Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r cyllid o £500,000 yn rhan o drefniant cyllid cyfatebol sy'n cynnwys yr awdurdodau lleol a'r ysgolion sy'n cymryd rhan.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid a gyhoeddwyd heddiw gan Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, yn cael ei roi ar gyfer y cynllun Bwyd a Hwyl. Caiff y cynllun hwn ei ddarparu mewn ysgolion ac mae'n cynnig brecwast, cinio, addysg am fwyta'n iach ac amryw o wahanol weithgareddau er mwyn i ddisgyblion allu parhau i ddysgu a chadw'n egnïol.

Mae'r cyllid o £500,000 yn rhan o drefniant cyllid cyfatebol sy'n cynnwys yr awdurdodau lleol a'r ysgolion sy'n cymryd rhan.

Amcangyfrifir y bydd 2,500 o ddysgwyr yn cymryd rhan yn y cynllun, a fydd yn cael ei gynnig mewn tua 56 o ysgolion gan gwmpasu 16 awdurdod lleol a phob un o'r 7 Bwrdd Iechyd Lleol. Fe wnaeth oddeutu 1,500 o blant elwa ar y cynllun yn 2017.

Bydd Bwyd a Hwyl ar gael mewn dwy ysgol arbennig eleni a bydd dau awdurdod lleol yn cael cyllid grant ychwanegol ar gyfer darpariaeth anghenion arbennig.

Un o nodau'r cynllun yw helpu i gau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gymunedau difreintiedig a'r rheini o ardaloedd mwy breintiedig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddosbarthu'r cyllid.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Gall gwyliau'r haf fod yn adeg anodd i rai o'n pobl ifanc gan nad oes ganddynt fynediad at y mathau o brydau y byddent yn eu cael yn yr ysgol. Mewn rhai achosion, gallent hyd yn oed golli prydau bwyd.

“Yn ogystal, gall gweithgareddau a chynlluniau chwarae fod yn ddrud sy'n golygu unwaith eto y gallai disgyblion o gefndiroedd mwy difreintiedig golli allan.

“Mae'r cynllun Bwyd a Hwyl yn ffordd ddelfrydol i ddisgyblion gael dau bryd y dydd ynghyd ag ystod eang o addysg am fwyd, gweithgarwch corfforol a sesiynau eraill sy'n llawn hwyl. Maent hefyd yn cael manteisio i'r eithaf ar gyfleusterau ysgol lleol.

“Bydd gallu bwyta'n iach a chadw'n heini yn gwneud gwahaniaeth mawr i gyrhaeddiad disgyblion pan fyddant yn dychwelyd i'r ysgol ym mis Medi.

“Mae lleihau'r bwlch hwn rhwng cyrhaeddiad y disgyblion hynny sy'n dod o gefndiroedd difreintiedig a'u cyfoedion yn greiddiol i'n cenhadaeth genedlaethol ar gyfer addysg. Dyma pam rwyf mor falch o gyhoeddi'r cyllid hwn heddiw ac edrychaf ymlaen at ymweld â'r ysgolion sy'n cymryd rhan yn y cynllun dros yr haf.”

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:

“Gall gwyliau’r haf fod yn gyfnod anodd i deuluoedd sydd eisoes yn cael trafferth cadw dau ben llinyn ynghyd. Mae’r cynllun Bwyd a Hwyl wedi ennill eu plwyf dros y blynyddoedd diwethaf a hynny nid yn unig fel ffordd hwyliog ac iach i blant gymdeithasu gyda’u ffrindiau ond hefyd fel cymorth amhrisiadwy i’r teuluoedd hyn.

“Drwy weithio gyda chydweithwyr yn y maes iechyd a Llywodraeth Cymru, a gyda’r buddsoddiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, edrychaf ymlaen at weld mwy o blant nag erioed o’r blaen yn cymryd rhan yn y cynllun Bwyd a Hwyl.”