cresthouse Ltd
  • Croeso Pubs Ltd
  • Debrett Fires Retailer
  • Cyngor Sir Ddinbych
  • Dr Rhys ap Gwilym a Dr Edward Jones, Prifysgol Bangor
  • Driftwood Designs
  • Dunoon Hotels Ltd
  • Empire Hotel
  • Entain Plc
  • Ffederasiwn y Manwerthwyr Annibynnol
  • Ffederasiwn y Busnesau Bach - Cymru
  • Fisher German
  • Cyngor Sir y Fflint
  • FOR Cardiff
  • Gareth Allen
  • Graham Peers
  • Y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw
  • Joanne Creek
  • Kayleigh Beirne
  • Kristin Trichler
  • Lidl
  • M&S
  • McDonald's y DU ac Iwerddon
  • Cyngor Merthyr Tudful
  • Milkshed Workspace Penarth
  • Ffederasiwn Cenedlaethol yr Is-bostfeistri
  • NCHA - Cymdeithas Darparwyr Awdioleg Gofal Sylfaenol
  • Neos Hospitality
  • Cyngor Dinas Casnewydd
  • Optometreg Cymru
  • Origin Japan
  • Cyngor Sir Penfro
  • Pips Pet Supplies
  • Yr Athro Mark Barry, Prifysgol Caerdydd
  • Cymdeithas y Syrfewyr Prisio
  • Raymond Matthews
  • Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig
  • Seren
  • Stephen Hughes Ltd
  • Ardal Gwella Busnes Abertawe
  • Tata Steel UK
  • The Colour Lounge
  • The Co-op Group
  • The Gamers Emporium
  • The Gathering
  • The Mineral Products Association
  • The Revel Collective
  • The Shopkeepers Campaign
  • Theatr Clwyd
  • Top Cards
  • Cyngor Sir Torfaen a Chyngor Sir Fynwy
  • Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith
  • UK Hospitality Cymru
  • Uniper UK Ltd
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg
  • Tribiwnlys Prisio Cymru
  • Vantastec Ltd
  • Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Cymru
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Consortiwm Manwerthu Cymru
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
  • WSP GL Hearn
  • Y Bwthyn

85 o ymatebwyr a oedd yn dymuno aros yn ddienw.