Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynllun ailgylchu anadlyddion sy'n cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru yn helpu GIG Cymru i leihau ei allyriadau carbon ac i weithio tuag at uchelgeisiau Sero Net, wrth i gronfa gyllid werth £800,000 agor ar gyfer y sectorau gofal cymdeithasol, gofal sylfaenol a gofal yn y gymuned.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIPBA) yn defnyddio arian o'r Rhaglen Genedlaethol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Daclo’r Argyfwng Hinsawdd er mwyn treialu gwaredu anadlyddion sy'n cynnwys nwyau hydrofflworocarbon mewn modd cyfrifol.

Cynhelir y cynllun peilot mewn wyth fferyllfa yn ardal Clwstwr y Cymoedd Uchaf sy’n cynnwys rhannau o Gwm Nedd, Cwm Dulais, Cwm Tawe a Dyffryn Aman, gan fanteisio ar addysgu cleifion a deunydd hyrwyddo, megis sticeri ar fagiau a bocsys meddyginiaeth, i annog pobl i ddychwelyd anadlyddion sydd wedi eu defnyddio, neu nad oes eu hangen mwyach, i'w fferyllfa.

Mae’r Prosiect Peilot Ailgylchu Anadlyddion wedi defnyddio cyllid Llywodraeth Cymru i sefydlu contract gyda Grundon Waste Management, sy'n golygu bod yr anadlyddion yn cael eu casglu a'r nwyau hydrofflworocarbon yn cael eu dal, eu glanhau a'u hailddefnyddio ar gyfer oeri. Mae casin alwminiwm a phlastig yr anadlyddion hefyd yn cael ei ailgylchu.

Roedd astudiaeth a wnaed gan Glwstwr y Cymoedd Uchaf wedi dangos bod 90% o anadlyddion yn cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi drwy wastraff cartrefi cyffredinol. Drwy hyn, mae modd i'r nwyau hydrofflworocarbon ddianc o'r anadlyddion gan gyfrannu at gynhesu byd-eang.

Yn ôl arolwg a gynhaliwyd gan un o fferyllfeydd y Clwstwr, dywedodd 97.5% o'r cleifion a gymerodd ran ynddo y byddent yn fodlon dychwelyd yr anadlydd i'w fferyllfa. Nod y Clwstwr yw ailgylchu 80% o'r holl anadlyddion sy'n cael eu rhoi ar bresgripsiwn yn ardal y rhaglen erbyn 2025. 

Dywedodd Niki Watts, Fferyllydd Arweiniol Clwstwr y Cymoedd Uchaf:

Roeddwn i wedi cynnal arolwg i weld pam nad oedd cleifion yn dod â'u hanadlyddion yn ôl i'r fferyllfa, gan mai dim ond dau gafodd eu dychwelyd dros ychydig o fisoedd.

Yn gyffredinol, roedd pobl yn meddwl y byddai anadlyddion yn cael eu hailgylchu pe bydden nhw'n eu rhoi yn eu hailgylchu gartref, ond dyw hynny ddim yn wir. Felly, doedd y cleifion ddim wedi sylweddoli bod eu ffordd o waredu eu hanadlyddion yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd.

Gwnaethon ni addysgu cleifion am hyn, ac mae hynny wedi bod yn effeithiol iawn o ran beth rydyn ni’n ceisio ei gyflawni gydag ailgylchu anadlyddion.

Dywedodd Rhian Newton, Pennaeth Rhagnodi a Rheoli Meddyginiaethau:

Mae llwyddiant y cynllun peilot hwn yn dibynnu ar gleifion yn mynd ati i ddychwelyd anadlyddion sydd wedi eu defnyddio i'w fferyllfa gymunedol leol i gael eu hailgylchu.

Hoffen ni ddiolch i'r cleifion am eu cymorth parhaus ar gyfer y prosiect hynod bwysig hwn, ac am chwarae eu rhan i wneud yn siŵr ein bod ni, gyda'n gilydd, yn lleihau allyriadau carbon yn unol â'r agenda werdd.

Dywedodd Prif Weithredwr GIG Cymru Judith Paget:

Fel un o'r cyrff sector cyhoeddus sy'n allyrru'r symiau CO2e mwyaf, rhaid i'r GIG gymryd camau nawr i leihau ei effaith amgylcheddol a bod yn esiampl o gymryd camau i ddiogelu iechyd a llesiant cenedlaethau'r dyfodol. 

Y cynllun ailgylchu anadlyddion hwn yw'r union fath o fenter y mae Cynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru yn awyddus i'w hyrwyddo ac i'w ddarparu ledled Cymru. Mae'n newid ymddygiadau ac yn helpu Cymru i leihau ei hallyriadau carbon.

Mae'n galonogol gweld drwy'r arolwg faint o bobl sy'n sylweddoli bod gan bob un ohonon ni rôl i'w chwarae i ddatgarboneiddio ein gwasanaeth iechyd.

Yn 2022, cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddyrannu £2.4m ar gyfer cynlluniau cyllid yn ystod 2022/23 a 2024/25 er mwyn helpu i weithredu a rhedeg mentrau a phrosiectau bach i ganolig eu maint ar lawr gwlad a fydd yn helpu'r sector i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a lleihau allyriadau carbon gan fwy na thraean erbyn 2030.

Cafodd 26 o brosiectau gymorth drwy'r cynllun cyllid yn ystod 2022/23.

Mae cynllun cyllid 2023/24 bellach wedi cael ei lansio ac mae ar agor i awdurdodau lleol sy'n gweithio ar brosiectau gofal cymdeithasol. Caiff cyllid ei ddyrannu i hyrwyddwyr gofal sylfaenol a gofal yn y gymuned hefyd, a fydd yn helpu contractwyr gofal sylfaenol i gyflawni gweithgareddau datgarboneiddio, ar lefel y clwstwr, yn unol â Fframwaith Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru.

Dywedodd Albert Heany, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru:

Mae'r cynllun hwn yn cynnig cyfle gwerthfawr i awdurdodau lleol roi lle blaenllaw i ofal cymdeithasol yn y gwaith o helpu Cymru i ddatgarboneiddio ac i wynebu heriau'r argyfwng hinsawdd.

Mae gofal cymdeithasol yn un o'r gwasanaethau hanfodol y mae llawer o bobl, a phob un o'n cymunedau, yn dibynnu arnyn nhw, ac felly mae'n hollbwysig ein bod yn gwneud yn siŵr ei fod yn gynaliadwy ac yn fuddiol, nid yn unig i bobl sy'n cael gofal, ond i'r amgylchedd o'n cwmpas ni hefyd.

Dywedodd Prif Weithredwr GIG Cymru Judith Paget:

Mae nifer mawr o gysylltiadau rhwng y cyhoedd a gwasanaethau'r GIG yn cael eu gwneud mewn lleoliadau gofal sylfaenol a gofal yn y gymuned bob wythnos yng Nghymru. Drwy ddod â'r contractwyr hyn a byrddau iechyd, awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector a gofal cymdeithasol at ei gilydd, gallwn ni weithio gyda'n gilydd tuag at ein blaenoriaeth gyffredin i ddatgarboneiddio'r sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.