Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad: cefnogi'r economi wledig a'r newid i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn nodi ein hymrwymiad i barhau i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, i gymryd camau hefyd i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a helpu i wrth-droi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Darperir cymorth ariannol i ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig dros y 3 blynedd nesaf drwy fframwaith cymorth hyblyg, ac mae cynlluniau – gan gynnwys y Cynllun Arallgyfeirio Amaethyddol - yn helpu i gefnogi’r themâu canlynol:

Rheoli tir ar raddfa fferm

  • gwella’r amgylchedd ar ffermydd
  • effeithlonrwydd ac arallgyfeirio ar ffermydd
  • rheoli tir ar raddfa tirwedd
  • coetiroedd a choedwigaeth
  • cadwyni cyflenwi bwyd a ffermio

Nod y fframwaith yw cefnogi gweithredu sy’n ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd a ddaw dros y 3 blynedd nesaf, a llywio datblygiad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a fydd yn gwobrwyo ffermwyr am y gwaith y maent yn ei wneud ar hyn o bryd i leihau eu hôl troed carbon, gwella'r amgylchedd a chynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.

Mae rhagor o wybodaeth am y themâu a'r cynlluniau sy'n cael eu datblygu ar gael yn: Rhwydwaith Gwledig Cymru

Adran A: cyflwyniad

Mae'r Canllaw hwn yn esbonio'r Cynllun Arallgyfeirio Amaethyddol. Darllenwch e’n ofalus. Os byddwch yn credu wedyn y gallai’ch cynlluniau buddsoddi fod yn gymwys am gymorth o dan y cynllun hwn, darllenwch 'Sut i Wneud Cais' yn adran C a'r llyfryn Sut i Lenwi.

Bydd y cyfnod ymgeisio yn dechrau ar 10 Hydref 2022 ac yn cau ar 13 Ionawr 2023.

Mae cyllideb o £1.5m wedi’i ddyrannu ar gyfer y cyfnod ymgeisio hwn.

Cynllun grant cyfalaf yw'r Cynllun Arallgyfeirio Amaethyddol, sydd ar gael i ffermwyr ym mhob rhan o Gymru. Amcanion y cynllun yw:

  • Helpu i sefydlu mentrau arallgyfeirio amaethyddol hyfyw newydd ar ffermydd
  • Helpu i ddatblygu mentrau gwreiddiol neu arbenigol sy’n bod eisoes
  • Gwneud amaethyddiaeth Cymru yn fwy cydnerth trwy ddatblygu ffrydiau incwm amrywiol
  • Lleihau’r ddibyniaeth ar fentrau amaethyddol traddodiadol
  • Ymateb i gyfleoedd mewn marchnadoedd newydd a datblygu marchnadoedd newydd.

Darllenwch ganllaw a llyfryn rheolau’r cynllun cyn cyflwyno cais.

Mae'r cynllun yn un dewisol. Bydd swm y grant a gynigir yn dibynnu ar amgylchiadau’r unigolyn, a bydd bob amser y swm lleiaf sydd ei angen i’r buddsoddiad allu mynd yn ei flaen.  Os caiff eich cais ei ddewis, rhaid ichi gwblhau a hawlio’r holl eitemau Gwaith Cyfalaf erbyn 31 Mawrth 2024.

Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar Wefan Llywodraeth Cymru Wefan Llywodraeth Cymru, GWLAD ar-lein a, lle bo angen, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.

Adran B: pwy sy’n gymwys am y Cynllun Arallgyfeirio Amaethyddol

Rydych yn gymwys i wneud cais os:

  • Ydych wedi wedi’ch cofrestru gyda Llywodraeth Cymru ac wedi cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN). Darllenwch y canllawiau ar sut i gofrestru ar wefan Llywodraeth Cymru neu ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004.
  • Rydych yn gynhyrchydd cynradd cynhyrchion amaethyddol
  • Mae gennych naill ai 3ha o dir amaethyddol cymwys wedi’i gofrestru gyda RPW yng Nghymru neu rydych yn
  • Gallu profi’ch bod yn gweithio dros 550 o oriau safonol o lafur.

Os ydych wedi cyflwyno hawliad ar gyfer y Cynllun Taliad Sylfaenol neu Organig Glastir, byddwn yn gallu cadarnhau’ch bod yn gynhyrchydd cynradd cynhyrchion amaethyddol a bod gennych 3ha o dir amaethyddol cymwys yng Nghymru.

Os nad ydych wedi hawlio o dan y naill gynllun na’r llall o’r blaen, rhaid ichi gyflwyno tystiolaeth ddogfennol gyda’ch cais i gadarnhau’ch bod yn gynhyrchydd cynradd cynhyrchion amaethyddol a bod gennych naill ai 3ha o dir amaethyddol cymwys sydd wedi’i gofrestru â’r RPW yng Nghymru neu’ch bod yn gweithio 550 o oriau safonol o lafur.  Os na fyddwn wedi cael y dystiolaeth hon erbyn y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio, caiff eich cais ei wrthod.

Mae cynhyrchwyr cynradd cynhyrchion amaethyddol yn gweithio yn y sectorau ffermio canlynol: cnydau âr

  • eidion
  • llaeth
  • geifr
  • garddwriaeth (gan gynnwys hydroponeg a phlanhigion dŵr)
  • moch
  • dofednod
  • defaid
  • cadw gwenyn

Pa grwpiau sy’n gymwys

Gall grŵp o ffermwyr gyflwyno cais i’r Cynllun Arallgyfeirio Amaethyddol. I wneud hynny, rhaid i bob ffermwr sy'n rhan o'r grŵp fodloni'r holl amodau uchod. 

Gall grŵp o 2 neu fwy o ffermwyr gynnwys un unigolyn neu gorff ychwanegol nad yw’n bodloni’r amodau uchod. Ond rhaid i bob ffermwr sy’n rhan o’r grŵp fodloni’r holl amodau uchod.

Hefyd, rhaid i'r grŵp fod wedi'i gofrestru gyda Llywodraeth Cymru a bydd gan y grŵp Gyfeirnod Cwsmer (CRN). Rhaid cyflwyno'r cais o dan y CRN a gafodd ei roi i’r grŵp.

Ond os ydy dau ddaliad amaethyddol neu fwy'n cael eu rheoli fel uned unigol neu fod un person yn berchen arnynt neu eu bod i ryw raddau yn cael eu rheoli ar y cyd, bod ganddynt gyfrifon ariannol cyffredin, da byw cyffredin, peiriannau a/neu storfeydd bwydo cyffredin, gallwch eu cyfrif fel un busnes.

Nid ydych yn gymwys os ydych:

  • yn gwsmer Ceffylau (gan gynnwys pori ceffylau)
  • yn gwsmer Coedwigaeth (gan gynnwys perchen ar goed yn unig)
  • am ddefnyddio’r offer cyfalaf ar gyfer ei gontractio neu ei lesio.

Costau Cymwys

Rhoddir y grant ar ffurf grant cyfalaf, sy’n cael ei roi i helpu i sefydlu neu ddatblygu prosiect arallgyfeirio amaethyddol.

Rhoddir cymorth i brosiectau sy'n bodloni'r amodau canlynol yn unig:

  • Datblygu mentrau da byw amaethyddol sy’n bod eisoes neu sefydlu rhai newydd, nad ydynt yn fentrau traddodiadol yng Nghymru.

Dyma fentrau yr ystyrir eu bod yn rhai traddodiadol; bîff, defaid, godro (buchod), moch a dofednod. Ni roddir cymorth iddyn nhw, na mentrau bridiau prin neu dda byw pedigri.

Un enghraifft o brosiect cymwys fyddai prosiect buddsoddi cyfalaf i ddatblygu neu sefydlu menter godro defaid neu eifr.

  • Tyfu cnydau newydd neu gnydau amgen.

Ni roddir cymorth ar gyfer tyfu cnydau âr neu arddwrol traddodiadol.

Un enghraifft o brosiect cymwys fyddai prosiect buddsoddi cyfalaf i ddatblygu neu sefydlu menter i dyfu planhigion at ddibenion ffibr, ynni neu feddyginiaeth.

Byddai offer arbenigol sydd eu hangen ar gyfer sefydlu, cynaeafu a storio’r cnwd newydd yn gymwys, yn ogystal â hadau a phlanhigion. 

  • Helpu buddsoddiad i ffermwyr allu ychwanegu at werth cynhyrchion neu sgil-gynhyrchion amaethyddol di-fwyd.

Ni fyddai ychwanegu gwerth trwy brosesu bwyd e.e. ychwanegu gwerth at gig coch drwy uned dorri neu becynnu neu brosesu llaeth yn gaws neu iogwrt yn gymwys.

Enghraifft o brosiect cymwys fyddai prosesu gwlân, cynnyrch gwastraff neu wellt.

Os oes gennych gwestiynau neu os hoffech i ni gadarnhau a yw prosiect yn gymwys cyn ichi lunio cais, holwch

AgriculturalDiversification@gov.wales

Mae cyfarpar ail-law yn gymwys os gall yr ymgeisydd brofi’r canlynol:

  • bod yr offer yn bodloni'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch
  • ei fod yn ateb y diben
  • y gellid disgwyl iddo bara bum mlynedd arall o leiaf.

Costau Anghymwys

  • Buddsoddi mewn mentrau bîff, defaid, godro (buchod), moch, dofednod, âr neu arddwrol traddodiadol.
  • Prynu da byw.
  • Prynu tir.
  • Twristiaeth neu brosiectau cysylltiedig.
  • Plannu coetir.
  • Prosesu pren.
  • Prosesu cynnyrch amaethyddol cynradd.
  • Buddsoddi i brynu eitemau i gymryd lle rhai a brynwyd gydag arian cyhoeddus, fel cymorth grant yr UE neu Lywodraeth Cymru (ar gyfer yr un busnes fferm).
  • Gweithgareddau sy'n gysylltiedig â chynhyrchu cynnyrch amaethyddol cynradd nad ydynt yn cael eu cynnal gan y cynhyrchydd cynradd e.e. contractio neu lesio amaethyddol.
  • Prynu eitemau newydd o dan hawliad yswiriant.
  • Buddsoddiadau nad ydyn nhw’n digwydd ar ddaliad yr ymgeisydd.
  • Adeiladau neu adeiladau dros dro at ddefnydd manwerthu.
  • Prynu cerbydau.
  • Costau refeniw megis cyflogau staff.
  • Costau ceisiadau cynllunio.
  • Nwyddau traul (eitemau sydd wedi’u defnyddio o fewn blwyddyn fel arfer).
  • Cyfarpar a dodrefn swyddfa.
  • Costau cynnal a chadw.
  • Ynni adnewyddadwy (ac eithrio lle bo’r ynni a gynhyrchir yn cael ei ddefnyddio’n bennaf i gynnal y fenter arallgyfeirio).
  • Buddsoddi mewn eitemau cyfalaf sydd â chapasiti sy'n fwy na gofynion y fenter e.e. ni fyddai dril hau fyddai’n cael ei ddefnyddio’n bennaf ar gyfer cnydau âr confensiynol yn gymwys.

I fod yn gymwys am y grant, rhaid bod cost y buddsoddiad wedi’i thalu’n gywir a bod tystiolaeth wedi’i darparu o hynny. Felly, nid yw costau llawn unrhyw gyfarpar a sicrhawyd o dan gytundeb hurbwrcas neu les neu unrhyw fath arall o drefniant ariannol yn gymwys am gymorth grant.

Cyfradd a Throthwy Uchaf y Grant

Y grant mwyaf y gellir ei roi i chi yw £50,000 a’r grant lleiaf yw £3,000.

Mae’r grant yn cyfrannu hyd at 40% o werth y buddsoddiad cyfalaf (heb gynnwys TAW). Gellir profi y daw’r buddsoddiad â mantais amlwg a mesuradwy i fenter y fferm.

Bydd y grant yn cyfrannu hyd at 40% o’r gwir gostau a anfonebwyd.

Er enghraifft, rydych yn cael cynnig contract a grant tuag at fuddsoddiad gwerth £100,000. Y grant mwyaf y gellir ei gynnig i chi yw £40,000.

Os bydd y buddsoddiad ar ôl ei gwblhau wedi costio mwy na £100,000, cyfyngir y grant i’r gost wreiddiol a gyflwynwyd yn y cais h.y. 40% o £100,000.

Os bydd y buddsoddiad ar ôl ei gwblhau wedi costio llai na’r gost wreiddiol a gyflwynwyd yn y cais (e.e. £80,000), caiff y grant ei ostwng i £32,000 h.y. 40% o £80,000.

I gael y grant mwyaf o £50,000, bydd gofyn buddsoddi o leiaf £125,000. I gael y grant lleiaf o £3,000, bydd gofyn i’r prosiect fuddsoddi o leiaf £7,500.

Gallwch wneud cais am swm sy'n fwy na'r grant uchaf, ond os yw'n cael ei ddewis, ni chaiff y grant fod yn fwy na’r uchafswm o £50,000.

Dewis Prosiectau Llwyddiannus

Asesir pob achos ar sail ei werth posibl i'r economi wledig, i ba raddau y bydd y buddsoddiad yn datblygu'r busnes a'r potensial ar gyfer cynaliadwyedd hirdymor.

Gofynion Allweddol

Bydd y Contract ar gyfer y prosiect yn para am hyd at 12 mis.

Ni fyddai'r Prosiect yn gallu mynd yn ei flaen heb y grant.

Rhaid prynu pob eitem yn unol â gofynion Caffael a Thendro Cystadleuol Llywodraeth Cymru. Gweler Adran E am ragor o fanylion.

Sicrhewch fod yr holl fuddsoddiadau wedi’u cwblhau pan fyddwch yn cyflwyno’ch hawliad.

Sicrhewch fod yr holl fuddsoddiadau ar y safle pan fyddwch yn cyflwyno’ch hawliad.

Rhaid i’ch cais ddangos hefyd eich bod wedi mynd i’r afael â’r canlynol:

Caniatâd Cynllunio 

Os oes angen caniatâd cynllunio ar eich buddsoddiad, ni chaiff grant ei dalu nes bod dogfennau cymeradwyo cynllunio wedi'u cyflwyno a bod Llywodraeth Cymru wedi’u dilysu.

Os yw'r awdurdod cynllunio wedi penderfynu nad oes angen caniatâd cynllunio ar y prosiect, bydd angen tystiolaeth gan yr awdurdod cynllunio i gadarnhau hyn.

Cymeradwyaeth Corff Cymeradwyo Systemau (SAB) Draenio Cynaliadwy (SuDS)

Os oes angen cymeradwyaeth SAB ar eich buddsoddiad, ni chaiff grant ei dalu nes bod dogfennau cymeradwyo SAB wedi'u cyflwyno a bod Llywodraeth Cymru wedi’u dilysu.

I weld beth sydd angen cymeradwyaeth SAB arno ac i gael canllawiau manylach, ewch i wefan Llywodraeth Cymru Canllawiau systemau draenio cynaliadwy SuDS.

Os yw'r SAB lleol yn penderfynu nad oes angen iddo gymeradwyo’r prosiect, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth gan y SAB i gadarnhau hyn.  Er bod cymeradwyaeth SAB yn annibynnol ar ganiatâd cynllunio, bydd y dystiolaeth a gyflwynir gennych yn cael ei hasesu gan y tîm gwerthuso mewn modd sy'n gyson â'i brosesau ar gyfer delio â chaniatâd cynllunio.

Er efallai nad oes angen caniatâd cynllunio awdurdod cynllunio lleol ar gais adeiladu (er enghraifft, datblygiadau a ganiateir sy'n llai na 100 metr sgwâr), mae’n bosibl y bydd angen cymeradwyaeth SAB arno os yw’n effeithio ar y system ddraenio. Felly, ni ddylid cymryd yn ganiataol am nad oes angen caniatâd cynllunio, nad oes angen cymeradwyaeth CCS.

Cydsyniadau Eraill

  • Rydych wedi cael pob caniatâd, trwydded neu gydsyniad sydd ei angen.
  • Rydych wedi bodloni’r safonau gofynnol a’r gofynion cyfreithiol o ran yr amgylchedd, hylendid, lles anifeiliaid a’r holl safonau iechyd a diogelwch perthnasol. 

Adran C: gwneud cais i’r Cynllun Arallgyfeirio Amaethyddol

RPW Ar-lein

Rhaid cwblhau Cais am y Cynllun Arallgyfeirio Amaethyddol ar Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein.  Os oes gennych Gyfeirnod Cwsmer (CRN) eisoes, fe ddylech fod wedi cael llythyr gyda’ch Cod Defnyddio arno ichi allu agor cyfrif. Os ydych wedi’i golli, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 (Llun – Iau 8:30am – 5.00pm, Gwener 8:30am – 4.30pm) a rhoi’ch CRN i’r cysylltydd. Caiff Cod Defnyddio newydd ei anfon atoch. 

I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, mae angen i chi gwblhau’r ffurflen gofrestru ar-lein. Ewch i’r Canllaw Sut i Gofrestru am ragor o wybodaeth. Mae modd gwneud y rhan fwyaf o unrhyw newidiadau sydd angen eu gwneud i fanylion eich busnes ar-lein. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen hysbysu Llywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau mawr. Cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid am ragor o wybodaeth.

Mae’r cais i’r Cynllun Arallgyfeirio Amaethyddol ar gael yn adran “Ceisiadau a Hawliadau” eich cyfrif RPW Ar-lein.  

Os oes gennych asiant yn gweithio ar eich rhan, bydd gofyn iddo gofrestru fel asiant ar RPW.  Os nad yw wedi gwneud hyn eto, dylai gwblhau copi ar-lein neu gopi caled o’r ffurflen Manylion Cwsmer Asiant / Undeb Amaeth (Cymru) ar unwaith. Mae’r ffurflen ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Ar ôl derbyn y ffurflen, byddwn yn anfon Cyfeirnod Cwsmer Asiant a Chod Defnyddio RPW Ar-lein ato. Hefyd, bydd angen i chi lenwi Ffurflen Awdurdodi Cysylltiad ar ôl cofrestru gyda RPW Ar-lein. Gweler ein Canllaw Sut i Gofrestru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru ar gyfer RPW Ar-lein, neu am lenwi’ch cais, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Byddan nhw’n gallu’ch cynghori a rhoi gwybod ichi ble gallwch fynd am help digidol.

Cewch fwy o fanylion am RPW Ar-lein ar wefan Llywodraeth Cymru.

Adran D: y broses asesu dau gam

Bydd dau gam i’r broses ymgeisio. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn cystadlu yn uniongyrchol â’i gilydd. Yng Ngham 1, caiff rhannau canlynol y cais eu hasesu a’u sgorio yn ôl y meini prawf dewis:

  • ffit strategol
  • addasrwydd y buddsoddiad
  • cynaliadwyedd hirdymor
  • gwerth am arian

Bydd y ceisiadau â’r sgoriau uchaf yn cael eu dewis yn nhrefn eu teilyngdod hyd nes bod y cyllid sydd ar gael yn y cylch hwnnw i gyd wedi’i ddyrannu.

Byddwch yn cael gwybod a yw’ch cais wedi’i ddewis ai peidio trwy’ch cyfrif RPW ar-lein. 

Os caiff eich cais ei ddewis, bydd yn symud ymlaen i Gam 2 a bydd yr adrannau canlynol yn cael eu hasesu i gynnal gwerthusiad llawn o’r cais:

  • cyflawni’r prosiect
  • Risg a Rheoli Risg
  • themâu trawsbynciol
  • dangosyddion a chanlyniadau
  • ariannol a chydymffurfio

Cyflwyno cais

Mae canllaw ar sut i gyflwyno eich cais trwy RPW Ar-lein ar gael yn y ddolen hon.

Dylech anfon cwestiynau am bwy sy’n gymwys i: AgriculturalDiversification@llyw.cymru

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y cais wedi’i lenwi’n gywir a bod yr wybodaeth a roddir i gefnogi’ch prosiect yn gywir.

Mae’n rhaid i chi gwblhau’r cais yn llawn a darparu dogfennau cynhwysfawr i gefnogi’r cais fel bod Llywodraeth Cymru yn gallu asesu’r prosiect. Cofiwch ddilyn y canllawiau er mwyn osgoi oedi posibl i’r gwerthusiad.

Fel rhan o’r cais, bydd gofyn i chi ddatgan, ar gyfer pob eitem cyfalaf, pa rai o’r meini prawf canlynol y mae’r eitem yn eu bodloni:

  • Datblygu menter da byw amgen sy’n bod eisoes
  • Sefydlu menter da byw amgen newydd
  • Datblygu menter gnydau amgen sy’n bod eisoes
  • Sefydlu menter gnydau amgen newydd
  • Datblygu menter sy’n bod eisoes, gan ychwanegu at werth cynnyrch amaethyddol di-fwyd.
  • Sefydlu menter newydd, gan ychwanegu at werth cynnyrch amaethyddol di-fwyd.
  • Menter arallgyfeirio amaethyddol arall.

 

Rhaid ichi lenwi a chyflwyno’r cynlluniau a’r dogfennau canlynol:

  • Y Cais Ar-lein ar gyfer y Cynllun Arallgyfeirio Amaethyddol
  • Cynllun Busnes (gweler gofynion isod)
  • 3 blynedd o Gyfrifon Ardystiedig (os oes nad cyfrifon ardystiedig ar gyfer y cyfnod ariannol mwyaf diweddar, dylid cyflwyno cyfrifon rheoli ar gyfer y cyfnod hwn)
  • Rhagolygon ariannol 3 blynedd (dylai’r rhagolygon gynnwys y buddsoddiad a gynigir)
  • Tystiolaeth o’r arian sydd ar gael (benthyciad gan y banc, gorddrafft ac ati).
  • 3 dyfynbris ar gyfer pob eitem a ddewisir (dim ond un dyfynbris sydd ei angen ar gyfer eitemau sy’n costio llai na £5,000)
  • Caniatâd Cynllunio a chymeradwyaeth Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS), os yw ar gael. Os nad oes gyda chi ganiatâd cynllunio a chymeradwyaeth SuDS ar gyfer eich buddsoddiadau, bydd angen tystiolaeth o’r caniatâd cynllunio a chymeradwyaeth SuDS cyn y gellir prosesu unrhyw gais am grant.

Byddwn yn anfon hyd at ddau nodyn atgoffa ar gyfer ceisiadau drafft trwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau.

 

Gofynion y Cynllun Busnes

 

Dylai’r cynllun busnes ddarparu amlinelliad cyfannol o’ch busnes. Dylai’r cynllun gwmpasu’r 3 blynedd nesaf o leiaf a chynnwys y canlynol:

  • Manylion y Busnes
  • Gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael, gweithgarwch y busnes a’r system amaethu
  • Perfformiad ariannol diweddar (gan gyfeirio at gyfrifon ardystiedig/rheoli)
  • Perfformiad ffisegol ac ariannol diweddar y fenter arallgyfeirio (Os yw’n berthnasol)
  • Amcanion a chynigion buddsoddi ar gyfer y dyfodol
  • Gwerthuso ystyriaethau ac opsiynau’r cynigion ar gyfer y busnes a buddsoddi yn y dyfodol.

Ar gyfer menter arallgyfeirio sy’n rhan o fusnes ffermio ehangach, dylai’r cynllun ymdrin â’r busnes cyfan ac egluro sut mae’r fenter arallgyfeirio a’r fenter amaethyddol ehangach yn ategu ei gilydd.

Ni fydd yr asesiad yn dechrau nes bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y cais a’r HOLL ddogfennau ategol. Gallwch ddarparu tystiolaeth a dogfennau eraill yn ogystal â’r uchod er mwyn cefnogi’ch cais.

Cam 1 – Eich Asesu ar gyfer eich Dewis

Ar gyfer gwerthusiad cam 1 o’r Cynllun Arallgyfeirio Amaethyddol, caiff pob cais ei asesu yn ôl set o feini prawf a’i sgorio gan ddefnyddio graddfa 0 i 4, a lluosir y sgôr hon wedyn â’r ffactor pwysoli i roi sgôr derfynol.

Caiff y ceisiadau eu rhoi yn nhrefn eu teilyngdod. Caiff y ceisiadau eu dewis yn eu trefn tan na fydd arian ar ôl.  Ni allwn warantu y caiff yr holl arian ei neilltuo, na chwaith fod y ceisiadau i gyd yn cael eu dewis ar gyfer cam 2 y broses.

 

 

Dyma’r meini prawf ar gyfer dewis.

Adran Cynllun y Busnes/Prosiect i’w asesu

Sgôr

Pwysoliad

Ffit strategol

0 - 4

x 4

Addasrwydd y buddsoddiad

0 - 4

x 5

Cynaliadwyedd hirdymor

0 - 4

x 2

Gwerth am arian

0 - 4

x 3

 

Ni chaiff yr un cais fynd yn ei flaen heb gael sgôr o 30 fan leiaf.

Byddai sgôr o 1 neu 0 mewn unrhyw faen prawf yn golygu na chaiff y cais fynd yn ei flaen i gael ei ystyried yng ngham 2 y broses.

Ar gyfer pob maen prawf, bydd yr asesiad yn seiliedig ar yr wybodaeth a’r esboniadau y byddwn wedi’u cael.

Rhoddir sgôr uwch am esboniadau cynhwysfawr sy’n cael eu cefnogi gan enghreifftiau o weithgareddau arfaethedig a manylion ynglŷn â sut bydd y gweithgareddau hynny’n cael eu rheoli.

Rhoddir sgôr is am esboniadau sydd fawr gwell na datganiad syml o fwriad, er enghraifft “byddwn yn cynnal cyfarfodydd â rhanddeiliaid yn rheolaidd gydol y prosiect”.

Cwestiynau a meini prawf asesu Cam 1:

Ffit strategol

Er mwyn i brosiect fodloni Ffit Strategol y cynllun, bydd angen i ymgeiswyr ddangos sut y bydd y buddsoddiad arfaethedig yn cyfrannu at nodau ac amcanion strategol y cynllun a dangos pam mae angen y buddsoddiad.

Bydd ymgeiswyr yn cael sgôr uwch os gallant ddangos cysylltiadau clir rhwng y buddsoddiad a’r amcanion strategol, ac os ydynt yn esbonio sut y penderfynwyd ar y flaenoriaeth ar gyfer buddsoddi.

Sgôr

 

4

Rhoddir esboniad clir a thystiolaeth o sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn ymateb i amcanion y cynllun.   Rhoddir disgrifiad llawn a chynhwysfawr o’r prosiect.

3

Rhoddir tystiolaeth gref sy’n dangos sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn ymateb i amcanion y cynllun.   Rhoddir disgrifiad llawn o’r prosiect.

2

Mae rhywfaint o dystiolaeth yn cael ei darparu i ddangos sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn ymateb i amcanion y cynllun.  Rhoddir disgrifiad o’r prosiect.

1

Nid yw’r dystiolaeth yn dangos sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn ymateb i amcanion y cynllun.  Ceir bylchau yn y disgrifiad o’r prosiect.

0

Nid oes unrhyw dystiolaeth yn cael ei darparu i ddangos sut mae’r buddsoddiad yn bodloni amcanion y cynllun.

 

Addasrwydd y buddsoddiad 

Mae defnyddio adnoddau yn effeithlon yn hollbwysig er mwyn helpu i sicrhau economi Lesiant, yn ogystal â lleihau allyriadau.  Er mwyn i brosiect allu bodloni’r meini prawf hyn, gofynnir i ymgeisydd ddangos sut bydd ei fuddsoddiad arfaethedig yn helpu’r busnes i dyfu’n gynaliadwy a lle bo gofyn, esbonio sut y caiff y buddsoddiad effaith bositif ar yr amgylchedd, gan gynnwys gwella ansawdd dŵr, pridd ac aer, gwneud defnydd gwell o faethynnau, lleihau allyriadau a gwella ecosystem y fferm.

Sgôr

 

4

Rhoddir esboniad clir, gan gynnwys tystiolaeth o sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn ymateb i’r newid yn yr hinsawdd. Mae’r cais yn dangos sut mae’r buddsoddiad yn gwella ansawdd dŵr, pridd ac aer. Mae tystiolaeth yn dangos bod y buddsoddiad yn gwella’r defnydd o faethynnau, yn lleihau allyriadau ac yn gwella ecosystem y fferm.

3

Rhoddir tystiolaeth gref sy’n dangos sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn ymateb i’r newid yn yr hinsawdd. Mae’r cais yn dangos sut mae’r buddsoddiad yn gwella ansawdd dŵr, pridd ac aer. Mae’r buddsoddiad yn cyfrannu at wella’r defnydd o faethynnau, lleihau allyriadau a gwella ecosystem y fferm.

2

Mae rhywfaint o dystiolaeth yn cael ei darparu i ddangos sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn ymateb i’r newid yn yr hinsawdd. Mae’r cais yn darparu ychydig fanylion o sut mae’r buddsoddiad yn gwella ansawdd dŵr, pridd ac aer. Mae’r buddsoddiad yn cyfrannu ychydig at wella’r defnydd o faethynnau, lleihau allyriadau a gwella ecosystem y fferm.

1

Mae’r dystiolaeth sydd wedi’i darparu i ddangos sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn ymateb i’r newid yn yr hinsawdd yn wan neu’n annigonol. Nid yw’r cais yn nodi sut mae’r buddsoddiad yn gwella ansawdd dŵr, pridd ac aer. Nid yw’r buddsoddiad yn cyfrannu at wella’r defnydd o faethynnau, lleihau allyriadau na gwella ecosystem y fferm.

0

Nid oes tystiolaeth wedi’i darparu i ddangos sut mae’r buddsoddiad yn ystyried yr effaith ar yr amgylchedd.

 

Cynaliadwyedd hirdymor

Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau sy’n dod â manteision a sicrwydd ariannol hirdymor i’r busnes.  Bydd ceisiadau sy’n dangos y daw manteision cyson i’r busnes ac sy’n creu cyfleoedd gwaith – swyddi cyflog ychwanegol a diogelu swyddi presennol – yn sgorio’n uchel. Hefyd, gallai buddsoddiadau ddiogelu’r busnes at y dyfodol, gan sicrhau bod gweithgarwch yn gallu parhau mewn ymateb i bwysau’r farchnad neu bwysau amgylcheddol nawr neu yn y dyfodol.

Bydd prosiectau sy’n sbarduno rhagor o fuddsoddiadau, e.e. datblygu seilwaith i hwyluso rhagor o gynhyrchu sy’n arwain at gynnyrch uwch ei werth yn cael sgôr uwch. Os yw’r buddsoddiad yn rhan o gynllun buddsoddi fesul cam, mae angen nodi hynny.

Sgôr

 

4

Rhoddir esboniad clir, sy’n cynnwys tystiolaeth o sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn dod â manteision a sicrwydd ariannol tymor hir i’r busnes.  

Mae’r buddsoddiad yn diogelu cyflogaeth bresennol. Hefyd, bydd yr ymgeisydd yn dangos sut mae’r buddsoddiad yn sbarduno rhagor o ddatblygu a buddsoddi yn y busnes yn y tymor byr.

3

Rhoddir tystiolaeth gref sy’n dangos sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn dod â manteision a sicrwydd ariannol tymor hir i’r busnes.  Mae’r buddsoddiad yn diogelu cyflogaeth bresennol. Hefyd, bydd yr ymgeisydd yn dangos sut mae’r buddsoddiad yn sbarduno rhagor o ddatblygu a buddsoddi yn y busnes yn y tymor canolig.

2

Mae rhywfaint o dystiolaeth yn cael ei darparu i ddangos sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn dod â manteision a sicrwydd ariannol tymor hir i’r busnes.. Ceir rhywfaint o dystiolaeth i ddangos sut mae’r buddsoddiad yn sbarduno datblygu a buddsoddi posibl yn y busnes yn yr hirdymor.

1

Mae’r dystiolaeth sydd wedi’i darparu i ddangos sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn dod â manteision a sicrwydd ariannol tymor hir i’r busnes. yn wan neu’n annigonol. Nid yw’r prosiect yn creu unrhyw swyddi newydd ac nid yw’n diogelu cyflogaeth bresennol. Nid yw’r ymgeisydd wedi dangos sut mae’r buddsoddiad yn sbarduno rhagor o ddatblygu a buddsoddi yn y busnes.

0

Nid oes unrhyw dystiolaeth wedi’i darparu i ddangos bod y buddsoddiad yn cael effaith gadarnhaol ar gynaliadwyedd hirdymor y busnes.

 

Gwerth am arian

Mae angen i brosiectau ddangos eu bod yn rhoi gwerth am arian. Bydd prosiectau yn cael sgôr ar sail y cynnydd a ragwelir mewn elw o fewn tair blynedd ar ôl cwblhau’r prosiect.

Gallai hynny fod o ganlyniad i gynnydd yn yr allbwn neu’r trosiant gan arwain at fwy o elw neu fod o ganlyniad i gynhyrchu mwy effeithlon gan arwain at fwy o elw er bod y trosiant a’r allbwn yn aros yn ddigyfnewid.

 

Bydd yr asesiad o’r gwerth am arian yn seiliedig ar y cynnydd a ragwelir mewn proffidioldeb o fewn tair blynedd ar ôl cwblhau’r prosiect (a), wedi’i rannu â gwerth y grant y gofynnwyd amdano (b).

Er enghraifft, 5.0 fyddai gwerth (a/b) prosiect sy’n rhagweld cynnydd blynyddol yn ei elw o £100,000 o fewn tair blynedd ar ôl cwblhau’r prosiect ac sy’n gofyn am grant o £20,000. Gwerth (a/b) o 1.25 fyddai gan brosiect sy’n rhagweld cynnydd yn ei elw o £50,000 o fewn tair blynedd ar ôl cwblhau’r prosiect ac sy’n gofyn am grant o £40,000.

Bydd gwerthoedd (a/b) holl brosiectau’r cyfnod yn arwain at ddyrannu sgôr fel y dangosir isod:

 

Sgôr

Cynnydd a ragwelir mewn elw/grant (a/b) rhwng 1.6 a 1.0

4

Cynnydd a ragwelir mewn elw/grant (a/b) rhwng 1.1 a 1.5

3

Cynnydd a ragwelir mewn elw/grant (a/b) rhwng 0.5 a 1.0

2

Cynnydd a ragwelir mewn elw/grant (a/b) rhwng 0.1 a 0.4

1

Cynnydd a ragwelir mewn elw/grant (a/b) llai na 0

0

 

Mae tri chanlyniad posibl i gam 1 yr asesiad:

  1. Nid yw eich cais yn gymwys am grant.
  2. Nid yw eich cais wedi’i ddewis ar gyfer ail gam y broses ymgeisio.
  3. Mae’ch cais wedi llwyddo yn y cam cyntaf a chaiff fynd yn ei flaen i’r ail gam.

Os na chewch eich dewis, ond bod eich cais yn bodloni’r trothwy sylfaenol, byddwn yn eich hysbysu trwy eich cyfrif RPW ar-lein nad ydych wedi cael eich dewis ond y bydd eich cais yn cael ei gadw wrth gefn.

Cais sy’n llwyddiannus yng Ngham 1

Os caiff eich cais ei ddewis, byddwch yn cael gwybod trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein. Rhaid i chi dderbyn neu wrthod y cynnig trwy lenwi a dychwelyd yr Atodiad i’r Cais i Lywodraeth Cymru erbyn y dyddiad fydd wedi’i nodi yn eich llythyr. Bydd yr Atodiad wedi’i atodi wrth y llythyr sy’n rhoi gwybod ichi eich bod wedi’ch dewis.

Byddwn yn anfon nodyn atgoffa trwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau a nodir yn eich llythyr.

Os byddwch yn cadarnhau’ch bod yn hapus eich bod wedi’ch dewis, bydd eich cais yn mynd yn ei flaen i ail gam y broses arfarnu.

Nid yw’r ffaith eich bod wedi cael llythyr yn eich hysbysu’ch bod wedi’ch dewis yn golygu y cewch ddechrau gweithio ar y Prosiect. Ni chewch ddechrau unrhyw waith nes y byddwch wedi cael Contract trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein. Ni fydd unrhyw brosiect sy’n torri’r rheol hon yn cael ei ystyried am gymorth.

Os na fyddwch wedi cadarnhau’ch bod yn derbyn y cynnig neu os na fyddwch yn ateb Llywodraeth Cymru erbyn y dyddiad yn y llythyr, ni chaiff eich cais fynd ymhellach a chaiff y cynnig i’ch dewis ei dynnu’n ôl.

Os nad yw eich cais yn bodloni meini prawf y cynllun neu os na chaiff ei ddewis, rhoddir gwybod i chi ar eich cyfrif RPW Ar-lein.

Cam 2 – Arfarniad llawn o’r cais ar ôl ei ddewis

Os yw’r cais yn cael ei ddewis, bydd yn symud ymlaen i Gam 2, a bydd yr adrannau canlynol yn cael eu hasesu i gwblhau’r broses o werthuso’r cais ac ystyried cynnig grant:

  • cyflawni’r prosiect
  • risg a rheoli risg
  • ariannol a chydymffurfio
  • dangosyddion a chanlyniadau
  • Themâu trawsbynciol

Dyma’r dangosyddion a’r canlyniadau a fydd yn cael eu monitro yn sgil y buddsoddiad:

  • nifer y busnesau a gefnogir
  • nifer y swyddi fydd yn cael eu creu
  • effaith ar drosiant y busnes

Hefyd, bydd y cais yn gofyn i chi egluro sut y bydd y prosiect yn cyfrannu at themâu trawsbynciol Llywodraeth Cymru:

  • Cyfle cyfartal a phrif ffrydio rhywedd
  • Trechu tlodi ac allgáu cymdeithasol
  • Y Gymraeg

Caiff y cais ei arfarnu yn unol â Chanllawiau’r Cynllun a’r rheolau ynghylch pwy sy’n gymwys. Caiff archwiliadau ac arfarniad llawn o ran diwydrwydd dyledus eu cynnal (os oes angen), a dim ond bryd hynny y caiff penderfyniad terfynol ei wneud i gynnig grant neu i wrthod y cais. Nid oes gwarant y caiff cynnig y prosiect ei gymeradwyo ar gyfer grant. Ein nod yw arfarnu’r cais o fewn 90 diwrnod i ddiwedd y cyfnod ymgeisio. Efallai y bydd angen mwy o amser os yw’r cais yn un cymhleth. Os byddwch yn araf yn ateb ceisiadau gennym am wybodaeth, bydd angen mwy o amser arnom i arfarnu’ch cais.

Sgorio Asesiadau Cam 2

Ar gyfer yr arfarniad Cam 2, bydd yr wybodaeth sy’n cael ei darparu yn y 5 adran arall yn cael ei hasesu yn erbyn y meini prawf sgorio canlynol a fydd yn llywio’r penderfyniad i roi cymorth grant i’r prosiect:

  • Uchel: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion trylwyr a manwl o ran yr holl dystiolaeth y gofynnir amdani
  • Canolig: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion boddhaol a manwl o ran y rhan fwyaf o’r dystiolaeth y gofynnir amdani
  • Isel: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion anghyflawn neu annigonol o ran un neu fwy o’r darnau o dystiolaeth y gofynnir amdani

Y trothwy ansawdd yw sgôr Canolig ym mhob un o’r naw categori. Os nad yw’r cais yn bodloni’r gofyn hwn, mae’n bosibl y gofynnir i chi ddarparu rhagor o wybodaeth. Os nad oes modd sicrhau sgôr foddhaol, bydd y prosiect yn cael ei wrthod.

Pwysig: os bydd angen gofyn ichi am ragor o wybodaeth, gallai hynny arafu prosesau asesu’r cais felly rydym yn eich cynghori’n gryf i ddilyn y canllawiau’n fanwl a rhoi’r wybodaeth y gofynnir amdani. 

Mae dau ganlyniad posibl i arfarniad Cam 2:

  1. Nid yw eich prosiect yn gymwys ac nid yw wedi’i gymeradwyo am grant. Byddwn yn esbonio’r rhesymau pam nad oedd eich cais yn llwyddiannus trwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Gallwch wneud cais am yr un prosiect eto os oes cyfnodau ymgeisio eraill ar gael yn y dyfodol (gan addasu’r cais os ydych yn dymuno) ond dim ond os nad ydych wedi dechrau ar waith y prosiect.

 

  1. Mae eich prosiect yn gymwys ac mae’n cael ei gymeradwyo am grant. Byddwch yn cael llythyr cymeradwyo yn nodi telerau ac amodau’r grant, a gofynnir i chi ei lofnodi fel cytundeb eich bod yn derbyn y telerau a’r amodau. Bydd y contract yn rhoi’r awdurdod i chi ddechrau ar y gwaith. Bydd angen i chi dderbyn neu wrthod cynnig y contract o fewn 30 diwrnod. Os na fyddwch wedi derbyn y contract o fewn y 30 niwrnod, caiff y contract ei dynnu’n ôl.

Byddwn yn anfon nodyn atgoffa atoch trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer derbyn y cynnig.

Os ydych chi’n penderfynu tynnu yn ôl o’r contract cyn cwblhau’r prosiect, neu os nad ydych yn prynu’r holl eitemau a gymeradwywyd yn eich contract, ni fyddwch yn gallu gwneud cais i’r Cynllun Arallgyfeirio Amaethyddol yn y cylch nesaf, ac mae’n bosibl y bydd gofyn i chi ad-dalu unrhyw arian sydd wedi’i dalu i chi.

Cewch dynnu’ch cais yn ôl unrhyw bryd cyn dyfarnu’r grant ac ni fydd hynny yn effeithio ar unrhyw geisiadau yn y dyfodol i’r Cynllun Arallgyfeirio Amaethyddol.

Yn amodol ar ofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004: bydd yr holl wybodaeth a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw’ch cwmni, cyfanswm y grant a ddyfarnwyd i chi a chrynodeb o’ch prosiect.

Adran E: amodau’r grant

Mae amrywiaeth o ddeddfwriaeth yn berthnasol i’r Cynllun Arallgyfeirio Amaethyddol (gweler Adran K). Rhaid i Lywodraeth Cymru a’r ymgeisydd/derbynnydd weithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth honno.

Mae’r cynnig o grant Arallgyfeirio Amaethyddol yn cael ei wneud yn amodol ar delerau ac amodau, a fydd yn cael eu nodi yn llawn yn eich contract, gan gynnwys y telerau ac amodau a nodir isod. Bydd y contract yn dechrau ar ddyddiad rhoi’r contract. Gallai peidio â bodloni telerau ac amodau’r grant arwain at ganslo’ch dyfarniad a/neu adennill y symiau sydd eisoes wedi’u talu i chi, neu leihau cyfanswm y grant sy’n daladwy.

Amodau:

Gwneir y dyfarniad ar sail datganiadau a wnaed gennych chi neu'ch cynrychiolwyr ar y ffurflen gais a'r ffurflen hawlio ac yn yr ohebiaeth a gafwyd wedi hynny. Mae’n drosedd gwneud datganiadau anwir neu gamarweiniol.

Rhaid ichi beidio â dechrau ar unrhyw waith ar y prosiect heb ichi yn gyntaf gael awdurdod ysgrifenedig Llywodraeth Cymru. Byddwch wedi prynu'r offer a chysylltu ag RPW trwy RPW Ar-lein erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio a nodir yng nghynnig y contract. Os na fyddwch wedi cysylltu ag RPW erbyn hynny, caiff y cynnig grant ei wrthod.

Efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru o bosibl ddiweddaru’r rheolau a’r amodau yng ngoleuni newidiadau i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Rhaid ichi gydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol a osodir ac â chyfraith y DU.

Ni chewch newid prosiect, gan gynnwys lleoliad y gweithgarwch, heb gymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw Llywodraeth Cymru.

Rhaid ichi gytuno i gadw at unrhyw newidiadau ar ôl cael gwybod amdanynt gan Weinidogion Cymru.

Ni ellir gwaredu, trosglwyddo neu werthu cyfarpar a brynwyd gyda chymorth grant yn ystod y prosiect ac am bum mlynedd ar ôl dyddiad gorffen y prosiect heb ganiatâd ysgrifenedig Llywodraeth Cymru ymlaen llaw. Rhaid ad-dalu’r grant a ddyfarnwyd yn llawn.

Rhaid i chi ddarllen a deall rheolau a chanllawiau perthnasol y cynllun.

Mae’r manylion rydych wedi’i rhoi yn y ceisiadau ac unrhyw ddogfennau ategol, hyd eithaf eich gwybod a’ch cred, yn wir, yn gywir ac yn gyflawn.

Rydych yn cydnabod na fydd Llywodraeth Cymru nac unrhyw gynghorydd a benodir gan Lywodraeth Cymru yn atebol am unrhyw gyngor a roddir, gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, unrhyw gyngor a roddir mewn perthynas â'r cais, ac mai chi sy’n llwyr gyfrifol am bob penderfyniad busnes a wneir.

Mae’n rhaid i’r ymgeisydd gydymffurfio â’r rheolau ar gostau cymwys fel y’u nodir yng Nghanllawiau’r Cynllun.

Rhaid cwblhau prosiectau yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru. Ni ddylech newid yr amserlen hon heb gytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw Llywodraeth Cymru.

Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno trwy ddefnyddio ffurflen gais hawliadau Grantiau RPW Ar-lein a rhaid cynnwys yr holl ddogfennau sy’n angenrheidiol o dan y cynllun.

Dim ond ar gyfer gwariant sydd wedi'i dalu y gellir rhoi'r grant, hynny yw, taliadau sydd wedi clirio o gyfrif banc.

Rhaid prynu pob eitem yn unol â gofynion Caffael a Thendro Cystadleuol Llywodraeth Cymru.

Rwy’n ymrwymo i fodloni, yn ôl yr angen, unrhyw rwymedigaethau mewn perthynas â sicrhau caniatâd cynllunio.

Mae’n rhaid i chi gadarnhau nad oes unrhyw eitemau sydd wedi’u cynnwys yn y cais yn cymryd lle eitemau dan hawliad yswiriant.

Mae’n rhaid i chi roi cadarnhad nad ydych wedi gwneud cais am unrhyw arian cyhoeddus arall. Os daw’n amlwg eich bod wedi derbyn cyllid cyhoeddus o ffynhonnell arall, gall hynny arwain at wrthod eich hawliad, adennill taliadau a chyflwyno cosbau.

Rhaid cadw cofnodion yn ymwneud â’r cais a’r hawliad am y grant hwn, gan gynnwys pob anfoneb wreiddiol ac unrhyw ddogfennau perthnasol eraill, am o leiaf pum mlynedd ar ôl dyddiad gorffen y prosiect.

Rhaid i chi ymrwymo i fodloni unrhyw rwymedigaethau statudol megis Iechyd a Diogelwch; cyflogaeth; hylendid; rheoli a diogelu'r amgylchedd; iechyd a lles anifeiliaid neu gnydau a fydd yn gymwys yn ystod cyfnod y prosiect hwn.

Rhaid i chi ganiatáu i gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru neu ei gynrychiolwyr fynd ar y tir a’i archwilio ac archwilio unrhyw offer perthnasol. Os gofynnir, rhaid i chi roi gwybodaeth iddynt a/neu adael iddynt weld y dogfennau gwreiddiol sy'n ymwneud â’r prosiect.

Mae’r wybodaeth a roddir yn y cais ac mewn dogfennau cysylltiedig yn gorfod bodloni gofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw’ch cwmni, cyfanswm y grant a ddyfarnwyd i chi a chrynodeb o’ch prosiect.

Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais yn ddarostyngedig i’r Hysbysiad Preifatrwydd. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd yn esbonio’r ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn prosesu ac yn defnyddio’ch data personol a’ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Adran F: caffael a thendro cystadleuol

Rhaid i chi ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a gofynion y Cyfarwyddyd Technegol ar gyfer Tendro Cystadleuol a Chaffael Cyhoeddus trwy’r canlynol:

Adran G: taliadau

Hawliadau

I hawlio’r Cynllun Arallgyfeirio Amaethyddol, rhaid defnyddio’r dudalen Hawlio Grantiau yn eich cyfrif RPW Ar-lein. Chewch chi ddim mo'ch talu nes y caiff eich hawliad ei ddilysu'n llwyddiannus. Dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y gwariant perthnasol wedi’i wario a bod y gwaith wedi’i gwblhau yn unol â’r cynllun y bydd hawliadau’n cael eu talu. Bydd taliadau’n cael eu gwneud drwy drosglwyddiad electronig i’ch cyfrif banc.

Gallwch gyflwyno mwy nag un hawliad, ond rhaid i bob hawliad fod ar gyfer eitem gyfan. Er enghraifft, os ydych wedi derbyn contract i brynu dwy eitem, cyfarpar cynaeafu dŵr a pheiriant cynaeafu, gallech hawlio’r ddwy eitem ar wahân, ond ni chewch gyflwyno hawliad ar gyfer rhan o gost un eitem.

Er mwyn cael taliad Arallgyfeirio Amaethyddol, rhaid i chi:

  • Fod wedi derbyn contract Cynllun Arallgyfeirio Amaethyddol o fewn 30 diwrnod calendr ar ôl dyddiad ei gynnig i chi a chydymffurfio â’r holl ofynion
  • Peidio â phrynu’r eitemau sydd wedi'u rhestru yn eich contract tan y bydd contract wedi’i gynnig ichi
  • Gofalu’ch bod wedi prynu'r holl eitemau sydd wedi'u rhestru ar eich contract
  • Gofalu bod yr holl eitemau yn cael eu prynu yn unol â gofynion Caffael a Thendro Cystadleuol Llywodraeth Cymru
  • Sicrhau bod yr holl eitemau rydych wedi’u prynu ar y safle adeg cyflwyno’ch hawliad
  • Cyflwyno'r hawliad gan ddefnyddio'r dudalen Hawlio Grant ar eich cyfrif RPW Ar-lein erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio – 31 Mawrth 2024
  • Byddwn yn anfon hyd at 2 nodyn i’ch atgoffa bod hawliadau heb eu gwneud trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio
  • Cyflwyno anfonebau ar gyfer pob eitem rydych yn eu hawlio
  • Cyflwyno tystiolaeth bod yr arian ar bob eitem sy’n destun hawliad wedi’i wario
  • Ffotograffau â geotag o’r eitemau ar eich safle
  • Cyflwyno tystiolaeth o ganiatâd cynllunio a chymeradwyaeth SuDS os oes angen.

Ni fydd hawliad yn hawliad dilys oni bai ei fod yn cael ei gyflwyno trwy’r dudalen Hawlio Grantiau a than fod yr holl ddogfennau ategol hefyd wedi’u cyflwyno.

Gallwch gyflwyno’ch hawliad unrhyw adeg ar ôl cwblhau’r buddsoddiad. Bydd hawliadau  yn cael eu prosesu i’w talu ar ôl 1 Ebrill 2023.

Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y gellir rhoi estyniad i'r dyddiad cau ar gyfer hawlio a rhaid cyflwyno cais ysgrifenedig am estyniad drwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn gynted â phosib cyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio.

Dogfennau Ategol

Rhaid cyflwyno’r canlynol gyda’ch hawliad:

  • Tystiolaeth bod yr arian ar bob eitem sy’n destun hawliad wedi’i wario.
  • Anfonebau ar gyfer eitemau sy'n cael eu hawlio.
  • Ffotograffau â geotag o't eitemau ar eich safle

Heb dystiolaeth, caiff eich hawliad ei wrthod.

Rhowch y gair ‘anfoneb’ yn glir ar bob anfoneb a rhaid iddi gynnwys y canlynol:

  • rhif adnabod unigryw
  • enw a chyfeiriad eich cwmni a manylion y cyswllt
  • enw a chyfeiriad y cwmni sy’n eich anfonebu
  • disgrifiad clir o'r hyn yr ydych yn talu amdano
  • dyddiad darparu'r nwyddau neu'r gwasanaeth (dyddiad cyflenwi)
  • dyddiad yr anfoneb
  • y swm/symiau a godir am bob eitem
  • y TAW, os yw'n gymwys
  • y cyfanswm sy'n ddyledus

Dylid rhoi tystiolaeth ar ffurf cyfriflen banc eich bod wedi talu am yr eitem. Os nad yw gwerth y trafodiad yn cyd-fynd â gwerth yr anfoneb (er enghraifft, os gwnaethoch chi brynu eitemau eraill oddi wrth yr un cyflenwr), bydd angen i chi esbonio’r taliad cyfan a dangos anfonebau atodol.

Os ydych yn talu â siec, yna bydd angen sganio'r siec cyn ei chyflwyno i'r cyflenwr, yn ogystal â'r gyfriflen banc.

Mae ffotograff â geotag yn cynnwys gwybodaeth am leoliad y llun. Bydd y rhan fwyaf o ffonau symudol sydd â chysylltiad â’r rhyngrwyd a chamera yn cofnodi’r manylion GPS yn awtomatig. Byddan nhw hefyd yn cofnodi dyddiad ac amser tynnu’r ffotograff.

Bydd gwybodaeth ynghylch pa ffotograffau â geotag fydd eu hangen a sut i’w cyflwyno ar gyfer y Cynllun Arallgyfeirio Amaethyddol ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn y cam hawlio.

Gallwch gyflwyno’r anfonebau a’r cyfriflenni banc trwy eu sganio a’u hanfon trwy “Fy negeseuon” yn eich cyfrif RPW Ar-lein.

Cam-hawlio a chosbau

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich hawliad yn gymwys ac yn gywir, ei fod ar gyfer gwariant sydd wedi’i ysgwyddo yn unig (bod yr arian wedi gadael eich cyfrif banc), bod yr holl eitemau a chostau’n gymwys a bod yr hawliad yn cael ei gyflwyno yn brydlon.

Rhaid prynu’r eitemau a gymeradwyir ar ôl cynnig y contract i chi.

Byddwch wedi cam-hawlio os:

  • Byddwch wedi prynu’r eitem cyn i’r contract gael ei gynnig i chi.
  • Na fyddwch wedi prynu’r holl eitemau sydd wedi’u rhestru yn y contract.
  • Byddwch wedi prynu eitemau nad ydynt wedi’u rhestru yn y contract.
  • Na fyddwch wedi cyflwyno hawliad a dogfennau ategol erbyn dyddiad cau ar gyfer cyflwyno hawliad.
  • Na fydd pob un o’r eitemau rydych wedi’u hawlio yn bresennol ar eich daliad yn ystod ymweliad â’ch safle.

Rhaid hawlio’r holl eitemau sydd wedi’u rhestru yn eich contract.

Os na fyddwch wedi hawlio’r holl eitemau, daw’r contract i ben a bydd yn rhaid ichi dalu unrhyw daliadau rydych wedi’u cael yn ôl.

Os bydd swm yr eitemau anghymwys yn fwy na 10% o’r costau cymwys, caiff swm sy’n gyfwerth â’r eitemau anghymwys ei dynnu o’ch taliad.

Os ydych yn ansicr ynghylch unrhyw beth ar gyfer eich prosiect, mae'n bwysig iawn eich bod yn cael cadarnhad ysgrifenedig ei fod yn gymwys cyn ysgwyddo’r gost.

Troseddau

Mae rheoliad 13 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014 (Rhif 3222 (Cy.327)) yn pennu troseddau a chosbau mewn perthynas ag elfennau penodol o gyllid datblygu gwledig. Mae’r Rheoliad hwnnw a’r troseddau hynny yn berthnasol i’r Cynllun Arallgyfeirio Amaethyddol.  Mae troseddau'n cynnwys darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, yn fwriadol neu’n ddi-hid, mewn perthynas â chyllid datblygu gwledig; rhwystro arolygydd neu swyddog; a gwrthod darparu gwybodaeth ar gais.

Adran H: newidiadau i reolau’r cynllun

Newidiadau i’r Ddeddfwriaeth (gan gynnwys Dehongliadau Newydd)

Caiff deddfwriaeth ei newid o dro i dro a bydd gofyn i chi gydymffurfio ag unrhyw newidiadau i’r cynllun ar ôl i Lywodraeth Cymru roi gwybod ichi amdanynt.

Newidiadau i Gontract neu Reolau’r Cynllun

Mae’n bosibl y bydd angen i ni newid rheolau’r cynllun a/neu eich contract am nifer o resymau. Er enghraifft, efallai y bydd angen i ni ddiweddaru’r amodau rheoli ar sail y cyngor gwyddonol diweddaraf, neu newid rheolau’r cynllun er mwyn ystyried newidiadau yn y ddeddf. Byddwn yn cyhoeddi newidiadau ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn cysylltu â chi’n uniongyrchol os oes angen.

Adran I: rheoliadau, monitro a chadw cofnodion

Mesurau rheoli

Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru orfodi rheolau’r Cynllun Arallgyfeirio Amaethyddol.

Gellir dewis ymweld â chi i gadarnhau bod y buddsoddiad wedi’i wneud cyn talu’r grant ichi neu ar ôl talu’r grant i chi.

Byddwn yn archwilio’r holl fanylion yn eich cais, y manylion yn eich hawliad a’r datganiadau a wnaethoch wrth gyflwyno’r cais a’r hawliad.

Bydd Llywodraeth Cymru a’r cyrff rheoli arbenigol yn ceisio sicrhau bod yr ymweliadau yn tarfu cyn lleied â phosibl arnoch, ond mae rhai archwiliadau’n gofyn am ymweliadau dirybudd, sy’n golygu na fydd yn bosibl eich rhybuddio ymlaen llaw. Mae’n bosibl y byddwch yn cael mwy nag un ymweliad yn ystod blwyddyn galendr.

Os ydych yn gwrthod caniatáu ymweliad, yn rhwystro swyddog neu ddim yn rhoi cymorth rhesymol, mae’n bosibl y byddwn yn gwrthod eich talu, y gallwn ofyn ichi dalu arian sydd wedi’i dalu i chi yn ôl ac fe allech gael eich erlyn.

Monitro

Mae’n rhaid monitro pob dyfarniad grant a gwerthuso effaith y grant ar y busnes ar ôl cwblhau’r prosiect.

Mae’n rhaid i chi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru neu eu cynrychiolwyr archwilio’r prosiect ar unrhyw adeg resymol o fewn y cyfnod o bum mlynedd.

Byddwn yn ymweld â chanran o’r prosiectau a gymeradwywyd o fewn pum mlynedd ar ôl dyddiad cwblhau’r prosiect (Dyddiad Diwedd y Prosiect) i sicrhau bod yr ymgeisydd yn dal i ddefnyddio’r cyfarpar a brynwyd gyda’r grant a bod y busnes yn perfformio yn ôl y disgwyl.

Un o ofynion y dyfarniad grant yw bod angen cadw’r cyfarpar a brynwyd gyda chymorth grant ar y safle, gan sicrhau ei fod yn weithredol ac mewn cyflwr da. Hefyd, rhaid iddo gael ei ddefnyddio at yr un diben â’r hyn a nodwyd yn y cais gwreiddiol, am o leiaf bum mlynedd ar ôl dyddiad cwblhau’r prosiect fel y nodir yn y contract. Gwneir hyn er mwyn sicrhau oes hir i’r prosiect a sicrhau bod cynhyrchwyr cynradd yn cael elwa ar fanteision y prosiect am gyfnod hir.

Cadw cofnodion

Mae’n rhaid i chi gadw’r holl gofnodion a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir a’ch bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau am bum mlynedd.

Bydd gofyn ichi hefyd:

  • ddarparu unrhyw wybodaeth i Lywodraeth Cymru am eich contract Arallgyfeirio Amaethyddol yn unol â’r amserlen a bennir gan Lywodraeth Cymru.
  • darparu cofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall gan gynnwys mynediad at ddata cyfrifiadur yn ymwneud â’ch contract Arallgyfeirio Amaethyddol i Lywodraeth Cymru, ei phersonau awdurdodedig neu ei hasiantwyr.  Bydd gofyn ichi ganiatáu i Lywodraeth Cymru gymryd unrhyw ddogfen neu gofnod i wneud copïau neu i godi darnau ohoni/ohono.

Adran J: appeals and complaints procedure

Y drefn apelio

Mae’r ‘Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig’ yn caniatáu i chi ofyn am adolygiad os ydych yn teimlo nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad cywir yn unol â rheolau’r cynllun.  Ni fydd y broses yn adolygu penderfyniadau yn ymwneud â  Cam 1 – Asesiad ar gyfer Cais

Mae’r broses apelio yn cynnwys dau gam:

  • Cam 1: adolygiad gan RPW
  • Cam 2: adolygiad gan y Panel Apelio Annibynnol (os ydych yn anfodlon â’r ymateb yng Ngham 1).

Mae’r Panel Annibynnol yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, sy’n gwneud y penderfyniad terfynol, gan ddod â’r broses i ben.

Nid oes tâl am gynnal Cam 1 y broses ond mae tâl am gynnal Cam 2 - £50 am wrandawiad ysgrifenedig neu £100 am wrandawiad llafar.  Byddwn yn ad-dalu’r costau hyn yn llawn os bydd Cam 2 yr apêl yn llwyddiannus neu’n rhannol lwyddiannus.

Rhaid i apeliadau, gan gynnwys y dystiolaeth, ddod i’n llaw trwy RPW Ar-lein o fewn 60 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr sy’n disgrifio’r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.

Mae croeso ichi apelio yn y Gymraeg a byddwn yn ateb unrhyw lythyr Cymraeg yn y Gymraeg. Ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oedi.

Mae rhagor o wybodaeth am y broses apelio a sut i gyflwyno apêl trwy ddefnyddio’r ffurflen apelio ar-lein ar gael gan y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid neu ein gwefan: apeliadau Grantiau a Thaliadau Gwledig

Y Drefn Gwyno

 Ymdrinnir â chwynion o dan drefn Llywodraeth Cymru ar gwynion. Cewch fwy o wybodaeth am sut i wneud gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:

Llywodraeth Cymru
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 03000 251378

E-bost:complaints@gov.wales

Gwefan : Cwynion am Lywodraeth Cymru

Gallwch hefyd ddewis cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

1 Ffordd yr Hen Gae
Pen-coed
CF35 5LJ

Ffôn 0300 790 0203

Gwefan: Ombwdsmon

 

Adran K: Hysbysiad Preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru

Sut byddwn yn trin unrhyw ddata personol rydych chi’n eu rhoi yng nghyswllt eich cais am grant neu’ch cais am gyllid grant.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiaeth o gynlluniau grant er mwyn helpu i roi ein polisïau ar waith a chreu Cymru decach, fwy ffyniannus.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â'ch cais am grant neu gyllid. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid.

Cyn i ni roi cyllid grant i chi, byddwn yn cynnal archwiliadau er mwyn atal twyll ac atal gwyngalchu arian, ac i ddilysu eich manylion adnabod. Fel rhan o’r archwiliadau hyn, mae'n ofynnol i ni brosesu data personol amdanoch chi gydag asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Os byddwn ni, neu asiantaeth atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, gallwn wrthod darparu’r cyllid grant y gwnaethoch gais amdano, neu gallwn stopio darparu cyllid grant rydych chi eisoes yn ei gael.

Bydd cofnod o unrhyw risg sy’n gysylltiedig â thwyll neu wyngalchu arian yn cael ei gadw gan yr asiantaethau atal twyll, a allai olygu y bydd sefydliadau eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth i chi.

Er mwyn asesu cymhwyster, efallai y bydd angen i ni hefyd rannu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'ch cais gyda’r canlynol. 

  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
  • Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
  • Awdurdodau Lleol Cymru
  • Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
  • DEFRA
  • Swyddfeydd Amaethyddiaeth eraill Llywodraeth y DU
  • Awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, Awdurdodau Lleol, Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu.

Hefyd, mae’n bosibl y byddwn yn rhannu’ch gwybodaeth gyda sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant, yn trosglwyddo gwybodaeth ac yn rhoi cyngor a chymorth arloesi ar ran Llywodraeth Cymru at ddibenion targedu cymorth yn briodol.

Gall eich gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, fod yn destun cais gan aelod arall o'r cyhoedd. Wrth ymateb i geisiadau o’r fath, efallai y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, er mwyn cyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu Ddeddf Diogelu Data 2018.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion y symiau a dalwyd i fuddiolwyr Cymorth Gwledig. Cyhoeddir data am bob buddiolwr ar wefan y gellir ei chwilio, a bydd yn cynnwys enw a lleoliad y ffermwr/rheolwr tir a manylion y symiau a’r cynllun. Ond, ni ddatgelir enwau’r rheini sy’n cael llai na’r hyn sy’n gyfwerth â £1,250 mewn cymorthdaliadau. Cyhoeddir y data bob blwyddyn ar 31 Mai a bydd y data ar gael am ddwy flynedd o’r dyddiad y cawsant eu cyhoeddi. Bydd yr wybodaeth ar gael ar wefan DEFRA yn: https://cap-payments.defra.gov.uk/Search_Cy.aspx

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â'n polisi cadw gwybodaeth. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw’ch data personol am 7 mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd rhag holl amodau'r grant, a phob taliad wedi'i wneud. Os na fyddwch yn llwyddiannus, bydd eich manylion yn cael eu cadw am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi hawl: 

  • i weld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch
  • i fynnu ein bod yn cywiro unrhyw beth anghywir yn y data hynny
  • i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu (o dan amgylchiadau penodol) ar brosesu eich data personol
  • i ofyn (o dan rai amgylchiadau) inni 'ddileu' eich data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r ffordd mae'n cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru

Dyma’r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Ffôn: 0330 414 6421

Gwefan: https://ico.org.uk/

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

https://llyw.cymru/hysbysiad-preifatrwydd-grantiau-llywodraeth-cymru

Adran L: deddfwriaeth

Mae’r Cynllun Arallgyfeirio Amaethyddol yn cyflawni amrywiaeth o ymrwymiadau ac amcanion y Llywodraeth. Rydym wedi’u rhestru isod ynghyd â’r ddeddfwriaeth a’r prosesau llywodraethu perthnasol.

Mae’r cynllun Arallgyfeirio Amaethyddol yn cael ei reoli gan Reoliadau Cyngor Cyfraith yr UE a Ddargedwir (REUL) Rhifau 1305/2013, 1303/2013 a 1306/2013, Rheoliad Gweithredu Rhif 808/2014 a rhif 809/2014 a Rheoliad Dirprwyedig 640/2014 ac 807/2014 (fel y'u diwygiwyd o bryd i'w gilydd).

Rhoddir cyfraith yr UE a ddargedwir ar waith yng Nghymru trwy’r gyfraith ddomestig ganlynol (fel y’i diwygir o dro i dro), gan gynnwys drwy Reoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021/400 (Cy.129):

  • Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014/3222 (Cy.327)
  • Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014/3223 (Cy.328)

Bydd cymorth ariannol ar gyfer ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig dros y 3 blynedd nesaf yn ymateb i bedwar amcan strategol Llywodraeth Cymru, sef:

  • gwneud amaethyddiaeth yn fwy cystadleuol.
  • cyfrannu tuag at reoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy fel y’i nodir yn Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
  • gwrthsefyll effeithiau’r hinsawdd.
  • sicrhau datblygiad tiriogaethol cytbwys o economïau a chymunedau gwledig gan gynnwys creu a chynnal cyflogaeth.

Yn ogystal, mae’r Cynllun Arallgyfeirio Amaethyddol yn cynnwys tri amcan trawsbynciol:

  • lliniaru’r newid yn yr hinsawdd ac addasu i newid hinsawdd
  • arloesi
  • yr amgylchedd

Bydd eich prosiect yn cyfrannu at yr amcanion trawsbynciol hyn.  

Hefyd, bydd eich prosiect yn cyfrannu at themâu trawsbynciol canlynol Llywodraeth Cymru:

  • Cyfle cyfartal a Phrif ffrydio rhywedd
  • Trechu tlodi ac allgáu cymdeithasol
  • Y Gymraeg

Yn ogystal, bydd ceisiadau i’r Cynllun Arallgyfeirio Amaethyddol yn ystyried amcanion strategol a thematig Llywodraeth Cymru.

Bydd gweithgareddau yn ymwneud ag o leiaf un o flaenoriaethau canlynol Llywodraeth Cymru: 

  1. Meithrin y broses o drosglwyddo gwybodaeth ac arloesi mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth ac ardaloedd gwledig.
  2. Gwella hyfywedd ffermydd a chystadleurwydd amaethyddiaeth o bob math, a hyrwyddo technolegau ffermio arloesol a rheolaeth gynaliadwy ar goedwigoedd.
  3. Hyrwyddo trefniadaeth y gadwyn fwyd gan gynnwys prosesu a marchnata cynnyrch amaethyddol, lles anifeiliaid a rheoli risg ym maes amaethyddiaeth.
  4. Adfer, gwarchod a gwella ecosystemau sy'n dibynnu ar amaethyddiaeth a choedwigaeth.
  5. Hyrwyddo defnydd effeithiol o adnoddau a chefnogi'r newid tuag at economi carbon isel sy'n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn y sectorau amaethyddiaeth, bwyd a choedwigaeth.
  6. Hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, lleihau tlodi a datblygu economaidd mewn ardaloedd gwledig.

 Sefydliad Masnach y Byd a Rheoli Cymhorthdal 

  1. Mae cymorthdaliadau sy’n cael eu darparu o dan y cynllun hwn yn cael eu hystyried yn daliadau o dan Baragraff 11: cymorth addasu strwythurol sy’n dod o fewn cwmpas Atodiad II o Gytundeb y WHO ar Amaethyddiaeth ac sydd wedi’u dosbarthu’n rhai ‘bocs gwyrdd’.
  2. O ganlyniad, mae’r cymorthdaliadau hyn wedi’u heithrio o Gytundeb Masnach a Chydweithredu y DU-UE a system rheoli cymhorthdal dros dro y DU.

Adran M: cysylltiadau

Ymholiadau – Y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid

Ar gyfer ymholiadau o bob math, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW

Gallwch gyflwyno ymholiadau trwy RPW Ar-lein ar unrhyw adeg.

Mynediad at swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau neu anghenion arbennig

Os oes gennych unrhyw anghenion arbennig nad yw ein cyfleusterau yn eich barn chi yn darparu ar eu cyfer, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 i gael swyddogion Llywodraeth Cymru i wneud trefniadau addas ar eich cyfer.

Gwefan Llywodraeth Cymru

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, ewch i wefan Llywodraeth Cymru. Wrth ymweld â’r wefan, gallwch hefyd gofrestru i gael yr e-gylchlythyr Materion Gwledig sy’n anfon y newyddion diweddaraf yn syth i’ch mewnflwch e-bost.

Gwlad

Gwlad yw cylchgrawn deufisol Llywodraeth Cymru i ffermwyr, busnesau coedwigaeth a phawb sydd â diddordeb mewn ffermio ac yng nghefn gwlad Cymru.  Mae’n cynnwys straeon newyddion, canllawiau a gwybodaeth mewn fformat hygyrch, hawdd ei ddarllen.  I sicrhau eich bod yn parhau i glywed am y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf gallwch gofrestru i dderbyn Gwlad trwy fynd i: I gofrestru, ewch i https://llyw.cymru/hysbysiadau neu https://llyw.cymru/cofrestrwch-ar-gyfer-newyddion-amaethyddiaeth-choedwigaeth-gwlad.