Neidio i'r prif gynnwy

Roedd cynllun sydd wedi bod yn trawsnewid bywydau rhieni a theuluoedd ers dros ddegawd yn un o'r enillwyr yn y Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion blynyddol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae dysgwyr yn cael clod am eu gwaith caled a'u hymrwymiad i addysg mewn seremoni wobrwyo genedlaethol yn Abertawe, fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion.

Un o'r 11 enillydd yw'r Grŵp Dysgu Rhieni yn Ysgol Uwchradd Cathays yng Nghaerdydd. Mae wedi bod ar waith ers 2014 mewn ysgol lle mae 43% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a lle mae dros 65 o ieithoedd gwahanol yn cael eu siarad.

Mae'r cynllun yn grymuso menywod i gefnogi addysg eu plant a datblygu'n bersonol ac yn broffesiynol ar yr un pryd.

Mae tystiolaeth yn dangos bod gweithgareddau dysgu teuluol yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol i oedolion, yn enwedig wrth gael mynediad at gyflogaeth.

Ffrwyth hyn yn Ysgol Uwchradd Cathays yw canlyniadau trawiadol - rhyngddynt, mae dysgwyr yn ennill 120 o gymwysterau'r flwyddyn ar gyfartaledd, gyda bron i hanner yn mynd ymlaen i gael swydd.

Cyflwynir cyrsiau fel llythrennedd, rhifedd, sgiliau digidol, gofal plant, y celfyddydau creadigol a choginio mewn partneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru.

Mae rhieni sy'n dysgu wedi ennill sgiliau newydd drwy wirfoddoli gyda phrosiectau cymunedol lleol ac mewn clwb brecwast, sy'n sicrhau bod plant yn cael bwyd ac yn yr ysgol ar amser.

Dywedodd y tiwtor Christina Roy, sydd hefyd yn gydgysylltydd dysgu teuluol Ysgol Uwchradd Cathays:

Mae'n werth chweil helpu rhieni i gefnogi eu plant i ddysgu'n well a datblygu eu hunain i fod yn hyderus, yn fedrus ac yn hunan-ddibynnol.

Ar wahân i ennill cymwysterau i ddatblygu eu hunain, mae pob dysgwr yn teimlo eu bod wedi helpu ei gilydd i greu gwell cymuned i bawb. Trwy rannu ein gwybodaeth, ein profiad a'n positifrwydd, byddant yn tyfu.

Dywedodd un rhiant:

Rwyf wedi dilyn y cyrsiau i wella fy sgiliau ymarferol a chyfathrebu. Maen nhw wedi fy helpu i weithio gyda phlant sy'n un o fy nodau.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

Mae pawb sydd wedi ennill gwobr wedi dangos nad oes ffiniau i ddysgu – o ran oedran, cefndir, nac amgylchiadau. O Foo Seng yn dysgu Cymraeg er mwyn canu mewn côr i daith Osian o ddigartrefedd i’r llwyfan, mae’r straeon hyn yn ein hatgoffa mai addysg a datblygu sgiliau yw’r adnoddau mwyaf pwerus sydd gennym o hyd i greu cyfleoedd ac adeiladu cymunedau cryfach, mwy cynhwysol ledled Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i ddysgu, tyfu a chyrraedd eu potensial, ac mae enillwyr gwobrau Ysbrydoli! eleni yn enghreifftiau disglair o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn buddsoddi yn nyheadau pobl.

Mae dysgu teuluol yn elfen allweddol o ddull gweithredu Ysgolion Bro Llywodraeth Cymru lle mae ysgolion yn ymateb i anghenion eu cymuned, yn meithrin partneriaethau cryf â theuluoedd ac yn cydweithio â gwasanaethau eraill.

Mae £54 miliwn wedi'i fuddsoddi hyd yma, gan alluogi ysgolion bro ledled Cymru i agor eu cyfleusterau i deuluoedd a'r gymuned ehangach. Bydd £20 miliwn ychwanegol eleni yn helpu ysgolion i ddarparu gofodau ar gyfer gwasanaethau i gryfhau'r ymgysylltiad â dysgwyr a'u teuluoedd.