Neidio i'r prif gynnwy

Mae amodau a thelerau’r Grant trwy’r Cynllun Grant Buddsoddi Gwledig yn cael eu rhestru isod.  Darllenwch nhw cyn derbyn y contract.

Pan fydd Gweinidogion Cymru’n cynnig contract o dan y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig, gwneir hynny bob amser o dan yr amodau canlynol:

i)    Rhaid derbyn y contract grant a gynigir trwy’r botwm glas ar RPW Ar-lein o fewn 30 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr sy’n cynnig y contract.
ii)    Mae’r Contract yn cael ei gynnig ar sail y datganiadau y gwnaethoch chi neu’ch cynrychiolwyr ar y cais a’r dogfennau canlynol:

a.    Cynllun Busnes
b.    3 dyfynbris ar gyfer pob eitem buddsoddi y gwnaethoch ei dewis ar y cais llawn
c.    3 blynedd o gyfrifon wedi’u hardystio
d.    Cydsyniadau cynllunio

1. Amodau a Thelerau Cyffredinol y Grant

a.    Ni fydd y cyfnod prosiect buddsoddi fel arfer yn para fwy na 18 mis o ddiwrnod cynnig y contract.

b.    Gwneir y dyfarniad ar sail datganiadau a gwnaethoch chi neu'ch cynrychiolwyr ar y ffurflen gais a'r ohebiaeth ddilynol.

c.    Mae gwneud datganiadau ffug neu gamarweiniol yn drosedd.

d.    Rhaid i chi beidio â dechrau unrhyw waith ar y prosiect heb gael awdurdod ysgrifenedig yn gyntaf i wneud hynny gan Lywodraeth Cymru.

e.    Rhaid i chi gadw at y gofynion a nodir yng Nghontract y cynllun.

f.    Rhaid cyflwyno hawliadau drwy ffurflen gais ar-lein RPW a'u hategu gan yr holl dystiolaeth ddogfennol fel sy'n ofynnol gan y cynllun.

g.    Rhaid cyflwyno hawliadau yn unol â'r amserlen a nodir yn y proffil cyflawni. Ni ddylech wyro oddi wrth amseriad a gwerth cytunedig eich hawliadau heb gytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.

h.    Rhaid cyflwyno anfonebau ategol a thystiolaeth o daliadau i gefnogi eich cais a thrwy eich cyfrif RPW Ar-lein.

i.    Rhaid cyflwyno'r hawliad cyntaf heb fod yn hwyrach na chwe mis o'r dyddiad y dyfernir y Contract. Os na wneir yr hawliad cyntaf o fewn y cyfnod hwn, bydd y cynnig grant yn cael ei derfynu'n awtomatig.

j.    Rhaid i chi gydymffurfio â'r rheolau ar wariant cymwys fel y nodir yn Nodyn Cyfarwyddyd y Cynllun.

k.    Rhaid i chi roi cadarnhad na cheisiwyd unrhyw gyllid cyhoeddus arall (boed o ffynonellau'r UE neu'r DU) ar gyfer yr un costau.

l.    Rhaid i chi fodloni unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol a osodir o dan gyfraith yr UE a'r DU, gan gynnwys deddfwriaeth hylendid.

m.    Os ceir arian cyhoeddus arall o'r UE neu'r DU i gefnogi costau prosiect, byddant yn cael eu disgowntio.

n.    Ni ellir gwneud unrhyw newidiadau i'r prosiect, gan gynnwys lleoliad y gweithgaredd, heb gymeradwyaeth ysgrifenedig Llywodraeth Cymru.

o.    Ni ddylid gwaredu, trosglwyddo na gwerthu unrhyw offer a/neu adeiladau a brynir gyda chymorth grant heb ganiatâd ysgrifenedig Llywodraeth Cymru ymlaen llaw yn ystod y prosiect ac am bum mlynedd o ddyddiad diwedd y prosiect.

p.    Dylid cwblhau prosiectau o fewn yr amserlen y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru. Ni chewch newid hyn heb gytundeb ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru.

q.    Rhaid i chi gadarnhau nad oes yr un o'r eitemau a gynhwysir yn y cais yn eitemau a gafwyd yn lle eitemau eraill trwy hawliad yswiriant.

r.    Rhaid i unrhyw gyhoeddusrwydd a roddir i'r prosiect gyfeirio at y rhan a chwaraeir gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru wrth ei ariannu.

s.    Rhaid cadw cofnodion sy'n ymwneud â gweithgarwch y busnes a chyflawni'r prosiect, gan gynnwys yr holl anfonebau gwreiddiol a dogfennau cysylltiedig eraill megis tendrau neu ddyfynbrisiau cystadleuol, tan 2030.

t.    Rhaid i chi ganiatáu i gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru, y Comisiwn Archwilio a Llys Archwilwyr Ewrop archwilio'r prosiect.  Ar gais, rhaid i chi roi gwybodaeth a/neu fynediad iddynt at ddogfennau gwreiddiol mewn perthynas â'r prosiect.

u.    Mae'r wybodaeth a ddarperir yn y cais ac unrhyw ddogfennau ategol yn ddarostyngedig i ofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

v.    Dylech fod yn ymwybodol, os byddwch yn llwyddiannus, fod Llywodraeth Cymru a'r CE yn cadw'r hawl i gyhoeddi enw’ch busnes neu'ch cwmni, faint o grant a ddyfarnwyd i chi a chrynodeb o'ch prosiect.

w.    Mae'r wybodaeth a ddarperir yn y cais yn ddarostyngedig i'r Hysbysiad Preifatrwydd sydd ar gael ichi ei weld yng nghanllawiau’r cynllun, yma ar gyfer Canllawiau Bwyd yr RBIS ac yma ar gyfer Canllawiau Anamaethyddol yr RBIS. Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd yn egluro sut y mae Llywodraeth Cymru yn prosesu ac yn defnyddio eich data personol a’ch hawliau o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).

2. Newidiadau i'r contract hwn

a.    Ni ddaw unrhyw newid nac amrywiad i amodau a thelerau’r cynnig grant fel y’u nodwyd yn y contract i rym oni fydd rhoddwr y grant wedi eu cadarnhau yn ysgrifenedig.

b.    Mae rhoddwr y grant yn cadw’r hawl i newid amodau a thelerau’r cynnig grant a nodir yn y contract drwy roi rhybudd ysgrifenedig i chi.

3. Newidiadau i'r prosiect

a.    Os gwneir unrhyw newid i’r prosiect, mae’n rhaid i roddwr y grant gydsynio yn ysgrifenedig i’r newid. Os byddwch yn ein hysbysu bod eich Prosiect wedi newid mewn unrhyw fodd, byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych sut y byddwn yn trin y newidiadau hynny.

b.    Mae newidiadau yn cynnwys unrhyw newid i natur y Prosiect mewn unrhyw ffordd, er enghraifft newidiadau sylweddol dros oes y Prosiect yn y categorïau gwariant unigol neu’r targedau mesuradwy a nodir yng Nghynllun y Prosiect, y Cynllun Busnes neu’r Proffil Cyflawni; unrhyw newid i’r defnydd a wneir o’r Prosiect, y modd y caiff ei ariannu neu ei berchnogaeth a/neu unrhyw newid i’r amserlen ar gyfer cwblhau’r prosiect.

c.    Os methir â hysbysu rhoddwr y grant, gall hyn arwain at derfynu’r grant ac efallai y bydd yn ofynnol i chi ad-dalu rhan neu’r cyfan o unrhyw grant a dalwyd. Ni thelir grant mewn perthynas ag unrhyw newidiadau i’r prosiect nes bydd y newidiadau hynny wedi cael eu cymeradwyo gan roddwr y grant.

d.    Er y bydd ceisiadau i newid prosiectau yn parhau i gael eu derbyn a'u hystyried ni ddylech gymryd yn ganiataol y byddant yn cael eu cymeradwyo, ac yn arbennig os yw'r cais yn golygu trosglwyddo cyllid grant dynodedig i flynyddoedd ariannol yn y dyfodol. Mae hi’n annhebygol y caiff unrhyw grant na chafodd ei hawlio yn y flwyddyn ariannol a nodir yn eich Proffil Cyflawni cytunedig gael ei gario drosodd i flynyddoedd ariannol dilynol. Mae hyn oherwydd lefel yr ymrwymiad cyfredol a’r dyraniad o gyllideb bresennol y RhDG.

e.    Oni bai y bu Amgylchiadau Eithriadol / Force Majeure, bydd y grant ariannu a ddyrennir i'ch prosiect ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol yn cael ei golli oni bai fod gweithgarwch y prosiect wedi’i gynnal a bod y gwariant wedi’i ysgwyddo (wedi ei dalu o gyfrif banc eich busnes) erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, h.y. 31 Mawrth.

f.    Mae’n rhaid i’r ymgeisydd hysbysu rhoddwr y grant cyn gynted ag y bo modd os bydd newid sylweddol i’r prosiect o fewn 5 mlynedd i Ddyddiad Gorffen y Contract a bod y newid hwnnw:
(i)    yn effeithio ar ei natur neu ar yr amodau ar gyfer ei gyflawni, neu yn rhoi mantais ormodol i gwmni neu gorff cyhoeddus;
(ii)    yn digwydd oherwydd newid yn natur perchnogaeth rhyw eitem o’r seilwaith neu oherwydd dod â adleoli gweithgaredd cynhyrchiol i ben neu ei symud.
 

4. Talu'r grant

a.    Telir y grant yn unol â'r telerau ac amodau.  Os na allwch gyflwyno ffurflen hawlio ar amser neu ddangos y cynnydd a wnaed yn erbyn targedau, gall y taliadau grant gael eu gohirio hyd nes i’r rhain gael eu cyflwyno. 

b.    Gall rhoddwr y grant leihau'r taliad grant terfynol os yw'r cyfanswm a gaiff ei dalu gennych ar y Prosiect yn llai na'r cyfanswm a amcangyfrifwyd a/neu os bydd newid ym mhroffil ariannu'r Prosiect.

c.    Heb ragfarnu unrhyw ddarpariaeth arall yn yr Amodau a Thelerau hyn neu’r Contract hwn, caiff rhoddwr y grant atal unrhyw un neu'r cyfan o'r taliadau grant a/neu ei gwneud yn ofynnol i'r grant neu ran ohono gael ei ad-dalu os yw o'r farn nad ydych wedi cydymffurfio â'r canlynol:

(i)    unrhyw un neu ragor o'r telerau ac amodau;

(ii)    unrhyw rwymedigaeth gan y Gymuned Ewropeaidd sy'n berthnasol i chi neu'r Prosiect;

(iii)    os ydych wedi cymryd camau digonol i ymchwilio a datrys unrhyw afreoleidd-dra a gofnodwyd.

d.    Rhaid ad-dalu unrhyw ordaliad o'r grant i roddwr y grant ar gais gennym ni, neu os byddwch yn dod yn ymwybodol bod y grant wedi'i ordalu, pa un bynnag sy'n digwydd gyntaf.

e.    Bydd rhoddwr y grant yn gwneud pob ymdrech i dalu hawliadau'n brydlon ond nid yw'n derbyn unrhyw atebolrwydd mewn perthynas â cholled y gellir ei briodoli i oedi wrth dalu hawliadau neu os caiff y grant ei atal, ei leihau neu ei ganslo.

5. Cyfrifyddu a chadw cofnodion

a.    Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd gydymffurfio ag Erthygl 7 Rheoliad 1306/2013 CE sydd yn gwneud darpariaeth fel y cynhelir system weinyddu a systemau rheoli mewnol ac Erthygl 125 (4) (b), Rheoliad 1303/2013 CE sydd yn mynnu bod yr ymgeisydd yn cynnal naill ai system gyfrifyddu ar wahân neu god cyfrifyddu digonol ar gyfer yr holl drafodion perthnasol i’r gweithrediad.

b.    Mae’n rhaid i’r cais gydymffurfio ag Erthygl 140 Rheoliad 1303/2013 CE sydd yn darparu bod yr holl ddogfennau cefnogol ynghylch gweithgareddau a gwariant y mae’r grant yn eu cefnogi, ar gael i ni, i’r Comisiwn Ewropeaidd ac i Lys Archwilwyr Ewrop. Mae’n rhaid i’r ymgeisydd sicrhau y cedwir yr holl ddogfennau cefnogol mewn fformat derbyniol, gan gynnwys dogfennau electronig a gedwir, o fewn ystyr rheolau’r gymuned. Mae dogfennau yn cynnwys cofnodion am gynnyrch a chanlyniadau.

c.    Mae’n rhaid i’r ymgeisydd gydymffurfio hefyd â rheoliad 9, o Reoliadau Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 (Rhif 3222 (Cy.327)) sydd yn nodi’r gofynion mewnol mewn perthynas â chadw dogfennau. Dylid cadw dogfennau gwreiddiol sy’n ymwneud â rhoi’r Prosiect ar waith a’i ariannu, at ddibenion archwilio, am o leiaf saith mlynedd  ar ôl dyddiad terfynu’r Contract fel y nodir yn y contract hwn.

6. Archwilio

a.    Os bydd rhoddwr y grant yn gofyn, mae’n rhaid i ymgeiswyr gyflwyno copïau o’r cyfrifon blynyddol wedi’u harchwilio cyn pen 6 mis ar ôl diwedd eu blwyddyn ariannol. Rhaid i’r nodiadau i’r cyfrifon restru’n benodol y derbyniadau grant.

b.    Bydd peidio â chyflwyno ffurflen hawlio, ar amser, yn arwain at beidio â thalu grant. Rhaid cyflwyno hawliadau terfynol erbyn dyddiad diwedd y contract.

7. Monitro’r Prosiect

a.    Bydd cynnydd y prosiect yn cael ei fonitro yn erbyn y targedau yn y Proffil Cyflawni y cytunwyd arno. Bydd yn ofynnol i chi roi adroddiadau ar y cynnydd yn erbyn y targedau hyn. Fodd bynnag, rhaid ichi gadw at yr amserlen y byddwn wedi’i phennu ar gyfer unrhyw gais am wybodaeth ym mha ffurf bynnag, ynghylch hynt y Prosiect.

b.    Defnyddir hefyd wybodaeth a gesglir trwy gyfrwng ymweliadau swyddogol gan gynnwys, mewn rhai achosion, gyfrifon wedi’u harchwilio, er mwyn cadarnhau cynnydd y prosiect. Os bydd tuedd negyddol neu anghysondeb yn datblygu ar gyfer prosiect penodol, bydd rhoddwr y grant yn ymchwilio i’r rheswm am hyn ac yn gweithredu os mai dyna sy’n briodol. Os yw pethau’n ddigon difrifol, gall hyn gynnwys atal taliadau grant a/neu gymryd y grant yn ôl.

8. Hawliau Archwilio a Dogfennaeth

a.    Wrth asesu prosiect yn barhaus, mae’n bosibl y bernir bod angen ymweld â safle’r prosiect i’w arolygu ac i weld beth yw statws y prosiect o’i gymharu â’r wybodaeth a roddwyd, neu i archwilio cofnodion i’r un perwyl, neu i wybod  beth yw swm y cymorth ariannol sydd yn daladwy neu y gellir ei adennill os bydd swm o’r fath.

b.    Heb ragfarnu yn y contract hwn, mae gan roddwr y grant, Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru, y Comisiwn Archwilio, y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, y Comisiwn Ewropeaidd a Llys Archwilwyr Ewrop neu eu cynrychiolwyr, yr hawliau a ganlyn:

  • hawl i arolygu’r prosiect a mynnu cael pa wybodaeth bellach bynnag am y prosiect y maent yn gweld yn dda i’w chael;
  • hawl i gael y ddogfennaeth wreiddiol sy’n berthnasol i’r prosiect, gan gynnwys y cyfrifon gwreiddiol os gofynnir amdanynt.

c.    Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion llawn ar ffurf y cytunir arni gyda rhoddwr y prosiect er mwyn darparu trywydd archwilio digonol. Mae’n rhaid cadw dogfennau gwreiddiol sy’n ymwneud â rhoi’r prosiect hwn ar waith a’i ariannu, tan ddyddiad gorffen y contract fel a nodir yn y Contract.

9. Dyddiad Gorffen y Contract

a.    Rhaid cyflwyno pob hawliad i Lywodraeth Cymru yn unol â'r proffil cyflawni y cytunwyd arno ac o fewn 18 mis i'w gymeradwyo neu erbyn 30 Mehefin 2023 pa un bynnag yw'r un cynharaf. Rhaid cwblhau holl weithgarwch y prosiect mewn pryd er mwyn i gyfrifon a chofnodion gael eu harchwilio a rhaid i hawliadau gael eu paratoi a'u cyflwyno erbyn y dyddiad hwn.

10. Atal a/neu ad-dalu grant

a.    Bydd yn rhaid i roddwr y grant atal y grant a/neu, os oes taliad wedi’i wneud, bydd yn rhaid i’r ymgeisydd ad-dalu’r grant os gofynnir amdano, yn llawn neu yn rhannol-

(i)    os bydd gwiriad mewnol gan roddwr y grant, Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru, y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, archwilwyr a benodwyd gan y Comisiwn Archwilio, y Comisiwn Ewropeaidd neu’r Llys Archwilwyr yn canfod amgylchiadau lle bo’n briodol dad-ymrwymo’r grant yn llawn neu’n rhrannol neu os bydd y Comisiwn mewn rhyw fodd arall yn mynnu bod y grant yn cael ei atal, ei leihau, ei ganslo neu ei adennill;

(ii)    os bydd rhoddwr y grant a/neu Lywodraeth Cymru yn ystyried bod y cymorth yn torri rheolau Cymorth Gwladwriaethol y Gymuned Ewropeaidd neu os bydd Awdurdodau’r Gymuned Ewropeaidd o’r farn na ddylasid talu unrhyw grant a dalwyd; neu os bydd penderfyniad yn Llys Cyfiawnder Ewrop yn golygu bod yn rhaid atal, lleihau, canslo neu adennill taliad;

(iii)    os gordalwyd grant;

(iv)    os na ddefnyddir grant at ddibenion y Prosiect;

(v)    os bydd ffactor y cyfrifwyd y grant gwreiddiol ar ei sail wedi newid;

(vi)    os oes gan roddwr y grant sail resymol i gredu bod dyfodol y Prosiect mewn perygl;

(vii)    os ceir bod gwybodaeth a ddarparwyd yn y cais am grant neu mewn gohebiaeth ar ôl hynny neu ohebiaeth i gefnogi’r cais, yn anghywir, yn gamarweiniol neu’n anghyflawn;

(viii)    os yw’r cynnydd tuag at gwblhau’r Prosiect yn anfoddhaol;

(ix)    os yw’r cynnydd tuag at gyrraedd y targedau disgwyliedig, y manylir arnynt yn y Proffil Cyflawni, yn anfoddhaol.

11. Hawliadau Anghywir a Chosbau

a.    Yr ymgeisydd sy’n gyfrifol am gyflwyno hawliadau cywir; bod yr hawliad ar gyfer gwariant wedi'i dalu (mae'r arian wedi mynd o'ch cyfrif banc) yn unig; bod yr holl eitemau a chostau yn gymwys a bod yr hawliad ar amser.

b.    Os yw'r hawliad yn anghywir, bydd eich hawliad yn cael ei leihau i'r swm sy'n gymwys a bydd y grant sydd i'w dalu yn cael ei gyfrifo yn unol â hynny. Fodd bynnag, os yw'r gwall yn fwy na 10% o'r cyfanswm a hawlir, yna bydd cosb ariannol yn cael ei rhoi.

c.    Caniateir i'r gosb, o dan rai amgylchiadau, gael ei chynyddu a gellid adennill yr holl grant a dalwyd hyd yma. Os bydd hynny'n digwydd, ni fyddwch yn gallu cyflwyno cais o dan y cynllun yng ngweddill y flwyddyn EAFRD bresennol neu ar gyfer y flwyddyn EAFRD ganlynol.

12. Terfynu

a.    Os nad yw’r hawliad cyntaf yn cael ei wneud cyn pen chwe mis o ddyddiad cynnig y contract, bydd y cynnig grant yn cael ei derfynu’n awtomatig.

b.    Ac eithrio dan yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff 12a), mae rhoddwr y grant yn cadw’r hawl i derfynu’r cytundeb hwn unrhyw bryd drwy roi pedwar ar ddeg (14) o ddiwrnodau gwaith o rybudd ysgrifenedig i’r ymgeisydd. Pan roddir rhybudd, bydd y cytundeb yn cael ei derfynu wedi i gyfnod y rhybudd ddod i ben.

c.    Lle bo unrhyw gymhorthdal wedi cael ei dalu, gellir adennill drwy ofyn amdano swm sy’n cyfateb i’r cyfan o’r taliad hwnnw neu unrhyw ran ohono:

(i)       lle gwrthodwyd caniatáu i swyddogion a awdurdodwyd gan roddwr y grant neu’r sawl y cyfeirir atynt ym mharagraff 8b) fynd ar safle’r prosiect neu i weld unrhyw gofnodion 
    
(ii)        lle canfyddir bod unrhyw wybodaeth a ddarparwyd gan yr ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd yn anwir neu’n gamarweiniol mewn rhyw fodd sylweddol;
    
(iii)    lle bo’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd yn fwriadol neu drwy esgeulustod yn gyfrifol am afreoleidd-dra sylweddol wrth gyflawni’r cytundeb a thrwy dwyll, llygredd neu unrhyw weithred neu ddiffyg gweithred anghyfreithlon arall o eiddo’r ymgeisydd, wedi peri i Lywodraeth Cymru a/neu yr Undeb Ewropeaidd ddioddef colled ariannol. 
    
(iv)    lle bo’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd, o fewn y cyfnod a bennwyd gan roddwr y grant, heb ddarparu unrhyw wybodaeth y gofynnodd rhoddwr y grant amdani;
    
(v)        lle bu newid sylweddol yn natur, graddfa, costau neu amseriad y prosiect;
    
(vi)    lle bo gan roddwr y grant sail resymol i gredu nad oedd neu nad yw y prosiect yn cael ei gyflawni’n briodol gyda’r bwriad o fodloni amcanion y prosiect yn unol â’r hyn a nodwyd yn y ffurflen gais;
    
(vii)    lle bo oedi afresymol wedi digwydd neu yn digwydd gyda’r prosiect neu lle bo’n annhebygol y bydd yn cael ei gwblhau erbyn y dyddiad cwblhau a nodwyd yn y Contract a’r Proffil Cyflawni y cytunwyd arno;
    
(viii)    lle nad yw patrwm y gwariant ond wedi’i gwblhau’n rhannol o fewn y terfynau amser a nodwyd yn y Contract a’r Proffil Cyflawni y cytunwyd arno;
    
(ix)    lle bo gwiriad mewnol gan roddwr y grant, Archwilydd Cyffredinol Cymru, y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, archwilwyr a benodwyd gan y Comisiwn Archwilio, y Comisiwn Ewropeaidd neu’r Llys Archwilwyr yn canfod amgylchiadau lle bo’n briodol  dad-ymrwymo’r grant yn llawn neu’n rhannol neu os bydd y Comisiwn mewn rhyw fodd arall yn mynnu bod Cymorth EAFRD yn cael ei atal, ei leihau, ei ganslo neu ei adennill; 
    
(x)     lle bo rhoddwr y grant yn ystyried bod y cymorth yn torri rheolau Cymorth Gwladwriaethol y Gymuned Ewropeaidd neu os bydd Awdurdodau’r Gymuned Ewropeaidd o’r farn na ddylasid talu unrhyw grant a dalwyd; neu os bydd penderfyniad yn Llys Cyfiawnder Ewrop yn golygu bod yn rhaid atal, lleihau, canslo neu adennill taliad;  

(xi)    lle bo’r Prosiect yn ystod ei oes economaidd yn cael ei newid yn sylweddol, a ddiffinnir fel cael ei ddefnyddio at ddibenion heblaw y rhai a enwir yn y cais neu os bydd ei berchennog yn newid. Yr oes economaidd yw’r cyfnod hyd at daliad olaf y grant neu gyflawni’r targedau olaf o blith y rhai a enwir yn y Proffil Cyflawni neu 5 mlynedd ar ôl dyddiad gorffen y prosiect pa un bynnag sydd hwyraf;

(xii)    lle bo unrhyw rai o’r pethau isod yn digwydd o fewn y cyfnod sy’n dechrau ar ddyddiad y contract hwn ac yn ystod oes economaidd y Prosiect, a rhaid rhoi gwybod i roddwr y grant am hynny cyn gynted ag y bo’r modd:

(xiii)    bod yr ymgeisydd yn peidio â bod yn is-gwmni i unrhyw gwmni y mae’n is-gwmni iddo ar ddyddiad y contract hwn neu fod yr ymgeisydd yn mynd yn is-gwmni i unrhyw gwmni nad yw’n is-gwmni iddo ar ddyddiad y contract hwn. Dehonglir y gair “is-gwmni” yn unol â’r diffiniad yn Adran 736 Deddf Cwmnïau 1985 fel y’i hamnewidiwyd gan Adran 11159 Deddf Cwmnïau 2006;

(xiv)    bod yr ymgeisydd yn destun cynnig ar gyfer trefniant gwirfoddol neu y dygwyd deiseb ar gyfer Gorchymyn Gweinyddu neu ddeiseb ar gyfer Gorchymyn Dirwyn i Ben yn ei erbyn neu ei fod yn gwneud penderfyniad i ddirwyn i ben neu yn gwneud unrhyw gyfansoddiad, trefniant, trawsgludiad neu aseiniad er budd ei gredydwyr neu yn honni gwneud hynny, neu os penodir derbynnydd neu unrhyw unigolyn arall mewn perthynas â’i ymgymeriad neu unrhyw eiddo y mae’n berchen arno. 

d.    Pan derfynir y cytundeb, rhaid i’r ymgeisydd: 

(i)    ad-dalu cyn pen 28 diwrnod gwaith y cyfan neu ran o unrhyw grant a dalwyd nad yw ar ddyddiad terfynu’r cytundeb wedi cael ei wario at ddibenion cymeradwy 
(ii)    cydymffurfio â darpariaethau unrhyw hawliad a wna rhoddwr y grant am ad-daliad. 

13. Llog

Lle penderfynir adennill grant, mae llog yn daladwy ar y swm hwnnw ar gyfradd o un y cant uwchlaw cyfradd sylfaenol Banc Lloegr mewn perthynas â phob diwrnod o'r cyfnod o'r diwrnod y rhoddwyd y cymorth ariannol tan y diwrnod y caiff y swm ei adennill. Cyfeiriwch at reoliad 12 o Reoliadau 2016 ar gyfer y diffiniad o 'gyfradd sylfaenol Banc Lloegr'.

14. Ychwil a Gwerthuso

a.    Er mwyn mesur ei effeithiolrwydd, mae’n rhaid i bob cymorth a roddir gan gronfeydd Ewrop fod yn destun ymchwil a gwerthuso. Efallai y bydd Llywodraeth Cymru, neu gontractwyr annibynnol yn gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru, yn gofyn i chi gydweithredu â hwy er mwyn cynnal ymchwil o’r fath. Disgwylir i chi gydymffurfio â phob cais rhesymol o’r fath. Yn benodol, mae’n rhaid i chi roi i roddwr y grant, Llywodraeth Cymru (neu’r contractwr sy’n cynnal yr astudiaeth) fanylion sylfaenol am y prosiect os byddant yn gofyn.

Bydd pob gwybodaeth yn cael ei thrin yn hollol gyfrinachol; ni fydd modd adnabod prosiectau na buddiolwyr unigol yng nghanfyddiadau astudiaethau ymchwil a gwerthuso ac ni fydd prosiectau unigol yn cael eu cymharu.

15. Rhestr Asedau

Mae’n rhaid i’r ymgeisydd sefydlu a chynnal rhestr o’r holl asedau sefydlog sy’n cael eu prynu, eu hadeiladu neu eu gwella yn llwyr neu yn rhannol drwy ddefnyddio’r grant. Diffinnir ased fel eitem nas gorffennir ei defnyddio cyn pen 12 mis ac na fwriedir ei gwerthu cyn diwedd ei hoes fuddiol. Gellir gadael allan asedau sy’n werth llai na £10,000.

Dylai’r rhestr ddangos:

  • y dyddiad prynu;
  • disgrifiad o’r ased;
  • y pris a dalwyd net heb TAW adferadwy;
  • swm a dalwyd o’r grant;
  • lleoliad gweithredoedd yr eiddo;
  • rhifau cyfres neu adnabod;
  • lleoliad yr ased;
  • y dyddiad gwaredu; a 
  • gwerthu derbyniadau net heb TAW.

Ni chaniateir gwaredu, trosglwyddo nac afradloni unrhyw offer a/neu ased a brynir gyda chymorth y grant cyn pen 5 mlynedd i Ddyddiad Gorffen y Contract heb i roddwr y grant roi caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw. 

16. Gwariant anghymwys

Mae’n rhaid i’r ymgeisydd gydymffurfio â’r rheolau ar wariant anghymwys yn unol â’r manylion yn y nodyn perthnasol yn Nodiadau Cyfarwyddyd y Cynllun.

17. Amodau Arbennig

Mae’n rhaid i’r ymgeisydd gydymffurfio ag unrhyw amodau arbennig a restrir yn y contract; heblaw hynny nid oes unrhyw amodau arbennig yn gymwys.

18. Gofynion y Comisiwn Ewropeaidd

Dyma grynodeb o reoliadau, rheolau a chyfarwyddebau’r CE sy’n berthnasol i’r grant hwn. Efallai y cânt eu diwygio o bryd i’w gilydd. Dylai’r ymgeisydd geisio cymorth cyfreithiol ei hun mewn perthynas â hwy.  

 

RHEOLIADAU DATBLYGU GWLEDIG EWROP

  • Rheoliad y Comisiwn 1303/2013 – darpariaethau cyffredin ar gyfer y cronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd
  • Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 1306/2013 dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 ynghylch ariannu’r polisi amaethyddol cyffredin
  • Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 1305/2013 dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 ynghylch cymorth ar gyfer datblygu gwledig gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig
  • Rheoliad y Comisiwn (CE) Rhif 809/2014 dyddiedig 17 Gorffennaf 2014 yn pennu rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor 1306/2013
  • Rheoliad y Comisiwn (CE) Rhif 808/2014 dyddiedig 17 Gorffennaf 2014 yn pennu rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor 1305-2013
  • Rheoliad y Comisiwn (CE) Rhif 1998/2006 dyddiedig 15 Rhagfyr 2006 ynghylch cymhwyso Erthyglau 87 ac 88 y Cytuniad i gymorth de minimis.

19. Rheolau cymorth gwladwriaethol y gymuned Ewropeaidd

Mae grantiau a ddarperir o dan y cynllun hwn yn gymorth sy'n dod o fewn cwmpas y fframweithiau cymorth gwladwriaethol. Mae Erthyglau 107, 108 a 109 o'r TFEU yn gymwys i gymorth a roddir ar gyfer y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig - BWYD – Nodiadau Cyfarwyddyd Datblygu o dan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.

Mae grantiau a ddarperir o dan y cynllun hwn yn gymorth cydymffurfio gan eu bod yn parchu'r amodau a nodir yn Rheoliad 651/2014 y Comisiwn (Rheoliad Eithrio Bloc Cyffredinol) (SA.60339 - Cynllun Cymorth Buddsoddi Cyfalaf a Chymorth Cyflogaeth Llywodraeth Cymru).

Egwyddorion

  • Mae gan y Comisiwn Ewropeaidd bwerau sylweddol i fonitro, rheoli a chyfyngu ar fathau a lefelau’r cymorth y bydd yr holl Aelod-wladwriaethau’n ei roi i’w diwydiannau. Mae egwyddorion Cymorth Gwladwriaethol i’w gweld yn Erthyglau107,108 a 109 y Cytuniad “Treaty of the Functioning of the European Union”(TFEU). Mae arweiniad manwl i reolau Cymorth Gwladwriaethol i’w cael yn “European Community State Aids: Guidance for all Departments and Agencies” a gyhoeddwyd gan yr Adran Masnach a Diwydiant ym mis Mawrth 2001 ac yn y gwahanol fframweithiau a chanllawiau a gyhoeddwyd gan y Comisiwn ar gyfer cymhwyso’r rheolau. Mae’n rhaid i’r Comisiwn gael ei hysbysu am bob Cymorth Gwladwriaethol (heblaw cymorth a ddaw o dan ddarpariaethau de minimis neu eithriad bloc – gweler isod) ac mae’n rhaid i’r Comisiwn ei gymeradwyo cyn iddo gael ei roi ar waith neu fel arall mae’n anghyfreithlon.
     
  • Mae’n ofynnol i ymgeiswyr gadw at unrhyw gyfyngiadau sy’n berthnasol i Gymorth Gwladwriaethol. Ni thelir unrhyw grant ar gyfer y prosiect nes i roddwr y grant gael ar ddeall fod y Comisiwn wedi cymeradwyo’r prosiect o dan y drefn ar gyfer hysbysu ynghylch cymorth gwladwriaethol yn unol ag Erthygl 108(3) y TFEU, neu hyd nes bydd rhoddwr y grant wedi dod i’r farn nad oes angen hysbysiad o’r fath. Bydd y sawl sy’n derbyn cymorth anghyfreithlon mewn perygl o orfod ad-dalu’r cymorth ynghyd â llog os canfyddir bod y prosiect wedi torri rheolau Cymorth Gwladwriaethol ac mae perygl hefyd y bydd trydydd partïon yn mynd i gyfraith i gael iawndal. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch â Llywodraeth Cymru.

Hysbysiad

  • Os bydd Prosiect yn defnyddio gwariant cyhoeddus (gan gynnwys arian datblygu gwledig) yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol er mwyn darparu buddiannau gyda chymhorthdal i’r sector preifat, ee grantiau i gwmnïau ar gyfer buddsoddi, hyfforddi ac ymgynghoriaeth fusnes am gost ratach, bydd yn rhaid fel rheol i’r cymorth a ddarperir i’r prosiect gydymffurfio â rheolau Cymorth Gwladwriaethol.
  • Dyfernir y grant hwn yn unol â’r sicrwydd ynghylch Cymorth Gwladwriaethol a ddisgrifir yn y nodyn perthnasol yn Nodiadau Cyfarwyddyd y Cynllun.

20. Gofynion mewn perthynas â Chyhoeddusrwydd

Datganiadau i’r Wasg a chyhoeddusrwydd ynglŷn â gweithgareddau’r prosiect

i)    Yn unol ag Erthygl 115 ac Atodiad XII, Rheoliad y Cyngor 1303/2013, mae’n rhaid i’r ymgeisydd pan fydd yn ymgymryd â chyhoeddusrwydd ar gyfer y prosiect hwn, gydnabod y cymorth y mae’r Undeb Ewropeaidd yn ei roi drwy Weinidogion Cymru. Dylai cyhoeddusrwydd o’r fath gyfeirio at Lywodraeth Cymru.

ii)    At y dibenion hyn, bydd cyhoeddusrwydd yn cynnwys; cyhoeddiadau ffurfiol ac anffurfiol; llyfrynnau, pamffledi, taflenni a phob deunydd printiedig arall; hysbysebion recriwtio ar gyfer swyddi; erthyglau yn y wasg ac mewn newyddiaduron a datganiadau i’r wasg, cyfweliadau ar y cyfryngau (teledu a radio) a digwyddiadau lansio ac agoriadau swyddogol.

iii)    Os penderfynwch dderbyn y cynnig hwn, yn unol â’r hyn a gynhwysir yn y contract hwn, mae’n bosibl y bydd Tîm Cyfathrebu Llywodraeth Cymru yn cysylltu â chi i drafod y gofyniad hwn mewn perthynas â chyhoeddusrwydd. Os penderfynwch roi cyhoeddusrwydd i’ch cynllun cyn i aelod o’r tîm cyfathrebu gael cyfle i gysylltu â chi, a fyddwch cystal â chysylltu â Ruralnetwork@gov.wales i ddechrau er mwyn trafod eich bwriad.

iv)    At hynny, mae’n rhaid i chi roi cyhoeddusrwydd i’r ffaith fod yr Undeb Ewropeaidd, trwy Weinidogion Cymru, yn talu’n rhannol am eich prosiect. Dylai’r cyhoeddusrwydd hwn sicrhau bod buddiolwyr yn gwbl ymwybodol fod y prosiect y byddant yn cyfranogi ynddo wedi cael ei ariannu’n rhannol gan yr Undeb Ewropeaidd, a’ch bod yn codi ymwybyddiaeth o nawdd yr Undeb Ewropeaidd ymhlith darpar fuddiolwyr a’r cyhoedd.

v)    Mae’n rhaid i hyn gynnwys, fan lleiaf, logo Llywodraeth Cymru; logo’r Undeb Ewropeaidd a’r geiriad a ganlyn:

1.    Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu
2.    Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn
3.    Ardaloedd Gwledig
4.    The European Agricultural Fund for Rural
5.    Development: Europe Investing in Rural Areas

21. Cyhoeddi gwybodaeth am grantiau a ddyfernir

Yn unol â Rheoliad y Comisiwn (CE) Rhif 1303/2013, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi, o leiaf bob chwe mis, fanylion am y buddiolwyr sy’n derbyn taliadau Datblygu Gwledig gan gynnwys manylion am y taliadau hynny. Y manylion a gyhoeddir fydd:

  • Enw cyntaf a chyfenw’r buddiolwr neu enw’r cwmni, y bartneriaeth neu’r sefydliad sydd yn fuddiolwr;
  • Enw’r dref neu’r ddinas a 3 neu 4 nod cyntaf y Cod Post lle mae’r buddiolwr yn byw e.e. Caerdydd CF10;
  • Swm y nawdd, gan gynnwys cyfraniad Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru, a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn ariannol.

Cyhoeddir yr wybodaeth hon erbyn 30 Ebrill bob blwyddyn ac yn flynyddol ar y dyddiad hwn wedi hynny yn Taliadau CAP ar DEFRA.Gov.UK 

Bydd pob cais a wneir i Lywodraeth Cymru am ddatgelu gwybodaeth (gan gynnwys gwybodaeth berthnasol i’r cais hwn am grant neu’r dyfarniad hwn) yn cael ei ystyried yn unol â Chod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Weld Gwybodaeth (‘y Cod’) a rhwymedigaethau statudol Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) 2018. Mae’r Cod yn adlewyrchu ymagwedd Llywodraeth Cymru at lywodraeth agored ac yn rhoi arweiniad ynghylch y modd y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i geisiadau am wybodaeth gan aelodau o’r cyhoedd, boed y ceisiadau hynny’n dod o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol neu’r GDPR.

22. Tendro cystadleuol a gofynion o safbwynt caffael

i)    Rhaid i noddwyr prosiect ddangos eu bod wedi defnyddio arferion teg ac agored drwy ddefnyddio ymarfer tendro cystadleuol ar gyfer yr holl nwyddau a gwasanaethau sydd i’w cynnwys yn y prosiect y maent yn bwriadu hawlio cymorth grant ar ei gyfer. Gellir hawlio’r grant sydd wedi’i dalu ar gyfer nwyddau a gwasanaethau yn ei ôl yn llawn neu’n rhannol os canfyddir yn ddiweddarach nad yw’r gofynion tendro cystadleuol wedi cael eu bodloni.

ii)    Rhaid i unrhyw ymarfer tendro neu gaffael  gydymffurfio â Nodiadau Cyfarwyddyd Technegol Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 ar Dendro Cystadleuol a Chaffael Cyhoeddus. Am fwy o wybodaeth gweler:

Tendro Cystadleuol a Chaffael Cyhoeddus: nodidadau canllaw technegol

Tendro Cystadleuol a Chaffael Cyhoeddus: cofrestr a chofnod
 

 

Fersiwn 2