Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 14 Ionawr 2025.

Cyfnod ymgynghori:
22 Hydref 2024 i 14 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Adolygu ymatebion

Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym yn ceisio eich barn ar gynigion i lywio gorchymyn i eithrio gweithgareddau penodol o'r broses trwyddedu morol.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Bydd y cynigion yn llywio gorchymyn o dan Ran 4, adran 74 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir. Mae rhestr lawn o weithgareddau y bwriedir eu heithrio rhag bod angen trwydded forol yn gynwysedig yn y ddogfen ymgynghori. Maent yn cynnwys:

  • cynnal a chadw gweithiau amddiffyn yr arfordir, draenio ac amddiffyn rhag llifogydd
  • lledaenu a magu pysgod cregyn
  • defnyddio cerbydau neu gychod i gael gwared ar sbwriel a malurion morol
  • carthu cynnal a chadw at ddibenion mordwyo
  • adfer morwellt

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 562 KB

PDF
562 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.