Neidio i'r prif gynnwy

Manylion

Statws:

Gwybodaeth/gweithredu.

Categori:

Llythyr gweithwyr iechyd proffesiynol.

Teitl:

Cynllun archwiliadau clinigol cenedlaethol ac adolygu canlyniadau GIG Cymru a rhaglen dreigl flynyddol ar gyfer 2025 i 2026.

Dyddiad dod i ben / dyddiad yr adolygiad:

Ebrill 2026.

I’w weithredu gan:

  • Byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG.
  • Arweinwyr clinigol cenedlaethol.

Angen gweithredu erbyn:

Amherthnasol.

Er gwybodaeth:

  • Prif weithredwyr.
  • Cyfarwyddwyr meddygol.
  • Cyfarwyddwyr gofal sylfaenol.

Anfonir gan:

Yr Athro Pushpinder Mangat,
Dirprwy Brif Swyddog Meddygol,
Gwasanaethau Iechyd.

Enwau cyswllt yn Llywodraeth Cymru:

Is-adran Ansawdd a Nyrsio,
Llywodraeth Cymru.
Ebost: wgclinicalaudit@llyw.cymru

Dogfennau amgaeedig:

Cynllun archwiliadau clinigol cenedlaethol ac adolygu canlyniadau GIG Cymru: treigl blynyddol rhaglen o 2025 i 2026.

Llythyr gweithwyr iechyd proffesiynol

Annwyl Gydweithwyr,

Mae'n ofynnol i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd Cymru gyfranogi'n llawn ym mhob archwiliad ac adolygiad canlyniadau a restrir yn y cynllun blynyddol ar gyfer archwiliadau clinigol cenedlaethol ac adolygu canlyniadau. Mae'r cylchlythyr hwn yn darparu copi o'r cynllun archwiliadau clinigol cenedlaethol ac adolygu canlyniadau ar gyfer 2025 i 2026, a fydd ar gael hefyd ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae archwiliadau clinigol cenedlaethol yn ffynhonnell wybodaeth bwysig sy'n anelu at fesur a meincnodi gwelliannau i wasanaethau gofal iechyd yng Nghymru. Defnyddir setiau data'r archwiliadau i asesu ansawdd ac effeithiolrwydd y gofal iechyd a ddarperir gan fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, a thrwy gyfuno hynny â'r camau gwella priodol, gallant wneud gwahaniaeth mawr i sut yr ydym yn darparu gwasanaethau. Mae'n hanfodol bod pob rhan o GIG Cymru yn cyfranogi'n llawn yn y rhaglen genedlaethol.

Mae'r cynllun yn rhoi manylion am rôl pob un ohonom wrth symud ymlaen â'r gwaith hwn, ac mae'n cynnwys rhestr o archwiliadau clinigol cenedlaethol ac adolygiadau o ganlyniadau y mae'n rhaid i sefydliadau gofal iechyd gymryd rhan lawn ynddynt wrth ddarparu eu gwasanaethau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y cynllun blynyddol, dylech e-bostio: wgclinicalaudit@llyw.cymru.

Yn gywir,

Yr Athro Pushpinder Mangat,
Y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol,
Gwasanaethau Iechyd.

Yours sincerely

Professor Pushpinder Mangat
Deputy Chief Medical Officer
Health Services