Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb gweithredol

Ym mis Gorffennaf 2022, gwnaethom gyhoeddi gynigion bras ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS). Mae’r ddogfen yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer strwythur y cynllun i'r dyfodol ochr yn ochr â'r math o weithredoedd y gellid gofyn i ffermwyr eu cwblhau.

Gwnaethom ddefnyddio ail gam y cydlunio i archwilio gallu, cyfle a chymhelliant ffermwyr i gyflawni'r gweithredoedd a gynigiwyd yn y cynllun bras. Mae ffermwyr yn gwybod beth sy'n gweithio ar eu fferm, felly roedd hwn yn ymarfer hynod werthfawr a oedd yn ein galluogi i gasglu eu syniadau a'u hawgrymiadau ar gyfer gwella, newid ac ychwanegu at y cynigion.

Gwnaethom ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau i ganiatáu i ffermwyr, rhanddeiliaid ac eraill roi adborth a gwneud awgrymiadau. Yn ganolog i hyn roedd y ffermwyr a gymerodd ran mewn gweithdai, arolygon a chyfweliadau a gyflawnwyd gan ein contractwyr annibynnol. Gwnaethom hefyd gasglu adborth gan randdeiliaid drwy weithgorau sefydledig i ystyried themâu penodol megis tenantiaeth.

Daeth chwe thema gyffredin i’r amlwg yn yr adborth gan ffermwyr. Mae'r adborth hwn yn awgrymu bod ffermwyr yn gefnogol ar y cyfan i egwyddorion y cynllun ac yn cydnabod pwysigrwydd cymryd llawer o'r Gweithredoedd Sylfaenol. Ar y cyfan, mae ffermwyr yn gyfforddus â strwythur haenog y cynllun, ond byddai'n well ganddynt gael mwy o hyblygrwydd i ddewis y gweithredoedd y teimlant fydd fwyaf addas ar gyfer eu tir a'u dull ffermio. Adlewyrchwyd hyn yn benodol mewn sylwadau ar y Gweithredoedd Sylfaenol sydd mewn golwg a'r canfyddiad y byddai hyn yn un dull sy'n addas i bawb.

Mae'r adborth yn adlewyrchu ein barn ni y dylai'r cynllun, lle bynnag y bo'n bosibl, wneud y canlynol:

  • gwobrwyo ffermwyr am barhau ag arferion da presennol, yn ogystal â sefydlu arferion newydd
  • cynnig cymhelliant a rhoi'r offer sydd eu hangen ar ffermwyr i wella
  • cynnig mwy o hyblygrwydd a bod yn llai rhagnodol na chynlluniau blaenorol
  • defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau
  • gallu addasu i wahanol ffermydd a thirweddau.

Cafwyd ymatebion hefyd gan sefydliadau a oedd yn cynrychioli llawer o sectorau a buddiannau gwahanol. Roedd yr adborth a ddarparwyd yn eang iawn, gan adlewyrchu'r amrywiaeth o randdeiliaid a gymerodd ran. Roedd adborth rhanddeiliaid yn ymwneud ag amcanion y cynllun yn gadarnhaol ar y cyfan, ond roedd rhanddeiliaid eisiau gweld rhagor o fanylion am feysydd megis cymhwysedd, cymorth (gweinyddol, technegol ac ariannol) a strwythur (haenau, cyllid a monitro).

Mae allbynnau’r Gweithgorau a thystiolaeth o’r gwaith cydlunio yn cael eu cyfuno â gwaith datblygu polisi parhaus i helpu i lunio’r fersiwn nesaf o’r cynigion i’w cynnwys yn yr ymgynghoriad cyhoeddus tuag at ddiwedd y flwyddyn. Bydd swyddogion yn parhau i esblygu a phrofi manylion y cynllun cyn yr ymgynghoriad hwn.

Ni fydd penderfyniad terfynol ar fanylion y cynllun yn cynnwys manylion pwysig fel cyfraddau taliadau yn cael ei wneud nes ein bod wedi ymgynghori ar ein cynigion manwl a bod y dadansoddiad economaidd wedi’i gyflwyno. Bydd y cynllun terfynol yn cael ei gyhoeddi yn 2024, gyda ffermwyr yn gallu symud i’r cynllun o 2025.

Diolchiadau

Ar hyd y gwaith o’i ddatblygu, mae'r cynllun wedi'i lunio gyda mewnbwn gan ffermwyr ac rydym am ddiolch i bawb sydd wedi rhoi o'u hamser i weithio'n adeiladol gyda ni. Rydym yn gwerthfawrogi bod y diffyg manylion yn gallu achosi rhwystredigaeth ond rydym yn ddiolchgar i’r rheini a fachodd ar y cyfle i gyfrannu. Mae cydlunio yn broses barhaus ac mae’n parhau drwy ein gwaith gyda’r Gweithgorau SFS a’n gwaith ymgysylltu parhaus gyda’r diwydiant ac eraill, boed i ddatblygu Dangosyddion Perfformiad Allweddol neu edrych ar gydnabyddiaeth ar sail perfformiad. Trwy fabwysiadu dull mwy cydweithredol fel hyn, gallwn sicrhau bod y cynllun yn gweithio i ffermwyr Cymru ac yn eu helpu i leihau eu hôl troed carbon, cyflawni dros natur a chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.

Cefndir

Bil Amaethyddiaeth (Cymru)

Y Bil hwn yw'r Bil Amaethyddiaeth cyntaf erioed i Gymru. Mae'r Bil yn mabwysiadu Rheoli Tir yn Gynaliadwy (SLM) fel y fframwaith ar gyfer cymorth a rheoleiddio amaethyddol yng Nghymru yn y dyfodol, gan gyfrannu at ein rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae'r fframwaith 'a wnaed yng Nghymru' yn ein galluogi i gefnogi ffermwyr Cymru i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy a helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. 

Mae SLM yn ymgorffori cyfraniad economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ffermwyr at gymdeithas yng Nghymru. Mae'n gysyniad a gydnabyddir yn rhyngwladol sy'n annog defnyddio adnoddau tir yn y fath fodd fel bod anghenion y cenedlaethau presennol yn cael eu cydbwyso â'n rhwymedigaethau i'r genhedlaeth nesaf. Mae fframwaith y Bil yn seiliedig ar bedwar amcan SLM:

  1. cynhyrchu bwyd a nwyddau eraill mewn modd cynaliadwy
  2. lliniaru’r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo
  3. cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a’r manteision y maent yn eu darparu
  4. gwarchod a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol a hyrwyddo mynediad y cyhoedd iddynt ac ymgysylltiad y cyhoedd â nhw, a chynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso'r defnydd ohoni.

Mae'r Bil yn darparu'r fframwaith deddfwriaethol i gyflwyno'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) sy'n cael ei lunio i gefnogi ffermwyr Cymru i ffynnu drwy wneud yr hyn y gallant ei wneud orau – ffermio'n gynaliadwy, sef cynhyrchu bwyd mewn cytgord â natur. Bydd y cymorth hwn yn cydnabod y canlyniadau amgylcheddol a chymdeithasol y mae ffermwyr yn eu cyflawni ochr yn ochr â'u rôl graidd o gynhyrchu bwyd, gan helpu i greu sector amaethyddiaeth cynaliadwy a gwydn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Adlewyrchir y pedwar amcan SLM yn y ffordd mae'r Cynllun wedi'i strwythuro, gyda'r gweithredoedd ynddo yn cyfrannu at un neu fwy o'r amcanion.

Cynllun Bras a Chydlunio

Ym mis Gorffennaf 2022, gwnaethom gyhoeddi 'Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Cynigion Bras ar gyfer 2025’. Cafodd y cynigion hyn eu llywio gan yr adborth a gawsom gan ffermwyr a'r diwydiant ehangach dros dri ymgynghoriad a cham cyntaf y cydlunio:

Mae ein hymgysylltiad parhaus wedi galluogi ffermwyr, ynghyd â grwpiau a sefydliadau sy'n cynrychioli ffermio a rheoli tir yn ehangach, i'n helpu i lywio'r cynllun. Rydym wedi gwrando ar ffermwyr ac wedi mireinio ein syniadau i helpu i sicrhau ei fod yn gweithio iddyn nhw.  Mae'r adborth adeiladol wedi dylanwadu'n uniongyrchol ar ddyluniad y cynllun, megis:

  • dylunio Taliad Sylfaenol am gyflawni cyfres o Weithredoedd Sylfaenol y gellir eu cyflawni gan ffermydd ledled Cymru ac sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth
  • datblygu taliad ychwanegol ar gyfer y rhai sy'n dewis cymryd Gweithredoedd Opsiynol a/neu Gydweithredol ychwanegol.

‘Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Cynigion Bras ar gyfer 2025' oedd ein cynnig mwyaf manwl a gyhoeddwyd hyd yma. Cadwyd y fframwaith hwn o weithredoedd ar lefel uchel yn fwriadol er mwyn rhoi cyfle i ffermwyr gyfrannu at ddatblygu'r manylion mewn ffordd nad oedd yn bosibl o dan gynlluniau blaenorol. Yn erbyn y cefndir hwn, gwnaethom lansio cam diweddaraf y cydlunio i geisio barn ffermwyr, yn ogystal â sefydliadau ffermio a sefydliadau eraill, ar y cynigion bras. Roedd ail gam y cydlunio yn archwilio gallu, cyfle a chymhelliant ffermwyr i gyflawni’r gweithredoedd a gynigir yn yr SFS a'u syniadau a'u hawgrymiadau ar gyfer gwella, newid ac ychwanegu at y cynigion. Roedd y rhaglen gydlunio yn cynnwys tair ffrwd waith wahanol:

  1. Cam 2 y cydlunio gyda ffermwyr
  2. Adborth rhanddeiliaid
  3. Gweithgorau arbenigol

Cam 2 y cydlunio gyda ffermwyr

Archwiliwyd safbwyntiau ffermwyr ar yr SFS drwy arolygon, gweithdai a chyfweliadau i ddeall a allant gyflawni'r hyn a gynigir yn y cynllun, pa gymorth y gallai fod ei angen a pha newidiadau posibl y gellid eu gwneud i'r SFS.

Defnyddiwyd cymysgedd o sianeli cyfathrebu i godi ymwybyddiaeth ac annog cyfranogiad. Roedd y rhain yn cynnwys: 

  • ymweld â sioeau amaethyddol, marchnadoedd, digwyddiadau a grwpiau
  • negeseuon e-bost a galwadau ffôn i'r ffermwyr a gyflwynodd yn ffurfiol Ddatganiadau o Ddiddordeb yn y cydlunio, i'w gwahodd i'r gweithdai
  • hyrwyddo drwy Daliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein
  • rhannu dolen yr arolwg drwy rwydweithiau rhanddeiliaid a'r cyfryngau cymdeithasol.

Cafwyd 1,445 o ymatebion i'r arolwg ar-lein. Roedd yn canolbwyntio ar barodrwydd ffermwyr i gymryd y gweithredoedd dan sylw, gan fyfyrio ar ffactorau a allai eu hatal neu eu galluogi i wneud hynny yng nghyd-destun eu busnes fferm eu hunain. Casglwyd adborth hefyd gan 194 o’r rhai a gymerodd rhan mewn 26 o weithdai a chyfweliadau. Nodir rhagor o fanylion am y broses hon a chanfyddiadau'r gwaith yn 'Adroddiad Terfynol Cydlunio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy’.

Adborth rhanddeiliaid

Roedd ffurflen adborth ar gael i grwpiau a sefydliadau rhanddeiliaid i ategu allbynnau Cam 2 y Cydlunio gyda ffermwyr. Roedd y ffurflen adborth wedi'i strwythuro i adlewyrchu cynnwys y cynllun amlinellol arfaethedig. Roedd rhanddeiliaid yn gallu rhoi ymatebion penodol a thematig i bob rhan o'r cynigion.

Dadansoddom ni 100 o ymatebion gan sefydliadau a grwpiau o fewn y sbectrwm eang o'r rhai sydd â diddordeb yn y sector amaethyddol. Cafodd yr ymatebion eu dadansoddi'n annibynnol a'u cyhoeddi - 'Cynllun Ffermio Cynaliadwy - Dadansoddiad o'r adborth i gynigion bras y cynllun’. Defnyddiwyd y canfyddiadau i lywio'r ymateb hwn a'n gwaith parhaus i ddatblygu cynigion y cynllun.

Gweithgorau arbenigol

Mae'r cynllun yn cael ei ddylunio i sicrhau ei fod yn hygyrch ac yn briodol i bob ffermwr. Mae rhai elfennau o ddyluniad y cynllun sy'n gofyn am ymchwiliad pellach y tu hwnt i'r adroddiadau cydlunio.

Gwnaethom sefydlu tri gweithgor i archwilio cynigion yr SFS o safbwynt:

  • Ffermwyr tenant
  • Deiliaid hawliau tir comin
  • Newydd-ddyfodiaid

Mae pwysigrwydd tenantiaeth, tir comin a newydd-ddyfodiaid wedi cael ei ystyried ar hyd y broses o ddatblygu’r SFS. Fodd bynnag, gan fod camau a phrosesau arfaethedig bellach wedi'u harchwilio'n fanylach, gallwn ystyried ar y cyd y risgiau, y rhwystrau a'r cyfleoedd perthnasol mewn perthynas â chynigion y cynllun. 

Mae'r Gweithgorau'n cynnwys sefydliadau ac unigolion sydd â phrofiad yn y meysydd hyn. Rydym yn gwerthfawrogi eu cyfraniadau hyd yma, sydd wedi’u crynhoi isod, yn ogystal â'r mewnbwn a gawsom gan nifer o sefydliadau eraill, gan gynnwys Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru a grwpiau o ffermwyr a milfeddygon. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r rhain a grwpiau eraill ac yn defnyddio'r allbynnau i gefnogi esblygiad parhaus y cynigion.

Canfyddiadau ac ymateb i'r rhaglen Gydlunio

Gweithgorau arbenigol

Gwnaethom sefydlu'r tri Gweithgor yn bennaf i ystyried y cynigion drwy lens eu maes arbenigol. Ni ofynnwyd i'r grwpiau gymeradwyo set derfynol o argymhellion; yn hytrach, gofynnwyd iddynt gyflwyno ystod o risgiau, rhwystrau a chyfleoedd y dylem eu hystyried wrth i ni symud ymlaen i gamau nesaf datblygu’r cynllun. Gofynnwyd hefyd i'r Gweithgorau archwilio materion nad ydynt yn ymwneud â'r cynllun lle gallai'r rhain yn effeithio ar allu ffermwyr i gymryd rhan yn yr SFS. Mae rôl y Gweithgorau hyn yn parhau. Mae'r canlynol yn grynodeb o rai o'r prif faterion a ystyriwyd hyd yma. 

Gweithgor Tenantiaeth

Mae'r Gweithgor Tenantiaeth yn cynnwys:

  • Cymdeithas y Gyfraith Amaethyddol (ALA)
  • Cymdeithas Ganolog y Priswyr Amaethyddol (CAAV)
  • Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad Cymru (CLA)
  • Undeb Amaethwyr Cymru (FUW)
  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
  • Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
  • Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU Cymru)
  • Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS)
  • Cymdeithas Ffermwyr Tenant Cymru (TFA)
  • Arbenigwyr annibynnol eraill

Y cefndir i ystyriaethau'r Gweithgor oedd egwyddorion dylunio'r cynllun o gadw ffermwyr ar y tir, yn ogystal â chefnogi'r ffermwr 'gweithredol'. Rydym wedi bod yn glir, os nad yw'r SFS yn gweithio i ffermwyr tenantiaid, yna nid yw'n gweithio o gwbl. Mae'r Gweithgor wedi tynnu sylw at yr angen i gofio bod amrywiad eang o ran amodau a hydoedd cytundebau tenantiaeth. Ynghyd â hyn, efallai y bydd gan rai unigolion nifer o denantiaethau ar barseli tir gwahanol. Mae'r sector tenantiaid hefyd yn llwybr mynediad pwysig i newydd-ddyfodiaid. 

Astudiodd y Gweithgor gynigion yr SFS i archwilio pa heriau unigryw y gallai ffermwr tenant eu hwynebu wrth eu cyflawni. Nid yw’r mwyafrif o’r Gweithredoedd Sylfaenol, gan gynnwys profi pridd, mesur perfformiad neu weithio gyda'r milfeddyg drwy'r Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid, yn peri unrhyw heriau unigryw ynddynt eu hunain i ffermwyr tenant. Fodd bynnag, efallai y bydd cyfyngiadau ar allu'r tenantiaid i gyflawni unrhyw weithredoedd o ganlyniad iddynt, er enghraifft, os oes angen newid seilwaith y fferm.

Ar y cyfan, canfu'r Gweithgor y gallai nifer gymharol fach o'r Gweithredoedd Sylfaenol gyflwyno heriau unigryw i ffermwyr tenant, ond mae'r grŵp bach hwn o weithredoedd yn creu heriau lluosog, megis:

  • Mae'r rhwystrau mwyaf tebygol yn ymwneud â sut y gallai rhai o weithredoedd y cynllun ryngweithio â'r gofynion tenantiaeth i ffermio'r tir yn unol â rheolau hwsmonaeth dda, a nodir yn Neddf Amaethyddiaeth 1947. Gall hyn atal rhai gweithgareddau yr ystyrir nad ydynt yn cynnal 'safon resymol o gynhyrchu effeithlon’.
  • Coed a gorchudd coetir: Mewn llawer o achosion, mae coed a choetir sy'n bodoli eisoes wedi'u cadw fel cyfrifoldeb y tirfeddiannwr. Bydd hyn, ynghyd â rheolau hwsmonaeth dda a allai atal coed ychwanegol rhag cael eu plannu, yn golygu y bydd rhai tenantiaid yn debygol o'i chael hi'n fwy heriol bodloni lefel benodol orchudd coed.
  • Gall tenantiaid fod yn gyfyngedig yn yr un modd yn eu gallu i greu neu reoli pyllau neu i greu nodweddion cynefin newydd.

Yn yr SFS bras, gwnaethom gynnig y dylai cytundebau cynllun bara hyd at bum mlynedd, ond roeddem yn cydnabod yr angen i gynnig rhywfaint o hyblygrwydd o ran hyn i denantiaid sydd â deiliadaethau byrrach. Ar y cyfan felly, mae'r Gweithgor o'r farn y byddai'r cyfle am gyfres o Weithredoedd Sylfaenol y gellid eu cyflawni'n flynyddol yn cynnig yr hyblygrwydd mwyaf posibl i'r sector tenantiaid. Cydnabu'r Gweithgor y gallai cytundebau amlflwyddyn fod yn angenrheidiol o hyd ar gyfer Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol.

Gweithgor Newydd-ddyfodiaid

Mae'r Gweithgor Newydd-ddyfodiaid yn cynnwys:

  • Coleg Penybont
  • Grŵp Llandrillo Menai
  • Undeb Amaethwyr Cymru (FUW)
  • Rhwydwaith Cymuned Ffermio Cymru (FCN)
  • Ffermwyr Dyfodol Cymru
  • Menter a Busnes
  • Y Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol (NSA)
  • Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU Cymru)
  • Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (RWAS)
  • Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc (CFfI) Cymru

Mae'n bwysig galluogi newydd-ddyfodiaid i fyd ffermio er mwyn cyflwyno syniadau, egni a brwdfrydedd entrepreneuraidd. Gall newydd-ddyfodiaid fod yn alluogwyr newid yn y diwydiant. Fodd bynnag, mae newydd-ddyfodiaid yn wynebu heriau lluosog o ran cael mynediad at dir, cyllid ac, i rai, sgiliau a hyfforddiant. Un maes a fydd yn helpu hygyrchedd i newydd-ddyfodiaid yw cael gwared ar feini prawf cymhwystra a gofynion eraill a oedd yn cyflwyno rhwystrau mewn rhai cynlluniau blaenorol a chyfredol.  Er enghraifft, nid oes unrhyw gynigion i seilio taliadau SFS ar gwotâu, na hawliau yn seiliedig ar daliadau a dderbyniwyd yn ystod cyfnodau cyfeirio blaenorol.

Mae rhywfaint o orgyffwrdd rhwng meysydd ffocws y Gweithgorau Newydd-ddyfodiaid a Thenantiaeth gan fod cyfran fawr o newydd-ddyfodiaid yn debygol o ddechrau ar eu gyrfa ffermio ar dir rhent, o bosibl yn gweithredu ar denantiaethau tymor byr neu anffurfiol. Maent hefyd o bosibl yn ffermio darnau tameidiog o dir neu dir sydd ddim o ansawdd amaethyddol cystal.

Mae'r Gweithgor wedi nodi heriau i newydd-ddyfodiaid o raglenni grant cyfalaf blaenorol a phresennol, megis anhawster bodloni'r trothwy buddsoddiad sydd ei angen i fod yn gymwys am grantiau, a'r gwerth am arian sy'n gysylltiedig â phrynu offer newydd yn unig. Mae'r rhain yn feysydd y byddwn yn eu hystyried wrth i ddyluniad y cynllun barhau.  

Byddai datblygu rhai o weithredoedd y cynllun, megis ymestyn profi pridd a rheoli gwrychoedd dros nifer o flynyddoedd, yn lleihau'r buddsoddiad amser a chyfalaf ymlaen llaw sydd ei angen i ymuno â’r cynllun. Gallai hyn wella hygyrchedd i bob ffermwr, yn enwedig newydd-ddyfodiaid.  

Roedd llawer o'r ymatebion i'r heriau o ymuno â'r diwydiant y tu allan i weithredoedd craidd yr SFS. Mae'r Gweithgor wedi archwilio nifer o fecanweithiau cymorth y gellid eu darparu drwy Cyswllt Ffermio, megis y pecyn 'Dechrau Ffermio' presennol (a elwid gynt yn Mentro) gyda'r posibilrwydd o hyrwyddo'r manteision drwy'r SFS i roi hwb i nifer y ffermwyr sefydledig sy'n barod i fynd i mewn i bartneriaeth fusnes gyda newydd-ddyfodiad. Dyma enghraifft o sut y gallwn helpu rhai newydd-ddyfodiaid i oresgyn yr her o gael gafael ar dir, ond bydd angen ystyried gwneud taliadau SFS i'r ffermwr 'gweithredol'. Mae'r Gweithgor hefyd wedi archwilio cymorth Cyswllt Ffermio arall, megis addasu'r cynnig sgiliau a hyfforddiant, yn ogystal â chymorth y gellid ei gynnig yn uniongyrchol drwy'r SFS, megis yr amodau cymhwyso a'r trothwyon ar gyfer dyfarnu grantiau.

Gweithgor Tir Comin

Mae'r Gweithgor Tir Comin yn cynnwys:

  • Cymdeithas Ganolog y Priswyr Amaethyddol (CAAV)
  • Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad Cymru (CLA)
  • Undeb Amaethwyr Cymru (FUW)
  • Y Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol (NSA)
  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
  • Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
  • Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU Cymru)
  • Cyngor Sir Powys
  • Cymdeithas Ffermwyr Tenant Cymru (TFA)
  • Ystâd y Goron
  • Tirweddau Cymru / Landscapes Wales
  • Fforwm Tiroedd Comin Cymru

Mae'r Gweithgor hefyd yn cynnwys arbenigwyr annibynnol eraill yn y maes, gan gynnwys cynrychiolwyr Cymdeithasau Tir Comin unigol.

Mae Tir Comin yn bwysig am lawer o resymau economaidd, ecolegol a diwylliannol. O'r gwerth porthiant pwysig ar gyfer da byw, i'r ardaloedd mawr o fawndir sy'n cloi carbon ac arafu llif dŵr. Gall tir comin hefyd gynnwys cynefin o bwysigrwydd rhyngwladol i fywyd gwyllt, a chyfoeth o safleoedd archeolegol.

Mae'r Gweithgor Tir Comin wedi bod yn archwilio a yw'n briodol ac yn ymarferol cymhwyso tair haen y cynllun (Sylfaenol, Opsiynol a Chydweithredol) i dir comin, neu a oes angen dull gweithredu ar wahân.

Mae natur hawliau tir comin unigolyn yn golygu na all llawer o'r gweithredoedd arfaethedig presennol gael eu cymryd gan ddeiliad hawliau unigol y tir comin. Mae'n amlwg bod cymhlethdodau yn ymwneud â phori tir comin, ac mae'r Gweithgor yn archwilio opsiynau mewn perthynas â’r rhain. Mae anghenion busnes ac economaidd unigol deiliaid hawliau tir comin yn cael eu hystyried, ac mae'r Gweithgor yn archwilio sut y gallant gyflawni gweithredoedd, fel rhan o'r busnes fferm, sy'n ymwneud â rheoli tir comin. Er enghraifft, gweithredoedd ar iechyd anifeiliaid, bioddiogelwch a phatrymau pori i reoli cynefin.

Mae’r Gweithgor yn gadarnhaol ac yn awyddus i weld tiroedd comin yn cael eu cefnogi fel rhan o Haen Gydweithredol yr SFS a bydd yn archwilio'r hyn sydd ei angen i alluogi hyn. Roedd y Gweithgor yn awyddus i gynnal a pharhau i gefnogi Cymdeithasau Tir Comin a byddwn yn gweithio gyda'r Gweithgor i archwilio sut rydym yn parhau i gefnogi rheoli tir comin drwy gymdeithasau hen a newydd.

Adborth rhanddeiliaid

Roedd yr adborth a ddarparwyd yn gynhwysfawr ac yn eang, gan adlewyrchu amrywiaeth y rhanddeiliaid a gyfrannodd. Oherwydd hyn, roedd adborth yn ymwneud â'r cynllun yn aml yn ystyried y materion o wahanol safbwyntiau, gan ei gwneud yn anodd ei grynhoi. Roedd y cyfraniad mwyaf cyffredin yn ymwneud â'r 10% o orchudd coed a 10% o dir fferm i'w reoli fel cynefin, gyda'r un faint o ymatebwyr yn awgrymu y dylid cyfuno'r rhain neu eu lleihau ag a ddywedodd y dylai'r rhain aros fel y'u cynigiwyd. Fodd bynnag, un agwedd y cafwyd barn gyffredin yn ei chylch oedd yr angen am eglurhad pellach ar themâu megis:

  • cymhwystra
  • cymorth (gweinyddol, technegol ac ariannol)
  • strwythur (haenau, cyllid a monitro)
  • gweithredoedd arfaethedig (gan gynnwys risg a chyfnewidiadau).

Roedd adborth rhanddeiliaid ar amcanion y cynllun yn gadarnhaol ar y cyfan, ond cwestiynodd yr ymatebwyr sut roedd yr amcanion SLM yn cyd-fynd â deddfwriaeth bresennol a mynegwyd pryderon ynghylch yr amserlen ar gyfer gweithredu'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol (NMS). Ar y cyfan, roedd yr ymatebwyr yn cytuno y dylid gwneud y cynllun yn fwy hyblyg i sicrhau nad yw unrhyw ffermwyr yn cael ei eithrio rhag cymryd rhan (e.e. lleihau'r trothwy 3 hectar a darparu telerau cytundeb byrrach i alluogi tenantiaid i gymryd rhan). Un maes arall o le cafwyd cytundeb barn ymhlith rhanddeiliaid oedd cwtogi'r cyfnod pontio gan nad yw'r hyd presennol yn adlewyrchu'r angen brys i wella cynaliadwyedd arferion ffermio a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Roedd sylwadau yn ymwneud â strwythur a fframwaith y cynllun yn awgrymu ambell i newid y gellid eu gwneud i haenau’r cynllun neu’n awgrymu gweithredoedd y gellid eu hychwanegu at haen benodol neu eu symud i haen benodol. Serch hynny, roedd y sylwadau’n gefnogol i raddau helaeth i'r dull cydweithredol a ddefnyddiwyd i ddatblygu cynllun wedi’i wneud o haenau gyda’r Gweithredoedd Sylfaenol, Opsiynol a Chydweithredol.

Codwyd lefelau cyllid, cyngor a chymorth gweinyddol yn aml fel pwyntiau pryder a meysydd yr oedd angen eglurhad pellach yn eu cylch. Croesawyd integreiddio â'r Cyswllt Ffermio newydd. Fodd bynnag, cwestiynwyd a fyddai digon o gynghorwyr cynllun sydd â'r sgiliau angenrheidiol i gynorthwyo ffermwyr.

Roedd cyllid yn gyffredinol yn destun pryder i randdeiliaid, gyda chyfradd y taliadau, y mecanwaith talu a chyllid ar gyfer y gwahanol haenau i gyd yn ennyn cryn dipyn o adborth.

Roedd gweinyddu'r cynllun, gan gynnwys y prosesau monitro a chydymffurfio, hefyd yn faes lle’r oedd ymatebwyr eisiau sicrwydd y byddai digon o gymorth ac y byddai'r prosesau monitro yn gadarn ac yn drylwyr. Awgrymodd rhai ymatebwyr hefyd y dylai'r SFS gydnabod data, cynlluniau a dogfennau o gynlluniau anllywodraethol, megis gwarant fferm, er mwyn lleihau biwrocratiaeth i ffermwyr. Cafwyd adborth hefyd ar y cosbau i sicrhau cydymffurfiaeth â'r cynllun, gan fod ymatebwyr eisiau sicrhau y byddent yn atal achosion mawr o ddiffyg cydymffurfiaeth ond yn cael eu cymhwyso'n gymesur fel nad yw mân droseddau neu fethiant i gwblhau gweithredoedd oherwydd ffactorau allanol neu annisgwyl yn arwain at gosbau annheg.

Cafwyd llawer o sylwadau am y gweithredoedd arfaethedig hefyd. Rhoddwyd llawer o sylw i weithredoedd yn ymwneud â mynediad i'r cyhoedd, coetir a chynefinoedd, gyda barn ymatebwyr yn aml yn gwrthdaro. Er bod hyn yn golygu ei bod yn anodd crynhoi ymatebion, mae'n dangos bod angen ystyried sicrhau bod y gweithredoedd arfaethedig yn ystyried barn yr holl randdeiliaid yn y cam nesaf.

Cam 2 y cydlunio gyda ffermwyr

Mae'r adborth yn awgrymu bod ffermwyr yn gefnogol ar y cyfan i egwyddorion y cynllun ac yn cydnabod pwysigrwydd cyflawni llawer o'r Gweithredoedd Sylfaenol. Roedd y rhan fwyaf o'r cyfranogwyr yn cydnabod pwysigrwydd bod yr SFS yn cael ei ategu gan egwyddorion cynaliadwyedd, er gwaethaf rhai gwahaniaethau barn ar y ffordd orau o gyflawni hyn. Roedd cyfranogwyr y gweithdai yn hoffi'r gwahanol haenau o fewn y cynllun. Ar y cyfan, ar draws y Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol, cafwyd adborth cadarnhaol ac roedd y cyfranogwyr yn awyddus i allu dewis gweithredoedd y teimlent a allai weithio'n dda a chyflwyno manteision i'w fferm.

Roedd rhai cyfranogwyr yn cefnogi'r syniad o Haen Sylfaenol o weithredoedd a fyddai'n helpu i ddod â'r holl ffermydd sy'n cymryd rhan ledled Cymru i safon debyg, er bod rhai cyfranogwyr eisiau gweld rhai Gweithredoedd Sylfaenol yn cael eu symleiddio. Ar y cyfan, mae ffermwyr yn gyfforddus â strwythur haenog y cynllun, ond byddai'n well ganddynt gael mwy o hyblygrwydd i ddewis y gweithredoedd y teimlant fydd yn adlewyrchu orau eu tir a'u dull ffermio. Amlygodd yr adborth ar y cynigion chwe thema gyffredin a adlewyrchwyd ar draws y tair ffrwd waith cydlunio:

  1. diffyg eglurder ynghylch amcanion y cynllun
  2. gwobrwyo gwaith presennol a chydnabyddiaeth ar sail perfformiad
  3. pryder o ran y dull un ateb sy'n addas i bawb a Gweithredoedd Sylfaenol
  4. cymorth i'r diwydiant
  5. parodrwydd y diwydiant a chadwyni cyflenwi i gefnogi gweithredoedd
  6. ffermwyr dan bwysau.

Nodir yr adborth yn llawn yn 'Adroddiad Terfynol Cydlunio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy’.

Ar y tudalennau canlynol, rydym yn ystyried yr ymateb o Gam 2 y Cydlunio gyda ffermwyr, ynghyd ag adborth rhanddeiliaid a rhai o ystyriaethau cynnar y Gweithgorau, a sut rydym yn bwriadu gweithredu ar hyn cyn ein hymgynghoriad ar y dyluniad terfynol.

1. Egluro amcanion y cynllun

Adborth

Ar y cyfan, roedd ymatebwyr y cydlunio eisiau mwy o fanylion am ofynion pob un o'r gweithredoedd a gwell dealltwriaeth o ba dystiolaeth fyddai ei hangen. Ochr yn ochr â hyn, roedd llawer eisiau gwybodaeth am gyfraddau’r taliadau ar gyfer pob gweithred, yn ogystal â chynlluniau manwl ar gyfer y pontio o gynlluniau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin. Roedd rhai hefyd yn teimlo bod gweithredoedd ac amcanion y cynllun yn gwrth-ddweud ei gilydd. Roedd rhanddeiliaid hefyd yn awyddus i gael mwy o fanylion am y gweithredoedd arfaethedig, gan gynnwys sut y byddai unrhyw gyfnewidiadau posibl yn cael eu rheoli i atal canlyniadau anfwriadol.

Roedd dryswch ynghylch rhai o'r amcanion a'r gweithredoedd yn yr SFS. Roedd hyn yn arbennig o berthnasol i'r Weithred Sylfaenol ar gyfer Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA) lle, er bod cyfranogwyr yn cydnabod gwerth monitro perfformiad eu fferm eu hunain, roeddent wedi drysu ynghylch pam y cafodd y weithred hon ei chynnwys. Roeddent yn teimlo hefyd fod cyferbyniad ynghylch amcanion y weithred DPA a oedd yn ymddangos fel pe baent yn ceisio gwella cynhyrchiant o gymharu â gweithredoedd gorchudd coed a chysylltiedig â chynefinoedd y tybiwyd eu bod yn lleihau cynhyrchiant. Roedd y cyfranogwyr eisiau eglurder ynghylch nodau'r cynllun a sut y bydd yn cyflawni ei amcanion.

Ein hymateb

Mae'r cynllun yn cael ei ddylunio i gyflawni yn erbyn y pedwar amcan SLM drwy arferion ffermio cynaliadwy. Mae'r gweithredoedd yn y cynllun wedi'u dylunio i weithio gyda'i gilydd, gan gefnogi ffermwyr Cymru i wneud yr hyn y maent yn ei wneud orau - cynhyrchu bwyd mewn cytgord â'r amgylchedd. Y 'Ffordd Gymreig' hon o ffermio, sydd wedi'i hintegreiddio o fewn cymunedau gwledig, sy'n gweithio gyda'r dirwedd ac sy'n gwneud defnydd gofalus o'r adnoddau sydd ar gael ym myd natur, yw'r ffordd orau hefyd o leihau costau i helpu i wneud ffermydd yn fwy proffidiol.

Mae'r cynllun yn mabwysiadu'r dull hwn, y gellir ei ddisgrifio fel dull atgynhyrchiol neu amaeth-ecolegol, gan ei fod yn darparu manteision lluosog ac yn addas iawn i'n hinsawdd a'n tir. Dyma rai enghreifftiau o weithredoedd yn y cynllun sy'n gallu helpu ffermwyr i arbed arian, lleihau eu hôl troed carbon, gwella'r amgylchedd a dod yn fwy gwydn:

  • mae profion pridd yn helpu ffermwyr i gael gwell dealltwriaeth o'u priddoedd, gan eu galluogi i dargedu'r defnydd o faethynnau i ddiwallu anghenion y cnwd yn well, gan arbed arian iddynt a lleihau'r maethynnau a gollir i'r aer neu'r dŵr
  • gall rheoli glaswelltir yn dda arwain at wella perfformiad anifeiliaid, iechyd anifeiliaid ac iechyd pridd, gan mai glaswellt a reolir yn gynaliadwy yw'r porthiant rhataf ar gyfer da byw
  • bydd gwella iechyd anifeiliaid gyda ffocws ar atal problemau yn hytrach na thrin problemau yn golygu anifeiliaid mwy cynhyrchiol, gwell lles anifeiliaid a chostau is.

Ategir y rhain gan gamau gweithredu eraill a allai ymddangos fel pe baent yn cynnig manteision amgylcheddol yn unig, ond sydd hefyd o fudd i fusnesau fferm a chynhyrchu bwyd. Er enghraifft, mae coed a gwrychoedd yn cynnig cysgod a lloches i dda byw, a fydd yn bwysig wrth i ni wynebu tywydd mwy eithafol oherwydd y newid yn yr hinsawdd. Mae astudiaethau wedi dangos, drwy ddarparu lloches, y gall colledion cig oen leihau hyd at 30% a gall y cynnydd dyddiol mewn pwysau byw gynyddu 10-21%. Mae gwrychoedd hefyd yn gwella bioddiogelwch a gall coed gynnig ffrwd incwm amgen.

Mae'n gyfuniad o holl gamau gweithredu'r cynllun a fydd yn helpu ffermwyr i ffermio'n gynaliadwy. Mae ffermio cynaliadwy yn rhan o'r ateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur a bydd yn helpu i sicrhau bod gennym sector amaeth gwydn a all barhau i gynhyrchu bwyd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Gan ystyried yr adborth, byddwn yn ymdrechu i gyfleu amcanion y cynllun yn well a sut y mae'n bwriadu eu cyflawni drwy gefnogaeth i ffermio cynaliadwy sy'n darparu ar gyfer natur, yn helpu i frwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd ac yn cynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.

Ar y cyfan, roedd ffermwyr a rhanddeiliaid am gael mwy o fanylion am ofynion pob un o'r gweithredoedd arfaethedig a gwell dealltwriaeth o ba dystiolaeth fydd ei hangen fel rhan o ofynion monitro'r cynllun. Rydym wedi mynd ati’n gydweithredol i ddatblygu'r cynllun drwy rannu ein syniadau ar bob cam i ganiatáu i ffermwyr a'r diwydiant ehangach gyfrannu.

Am y rhesymau hyn, roedd y gweithredoedd a gyflwynwyd yn nogfen y cynllun bras o reidrwydd yn brin o fanylion. Roeddent hefyd yn cynrychioli syniadau polisi presennol ac nid oeddent yn rhestr gynhwysfawr o weithredoedd. Bydd yr adborth, yn seiliedig ar wybodaeth a phrofiad y ffermwr, yn ein helpu’n awr i lunio'r lefel nesaf o fanylder a nodir yn yr ymgynghoriad. 

Rydym yn gwerthfawrogi bod rhywfaint o siom nad oeddem wedi gallu cynnwys cyfraddau taliadau. Rydym yn deall pa mor hanfodol yw’r rhain o ran helpu ffermwyr i ddeall sut y bydd y cynllun yn effeithio ar eu busnes. Rydym hefyd yn deall pam mae ffermwyr eisiau gweld mwy o fanylion am yr amserlen ar gyfer pontio, a fydd yn dechrau ar 1 Ebrill 2025 ac yn dod i ben ar 31 Mawrth 2029, wrth i ni ddileu Cynllun y Taliad Sylfaenol yn raddol. Mae'r rhain yn feysydd cymhleth sy'n gysylltiedig â dyluniad y cynllun terfynol. Yn y cynllun bras, gwnaethom nodi y bydd y cyfraddau taliadau yn ystyried ffactorau y tu hwnt i gostau yr eir iddynt ac incwm a gollir, gan gydnabod y gwerth cymdeithasol a ddarperir gan y canlyniadau sy'n cael eu cyflawni. Nod y taliad hwn yw rhoi incwm teg a sefydlog i ffermwyr am y gwaith y maent yn ei wneud ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.

Rydym bellach yn bwrw ymlaen â manylion y cynllun terfynol, gan ddefnyddio'r adborth hwn.  Bydd hyn yn golygu y gallwn fwrw ymlaen â llunio'r fethodoleg talu a'r cynigion pontio, a byddwn yn darparu mwy o fanylion ochr yn ochr â dyluniad y cynllun terfynol pan fyddwn yn ymgynghori tuag at ddiwedd y flwyddyn.

Yr hyn y byddwn yn ei wneud

  • Er mwyn rhoi eglurder ar nodau'r cynllun, byddwn yn ymdrechu i gyfleu’n well amcanion y cynllun, yn cynnwys nodi sut y mae gweithredoedd y cynllun yn bodloni gofynion y pedwar amcan SLM.
  • Er mwyn helpu ffermwyr i ddeall yr effeithiau ar eu busnesau, byddwn yn cynnwys manylion am fethodoleg taliadau'r cynllun ac yn ystyried yr opsiynau ar gyfer pennu cyfraddau taliadau ochr yn ochr â chynigion dylunio a phontio terfynol y cynllun yn yr ymgynghoriad terfynol.
  • Byddwn yn parhau i fireinio manylion y cynllun, gan dynnu sylw at ble mae newidiadau wedi'u gwneud yn dilyn adborth cydlunio
  • Byddwn yn parhau i weithio gyda'r Gweithgorau ac yn defnyddio'r allbynnau o bob un ohonynt i fireinio ein cynigion. Bydd grwpiau pellach yn cael eu sefydlu i gefnogi esblygiad parhaus y cynigion, gan gynnwys grŵp i'n helpu i nodi’r DPA sydd fwyaf defnyddiol i helpu ffermwyr i weld ble i wneud gwelliannau.

2. Gwobrwyo gwaith sy’n cael ei wneud eisoes / cydnabyddiaeth ar sail perfformiad:

Adborth

Dywedodd y cyfranogwyr y byddent yn gwerthfawrogi system o gydnabyddiaeth a thâl ar sail perfformiad i'r rhai sydd eisoes yn cyflawni gweithredoedd. Lle'r oedd cyfranogwyr yn rhan o fentrau eraill, roeddent yn awyddus i osgoi dyblygu ymdrech. Roedd ffermwyr yn awyddus i weld cydnabyddiaeth ar sail perfformiad yn cael ei defnyddio i leihau baich gweinyddol posibl, a gafodd ei adlewyrchu hefyd yn rhai o'r ymatebion gan randdeiliaid. Roedd enghreifftiau a roddwyd yn y gweithdai o ble y byddai cydnabyddiaeth ar sail perfformiad yn bosibl yn cynnwys:

  • safonau bioddiogelwch sydd eisoes wedi'u hymgorffori mewn rhai cynlluniau gwarant fferm
  • adrodd ar y defnydd o wrthfiotigau sydd eisoes ar waith drwy rai cynlluniau gwarant ffermydd
  • dysgu sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch a phynciau ffermio eraill eisoes yn ofynion mewn rhai cynlluniau gwarant fferm.

Roedd rhai yn poeni hefyd na fyddai taliadau a chydnabyddiaeth yn cael eu rhoi i'r rhai sydd eisoes yn cwblhau gweithredoedd cynaliadwy neu'n parhau i gynnal a chadw nodweddion ar fferm fel coetiroedd a chynefinoedd. 

Ein hymateb

Roedd osgoi dyblygu ymdrech yn thema gyffredin yn y gweithdai cydlunio. Rydym am wobrwyo arferion ffermio da a gwyddom fod llawer o ffermwyr eisoes yn cyflawni llawer o weithredoedd y cynllun, gan gynnwys fel rhan o gynllun gwarant. Ein bwriad yw sicrhau bod yr SFS yn cyflwyno cyn lleied o ofynion gweinyddol â phosibl, a chydbwyso hyn â lefel y manylder sy’n angenrheidiol i sicrhau bod cyllid y cynllun yn cael ei wario’n briodol. Nid ydym am ofyn i ffermwyr ddyblygu eu hymdrech os ydynt eisoes yn cyflawni gweithredoedd ac yn cofnodi data fel rhan o fentrau eraill neu fel rhan o'u harferion ffermio arferol.

Rydym yn edrych ar ddull cydnabyddiaeth ar sail perfformiad i ganiatáu i ffermwr sy'n cyflawni safon ardystiedig, sy'n gyfwerth â'r SFS, ddefnyddio hyn fel tystiolaeth eu bod yn cyflawni gweithredoedd yr SFS. Awgrymodd rhai rhanddeiliaid y dylai'r SFS dderbyn cynlluniau a dogfennau gan gynlluniau gwarant eraill er mwyn lleihau biwrocratiaeth ddiangen i ffermwyr. Er bod llawer o risgiau a phroblemau yn gysylltiedig â defnyddio data trydydd parti, rydym yn cydnabod manteision gwneud hynny ac yn archwilio sut y mae modd ymgorffori cydnabyddiaeth ar sail perfformiad yn null y cynllun.

Rydym hefyd yn archwilio'r posibilrwydd o ddefnyddio dull Taliadau am Ganlyniadau (PfR) yn y cynllun. Mae cynlluniau sy'n seiliedig ar ganlyniadau yn gwobrwyo ffermwyr drwy gysylltu taliadau ag ansawdd y canlyniadau a gyflwynwyd, yn hytrach na chael eu gwobrwyo am gyflawni gweithredoedd. Ein bwriad yw i daliadau'r cynllun gefnogi parhad arferion ffermio cynaliadwy gyda thaliad am gynnal a chadw a chreu. Rydym am adeiladu ar hyn fel y gallwn fabwysiadu dull mwy seiliedig ar daliadau am ganlyniadau yn y dyfodol. Gall dull seiliedig ar ganlyniadau gynnig llawer o fanteision sy'n cyd-fynd â nodau'r SFS, megis:

  • cynnig dull llai rhagnodol gyda llai o reolau
  • gwobrwyo cynnal arferion da presennol, yn ogystal â sefydlu arferion newydd
  • cynnig cymhelliant i wella
  • annog mwy o ffocws ar gyflawni canlyniadau.

Mae'n ymddangos bod ffermwyr yn ffafrio'r dull hwn gan ei fod yn rhoi'r rhyddid iddynt arloesi, yn ogystal â'r gallu i ddefnyddio eu gwybodaeth am yr hyn sy'n gweithio orau i'w fferm. Fodd bynnag, mae hwn yn ddull newydd nad yw wedi'i roi ar brawf yng Nghymru ar raddfa eang nac i gyflawni rhai o'r canlyniadau rydym yn ceisio eu cyflawni drwy'r SFS. Rydym ni angen amser i ddeall ei fanteision a'i anfanteision, yn ogystal â dysgu gwersi wrth i'r cynllun ddatblygu. Dyma enghraifft o sut rydym yn bwriadu i'r SFS esblygu dros amser, gan ymateb i dystiolaeth a thechnoleg newydd. Byddwn yn nodi mwy o fanylion yn yr ymgynghoriad ar y cynllun terfynol.

Yr hyn y byddwn yn ei wneud

  • Byddwn yn parhau i archwilio cyfleoedd i sefydlu dull cydnabyddiaeth ar sail perfformiad i ganiatáu i ffermwr sy'n cyflawni safon ardystiedig, sy'n gyfwerth â'r SFS, ddefnyddio hyn fel tystiolaeth eu bod yn cyflawni gweithredoedd yr SFS.
  • Byddwn yn defnyddio data addas sydd ar gael, gydag awdurdod y partïon perthnasol, i leihau biwrocratiaeth a'r gofynion gweinyddol ar ffermwyr a'r llywodraeth
  • Byddwn yn parhau i ddatblygu dull seiliedig ar ganlyniadau fel rhan o'r SFS.

3. Dull ‘un ateb sy'n addas i bawb’

Adborth

Pwysleisiodd ffermwyr yr angen am hyblygrwydd, yn enwedig yn haen Sylfaenol y cynllun fel nad yw dull ‘un ateb sy'n addas i bawb’ yn rhwystr i fynediad. Mae pob fferm yn unigryw ac roedd ffermwyr yn teimlo bod angen cydnabod hyn yn y cynllun. Er enghraifft, teimlwyd bod angen i weithgareddau megis profi pridd fod yn benodol i fferm er mwyn bod o werth i'r ffermwr. At ei gilydd, cytunodd rhanddeiliaid hefyd y dylai'r cynllun fod yn hyblyg i sicrhau nad oes unrhyw ffermwyr wedi'u heithrio rhag cymryd rhan.

Croesawyd hyblygrwydd y Gweithredoedd Opsiynol, gyda ffermwyr eisiau ymwneud â'r gweithredoedd mewn ffordd sydd o fudd i'w fferm a'u harferion ffermio.

Ein hymateb

Bydd y cynllun yn cynnig Taliad Sylfaenol i ffermwyr am gyflawni set o Weithredoedd Sylfaenol y gall ffermydd ledled Cymru eu cyflawni. Mae hyn yn rhywbeth y gofynnodd ffermwyr amdano ac mae'n rhywbeth rydym wedi ymrwymo iddo gan ei fod yn cynnig sicrwydd i fusnesau fferm o ran gweithredoedd ac incwm.

Mae llwyddiant unrhyw fusnes fferm cynaliadwy ac addasadwy yn seiliedig ar sylfeini cyffredinol priddoedd iach, da byw iach ac ecosystemau gweithredol. Mae Gweithredoedd Sylfaenol yr SFS wedi'u dylunio i osod safon amaethyddol, amgylcheddol ac iechyd a lles anifeiliaid dda. Mae'r ffordd y mae ffermwyr yn ymateb i'r gweithredoedd hyn yn hyblyg a gall amrywio o fferm i fferm, o sector i sector.

Mae'r Gweithredoedd Sylfaenol hefyd wedi'u dylunio i roi'r blociau adeiladu i ffermwyr fynd ymhellach a gwneud mwy, gan gynnwys drwy gyflawni Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol o fewn y cynllun. Er enghraifft:

  • Mae'r angen i gael pridd iach a lleihau'r maethynnau a gollir i'r amgylchedd yn gyffredin i bob fferm. Bydd profion pridd a chynlluniau rheoli maethynnau yn darparu'r wybodaeth sydd ei hangen ar ffermwyr i gymryd camau i leihau costau drwy wneud defnydd gwell o faethynnau ac i wella iechyd pridd. Mae'r gweithredoedd y bydd pob ffermwr yn eu cymryd yn seiliedig ar yr wybodaeth hon yn wahanol ac yn dibynnu ar anghenion eu fferm unigol, o adeiladu deunydd organig, targedu mewnbynnau i gyd-fynd â galw cnydau’n fwy cywir, neu ddefnyddio mwy o godlysiau.  
  • Bydd y Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid (AHIC) yn helpu ffermwyr da byw i nodi camau i wella iechyd a lles anifeiliaid. Bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar y materion y maent wedi'u nodi a gall amrywio o dargedu defnyddio llai o feddyginiaethau gwrthlyngyr, neu newidiadau i lety a seilwaith.
  • Bydd yr asesiad Rheoli Plâu yn Integredig (IPM) yn helpu ffermwyr sy'n defnyddio cynhyrchion diogelu planhigion i nodi gweithredoedd a fydd yn eu helpu i dyfu cnydau'n gynhyrchiol mewn ffordd a fydd o fudd i iechyd pridd ac arbed arian drwy ddefnyddio llai o gemegau. Gallai hyn arwain at fwy o ddefnydd o gnydau cydymaith, neu newidiadau i'r dewis o hadau a chylchoedd cnydio.

Mae'r cynllun wedi'i ddylunio i gefnogi dull dan arweiniad ffermwyr i sbarduno gwelliannau ar y fferm drwy gynnig Taliad Sylfaenol i bawb, sy'n gysylltiedig â Gweithredoedd Sylfaenol, ar yr un pryd â chaniatáu hyblygrwydd iddynt ddewis Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol sydd o fudd i'w fferm ac sy'n gweddu i'w harferion ffermio.

Mae’r Gweithredoedd Sylfaenol yn set o weithredoedd cyson, ond rydym yn cydnabod nad ydynt yn berthnasol i bob math o fferm, felly ni fyddem yn disgwyl i ffermydd eu cymhwyso oni bai eu bod yn berthnasol, er enghraifft:

  • nid oes angen i ffermydd sy'n arbenigo mewn cynnyrch âr neu arddwriaethol heb unrhyw dda byw gyflawni'r Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid
  • dim ond ffermydd sy'n defnyddio Cynhyrchion Diogelu Planhigion fydd angen cwblhau asesiad IPM
  • bydd unrhyw ofyniad am isafswm gorchudd coed yn ystyried yr ardaloedd o'r tir na ellir plannu arnynt, er enghraifft, oherwydd telerau tenantiaeth neu oherwydd bod y tir yn gynefin â blaenoriaeth.

Bydd rhaid i ffermydd barhau i gyflawni'r holl Weithredoedd Sylfaenol perthnasol sy'n ein galluogi i gynnig Taliad Sylfaenol safonol a chyson ar yr un pryd â sicrhau bod y cynllun yn hygyrch i bob math o fferm.

Cawsom rywfaint o adborth yn cynnig y dylai ffermwyr allu dewis pa Weithredoedd Sylfaenol sy'n addas iddynt. Er ei bod yn ymddangos bod hyn yn cynnig mwy o hyblygrwydd, gallai arwain at fwy o gymhlethdod a byddai'n golygu na fyddem yn gallu cynnig Taliad Sylfaenol safonol i bawb. Byddai hyn:

  • yn golygu na fyddai ein nod o ddarparu sicrwydd i fusnesau fferm yn cael ei fodloni
  • yn gwneud yr Haen Sylfaenol yn fwy cymhleth (dywedodd ffermwyr wrthym fod yn well ganddynt symlrwydd)
  • yn ddull gwahanol i'r un y dywedodd y rhan fwyaf o ffermwyr wrthym eu bod ei eisiau mewn ymgynghoriadau blaenorol.

Ein bwriad yw sicrhau bod y gyfres o Weithredoedd Sylfaenol wedi'i dylunio fel y gall pob ffermwr eu cyflawni (lle bo hynny'n briodol). Fodd bynnag, byddwn yn defnyddio'r adborth cydlunio i adolygu'r Gweithredoedd Sylfaenol a sicrhau bod digon o hyblygrwydd yn y ffordd y gall ffermwyr eu cwblhau.

Enghraifft o hyn yw'r hyblygrwydd a fwriadwyd yn y Weithred Sylfaenol arfaethedig ar gyfer rheoli coetir lle nad ydym yn disgwyl rhagnodi bod rhaid cadw stoc allan o bob coetir, fel rydym wedi'i wneud mewn cynlluniau blaenorol; yn hytrach, byddwn yn caniatáu i ffermwyr barhau i ddefnyddio eu coetiroedd fel tir pori i’w da byw ar yr un pryd â sicrhau nad yw lefelau pori yn difrodi'r coed. Y Weithred Opsiynol yw lle byddwn yn cefnogi ffermwyr i ddatblygu a gweithredu cynlluniau rheoli coetir pwrpasol i reoli eu coetiroedd yn weithredol er mwyn cyflawni mwy ar gyfer eu fferm a'r amgylchedd. Dyma enghraifft o ble rydym wedi gwrando ar adborth ffermwyr i arfer dull cyson ond hyblyg i ganiatáu i ffermwyr barhau i elwa ar eu coetiroedd ar yr un pryd â sicrhau eu bod yn cymryd camau i'w diogelu.

Cafwyd cefnogaeth eang yn yr adborth cydlunio i Weithredoedd Opsiynol pellach sy'n cynnig mwy o weithredoedd i ffermwyr i ddewis y rhai sy'n gweddu orau i'w fferm a'u hamgylchiadau. Byddwn yn parhau i ddatblygu Gweithredoedd Opsiynol i sicrhau bod digon o opsiynau yn yr haen hon i weddu i bob math o ffermydd ac i sicrhau bod y Gweithredoedd Sylfaenol yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar ffermydd i'w helpu i ddewis pa Weithredoedd Opsiynol i'w cymryd i'w helpu i gyflawni eu hamcanion.

Yr hyn y byddwn yn ei wneud

  • Byddwn yn defnyddio'r adborth i adolygu'r Gweithredoedd Sylfaenol i sicrhau bod digon o hyblygrwydd yn y ffordd y gall ffermwyr eu cwblhau.
  • Byddwn yn parhau i ddatblygu Gweithredoedd Opsiynol gan ddefnyddio adborth cydlunio i sicrhau bod digon o opsiynau yn yr haen hon i weddu i bob math o fferm ac uchelgeisiau gwahanol.

4. Cymorth i'r diwydiant:

Adborth

Roedd gan gyfranogwyr y broses gydlunio nifer o bryderon ynghylch sut y bydd yr SFS yn cefnogi'r diwydiant amaethyddol o ran cymorth ariannol a chefnogi cynhyrchu bwyd. Mae ffermwyr eisiau sicrhau bod digon o gyllid i'w cefnogi i gymryd gweithredoedd a chynnal busnes fferm hyfyw. Roeddent hefyd eisiau sicrwydd nad yw'r gyllideb i ffermwyr yn cael ei pheryglu gan y gofyniad i ddefnyddio ymgynghorwyr a chynghorwyr i gwblhau gweithredoedd. 

Roedd cyllid yn faes a oedd yn peri pryder i randdeiliaid, gyda'r gyfradd daliadau, y mecanwaith talu a chyllid ar gyfer y gwahanol haenau i gyd yn destun cryn dipyn o adborth. Er enghraifft, roedd rhywfaint o bryder y gallai'r Gweithredoedd Sylfaenol gymryd cyfran fawr o'r gyllideb ac roedd rhanddeiliaid eisiau mwy o fanylion am y cyllid a oedd ar gael ar gyfer hyfforddiant ac uwchsgilio.

Ein hymateb

Un o amcanion Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yw cynhyrchu bwyd a nwyddau eraill mewn modd cynaliadwy. Y ffordd mae'r cynllun yn bwriadu cyflawni hyn ochr yn ochr â'r amcanion SLM eraill yw drwy gefnogi ffermio cynaliadwy. Mae ffermio cynaliadwy yn darparu ar gyfer natur, yn helpu i liniaru’r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo, ac, yn bwysig, mae'n golygu cynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy. Am y rhesymau hyn, mae cynhyrchu bwyd wrth wraidd y cynllun ac mae'r gweithredoedd ynddo wedi'u llunio i gefnogi'r diwydiant i ddod yn fwy gwydn fel y gallant barhau i gynhyrchu bwyd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol drwy helpu ffermwyr i:

  • gymryd camau i addasu i dywydd mwy eithafol, megis sychder a llifogydd, ac, wrth wneud hynny, cyfrannu at ddiogelu eu fferm at y dyfodol rhag effeithiau'r newid yn yr hinsawdd
  • costau is a dod yn fwy gwydn drwy wneud y defnydd gorau o'u hadnoddau naturiol, ac yn llai dibynnol ar fewnbynnau allanol 
  • arallgyfeirio eu busnes ffermio, lle y bo'n addas, gan eu helpu i wrthsefyll yn well y newidiadau a ddaw yn sgil y newid yn yr hinsawdd ac i gynhyrchu mwy o'r bwyd rydym yn ei fwyta yng Nghymru.

O'n hymgynghoriadau blaenorol a'n gweithgarwch cydlunio, rydym yn gwybod bod ffermwyr yn gwerthfawrogi'r cymorth cynghorwyr, a oedd ar gael drwy gynlluniau, megis Tir Gofal, gan eu bod yn teimlo ei fod wedi helpu i sicrhau bod y gweithredoedd wedi'u teilwra ar gyfer eu fferm a bod ganddynt bwynt cyswllt hysbys. Fodd bynnag, mae'r cymorth cynghorwyr hwn yn costio.

Mae'r Gweithredoedd Sylfaenol yn cael eu dylunio i fod mor glir a hygyrch â phosibl i'w cyflawni drwy ddilyn canllawiau. Mae'n golygu y dylai’r rhan fwyaf o ffermwyr yn gallu cwblhau'r broses ymgeisio a chymhwyso'r Gweithredoedd Sylfaenol eu hunain neu gyda chymorth trydydd parti, na ddisgwylir iddo fod o natur dechnegol. Yn hytrach, byddwn yn canolbwyntio cymorth cynghorwyr ar y Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol sy'n cynnig mwy o hyblygrwydd ond, wrth wneud hynny, gallant fod yn fwy cymhleth i'w cyflawni ac efallai y bydd angen eu teilwra fwy i bob fferm neu ardal benodol. Mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod y rhan fwyaf o'r gyllideb yn mynd yn syth i ffermwyr. Mae'n golygu hefyd bod unrhyw gymorth cynghorwyr ar y cynllun wedi'i gyfyngu i ble mae ei angen ac yn cynnig y budd mwyaf i ffermwyr.

Bydd y Cyswllt Ffermio newydd yn parhau i gynnig rhaglen o hyfforddiant, rhannu gwybodaeth o ffermwr i ffermwr a gwasanaeth cynghorwyr ar ei newydd wedd. Bydd hefyd yn cynnig ac yn cyfeirio ffermwyr at gynghorwyr, contractwyr a mentoriaid ffermwyr dibynadwy gyda sicrwydd ansawdd i ymestyn ymhellach y cyngor, yr arweiniad a'r arbenigedd technegol sydd ar gael. Byddwn yn dysgu o'r model Cyswllt Ffermio presennol ac yn ei addasu er mwyn sicrhau y gall ffermwyr fod yn hyderus y byddant yn derbyn y cyngor, yr arweiniad a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i symud i’r cynllun a manteisio'n llawn arno.

Rydym wedi ymrwymo i barhau i gefnogi ffermio cynaliadwy sy'n rhan o'r ateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur, ond nid oes gennym sicrwydd cyllidebol y tu hwnt i flwyddyn ariannol 2024/25 ar hyn o bryd. Rydym hefyd yn gwybod pa mor hanfodol yw'r manylion ar gyfraddau’r taliadau er mwyn helpu ffermwyr i ddeall sut y bydd y cynllun yn effeithio ar eu busnes. Byddwn nawr yn symud ymlaen gyda manylion y cynllun terfynol a’r fethodoleg taliadau gysylltiedig ac yn darparu mwy o fanylion ochr yn ochr â dyluniad y cynllun terfynol.

Yr hyn y byddwn yn ei wneud

  • Byddwn yn parhau i sicrhau bod yr SFS wedi'i ddylunio i helpu ffermwyr i ddod yn fwy gwydn fel y gallant barhau i gynhyrchu bwyd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
  • Byddwn yn defnyddio'r adborth o'r cydlunio i sicrhau bod cyn lleied â phosibl o rwystrau i fabwysiadu’r Gweithredoedd Sylfaenol, gyda'r rhan fwyaf o'r cymorth cynghorwyr yn canolbwyntio ar y Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y rhan fwyaf o gyllideb y cynllun yn mynd yn syth i ffermwyr.
  • Byddwn yn dysgu o'r model Cyswllt Ffermio presennol ac yn ei addasu i sicrhau y gall ffermwyr fod yn hyderus y byddant yn derbyn y cyngor, yr arweiniad a'r cymorth sydd eu hangen arnynt.

5. Parodrwydd y diwydiant / cadwyni cyflenwi

Adborth

Cododd y cyfranogwyr bryderon ynghylch gallu adnoddau cynghorwyr, contractwyr, arolygwyr a rhannau o'r gadwyn gyflenwi (darparu adnoddau ar gyfer cyflawni gweithredoedd) i ymdopi â'r cynnydd yn nifer y ffermwyr sy'n gwneud gweithredoedd newydd fel rhan o'r cynllun. Yn yr un modd, croesawodd rhanddeiliaid yr integreiddio â Cyswllt Ffermio ond gofynnwyd a oes digon o gynghorwyr medrus ar gael i gefnogi ffermwyr gyda'r cynllun. Roedd pryderon y ffermwyr hefyd yn ymwneud ag, er enghraifft, gweithredoedd megis gorchudd coed neu brofion pridd lle gallai fod angen cymorth gan ymgynghorwyr, labordai, contractwyr a meithrinfeydd planhigion.

Ein hymateb

Bydd y Gweithredoedd Sylfaenol yn helpu i sicrhau bod pob fferm sy'n cymryd rhan ledled Cymru yn bodloni'r un safon uwchben y llinell sylfaen reoleiddiol ac yn darparu'r sylfaen bwysig i fynd ymlaen a gwneud mwy. Ein bwriad ar gyfer y Gweithredoedd Sylfaenol, lle bynnag y bo modd, yw bod ganddynt y lleiaf o rwystrau i'w mabwysiadu. Mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod y cynllun yn hygyrch i bob math o ffermydd. Byddwn yn defnyddio'r dystiolaeth o'r cydlunio i fireinio'r Gweithredoedd Sylfaenol i sicrhau:

  1. y gallant gael eu cyflwyno'n gymharol gyflym, gan gynnwys a yw'n hawdd cael yr offer a'r gwasanaethau angenrheidiol
  2. eu bod yn hawdd eu dysgu neu gael y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen
  3. eu bod yn gost isel ac/neu nad oes angen buddsoddiad mawr ymlaen llaw
  4. nad oes angen newidiadau mawr i system y fferm.

Rydym yn bwriadu cynnal asesiad capasiti i sicrhau y bydd gan ffermwyr fynediad at yr holl gymorth technegol sydd ei angen arnynt i weithredu'r holl gamau gweithredu. Gall hyn gynnwys hefyd argaeledd nwyddau ac offer megis glasbrennau coed, yn ogystal ag arbenigedd megis milfeddygon a chynghorwyr eraill.

Er mwyn helpu i ostwng y baich amser ar ffermwyr a gwneud y cynllun yn fwy hygyrch adeg ei gyflwyno, ni fydd angen cwblhau'r Gweithredoedd Sylfaenol cyn ymuno â'r cynllun. Yn hytrach, bydd gan ffermwyr amser i'w cwblhau o fewn y flwyddyn neu hyd yn oed yn hirach lle bo angen. Byddwn hefyd yn defnyddio'r amser cyn i'r cynllun ddechrau yn 2025 i gynnig grantiau cyfalaf, yn ogystal â chymorth drwy Cyswllt Ffermio, i helpu ffermwyr i baratoi ar gyfer yr SFS. Er enghraifft:

  • Mae £30m ar gael dros y ddwy flynedd nesaf ar gyfer cymorth i blannu coed. Mae'r Cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir yn cefnogi ardaloedd bach o blannu coed o dan 2 hectar. Mae'r Grant Creu Coetir yn cefnogi ardaloedd plannu mwy o faint a'r rhai nad ydynt yn addas ar gyfer y cynllun grantiau bach. Mae cyllid hefyd ar gael drwy'r Cynllun Cynllunio Creu Coetir i helpu i ariannu datblygiad cynlluniau. Bydd coed a blannir drwy'r cynlluniau hyn yn cyfrif tuag at weithredoedd yr SFS.
  • Mae'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd (NPAP) yn cynnig cymorth i ffermwyr i adfer mawndir. Bydd mawndir a adferir cyn yr SFS, neu sy'n cael ei gadw mewn cyflwr da, yn gymwys i'w gynnwys yn yr SFS o dan daliadau cynhaliaeth.
  • Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cymorth i helpu busnesau fferm i gofnodi a mesur pa mor dda y maent yn perfformio yn erbyn ystod o ddangosyddion perfformiad allweddol. Mae hefyd yn cynnig cymorth ar gyfer profion pridd, gan ariannu 70% o’r gost i unigolion, neu 90% os yw’r gwaith yn cael ei wneud fel rhan o grŵp.

Byddwn yn profi rhannau o'r cynllun gyda ffermwyr, lle bo’n briodol, er enghraifft, yr Adolygiad Sylfaenol o Gynefinoedd (HBR). Bydd hyn yn ein helpu i nodi unrhyw gymorth arall y gallai fod angen i ni ei gynnig a pha newidiadau fydd yn helpu i wneud y cynllun yn haws i ffermwyr ei gyflawni. Bydd hon yn broses o esblygu yn hytrach na chwyldro, gan adeiladu ar fecanwaith RPW Ar-lein sydd wedi ennill ei blwyf ac y mae ffermwyr yn gyfarwydd ag ef.

Yr hyn y byddwn yn ei wneud

  • Byddwn yn defnyddio’r adborth o’r ymgynghoriad terfynol i gwblhau asesiad gallu i sicrhau bod ffermwyr yn gallu cael y cymorth technegol sydd ei angen arnynt.
  • Ni fyddwn yn ei gwneud hi’n ofynnol i gwblhau’r holl Weithredoedd Sylfaenol cyn cael ymuno â’r cynllun er mwyn sicrhau bod y baich amser ac unrhyw gyfyngiadau ar adnoddau yn fwy dichonadwy.
  • Byddwn yn defnyddio'r adborth o'r cydlunio i adolygu'r Gweithredoedd Sylfaenol i leihau unrhyw rwystrau i'w mabwysiadu a sicrhau bod y cynllun yn hygyrch i bob ffermwr
  • Byddwn yn cynnig cymorth drwy Cyswllt Ffermio a grantiau i helpu ffermwyr i baratoi ar gyfer yr SFS a’i esblygiad drwy’r cyfnod pontio.

6. Ffermwyr dan bwysau:

Adborth

Cododd ffermwyr bryderon am y baich gweinyddol posibl sy’n gysylltiedig â chyflawni’r gweithredoedd arfaethedig. Mae pryder y bydd cyflwyno'r cynllun yn ychwanegu at y llwythi gwaith presennol, gan gynyddu'r pwysau ar ffermwyr. Er enghraifft, pryderon ynghylch gweithredoedd sy'n gofyn am ddefnyddio data.

Roedd gweinyddu'r cynllun, gan gynnwys y prosesau monitro a chydymffurfio, hefyd yn faes lle’r oedd rhanddeiliaid eisiau sicrwydd y byddai digon o gymorth ac y byddai'r prosesau monitro yn gadarn ac yn drylwyr.

Arweiniodd y cosbau mewn ymateb i ddiffyg cydymffurfiaeth â'r cynllun at adborth gan randdeiliaid hefyd, gydag ymatebwyr eisiau sicrhau eu bod yn ddigonol ar gyfer achosion mawr o ddiffyg cydymffurfiaeth ond yn cael eu cymhwyso'n deg, fel nad yw mân droseddau neu fethiant i gwblhau gweithredoedd oherwydd gweithredoedd allanol neu annisgwyl yn arwain at gosbau annheg.

Ein hymateb

Yr SFS yw'r newid mwyaf mewn cymorth ffermio ers degawdau. Mae’r newid hwn yn angenrheidiol ond gall achosi pryder ac mae gennym ddyletswydd gofal bwysig ar gyfer lles ffermwyr a'u teuluoedd. Rydym yn bwriadu gwneud y cyfnod hwn o newid mor hawdd â phosibl i ffermwyr drwy:

  • gynnig pontio teg dros gyfnod o sawl blwyddyn, gan roi amser i ffermwyr baratoi
  • profi dulliau newydd i sicrhau eu bod yn gweithio cyn dileu'r cymorth presennol
  • dirwyn y taliadau cymorth presennol i ben mewn modd trefnus, gan sicrhau nad oes ymyl dibyn mewn cyllid.

Byddwn yn parhau i gefnogi ffermwyr drwy'r cyfnod pontio (1 Ebrill 2025 tan 31 Mawrth 2029) drwy ddiddymu Cynllun y Taliad Sylfaenol ar yr un pryd â chyflwyno'r SFS yn raddol. Bydd hon yn broses o esblygiad yn hytrach na chwyldro er mwyn sicrhau bod cymaint o ffermwyr â phosibl yn ymuno â'r SFS. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn cynnig sicrwydd i ffermwyr drwy Daliad Sylfaenol yr SFS. Gan y bydd yr SFS yn gweithredu dros raglen amlflwyddyn, bydd y cynllun hefyd yn cynnig i ffermwyr yr incwm cyson a thymor hwy y gwnaethant ofyn amdano mewn ymgynghoriadau blaenorol.

Gan gydnabod ein dyletswydd gofal, ar ôl lansio'r cynllun, byddwn yn parhau i gydweithio â ffermwyr, sefydliadau cynrychiadol ac elusennau gwledig i ofyn am eu hadborth ar sut i barhau i ddarparu cymorth priodol.

Mae mesurau rheoli ac atebolrwydd yn rhan angenrheidiol o'r broses o dderbyn cyllid cyhoeddus. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu bod rhaid i'r broses fod yn gymhleth, cyflwyno rhwystr i reoli busnes neu achosi straen diangen i unrhyw un sy'n derbyn cymorth drwy'r cynllun. Yn hytrach, ein dull gweithredu bwriedig yw bod mor syml a chlir â phosibl gyda phwyslais ar gyfrifoldeb a rennir. Os byddwn, drwy ein gwaith monitro, yn teimlo bod rheolau'r cynllun a'r amodau ariannu wedi'u torri, byddwn yn cymryd camau cymesur.

Rydym eisiau bod yn deg i ffermwyr gan ein bod yn gwybod bod y rhan fwyaf yn ceisio gwneud y peth iawn. Dylai achosion o dorri rheolau sy'n cael effaith fach iawn, neu sy'n anfwriadol, arwain at ymateb cymesur o gymharu â gweithredoedd bwriadol sy'n cael yr effeithiau mwyaf niweidiol. Lle y bo'n briodol, byddwn yn rhoi cyngor ac yn cynnig cyfle i ffermwyr unioni pethau. Rydym yn bwriadu trafod a datblygu ein dull gweithredu drwy gydweithio pellach cyn yr ymgynghoriad.

Byddwn yn parhau i weithio gyda'r elusennau ffermio a Cyswllt Ffermio i hyrwyddo ymwybyddiaeth o ofal iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig a mynd i'r afael â'r stigma sy'n gysylltiedig â'r mater sensitif hwn. Bydd Cyswllt Ffermio, y Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm (FLS), Arolygiaeth Wledig Cymru (RIW) ac aelodau staff eraill sy’n ymwneud â chyflwyno’r SFS yn parhau i gael hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl i'w helpu i wrando ar unigolion mewn angen, eu deall a’u cyfeirio at gymorth priodol a hygyrch.

Er mwyn arbed amser ac ymdrech i ffermwyr, bydd ein gwaith o fonitro'r cynllun yn dilyn yr egwyddorion canlynol:

  1. blaenoriaethu hunanasesu a hunanadrodd i'w gwneud yn haws ac yn symlach i ffermwyr ddangos cydymffurfiaeth
  2. casglu cyn lleied o ddata â phosibl, gan gynnwys lleihau'r angen i gasglu data sawl gwaith, a chyflwyno'r holl ddata a gesglir i'r ffermwr i'w alluogi i olrhain cynnydd ac i lywio’u penderfyniadau
  3. defnyddio technoleg a monitro o bell i arbed amser i ffermwyr ac i leihau gofynion gweinyddol a straen arolygiadau.

Mae'r dull hwn yn cael ei lywio gan yr adborth a gawsom gan ffermwyr drwy'r cydlunio. Dywedodd ffermwyr wrthym fod yn well ganddynt hunanasesu ac, ar y cyfan, eu bod yn barod i fonitro a rhannu'r canlyniadau cyn belled â bod y broses yn syml, yn rhad ac yn hyblyg. Mae hyn wedi dylanwadu’n uniongyrchol ar ddyluniad y cynllun, er enghraifft, drwy'r gweithredoedd ar y Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid, cyfrifo maethynnau sylfaenol, Rheoli Plâu yn Integredig a pherfformiad y fferm.

Bwriedir i'r hunanasesiadau hyn gael eu cwblhau yn rhwydd ac, ar ôl eu cwblhau, bwriedir iddynt fodloni ein gofynion monitro a rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i ffermwyr am sut y gallant wneud gwelliannau. Mae hyn yn fwy syml na phe bai'n rhaid i ffermwyr gwblhau a chyflwyno Cynllun Rheoli Maethynnau safonol, cynllun IPM a Chynllun Busnes i ni eu gwerthuso. Mae'r asesiadau hyn yn lleihau'r gofynion gweinyddol ac maent wedi'u dylunio i fod o fudd i'r busnes fferm. Ar ôl eu cwblhau, mae'r gweithredoedd hyn yn cefnogi ffermwyr i addasu a newid drwy gynllunio, monitro, adolygu a gwella. Nid yw hyn yn golygu beirniadu ffermwyr; yn hytrach, mae'n rhoi mwy o wybodaeth iddynt i'w helpu i wneud gwelliannau. Gall yr asesiadau hefyd dynnu sylw ffermwyr at y cymorth sydd ar gael iddynt drwy Weithredoedd Opsiynol a Chydweithredol, yn ogystal â thrwy Cyswllt Ffermio.

Y bwriad yw y bydd modd cwblhau'r asesiadau a'r Gweithredoedd Sylfaenol eraill heb fawr o gymorth a, lle bo hynny'n berthnasol, yn ddigidol yn ddiofyn gyda chymorth ar gael i ffermwyr sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol. Bydd cwblhau'r asesiadau hyn yn golygu rhannu rhywfaint o ddata. Dywedodd ffermwyr wrthym eu bod yn hapus i rannu data i helpu i wneud y gwaith monitro yn syml. Ein bwriad yw casglu data dim ond lle bo angen. Pryd bynnag y mae'n rhaid i ni gasglu data ar gyfer rheoli a monitro, ein nod yw iddo gael ei wneud mewn ffordd a fydd o fudd i'r ffermwr. Bydd y data a gasglwn fel rhan o'r cynllun hefyd yn cael ei ddefnyddio i'n helpu i ddangos cynnydd yn erbyn ein nodau a, lle bo modd, tynnu sylw at nodweddion cynaliadwyedd diwydiant ffermio Cymru.

Byddwn yn defnyddio dull gweithredu clir a chyson i sicrhau ein bod yn agored ac yn dryloyw ynghylch y data rydym yn ei gasglu ac i sicrhau y gellir ei ddefnyddio i helpu i lywio a gwella gwasanaethau i ffermwyr.

Yr hyn y byddwn yn ei wneud

  • Byddwn yn datblygu cynllun sy'n cynnig cymorth cyson i ffermwyr drwy weithredu dros raglen amlflwyddyn
  • Byddwn yn dysgu o'r model Cyswllt Ffermio presennol ac yn ei addasu i sicrhau y gall ffermwyr fod yn hyderus y byddant yn derbyn y cyngor a'r cymorth sydd eu hangen arnynt
  • Byddwn yn mabwysiadu dull monitro sy'n blaenoriaethu hunanasesu a hunanadrodd, yn ogystal â defnyddio technoleg a monitro o bell i arbed amser ac ymdrech i ffermwyr
  • Byddwn yn casglu cyn lleied o ddata â phosibl, gan gynnwys lleihau'r angen i gasglu data sawl gwaith, a chyflwyno'r holl ddata a gesglir i'r ffermwr i'w alluogi i olrhain cynnydd ac i lywio penderfyniadau.
  • Byddwn yn datblygu system rheoli a chosbi sy'n glir, yn deg ac yn gymesur
  • Byddwn yn parhau i sicrhau bod staff cyflenwi Cyswllt Ffermio, FLS, RIW ac SFS yn cael hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl. Byddwn hefyd yn cydweithio â mudiadau gwirfoddol a all gynnig help i ffermwyr a gweithio gyda nhw i gydgysylltu'r gwasanaethau a gynigir.

Meysydd gweithredu allweddol

Rhyddid i ffermio

Ein nod cyfunol yw i'r Gweithredoedd sylfaenol yn y cynllun fod mor hygyrch â phosibl. Er bod cyfranogwyr y gweithdai yn hoffi'r gwahanol lefelau o weithredoedd o fewn y cynllun, roedd rhai eisiau gweld rhai Gweithredoedd Sylfaenol yn cael eu symleiddio. Rydym wedi ymrwymo i gynnig Taliad Sylfaenol i ffermwyr am gyflawni set o Weithredoedd Sylfaenol y gall ffermydd ledled Cymru eu cyflawni. Byddwn yn defnyddio'r adborth i adolygu'r Gweithredoedd Sylfaenol arfaethedig i sicrhau bod digon o hyblygrwydd yn y ffordd y gall ffermwyr eu cwblhau.

Roedd llawer o gyfranogwyr hefyd yn gweld gwerth cydnabod ffermwyr sy’n rheoli coed presennol yn dda a chynefinoedd dros y 10% sy’n ofynnol. Mae hyn yn cyd-fynd â'r uchelgeisiau ar gyfer y cynllun, felly byddwn yn archwilio a all ein dull gael ei addasu i wobrwyo rheolaeth dda bresennol yn well ar draws gwahanol fathau o ddefnydd tir a chael ei ymgorffori yn ein methodoleg talu ar gyfer y Gweithredoedd Sylfaenol.

Darparu rhagor o fanylion

Yn ddealladwy, mae ymatebwyr eisiau mwy o fanylion am ofynion pob gweithred. Mae ein dull gweithredu hyd yma wedi bod yn llwyddiannus, gan ganiatáu i ffermwyr gyfrannu at ddyluniad y cynllun drwy gydlunio. Byddwn yn mynd ati nawr i fyfyrio ar allbynnau’r cydlunio, ymgysylltu ymhellach ynghylch rhai meysydd pwnc a chynnwys rhagor o fanylion am yr hyn sy'n ofynnol ar gyfer pob un o weithredoedd y cynllun yn ein hymgynghoriad ar y cynllun terfynol. 

Mae'r ffordd y gallem gyfrifo'r gofyniad o 10% ar gyfer coetir yn enghraifft dda o sut mae'r tair elfen cydlunio yn llywio esblygiad gweithredoedd y cynllun. Roedd ffermwyr eisiau gwybod sut y byddai'r 10% ar gyfer plannu coed yn ystyried ardaloedd na ellir eu plannu ac rydym yn gallu rhannu manylion yr awgrymiadau a rannwyd rydym yn eu harchwilio. Rydym yn cydnabod bod ardaloedd nad ydynt yn addas ar gyfer plannu coed, felly dylid asesu'r gofyniad o 10% yn erbyn gweddill y tir.

Mae ardaloedd sy'n anaddas ar gyfer plannu coed, ac sy'n cael eu hystyried ar gyfer eu heithrio o gyfanswm yr ardal a ddefnyddir i gyfrifo'r 10%, yn cynnwys:

  • cynefinoedd lled-naturiol amhriodol presennol, gan gynnwys safleoedd dynodedig
  • mawn dwfn
  • nodweddion na ellir plannu arnynt e.e. sgri, brigiadau creigiog, clogfeini, tywod, pyllau, afonydd a nentydd, adeiladau a buarthau, wynebau caled a ffyrdd
  • tir tenant lle nad oes gan denantiaid yr awdurdod i blannu coed.

Graddiadwyedd

Roedd parodrwydd ffermwyr a’r gadwyn gyflenwi yn thema a drafodwyd gan y cyfranogwyr ar hyd y broses gydlunio. Byddwn yn cynnal asesiad capasiti i sicrhau y bydd gan ffermwyr yr holl gymorth technegol sydd ei angen arnynt i gyflawni gweithredoedd y cynllun. Byddwn hefyd yn parhau i adolygu dyluniad y cynllun i sicrhau bod y broses yn gwneud y cynllun yn hygyrch, gan leihau rhwystrau i ymuno.

Er enghraifft, rydym wedi bod yn ystyried y broses ar gyfer yr Adolygiad Sylfaenol o Gynefinoedd (HBR).

Roedd ffermwyr a rhanddeiliaid ehangach yn teimlo y bydd yr HBR yn ddefnyddiol i gydnabod potensial eu tir. Er eu bod yn cydnabod gwerth cyflawni'r gweithgarwch hwn, mynegwyd y pryderon canlynol:

  • pa mor ddrud fydd ariannu asesiadau cynefinoedd ar bob fferm sy'n dymuno ymuno â'r cynllun ac effeithiau posibl y gwariant hwn ar gyfraddau taliadau ffermwyr
  • yr oedi y bydd cwblhau'r asesiadau hyn yn ei achosi cyn ymuno â'r cynllun
  • gallu'r diwydiant i gefnogi asesiadau cynefinoedd.

Mewn ymateb, rydym yn archwilio sut y gallwn wella graddiadwyedd HBR ar gyfer yr Haen Sylfaenol drwy ddefnyddio'r data a'r wybodaeth sydd gennym eisoes i nodi cynefin lled-naturiol posibl ar fferm a'r math o gynefin yn fras. Byddwn yn gwneud hyn drwy RPW Ar-lein, gan ddefnyddio prosesau cyfarwydd a dibynadwy, gan ddefnyddio gwybodaeth y ffermwr i gadarnhau manylion ei fferm, yn hytrach nag ymgynghorwyr technegol trydydd parti. Bydd hyn yn cael ei ategu gan gynghorwyr ar lawr gwlad, dim ond lle mae eu hangen. Byddwn yn profi'r broses HBR hon cyn i'r cynllun lansio i brofi'r dull gweithredu, cywirdeb y data a pha newidiadau y gallwn eu gwneud i helpu i wneud y cynllun a'r broses yn haws i ffermwyr eu deall a'u cyflawni. Bydd angen HBR manylach ar gyfer yr Haen Opsiynol lle mae cyflwr sylfaenol y cynefin yn elfen bwysig wrth bennu'r gweithredoedd mwy pwrpasol priodol ac at ddibenion monitro.

Rydym yn defnyddio dull gweithredu tebyg gyda chyfrifiannell carbon y cynllun i sicrhau y gall fod yn ddefnyddiol i bob fferm yng Nghymru drwy gymhwyso methodoleg safonol. Ein bwriad yw i'r cynllun ddefnyddio un asesiad carbon, neu asesiad carbon unedig, a'n nod yw ei brofi gyda ffermwyr cyn lansio'r cynllun. Bydd yr offeryn yn gallu cipio gwybodaeth ar lefel fferm ar yr ystod lawn o fesurau lliniaru i fonitro cynnydd ac i helpu ffermwyr i weld effaith y newidiadau y maent yn eu gwneud ar y fferm.

Hygyrchedd

Mae'n bwysig bod y cynllun yn gweithio ar gyfer pob math o fferm, gan gynnwys ffermwyr tenant y mae'n rhaid iddynt gael mynediad teg. Amlygwyd cytundebau tenantiaeth fel rhwystr posibl i gwblhau rhai o weithredoedd y cynllun, yn ogystal â'r angen i gynnig hyblygrwydd i denantiaid i'w galluogi i ymuno â'r cynllun. Enghraifft o hyn yw hyd cytundebau. Mae cytundebau amlflwyddyn yn cynnig ffrwd incwm sefydlog i ffermwyr ac yn golygu bod gweithredoedd yn cael eu cyflawni'n gyson dros amser, gan gyfrannu'n well at yr amcanion SLM. Fodd bynnag, cytunodd rhanddeiliaid y dylai'r cynllun fod yn hyblyg i sicrhau nad oedd unrhyw un wedi'i eithrio rhag cymryd rhan, gyda rhai yn awgrymu cynnig tymor cytundeb byrrach (na phum mlynedd) i alluogi tenantiaid i gymryd rhan. Barn y Gweithgor Tenantiaeth yw y byddai tymor cytundeb pum mlynedd yn debygol o fod allan o gyrraedd llawer o ffermwyr tenant, felly rydym yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i gynnig hyblygrwydd i denantiaid ymuno â'r cynllun a'i adael, yn ogystal ag i bob ffermwr wneud newidiadau.

Mae rhai o'r meysydd eraill sy'n cael eu hystyried mewn ymateb i'r dystiolaeth o'r cydlunio yn cynnwys, er enghraifft:

  • rhoi'r gallu i ffermwyr ofyn am newidiadau bob blwyddyn i ychwanegu mwy o dir, ychwanegu mwy o Weithredoedd Opsiynol a/neu gynyddu cyfran y Gweithredoedd Opsiynol presennol e.e. dros ardal ehangach
  • galluogi tenantiaid ar gytundeb 'treigl' o flwyddyn i flwyddyn i ymuno â'r cynllun os yw'r ymgeisydd yn disgwyl cael rheolaeth reoli ar y tir
  • ni fydd tenantiaid yn cael cosb am adael y cynllun pan fydd yn colli rheolaeth reoli dros y tir yn annisgwyl h.y. pan fydd tenantiaeth yn dod i ben, ac nad oes unrhyw faterion cydymffurfiaeth wedi'u nodi.

Byddwn yn ystyried casgliadau'r holl Weithgorau wrth ddatblygu ein cynigion i sicrhau eu bod yn gweithio i denantiaid, newydd-ddyfodiaid a deiliaid hawliau tir comin. Heb y ffermwyr hyn, ni fydd y cynllun yn gallu cyflawni'r amcanion SLM.

Pontio teg

Er bod cyfranogwyr yn hoffi'r gwahanol lefelau o weithredoedd o fewn y cynllun, roedd cydnabyddiaeth o'r angen i roi cyfle i ffermwyr ddod i arfer â'r rhaglen gyda'r potensial i wahanol rannau gael eu cyflwyno'n raddol, yn enwedig oherwydd sut y gall y newid hwn achosi pryder i ffermwyr. Atgyfnerthodd hyn yr angen i wneud y cyfnod hwn o newid mor hawdd â phosibl i ffermwyr drwy:

  • gynnig pontio teg drwy roi amser iddynt baratoi ar gyfer newid
  • profi dulliau gweithredu newydd cyn disodli'r cymorth presennol
  • dirwyn y taliadau cymorth presennol i ben mewn modd trefnus, gan sicrhau nad oes ymyl dibyn i’r cyllid
  • gwneud y cynllun yn hygyrch i bawb o 2025.

Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn disgwyl defnyddio'r cyfnod pontio i roi'r amser a'r cyfle i ffermwyr ymuno â’r cynllun ac alinio eu harferion fferm â'r amcanion SLM. Ar hyn o bryd, rydym yn ystyried y syniad o ddylunio’r cynllun craidd i fod yn barod ar gyfer pob ffermwyr cymwys sy’n dewis ymuno o 2025. Disgwyliwn i’r Cynllun y Taliad Sylfaenol gael ei leihau’n raddol dros y cyfnod pontio ac i ddod i ben erbyn 2029 i’r rhai nad ydyn yn rhan o’r SFS.

Disgwylir i'r SFS ganolbwyntio ar y meysydd blaenoriaeth canlynol yn 2025:

  • Gweithredoedd Sylfaenol
  • Gweithredoedd Opsiynol megis:
    • cymorth pellach ar gyfer mesur a gwella perfformiad
    • creu coetir / gwrychoedd / cynefin
    • gweithredu cytundebau rheoli safle dynodedig
    • cymorth pellach i alluogi gwell iechyd a lles anifeiliaid.

Mae hyn yn golygu y bydd rhai o'r Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol yn cael eu cyflwyno'n raddol dros y cyfnod pontio, felly bydd y cynllun llawn ar gael o 2029. Byddwn yn sicrhau bod cymorth parhaus i ffermwyr dros y cyfnod pontio ar gyfer cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, gan eu helpu i weithredu i leihau eu hôl troed carbon a chyflawni dros natur. Mae'r cymorth hwn yn cynnwys y cynlluniau cyfalaf grantiau bach a chymorth arall a ariennir ar hyn o bryd drwy'r Rhaglen Buddsoddi Gwledig. Bydd hyn yn hwyluso lefel y newid ac yn ein galluogi i helpu ffermwyr i bontio i'r SFS a gweithredu'r newid mwyaf mewn cymorth ffermio ers degawdau.

Camau nesaf

  • Bydd ymgysylltu â ffermwyr a’r diwydiant ehangach yn parhau hyd at ac yn cynnwys dechrau’r cynllun yn 2025.
  • Byddwn yn parhau i weithio gyda Gweithgorau Technegol ar bynciau fel tir comin, tenantiaeth a newydd-ddyfodiaid.
  • Bydd yr allbynnau o'r Gweithgorau a'r Cydlunio yn cael eu cyfuno â datblygiadau polisi parhaus i helpu i lunio'r fersiwn nesaf o gynigion.
  • Bydd y cynigion hyn yn cael eu cynnwys yn yr ymgynghoriad terfynol ar y cynllun i’w gyflwyno yn 2025. Byddwn yn cyhoeddi’r ymgynghoriad hwn tuag at ddiwedd y flwyddyn.
  • Gwneir penderfyniad terfynol ar gyflwyno’r Cynllun gan Weinidogion Cymru yn 2024 ar ôl gwerthuso’r ymgynghoriad terfynol hwn, y dadansoddiad economaidd a thystiolaeth arall.
  • Bydd dyluniad, rheolau a chyfraddau taliadau’r cynllun terfynol yn cael eu cyhoeddi yn 2024. Bydd ffermwyr yn dechrau ymuno â’r cynllun o 2025.