Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cadw wedi bod yn gweithio gyda grŵp o bobl ifanc yn y Gogledd i wneud yn siŵr bod cymunedau lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd yn para i elwa ar un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gan weithio gyda'r cwmni celf lleol, Cwmni'r Frân Wen, mae'r bobl ifanc wedi paratoi ffilmiau i glywed barn busnesau lleol, ymwelwyr a phobl leol yng Nghaernarfon, Conwy, Biwmares a Harlech, sef cartrefi'r cestyll a'r muriau sy'n ffurfio Safle Treftadaeth y Byd gogledd-orllewin Cymru.

Caiff y ffilmiau eu dangos yn y ganolfan gelf gymunedol newydd yn Noc Fictoria, Caernarfon fel rhan o ddathliadau 19 Chwefror. Yr amcan yw tynnu sylw pobl at weledigaeth a chynllun newydd a thymor hir ar gyfer y cestyll a'u cymunedau.

Meddai'r Arglwydd Elis-Thomas, y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon:

"Mae hon yn garreg filltir i Safle Treftadaeth y Byd, yn benllanw dwy flynedd o waith gyda phartneriaid a'r gymuned leol. Gwnaeth dros 600,000 o bobl ymweld â'r cofebau  llynedd, gan gyfrannu dros £30m at yr economi leol. Mae'r cynllun newydd yn blatfform ar gyfer sicrhau bod statws y safle'n cael ei ddiogelu a bod yr adeiladau trawiadol hyn yn dod â buddiannau go iawn i'w cymunedau.

"Rhan allweddol o'r weledigaeth yw annog mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o Safle Treftadaeth y Byd, i helpu pobl werthfawrogi'r lleoedd arbennig hyn hyd yn oed yn fwy. Rydyn ni wrth ein boddau felly ein bod wedi cael gweithio gyda phobl ifanc ar y prosiect - gan mai'r prif nod yw gwarchod a diogelu'r cofebau hyn er lles cenedlaethau'r dyfodol."

Ychwanegodd Carl Russell Owen o Frân Wen:

"Mae'r bobl ifanc sydd wedi gweithio ar y prosiect wedi magu sgiliau pwysig trwy helpu i gynllunio, sgriptio, golygu a pharatoi'r ffilmiau; sgiliau fydd yn bwysig iddyn nhw yn eu hastudiaethau a'u swyddi yn y dyfodol.

Trwy gynnal y digwyddiad yn CARN, canolfan gelf gymunedol newydd a noddwyd gan Gyngor Gwynedd a phrosiect STAMP Cyngor Celfyddydau Cymru, yng nghysgod waliau tref Caernarfon, dangosir sut y gall cymunedau adfywio'r lleoedd hyn mewn ffyrdd creadigol ac arloesol."

Yn ôl adroddiad diweddar gan Grŵp yr Amgylchedd Hanesyddol, ar sail data gan 16 o brif sefydliadau treftadaeth Cymru, mae'r Sector Treftadaeth yn dod â £963m i economi Cymru bob blwyddyn ac yn cynnal dros 40,500 o swyddi. Mae'r adroddiad yn nodi hefyd  y bu cynnydd o 4.4% yn nifer yr ymweliadau â safleoedd yn y saith mlynedd ddiwethaf a bod bron iawn 440,000 o bobl yn aelodau o fudiadau treftadaeth yng Nghymru.

Am ragor o wybodaeth am hyn a digwyddiadau eraill Cadw, ewch i www.llyw.cymru/cadw. Mae Cadw ar Facebook hefyd a dilynwch @CadwCymru a @CadwWales ar Twitter.