Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer 2023/24 Cynllun Ariannu’r Rhaglen Genedlaethol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Daclo’r Argyfwng Hinsawdd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y cefndir

Sefydlwyd Cynllun Ariannu’r Rhaglen Genedlaethol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Daclo’r Argyfwng Hinsawdd 2023/24 ('y Cynllun Ariannu') i ariannu prosiectau ym mhob rhan o'r sector gofal cymdeithasol sy'n cyfrannu at leihau allyriadau neu’n helpu'r sector i addasu i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn gwybodaeth bersonol am arweinydd/arweinyddion prosiectau enwebedig fel rhan o’r gwaith casglu data sy'n gysylltiedig â gweinyddu'r Cynllun Ariannu.

Ar ôl cael yr wybodaeth, Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar ei chyfer.   

Y data personol a gesglir yw enw a chyfeiriad e-bost gwaith arweinydd/arweinwyr y prosiect enwebedig.

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth?

Fel rheolydd data, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r wybodaeth sy’n dod i law, at y dibenion isod.  Mae'r dibenion hyn yn angenrheidiol er mwyn ein galluogi i gyflawni ein tasg gyhoeddus ac wrth arfer ein hawdurdod swyddogol.  

Caiff y data personol a gesglir eu defnyddio i ganiatáu i Lywodraeth Cymru weithio gydag arweinydd y prosiect/au i weinyddu'r Cynllun Ariannu, gan gynnwys at ddibenion cofnodi cynnydd a gweithgarwch cyfathrebu.  Mae'n bosibl y bydd astudiaethau achos ac erthyglau ar y prosiectau a ariennir yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ac ar wefannau sy'n gysylltiedig â gwaith y Rhaglen Genedlaethol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Daclo’r Argyfwng Hinsawdd.

 phwy rydym yn rhannu’ch gwybodaeth?

Ni fydd yr wybodaeth bersonol a gedwir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei rhannu heb ganiatâd arweinydd/arweinyddion y prosiect.

Am faint y byddwn yn cadw’ch gwybodaeth?

Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data hyn tan ddiwedd Cynllun Ariannu 2023/24 (30 Ebrill 2024) a bryd hynny bydd yr wybodaeth a gedwir yn cael ei harchifo yn unol â chyfnod cadw Llywodraeth Cymru. Ni fydd eich data personol yn cael eu defnyddio at unrhyw ddiben arall heb eich caniatâd.

Eich hawliau mewn perthynas â'ch gwybodaeth

Mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:

  • cael mynediad at y data personol yr ydym yn eu cadw amdanoch; 
  • ei gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny; 
  • yr hawl (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu; yr hawl i'ch data gael ei 'ddileu'; cyflwyno cwyn gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru a sut mae’n cael ei defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:

E-bost cyswllt polisi: IGC.ArgyfwngHinsawdd@llyw.cymru

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: www.ico.org.uk