Cynllun Cadwraeth, Atgyweirio ac Adfywio Treftadaeth Cadw
Cyfeirnod y cymhorthdal: SC11370 - cynllun i cymorth tuag at atgyweirio a chadw asedau hanesyddol, adeiladau rhestredig, henebion cofrestredig, parciau a gerddi cofrestredig ac ardaloedd cadwraeth.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pwyntiau i'w nodi
Os ydych chi’n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
1. Rhanbarth
Cymru.
2. Teitl y Cynllun Cymhorthdal
Cynllun Cadwraeth, Atgyweirio ac Adfywio Treftadaeth Cadw.
3. Sail gyfreithiol yn y DU
Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Cymru, ac felly mae ganddo bwerau statudol fel y nodir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 (Deddf 2006) a Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Deddf 2023).
Mae Deddf 2023 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru restru adeilad neu gofrestru heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig, ni waeth pwy sy'n berchen arnynt. Mae'r dynodiadau hyn yn adlewyrchu budd yr asedau hanesyddol hyn i'r cyhoedd. Mae adran 62 o Ddeddf 2023 yn caniatáu i Weinidogion Cymru neilltuo gwariant ar gaffael a diogelu henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig, ac mae adran 150 o'r Ddeddf honno yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi grantiau ar gyfer atgyweirio neu gynnal a chadw adeiladau neu erddi.
Mae adran 58A o Ddeddf 2006 yn rhoi swyddogaethau gweinidogol gweithredol i Weinidogion Cymru sy'n arferadwy yn unol â chymhwysedd datganoledig; mae hyn yn cynnwys y gallu i wneud pethau fel mynd i gostau, ymrwymo i gontractau a darparu grantiau. Mae adran 61 o Ddeddf 2006 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud unrhyw beth y maent yn ystyried sy'n briodol i gefnogi diwylliant sy'n cynnwys yr amgylchedd hanesyddol.
4. Amcanion polisi penodol y cynllun
Mae Llywodraeth Cymru, drwy Cadw ei gwasanaeth amgylchedd hanesyddol, yn gweithio i sicrhau bod amgylchedd hanesyddol Cymru yn hygyrch ac yn cael ei warchod yn iawn.
Bwriad y cynllun hwn yw darparu cymorth tuag at atgyweirio, cadw a datblygu asedau hanesyddol, adeiladau rhestredig, henebion, parciau a gerddi cofrestredig ac ardaloedd cadwraeth.
5. Diben y cynllun
Mae'r cymhorthdal yn darparu cymorth tuag at atgyweirio a chadw asedau hanesyddol, adeiladau rhestredig, henebion cofrestredig, parciau a gerddi cofrestredig ac ardaloedd cadwraeth. Gall hyn gynnwys gwaith cadwraeth neu waith i sicrhau bod asedau hanesyddol yn cael eu defnyddio mewn ffyrdd buddiol eto, gan eu gwarchod er mwynhad cenedlaethau'r dyfodol.
Mae'r cymhorthdal ar gyfer perchnogion asedau hanesyddol yng Nghymru neu'r rhai sydd â chaniatâd y perchennog. Cynigir y cymhorthdal i'r sector treftadaeth ac mae'n cynnwys grantiau ar gyfer symiau sy'n amrywio o £0 i £5,000,000. Yn y rhan fwyaf o achosion, cyfran y cymhorthdal a fuddsoddir mewn prosiect yw 50% (o'r costau cymwys) gyda'r gweddill yn gyllid cyfatebol o ffynonellau eraill; gall hyn fod yn uwch dan amgylchiadau eithriadol.
Mae'r cymhorthdal yn bennaf ar gyfer atgyweiriadau brys neu waith arall sy'n ofynnol i fynd i'r afael â risg drwy atal achosion o golli neu ddifrodi nodweddion pwysig o ran pensaernïaeth, archaeoleg neu'r dirwedd. Gwarchod arwyddocâd y safle neu alluogi cynnal gwaith gwarchod o'r fath ddylai canlyniad pob prosiect fod. Nod y cymhorthdal yw sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r amgylchedd hanesyddol. Mae'r cymhorthdal yn cael ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru drwy ei gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol – Cadw.
6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu’r cynllun
Llywodraeth Cymru
7. Categori neu gategorïau o fentrau cymwys
Perchnogion asedau hanesyddol yng Nghymru (neu'r rhai sydd â chaniatâd y perchennog).
8. Crynodeb o delerau ac amodau'r cynllun
Nid oes gan unrhyw ymgeisydd hawl awtomatig i gymorth gan Cadw. Gellir cynnig cymorth drwy ystod o grantiau a weithredir gan Cadw, yn seiliedig ar rinweddau'r prosiect arfaethedig, ac asesiad o'r angen am gymorth a manteision ehangach y prosiect ar lefel leol a chenedlaethol. Mae unrhyw gyllid yn ddarostyngedig i arfarniad diwydrwydd dyladwy trylwyr a chymeradwyaeth fewnol gan Cadw.
Rhaid i ymgeiswyr wneud cais am gymorth i Cadw cyn i'r gwaith ar y prosiect neu'r gweithgaredd ddechrau, a rhaid i'r cais gael ei gymeradwyo ar ffurf llythyr cynnig grant ysgrifenedig cyn y gall gwaith ar y prosiect ddechrau.
9. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau o dan y cynllun, gan gynnwys crynodeb o unrhyw amodau sy'n ymwneud â chymarebau neu symiau cymhorthdal
Cynigir y cymhorthdal i'r sector treftadaeth ac mae'n cynnwys grantiau ar gyfer symiau sy'n amrywio o £0 i £5,000,000. Yn y rhan fwyaf o achosion, cyfran y cymhorthdal a fuddsoddir mewn prosiect yw 50% (o'r costau cymwys) gyda'r gweddill yn gyllid cyfatebol o ffynonellau eraill; gall hyn fod yn uwch dan amgylchiadau eithriadol.
Mae dull cyflawni'r cymhorthdal wedi'i gynllunio yn y fath fodd fel ei fod yn lleihau costau i'r sector cyhoeddus ac yn gymesur drwy gadw lefel yr ymyrraeth wedi'i chapio ar 50% o gyfanswm y costau cymwys lle bo hynny'n bosibl.
Mae gwaith yn cael ei gaffael ar sail y gwerth gorau gyda'r gofyniad i ymarferion tendro ffurfiol gael eu cynnal yn unol â chanllawiau caffael y sector cyhoeddus (yn dibynnu ar werth y prosiect). Mae tystiolaeth o gyllid cyfatebol yn ofynnol ar gyfer gwneud cais am y cymhorthdal hwn a darperir tystiolaeth arbenigol o'r angen am brosiect cyn y dyfernir unrhyw gymhorthdal.
10. Sectorau i’w cefnogi
- Adeiladu
- Gweithgareddau eiddo tirol
- Y celfyddydau, adloniant a hamdden
11. Hyd y cynllun
Rhwng 6 Gorffennaf 2025 a 6 Gorffennaf 2030.
12. Y gyllideb cymorth o dan y cynllun
£50,000,000
13. Ffurf y cymorth
Grant uniongyrchol.
14. Telerau ac amodau cymhwysedd
Perchnogion asedau hanesyddol yng Nghymru (neu'r rhai sydd â chaniatâd y perchennog).
15. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau
Cynigir y cymhorthdal i'r sector treftadaeth ac mae'n cynnwys grantiau ar gyfer symiau sy'n amrywio o £0 i £5,000,000. Yn y rhan fwyaf o achosion, cyfran y cymhorthdal a fuddsoddir mewn prosiect yw 50% (o'r costau cymwys) gyda'r gweddill yn gyllid cyfatebol o ffynonellau eraill; gall hyn fod yn uwch dan amgylchiadau eithriadol.
Mae dull cyflawni'r cymhorthdal wedi'i gynllunio yn y fath fodd fel ei fod yn lleihau costau i'r sector cyhoeddus ac yn gymesur drwy gadw lefel yr ymyrraeth wedi'i chapio ar 50% o gyfanswm y costau cymwys lle bo hynny'n bosibl.
Mae gwaith yn cael ei gaffael ar sail y gwerth gorau gyda'r gofyniad i ymarferion tendro ffurfiol gael eu cynnal yn unol â chanllawiau caffael y sector cyhoeddus (yn dibynnu ar werth y prosiect). Mae tystiolaeth o gyllid cyfatebol yn ofynnol ar gyfer gwneud cais am y cymhorthdal hwn a darperir tystiolaeth arbenigol o'r angen am brosiect cyn y dyfernir unrhyw gymhorthdal.
16. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun
£5,000,000
17. Manylion cyswllt
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig
Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400
E-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
