Neidio i'r prif gynnwy

Nod yr ymchwil hwn oedd cael mewnwelediad i mewn i effeithiolrwydd y cynllun.

Canfyddiadau allweddol

  • Ar y cyfan, roedd cyfranogwyr ymchwil yn bositif am y cynllun. Yn gyffredinol, wnaeth cyfranogwyr teimlo bod unrhyw heriau a brofwyd ganddynt o ganlyniad i'r cynllun wedi’u gorbwyso gan eu cryfderau.
  • Y cryfderau allweddol a nodwyd gan fusnesau bwyd oedd: yr allbynnau a gyflawnwyd o ganlyniad i'r buddsoddiad cyfalaf; y gefnogaeth a ddarperir gan swyddogion llywodraeth a swyddogion a ariennir gan y llywodraeth (gan gynnwys swyddogion cymorth busnes); a'r effeithiau uniongyrchol y mae busnesau wedi'u priodoli i'r arian grant. Wnaeth yr effeithiau uniongyrchol yma cynnwys mwy o gyflogaeth, cyfleoedd hyfforddi a chynaliadwyedd amgylcheddol gwell. Cyfrannodd yr agweddau hyn at boblogrwydd y cynllun; teimlad cyfranogwyr ymchwil oedd ei fod yn llenwi bwlch o ran y cymorth sydd ar gael i fusnesau bwyd a diod Cymru.
  • Nodwyd meysydd ar gyfer gwella'r cynllun hefyd gan gyfranogwyr ymchwil. Y prif faterion a nodwyd oedd hyd ac anhyblygrwydd y prosesau ymgeisio a hawliadau, ac anghysondebau o ran cyfathrebu â swyddogion Llywodraeth Cymru.
  • Er gwaethaf yr heriau gyda'r cynllun a nodwyd gan gyfranogwyr ymchwil, teimlai'r mwyafrif ei fod wedi bod o fudd mawr i'r busnesau hynny sy'n derbyn cymorth. Yn fwy cyffredinol, y farn oedd bod y cynllun wedi cael effaith gadarnhaol ar sector bwyd a diod Cymru. Hoffai llawer o gyfranogwyr weld buddsoddiad yn y dyfodol mewn mathau eraill o gymorth, fel cyfleoedd hyfforddi yn ymwneud â sgiliau busnes.

Adroddiadau

Adolygiad o’r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Adolygiad o’r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 609 KB

PDF
609 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd: hysbysiad preifatrwydd ar gyfer rheolwyr busnesau bwyd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 311 KB

PDF
311 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd: hysbysiad preifatrwydd ar gyfer cyfweliadau â derbynwyr , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 371 KB

PDF
371 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd: hysbysiad preifatrwydd ar gyfer arolwg ar-lein , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 317 KB

PDF
317 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Kate Mulready

Rhif ffôn: 0300 025 1481

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.