Neidio i'r prif gynnwy

CHeCS (Safonau Ardystio Iechyd Gwartheg) sy'n penderfynu beth yw statws TB eich buches.

Mae'r statws yn cael ei ddangos fel sgôr. Mae'r sgôr yn seiliedig ar fioddiogelwch a nifer y blynyddoedd ers yr achos diwethaf o TB yn y fuches.  Mae'n rhedeg o 0 i 10:

  • Mae 0 yn golygu bod y fuches wedi cael achos o TB yn y flwyddyn ddiwethaf
  • Mae 10 yn golygu bod 10 mlynedd neu fwy wedi mynd heibio ers yr achos diwethaf

I ffermwyr gwartheg Cymru, mantais ymuno â CHeCS yw:

  • gwybod beth yw'r risg sy'n gysylltiedig â phrynu gwartheg
  • gwybod pa anifeiliaid sy'n isel eu risg am eu bod o fuchesi sydd heb achos diweddar os o gwbl o TB
  • cyfle i fuches wella ei sgôr a defnyddio'r statws i werthu gwartheg sydd wedi'u magu ynddi
  • ni fydd angen cynnal prawf ar ôl symud ar anifeiliaid sy'n cael eu symud o fuches lefel 10 mewn ardal TB Ganolradd neu Uchel i fuches mewn Ardal TB Isel

Achredwyr y cynllun CHeCS TB yw:

  • HiHealth Herdcare (Biobest)
  • Cynllun Iechyd Gwartheg Premiwm (SAC)

I gymryd rhan yn y cynllun a dysgu mwy amdano.