Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 5 Mai 2015.

Cyfnod ymgynghori:
26 Chwefror 2015 i 5 Mai 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb o’r canlyniad

Caiff gweld crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar GOV.UK

Ymgynghoriad gwreiddiol

Mae Llywodraeth Cymru ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) wedi lansio ymgynghoriad ar gynigion i fynd i'r afael â throseddau gwastraff a safleoedd sy'n perfformio'n wael yn y diwydiant rheoli gwastraff.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Rhan I – Cynigion i wella pwerau gorfodi mewn cyfleusterau sy’n cael eu rheoleiddio

Cynigion i ddiwygio pwerau sy’n bodoli ar hyn o bryd megis Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2010 i gryfhau pwerau gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru i fynd i’r afael â throseddau gwastraff a pherfformiad gwael yn y diwydiant rheoli gwastraff yng Nghymru.

Rhan II -  Cais am dystiolaeth ar gamau eraill i fynd i’r afael â throseddau gwastraff a pherfformiad gwael yn y diwydiant rheoli gwastraff 

Yn gwahodd pobl i fynegi barn ar ffyrdd eraill o fynd i’r afael â throseddau gwastraff yng Nghymru gan gynnwys cyflwyno Hysbysiadau Cosb Benodedig am dipio gwastraff yn anghyfreithlon ac ailgyflwyno’r gofynion o ran cymhwysedd technegol a darpariaeth ariannol o redeg safle a hefyd gofynion o ran darpariaeth ariannol ddigonol i adfer y safle.  

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar GOV.UK