Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau i Bartneriaethau AGA i gefnogi’r gwaith o gyflwyno Cymhelliant AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth o fis Medi 2023.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae'r Cynllun Cymhelliant AGA ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth yn rhoi grant o £15,000 i fyfyrwyr sy’n ymgymryd â thystysgrif achrededig addysg i raddedigion (TAR). Rhaid i’r Rhaglen arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC). Rhaid i fyfyrwyr fodloni’r meini prawf cymhwystra.

Mae’r cynllun hwn ar gael i fyfyrwyr llawnamser a rhan-amser.

Nid yw myfyrwyr sy'n ymgymryd ag unrhyw gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth yn gymwys i gael y grant hwn. Mae hyn yn cynnwys y ‘cynllun TAR Cyflogedig’.

Nid yw myfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni hyfforddi sy'n eu galluogi i addysgu yn y Sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (TAR AHO) wedi'u cynnwys o dan y cynllun hwn.

Cyfreithiol

Mae’r grantiau cymhelliant AGA sydd ar gael yn adlewyrchu’r blaenoriaethau recriwtio o fewn y gweithlu addysgu yng Nghymru. Maent ar gael i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn rhaglenni AGA ôl-raddedig cymwys yng Nghymru.

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau o dan adrannau 14 i 17 o Ddeddf Addysg 2002 i ddarparu cymorth ariannol i hyrwyddo'r ymgais i recriwtio neu gadw athrawon neu staff nad ydynt yn addysgu. Sefydlwyd y grant hwn i annog unigolion i hyfforddi ar gyfer y proffesiwn addysgu, ymuno â’r proffesiwn ac aros. Ni ddylai fod yn rhan o becyn cyllid myfyrwyr.

Mae'r Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth yn gynllun cyfreithiol (“y Cynllun”). Gwnaed y Cynllun gan Weinidogion Cymru wrth iddynt arfer eu pwerau. Caiff y Cynllun ei adolygu bob blwyddyn. Mae pob cynllun yn gwneud darpariaeth i fyfyrwyr AGA ôl-raddedig, sy’n astudio eu rhaglen AGA achrededig mewn pwnc penodedig, gael manteisio ar y cymhellion hyn.

Rhoddir llythyr cynnig grant i bartneriaethau AGA i gefnogi cyflwyno’r cynllun hwn.

Rhaid i bartneriaethau AGA gyfeirio at:

  • y cynllun cyfreithiol priodol
  • y llythyr cynnig grant priodol
  • yr Hysbysiad Preifatrwydd priodol

sy’n gysylltiedig â’r flwyddyn astudio er mwyn gwirio cymhwysedd myfyrwyr a manylion llawn y cynllun.

Gweler y cynllun priodol ar gyfer y flwyddyn astudio academaidd i wirio cymhwysedd a meini prawf hawlio. Os oes gennych unrhyw gwestiynau sy'n gysylltiedig â blynyddoedd blaenorol, cysylltwch â ITEIncentives@llyw.cymru.

Pa grant sydd ar gael a phryd caiff taliadau eu gwneud

O dan y cynllun hwn, mae grant cymhelliant o £15,000 ar gael i bob myfyriwr sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra ar gyfer y flwyddyn astudio academaidd.

Myfyrwyr llawnamser

Gwneir y cymelldaliadau o gyfanswm o £15,000 mewn tri rhandaliad. Byddant yn cael eu talu yn ystod rhaglen AGA a dechrau gyrfa myfyriwr:

  • £6,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau tymor cyntaf ei gwrs TAR. Partneriaethau AGA sy'n gyfrifol am y taliad hwn.
  • £6,000 ym mis Gorffennaf neu Awst ar ôl cwblhau ei gwrs TAR yn llwyddiannus ac ar ôl dyfarnu SAC iddo. Os caiff myfyriwr ei asesu gan y bwrdd arholi ailgyflwyno, gwneir taliadau cyn 31 Rhagfyr. Partneriaethau AGA sy'n gyfrifol am y taliad hwn.
  • £3,000 ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus yng Nghymru. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y taliad hwn.

Myfyrwyr rhan-amser

Gwneir y cymelldaliadau o gyfanswm o £15,000 mewn pedwar rhandaliad. Byddant yn cael eu talu yn ystod rhaglen AGA ran-amser a dechrau gyrfa myfyriwr:

  • £3,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau tymor cyntaf ei gwrs TAR. Partneriaethau AGA sy'n gyfrifol am y taliad hwn.
  • £3,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau blwyddyn gyntaf a thymor cyntaf ail flwyddyn ei gwrs TAR. Partneriaethau AGA sy'n gyfrifol am y taliad hwn.
  • £6,000 ym mis Gorffennaf neu Awst ar ôl cwblhau ei gwrs TAR yn llwyddiannus ac ar ôl dyfarnu SAC iddo. Os caiff myfyriwr ei asesu gan y bwrdd arholi ailgyflwyno, gwneir taliadau cyn 31 Rhagfyr. Partneriaethau AGA sy'n gyfrifol am y taliad hwn.
  • £3,000 ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus yng Nghymru. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y taliad hwn.

Dylid cyflwyno ffurflenni hawlio wedi’u diweddaru i Lywodraeth Cymru lle caiff myfyriwr ei asesu gan fwrdd arholi ailgyflwyno. Partneriaethau AGA ddylai wneud hyn. Dylai hyn gynnwys unigolion y dyfernir SAC iddynt er mwyn i’r taliadau gael eu gwneud cyn 31 Rhagfyr.

Bydd union ddyddiadau’r taliadau wedi’u nodi yn nhelerau ac amodau’r cytundeb grant.

Sut mae ceisiadau’n cael eu gweinyddu

Partneriaethau AGA sy’n gyfrifol am weinyddu’r cymhelliant hwn ac asesu cymhwysedd myfyrwyr amdano. Maent yn gwneud hyn ar ran Llywodraeth Cymru.

Dim ond os yw’r canlynol yn wir y gall myfyrwyr hawlio grant cymhelliant:

  • maent yn bodloni’r holl feini prawf cymhwysedd
  • maent yn astudio ar raglen gymwys
  • maent wedi gwneud cais drwy lenwi’r ffurflen gofrestru berthnasol

Caiff ffurflenni cofrestru myfyrwyr ar gyfer y cynllun eu darparu i bartneriaethau gan Lywodraeth Cymru.

Os oes gan fyfyrwyr unrhyw gwestiynau, dylent gysylltu â’u Partneriaeth AGA.

Taliadau yn ystod y rhaglen

Dim ond i’r myfyrwyr cymwys hynny sy’n parhau â’u rhaglen AGA y dylid gwneud taliadau yn ystod y rhaglen. Rhaid i fyfyrwyr fod wedi cwblhau tymor penodedig o astudio cyn bydd y taliad yn ddyledus.

Os bydd unrhyw fyfyriwr wedi tynnu’n ôl o raglen neu wedi ei gohirio cyn bydd y taliad yn ystod y rhaglen yn ddyledus, ni ddylid gwneud y taliad. Gweler yr adran yn y canllawiau hyn ar ohirio, tynnu’n ôl ac ailgydio.

Taliad SAC

Dim ond i’r myfyrwyr cymwys hynny sydd wedi cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru, sy’n arwain at SAC (pan ddyfernir SAC) y dylid gwneud y taliad SAC.

Os bydd unrhyw fyfyriwr wedi tynnu’n ôl o raglen neu wedi ei gohirio cyn i SAC gael ei ddyfarnu, ni ddylid gwneud y taliad.

Y cymelldaliad olaf

Dim ond i’r athrawon newydd gymhwyso cymwys hynny sydd wedi gwneud y canlynol y dylid gwneud y cymelldaliad olaf:

  • cwblhau eu cyfnod sefydlu yn llwyddiannus ac ennill tystysgrif sefydlu. Rhaid i hyn ddigwydd o fewn tair blynedd i ennill SAC
  • derbyn pob taliad blaenorol o dan y cynllun hwn

Rolau a Chyfrifoldebau

Gweinyddir y cymhelliant hwn gan Llywodraeth Cymru ac ar ran Llywodraeth Cymru gan Bartneriaethau AGA.

Partneriaethau AGA sy’n gyfrifol am daliadau yn ystod y rhaglen a phan ddyfernir SAC.

Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y cymelldaliad olaf. Telir hwn ar ôl cwblhau’r cyfnod sefydlu yn llwyddiannus ac ar ôl dyfarnu tystysgrif sefydlu.

Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am delerau ac amodau’r cynllun. Yn ogystal â chasglu’r data i allu gwneud taliadau i Bartneriaethau AGA.

Cyfrifoldebau Partneriaethau AGA o ran gweinyddu’r grant

Mae Partneriaethau AGA yn gyfrifol am:

  • nodi'r myfyrwyr sy'n bodloni’r meini prawf cymhwysedd
  • sicrhau mynediad i fyfyrwyr cymwys at y ffurflen gofrestru ar ddechrau'r rhaglen AGA
  • sicrhau bod myfyrwyr yn deall telerau'r grant
  • casglu'r holl ffurflenni cofrestru wedi'u llofnodi, a'u dychwelyd drwy ddull diogel i Lywodraeth Cymru
  • llenwi ffurflenni hawlio yn unol â dyddiadau taliadau yn ystod y rhaglen (a nodir yn y llythyr cynnig grant)
  • llenwi ffurflenni hawlio yn unol â dyddiadau dyfarnu SAC (a nodir yn y llythyr cynnig grant)
  • cefnogi myfyrwyr i lenwi Ffurflenni Gohirio ac Ailgydio yn ôl yr angen
  • rhannu ffurflenni drwy ddull diogel, sy’n cydymffurfio â’r gofynion diogelu data sydd mewn grym ar y pryd, â Llywodraeth Cymru, ynghyd â hawliadau perthnasol
  • gweinyddu taliadau yn ystod y rhaglen a thaliadau SAC i fyfyrwyr
  • delio ag ymholiadau gan fyfyrwyr ynghylch y cynllun cymhelliant

Caiff holl gyfrifoldebau'r Partneriaethau AGA eu cyhoeddi bob blwyddyn mewn llythyrau cynnig grant a llythyrau contract unigol. Dylai Partneriaethau AGA gysylltu â ITEIncentives@llyw.cymru os oes ganddynt unrhyw gwestiynau.

Sut caiff y taliad ei wneud i Bartneriaethau AGA

Dylai pob myfyriwr lenwi ffurflen gofrestru. Mae'r ffurflen gofrestru yn cynnwys gwybodaeth sydd ei hangen ar Lywodraeth Cymru i weinyddu a gwerthuso'r cynllun. Rhaid i Bartneriaethau AGA gyflwyno’r rhain i Lywodraeth Cymru ar ddechrau pob blwyddyn academaidd drwy ddull diogel. Mae’r ffurflen gofrestru yn gofyn i fyfyrwyr gadarnhau eu bod wedi darllen a deall yr wybodaeth sydd ar we-dudalennau’r canllawiau i fyfyrwyr. Os na dderbynnir y cadarnhad hwn gan Lywodraeth Cymru, ni ellir gwneud taliadau grant.

Rhaid i Bartneriaethau AGA lenwi ffurflenni hawlio a’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn sicrhau bod cyllid priodol yn cael ei ryddhau i dalu rhandaliadau yn ystod y rhaglen a rhandaliadau SAC. Bydd Partneriaethau AGA yn cael gwybod am y dyddiadau cyflwyno drwy lythyr y cytundeb grant.

Bydd ffurflenni cofrestru a ffurflenni hawlio’n cael eu dosbarthu i Bartneriaethau AGA yn uniongyrchol. Dylai Partneriaethau AGA gyfeirio unrhyw gwestiynau sydd ganddynt, sy’n gysylltiedig â’r broses daliadau, i ITEIncentives@llyw.cymru.

Cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru o ran gweinyddu’r grant

Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y taliad cymhelliant terfynol. Telir hwn ar ôl cwblhau'r cyfnod sefydlu yn llwyddiannus a dyfarnu tystysgrif Sefydlu.

Sut caiff y taliad sefydlu ei talu i myfyrwyr

Bydd Llywodraeth Cymru yn cysylltu â myfyrwyr yn ystod eu cyfnod sefydlu. Mae hyn er mwyn sicrhau bod ganddynt yr holl fanylion perthnasol i brosesu'r taliad grant hwn.

Gall myfyrwyr gysylltu â Llywodraeth Cymru am y taliad hwn CymhellionITEA@llyw.cymru.

Mae Llywodraeth Cymru angen y ddogfennaeth isod ar gyfer y taliad sefydlu:

  • cyflwyno ffurflenni hawlio sefydlu (A1 ac A2) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru
  • copi o dystysgrif sefydlu a gyhoeddwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg
  • cadarnhad o gymhwysedd (i'w gwblhau gan yr ysgol sefydlu)

Ffurflenni cais sefydlu

A1: Dychwelwch y ffurflen gais hon yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru (yn ITEIncentives@gov.wales).

A2: Ar ôl cwblhau adrannau A i D o'r ffurflen hawlio sefydlu. Rhannwch y ffurflen a chopi electronig o'ch tystysgrif sefydlu gyda Phennaeth, Pennaeth, Dirprwy Bennaeth neu Bennaeth Adran, yr ysgol lle y cwblhawyd y cyfnod sefydlu.

Dylai'r ddogfennaeth uchod gael ei chyflwyno ar eich rhan gan y Pennaeth, y Dirprwy Bennaeth neu'r Pennaeth Adran a lofnododd y datganiad, ar ran yr ysgol lle y cynhaliwyd eich cyfnod sefydlu.

Gohirio, tynnu'n ôl ac ailgydio

Os bydd myfyriwr yn ailgydio mewn rhaglen AGA mewn blwyddyn academaidd wahanol i'r flwyddyn pan ddechreuwyd astudiaethau’r myfyriwr neu pan gawsant eu gohirio, parheir i wneud taliadau ar yr un gyfradd (os o gwbl) a oedd yn weithredol y flwyddyn academaidd pan ddechreuwyd astudiaethau’r myfyriwr neu pan gawsant eu gohirio, oni bai bod Llywodraeth Cymru yn cytuno fel arall yn ysgrifenedig. 

Os bydd myfyriwr yn ailgydio mewn rhaglen AGA, bydd angen iddo lenwi Ffurflen ohirio ac ailgydio. Rhaid i’r myfyriwr lenwi’r Ffurflen ohirio ac ailgydio, a’i chyflwyno drwy ddull diogel, ynghyd â’r ffurflen hawlio briodol i Lywodraeth Cymru yn ITEIncentives@llyw.cymru i sicrhau bod arian priodol yn cael ei ryddhau.

Mae Ffurflenni gohirio ac ailgydio ar gael gan Lywodraeth Cymru. Caiff y ffurflenni a ddaw i law eu rhannu â Phartneriaethau AGA a Llywodraeth Cymru. Bydd unrhyw daliadau a wneir i fyfyrwyr sy’n ailgydio mewn rhaglen AGA yn ystyried unrhyw daliadau a dderbyniwyd yn flaenorol.

Dychwelyd at Raglen AGA yn ystod blwyddyn academaidd 2022 i 2023

Dylai myfyrwyr a ddechreuodd eu rhaglen AGA cyn Medi 2022 ac sy’n dychwelyd at eu rhaglen i’w chwblhau rhwng 1 Medi 2022 a 31 Awst 2023 ddarllen y telerau a nodir yn Cynllun cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer pynciau â blaenoriaeth: canllawiau i fyfyrwyr 2021 a blynyddoedd blaenorol. Bydd swm y grant, dosbarthiadau graddau, telerau ac amodau, a strwythur taliadau yn parhau’r un fath, a bydd myfyrwyr cymwys yn parhau i gael taliadau tymhorol tan fis Awst 2023 (minws unrhyw daliadau a dderbyniwyd eisoes).

Bydd myfyrwyr a ddechreuodd raglen AGA cyn Medi 2022 ac sy’n dychwelyd ar ôl Medi 2023 yn mynd yn ôl at y strwythur taliadau a nodir yn y canllawiau hyn (ni fydd taliadau tymhorol yn cael eu gwneud mwyach). Bydd cyfanswm y cymhelliant yn parhau yn unol â’r hyn a nodir yn Cynllun cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer pynciau â blaenoriaeth: canllawiau i fyfyrwyr 2021 a blynyddoedd blaenorol, minws unrhyw daliadau a dderbyniwyd eisoes. 

Taliadau yn ystod y rhaglen 2022

Os bydd myfyriwr llawnamser yn gohirio ei astudiaethau yn ystod y tymor cyntaf, ni fydd yn gymwys i dderbyn y taliad. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau o fewn yr un flwyddyn academaidd, caiff dderbyn y taliad a gollwyd pan ddyfernir SAC iddo. O dan yr amgylchiadau hyn, gwneir y taliad ar ôl dyfarnu’r SAC ac yn ychwanegol at y taliad SAC.

Os bydd myfyriwr rhan-amser yn gohirio ei astudiaethau yn ystod y tymor cyntaf, ni fydd yn gymwys i dderbyn y taliad. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau o fewn yr un flwyddyn academaidd, caiff dderbyn y taliad a gollwyd yn dilyn tymor cyntaf ei ail flwyddyn. O dan yr amgylchiadau hyn, gwneir y taliad ar ôl i’r myfyriwr gwblhau ei flwyddyn gyntaf ac yn ychwanegol at yr ail daliad a wneir yn ystod y rhaglen.

Os bydd myfyriwr rhan-amser yn gohirio ei astudiaethau rhwng ail dymor ei flwyddyn gyntaf a thymor cyntaf ei ail flwyddyn, ni fydd yn gymwys i dderbyn yr ail daliad a wneir yn ystod y rhaglen. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau o fewn ail flwyddyn academaidd ei gwrs, caiff dderbyn y taliad a gollwyd pan ddyfernir SAC iddo. O dan yr amgylchiadau hyn, gwneir y taliad ar ôl dyfarnu’r SAC ac yn ychwanegol at y taliad SAC.

Ni fydd gan fyfyrwyr llawnamser sy'n tynnu'n ôl o raglen cyn diwedd y tymor cyntaf, ac sy'n gymwys i gael grant cymhelliant, hawl i unrhyw daliad.

Ni fydd gan fyfyrwyr rhan-amser sy'n tynnu'n ôl o raglen yn ystod tymor cyntaf y flwyddyn gyntaf hawl i unrhyw daliad. Ni fydd gan fyfyrwyr rhan-amser sy'n cwblhau tymor cyntaf y flwyddyn gyntaf (ac sy'n derbyn y taliad cyntaf) ond sy'n tynnu'n ôl rhwng ail dymor eu blwyddyn gyntaf a thymor cyntaf eu hail flwyddyn hawl i unrhyw daliad pellach.

Taliad SAC

Os bydd myfyriwr yn gohirio ei astudiaethau ar ôl derbyn taliadau a wneir yn ystod y rhaglen a chyn ennill SAC, ni fydd yn gymwys i dderbyn y taliad SAC. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau ac yn ennill SAC, bydd ganddo hawl i dderbyn y taliad SAC pan ddyfernir SAC iddo. O dan yr amgylchiadau hyn, gwneir y taliad ar ôl cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy'n arwain at SAC (ar ôl dyfarnu’r SAC) ac yn unol â'r amodau hyn.

Bydd angen cwblhau Ffurflen ohirio ac ailgydio.

Os bydd myfyriwr sy’n gymwys i gael grant cymhelliant yn tynnu'n ôl o raglen ar ôl derbyn y taliad cyntaf, ond cyn ennill SAC, dim ond i’r taliad a dderbyniwyd eisoes y bydd ganddo hawl.

Ni fydd gan fyfyrwyr sy’n gymwys i gael grant cymhelliant, nad ydynt yn ennill SAC ar ddiwedd eu rhaglen AGA, hawl i gael y taliad SAC.

Y cymelldaliad olaf

Ni fydd gan fyfyrwyr sy’n gymwys i gael grant cymhelliant ac sy'n ennill SAC, ond nad ydynt yn cwblhau’r broses sefydlu o fewn y cyfnod penodedig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, hawl i gael y cymelldaliad olaf.

Rhaid cwblhau'r cyfnod sefydlu yn llwyddiannus o fewn tair blynedd i ennill SAC mewn lleoliad a gynhelir yng Nghymru er mwyn parhau i fod yn gymwys i dderbyn y cymelldaliad olaf.

Adennill grantiau cymhelliant a dalwyd

Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i adennill grantiau cymhelliant a dalwyd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol. Mae ganddi ddisgresiwn i arfer y pwerau hyn ai peidio, a bydd yn ystyried pob achos yn ôl ei deilyngdod.

Caniateir i'r pwerau hyn gael eu harfer gan Lywodraeth Cymru:

  • os bydd y derbynnydd, ar ôl cael unrhyw randaliad o grant cymhelliant, yn methu â bodloni unrhyw feini prawf cymhwysedd a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru ac a nodir yn yr atodlen neu'r canllaw gwybodaeth mewn perthynas â rhandaliad dilynol
  • os yw’r derbynnydd, yn ei gais am grant cymhelliant, neu mewn cysylltiad â’r cais hwnnw, wedi darparu gwybodaeth ffug neu wybodaeth sy’n gamarweiniol mewn ffordd berthnasol
  • os oes tystiolaeth ddigamsyniol nad oedd y derbynnydd erioed wedi bwriadu cwblhau'r rhaglen neu nad oedd yn fwriad ganddo, ar ôl ei chwblhau, fynd i addysgu

Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth

Mae gwybodaeth y mae myfyriwr yn ei chyflwyno fel rhan o'i hawliad o dan Gynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y "Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth"), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (yr "EIR") Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (y “GDPR”) a Deddf Diogelu Data 2018 (y "Ddeddf Diogelu Data").

Mae myfyrwyr hefyd yn cydnabod mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu yn ôl ein disgresiwn llwyr:

  • a ddylid datgelu unrhyw wybodaeth yr ydym wedi’i chael o dan neu mewn cysylltiad â’r Cyllid i’r graddau y mae’n ofynnol inni ddatgelu gwybodaeth o’r fath i berson sy’n gwneud cais am ddatgeliad o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r EIR; a/neu
  • bod unrhyw wybodaeth wedi ei heithrio rhag cael ei datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r EIR;
  • a ddylid cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i ddilysu hunaniaeth. Mae angen y gwiriadau hyn i brosesu data personol i asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol y mae'n ei chael. Bydd unrhyw ddata personol a gasglwn yn cael eu rheoli yn unol â'n Hysbysiad Preifatrwydd a 'Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru'.

Dogfennau'r cynllun

Caiff y cynllun AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth ei adolygu bob blwyddyn. Rhaid i bartneriaethau AGA gyfeirio at:

  • y cynllun cyfreithiol priodol
  • y llythyr cynnig grant priodol
  • y canllawiau priodol i fyfyrwyr
  • yr hysbysiad preifatrwydd priodol

sy’n gysylltiedig â’r flwyddyn astudio er mwyn gwirio cymhwysedd myfyrwyr a manylion llawn y cynllun.

Mae’r cynlluniau cyfreithiol, y canllawiau i fyfyrwyr a’r Hysbysiadau Preifatrwydd ar gael.