Neidio i'r prif gynnwy

Mae gofyn i rieni, gwarcheidwaid a dysgwyr ystyried a yw’n angenrheidiol cael logo’r ysgol ar y wisg ysgol, fel rhan o ymgynghoriad newydd sydd wedi’i lansio heddiw gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Ymgynghoriad newydd ar wisgoedd ysgol wedi’i lansio
  • Cost eitemau ysgol i’w hystyried wrth i gostau byw effeithio ar deuluoedd

Bydd yr ymgynghoriad yn gofyn am farn ar amrywiaeth o gynigion yn ymwneud â gwisg ysgol er mwyn diweddaru’r canllawiau statudol a chynnig rhagor o gymorth i deuluoedd yn ystod yr argyfwng costau byw a gwneud gwisgoedd ysgol yn fwy fforddiadwy.

Ymysg yr opsiynau i’w hystyried mae’r defnydd o frand yr ysgol ac a ddylai ysgolion  beidio â chael logo o gwbl, neu ddefnyddio logos y gellid eu smwddio ymlaen a fydd ar gael am ddim. Gallai hyn roi’r opsiwn i deuluoedd brynu gwisg ysgol yn rhatach gan fân-werthwr o’u dewis. Bydd hefyd yn gofyn am farn ynghylch a ddylai ysgolion ymrwymo i gontractau cyflenwr unigol.

Gofynnir am farn ynghylch rôl yr ysgol mewn perthynas â chynlluniau ailgylchu a chyfnewid gwisg ysgol.

Caiff rhieni/gofalwyr, dysgwyr, cyrff llywodraethu, penaethiaid, athrawon a staff ysgol, cyflenwyr gwisg ysgol a rhanddeiliaid allweddol eraill eu hannog i rannu eu safbwyntiau drwy ymateb i’r ymgynghoriad.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:

“Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi teuluoedd drwy’r argyfwng costau byw.

“Rwy’n gwybod bod llawer o ysgolion yn gweithio’n galed i gadw costau eu gwisg ysgol yn isel. Er hynny, mae gormod o achosion o hyd lle mae disgwyl i deuluoedd wario arian mawr dim ond i anfon eu plant i’r ysgol.

“Rydyn ni’n lansio’r ymgynghoriad hwn fel y gallwn ni gymryd rhagor o gamau i gefnogi teuluoedd.

“Mae 96,000 o ddisgyblion eisoes yn gymwys ar gyfer ein Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad. Dyma’r cynllun cymorth mwyaf hael yn y DU ac mae’n helpu gyda chostau gwisg ysgol ac eitemau ysgol. Rwy’n annog teuluoedd i wirio a ydynt yn gymwys er mwyn iddynt hwy hefyd allu elwa ar y cymorth hanfodol hwn.”

Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg hyd at 28 Tachwedd 2022.