Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cyflwyniad

Mae’r atodiad yma’n cyfeirio at Gynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig - An-Amaethyddiaeth: Canllawiau Ffenestr 2 a gyhoeddwyd Gorffennaf 2021 yn unig. Mae’r ychwanegiad  wedi ei wneud i adran Cam 1 - Eich Asesu ar gyfer eich Dewis, Gwerth am Arian o’r llyfryn gwreiddiol.

Gwerth am Arian

Mae angen i’r prosiectau ddangos eu bod yn rhoi gwerth am arian.  Bydd prosiectau’n cael eu rhoi yn eu trefn o’u cymharu â cheisiadau eraill ar sail y cynnydd a ragwelir yn y trosiant o fewn tair blynedd ar ôl cwblhau’r prosiect (a), wedi’i rannu â gwerth y grant (miloedd) (b).

E.e. pe bai prosiect yn rhagweld creu 2 swydd a diogelu swyddi mewn 3 mlynedd yn gwneud cais am grant o £20,000 gwerth (a/b) fyddai 0.1, byddai prosiect sy’n rhagweld creu 5 swydd a diogelu swyddi mewn 3 mlynedd sy’n gwneud cais am grant o £40,000 byddai gwerth (a/b) yn 0.25.

Caiff gwerthoedd (a/b) holl brosiectau’r cyfnod ymgeisio eu rhoi yn eu trefn a chaiff y sgoriau eu rhoi fel a ganlyn:

Sgôr  
4 Y swyddi a grewyd a’r swyddi a ddiogelwyd/grant (a/b) ymhlith yr 0-20% uchaf o Ymgeiswyr
3 Y swyddi a grewyd a’r swyddi a ddiogelwyd/grant (a/b) ymhlith yr 21-40% uchaf o Ymgeiswyr
2 Y swyddi a grewyd a’r swyddi a ddiogelwyd/grant (a/b) ymhlith y 41-60% uchaf o Ymgeiswyr
1 Y swyddi a grewyd a’r swyddi a ddiogelwyd/grant (a/b) ymhlith y 61-80% uchaf o Ymgeiswyr
0 Y swyddi a grewyd a’r swyddi a ddiogelwyd/grant (a/b) ymhlith yr 81-100% uchaf o Ymgeiswyr

Mae’r newid canlynol wedi ei weithredu i’r atodiad yma yn yr Adran Gwerth am Arian uchod.

Gall sgoriau Gwerth am Arian o 0 i 1 a weithredwyd yng Ngham 1 o arfarniad gael ei ystyried ar gyfer diwygiad er mwyn gymryd i ystyriaeth gwybodaeth berthnasol ynglŷn â’r prosiect a ddarparwyd yn y cais.