Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair Gweinidogol

Mae’r flwyddyn adrodd wedi bod yn heriol i bawb, gyda’r rhyfel yn Wcráin yn parhau i achosi ansicrwydd ynghylch cyflenwad tanwydd. Mae hyn wedi parhau i effeithio ar brisiau cyfanwerthu nwy yn fyd-eang, sydd wedi cyrraedd lefelau digynsail o uchel. Mae’r cynnydd ym mhrisiau cyfanwerthu nwy wedi arwain at argyfwng costau byw ac ynni sydd wedi parhau i ddal gafael ar y bobl fwyaf bregus ac anghenus yn ein cymdeithas. Mae hyn wedi gorfodi mwy o gartrefi yng Nghymru i brofi tlodi tanwydd, ac mae ein rhaglen i wella ynni ac effeithlonrwydd ein cartrefi yn bwysicach nag erioed.

Yn 2022-23, darparodd Llywodraeth Cymru £26.9 miliwn o gyllid i gyflawni Rhaglen Cartrefi Clyd, Cynllun Nyth. Mae’r buddsoddiad hwn wedi helpu i wella effeithlonrwydd ynni’r rhai mewn cartrefi incwm isel a’r bobl fwyaf anghenus. Ers hynny, mae dros 4,000 o gartrefi wedi elwa ar fesurau effeithlonrwydd ynni yn ystod y flwyddyn adrodd hon.

Mae’r argyfwng costau byw parhaus yn cael effaith ddinistriol ar gartrefi, yn enwedig cartrefi bregus ledled Cymru. Mae cymorth i’r rhai mwyaf anghenus wedi gweld cynnydd syfrdanol yn y cyfnod adrodd hwn. Mae cynnydd pryderus wedi bod yn nifer y cartrefi mewn tlodi tanwydd difrifol rydyn ni wedi’u cefnogi. Eleni, roedd 63% o’r cartrefi a gysylltodd â’r gwasanaeth yn byw mewn tlodi tanwydd. Mae hyn yn gynnydd amlwg yn y cymorth i’r rhai sy’n byw mewn tlodi tanwydd o gymharu â’r flwyddyn adrodd flaenorol, sef 34.1%. Roedd 25% o’r 63% o’r cartrefi a gysylltodd â’r gwasanaeth eleni yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol. 

Fel rhan o Gynllun Nyth, rydyn ni wedi parhau i ddarparu mynediad at gyngor ynni i gartrefi, ac eleni, mae cynnydd aruthrol wedi bod yn y rhai sy’n gofyn am gymorth. Darparwyd cyngor wedi’i deilwra i dros 21,000 o gartrefi i’w cynorthwyo i reoli eu harian drwy’r argyfwng costau byw. Mae hyn yn gynnydd nodedig yn y ffigwr ers 2021/22, lle cafodd 15,700 o bobl gyngor. Roedd y cyngor yn y cyfnod adrodd hwn yn parhau i gynnwys cyfeirio at wasanaethau trydydd parti fel cyngor ar hawl i fudd-daliadau yn ogystal â chyngor rheoli arian.

Mae Cynllun Nyth wedi parhau i weithio tuag at leihau allyriadau carbon a darparu yn erbyn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i daclo’r argyfwng hinsawdd. Mae’r targed i gyflawni bron dim allyriadau carbon o adeiladau yn un o’r heriau datgarboneiddio mwyaf y mae ein gwlad yn eu hwynebu. Mae gosodiadau a gyflawnwyd o dan Gynllun Nyth yn mynd rhywfaint o’r ffordd i gyfrannu at yr amcan hwn, er nad cynllun datgarboneiddio yw hwn yn bennaf. Yn arbennig, mae’r flwyddyn adrodd hon wedi gweld datblygiad parhaus mewn technolegau carbon isel ar gyfer Cynllun Nyth, ac roedd y datblygiadau hyn yn cynnwys parhau i gyflwyno paneli solar ffotofoltäig yn ogystal â chyflwyno storfa fatri i’r cartrefi priodol. 

Yn debyg i’r cyfnod adrodd diwethaf, mae’r ansicrwydd parhaus yn y farchnad ynni a’r cynnydd mewn costau ynni wedi dangos pwysigrwydd gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi ledled Cymru yn fwy nag erioed, yn ogystal â’r nod i leihau defnydd o ynni a’u costau cysylltiedig. Dyma brif ffocws rhaglen Cartrefi Clyd. 

Byddaf yn parhau i weithio gyda phartneriaid allweddol sy’n cyflawni Cynllun Nyth i sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu cefnogaeth a chymorth i’r rhai yn ein cymdeithas sydd ei angen fwyaf. Mae’r cymorth hwn yn parhau wrth i Gymru adfer o effeithiau’r argyfwng costau byw ac ynni, yn ogystal ag effaith y rhyfel yn Wcráin. 

Cyhoeddais yn ddiweddar fod y Cynllun Nyth presennol yn dod i ben ym mis Mawrth 2024, er mwyn sicrhau na fydd bwlch yn y ddarpariaeth rhwng y rhaglen bresennol a’r un newydd. Bydd y Rhaglen Cartrefi Clyd newydd yn cyfrannu tuag at gyflawni Cymru sero net erbyn 2050, ac yn galluogi trosglwyddiad cyfiawn yn uniongyrchol drwy amcanion deuol taclo tlodi tanwydd a’r argyfwng hinsawdd. Ein huchelgais hirdymor yw gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru, gan sicrhau ein bod ond yn defnyddio’r ynni sydd ei angen arnon ni, i gadw cartrefi’n gyfforddus o gynnes am gost fforddiadwy.

Cynllun Nyth

Mae cynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth ariannol ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni i gartrefi incwm isel a'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd o amddifadedd ledled Cymru.

Yn 2022-23, buddsoddodd Llywodraeth Cymru £26.9 miliwn mewn effeithlonrwydd ynni’r stoc dai ledled Cymru, gan helpu i leihau biliau tanwydd a gwella iechyd a llesiant yr aelwydydd mwyaf anghenus. Ers 2011, mae Nyth wedi helpu dros 198,000 o aelwydydd drwy ei wasanaethau cyngor a chymorth.

Ein blaenoriaethau

  • Rhoi cyngor diduedd, am ddim i aelwydydd a'u cyfeirio at amrywiaeth o wasanaethau cymorth;
  • Cefnogi aelwydydd cymwys gyda phecyn o fesurau ynni cartref am ddim;
  • Gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau partner i sicrhau bod y cynllun yn cyrraedd yr aelwydydd mwyaf agored i niwed yng Nghymru; a
  • Cefnogi Strategaeth Tlodi Tanwydd Llywodraeth Cymru i helpu pobl sy'n ei chael hi'n anodd talu costau ynni cartref.

Ein llwyddiannau

Yn 2022-23, darparodd y cynllun y canlynol:

  • Cyngor arbed ynni diduedd am ddim i 21,959 o aelwydydd; 
  • Pecyn gwelliannau ynni cartref, fel system gwres canolog, boeler, inswleiddio, panel solar PV neu bwmp gwres ffynhonnell aer, i 4,364 o aelwydydd;
  • Arbediad cyfartalog o £422 y flwyddyn ar filiau ynni;
  • Gwiriadau Hawl i Fudd-daliadau yn arwain at gynnydd budd-daliadau posibl o £2,457 ar gyfartaledd fesul aelwyd;
  • 100% o'r gosodiadau wedi’u cwblhau gan osodwyr wedi’u lleoli yng Nghymru; a
  • Creu pum swydd a chefnogi ein contractwyr gyda naw prentisiaeth. 

Rheolir cynllun Nyth gan Nwy Prydain, sy’n gweithio gydag Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, ar ran Llywodraeth Cymru.

Cyrraedd aelwydydd sy’n agored i niwed

Defnyddiwyd dadansoddiadau cwsmeriaid a gwybodaeth o’r data, a ddatblygwyd ers i Nyth ddechrau yn 2011, i lywio gwaith marchnata, er mwyn sicrhau bod y dulliau cyfathrebu priodol yn cyrraedd y cwsmeriaid â'r angen mwyaf.

Roedd hyn yn cynnwys:

  • hyrwyddo gwefan Nyth gyda dros 251,800 o ddefnyddwyr yn ystod 2022-23;
  • ymgyrch bostio uniongyrchol a gyrhaeddodd dros 119,000 o aelwydydd agored i niwed yng Nghymru;
  • talu am hysbysebion Facebook a Google wedi'u targedu at gwsmeriaid cymwys ledled Cymru; 
  • cefnogi byrddau iechyd, elusennau a sefydliadau cymunedol ledled Cymru i gyrraedd aelwydydd a allai elwa o'n cyngor a'n cefnogaeth.
Image
Mae'r siart yn dangos nifer yr ymholiadau i Nyth gan bob awdurdod lleol yng Nghymru. Yr uchaf yw Rhondda Cynon Taf gyda 2,104 o ymholiadau a'r isaf yw Sir Fynwy gyda 359.

Cyngor a chymorth

Yn 2022-23, rhoddodd Nyth gyngor wedi'i deilwra ac atgyfeiriadau at wasanaethau trydydd parti i 21,959 o aelwydydd. 

Mae pob cwsmer sy'n ffonio llinell gymorth Nyth yn derbyn cyngor a chymorth wedi'i deilwra gan ein tîm cynghori i sicrhau eu bod yn cael y cymorth mwyaf priodol i ddiwallu eu hanghenion penodol. Mae hyn yn cynnwys cyngor arbed ynni a chyngor ar effeithlonrwydd dŵr, pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim, a chyfeirio ac atgyfeirio at ystod o wasanaethau cymorth.

Cymorth gan drydydd partïon

Mae Nyth yn cyfeirio aelwydydd at sefydliadau eraill i ddarparu cymorth pellach lle bo hynny'n briodol. Cafodd 16,147 o aelwydydd eu cyfeirio at un neu fwy o wasanaethau trydydd parti yn 2022-23 neu argymhellion i gysylltu â nhw.

Image
Mae'r siart yn dangos canran yr Aelwydydd a gafodd Atgyfeiriad / Argymhelliad Trydydd Parti gan Nyth. Yr uchaf yw Gwasanaeth Newid Tariff Ynni ar 19% a'r isaf yw Arbed ar 2.5%.

Gwiriad Hawl i Fudd-daliadau

Yn ystod y flwyddyn, canfuwyd bod 401 o aelwydydd yn gymwys i gael budd-daliadau newydd neu ychwanegol, sef £2,457 fesul cartref ar gyfartaledd. Mae hyn yn cyfateb i £985,257 o fudd-daliadau a hawliwyd eleni.

Gwasanaethau Gofal a Thrwsio

Mae asiantaethau Gofal a Thrwsio yn darparu ystod o wasanaethau i helpu pobl hŷn i fyw mewn cartrefi sy'n ddiogel ac yn briodol i'w hanghenion. Cyfeiriodd Nyth 1,717 o aelwydydd at Gofal a Thrwsio yn 2022-23, gyda 449 o ddeiliaid tai yn defnyddio'r gwasanaeth gweithiwr achos.

Gostyngiad Cartrefi Cynnes

Cafodd cyfanswm o 5,302 o gwsmeriaid eu cyfeirio at eu cyflenwr ynni ar gyfer y Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn 2022-23.

Gwasanaethau Tân ac Achub

Cyfeiriodd Nyth 278 o gwsmeriaid at y Gwasanaethau Tân ac Achub ledled Cymru, a derbyniodd 215 ohonynt archwiliad diogelwch tân yn y cartref.

Cwmnïau Dŵr 

Mae Nyth yn atgyfeirio cwsmeriaid at gynlluniau fforddiadwyedd gan Dŵr Cymru gan gynnwys HelpU, Dŵr Uniongyrchol, Cronfa Cymorth i Gwsmeriaid a Water Sure.

Eleni, cyfeiriwyd 2,339 o gwsmeriaid, gyda:

  • 42 o gwsmeriaid yn elwa o HelpU;
  • 64 o gwsmeriaid yn elwa o Dŵr Uniongyrchol;
  • 38 o gwsmeriaid yn elwa o'r Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid; a
  • 28 o gwsmeriaid yn elwa o Water Sure.

Cyngor ar reoli arian

Derbyniodd 1,910 o gwsmeriaid gyngor ar reoli arian yn 2022-23 a derbyniodd 1,564 o gwsmeriaid ychwanegol gyngor ar reoli dyledion.

Pecynnau gwelliannau ynni cartref

Mae cynllun Nyth Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru yn helpu aelwydydd mewn tlodi tanwydd drwy leihau biliau ynni drwy welliannau effeithlonrwydd ynni am ddim yn y cartref.

Caiff cwsmeriaid sy'n cysylltu â Nyth am gyngor a chymorth eu hasesu i weld a ydynt yn gymwys i gael pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim. 

Y meini prawf ar gyfer gwelliannau i’r cartref yw: 

  • Mae aelod o'r cartref yn cael budd-dal prawf modd ac mae'r cartref yn eiddo preifat neu ar rent gyda sgôr ynni ddangosol o E, F neu G; neu 
  • Mae aelod o'r aelwyd yn byw gyda chyflwr iechyd (mewn eiddo preifat neu rent â sgôr o D, E, F, G) ac yn derbyn incwm sy'n is na throthwyon diffiniedig.

Data am feini prawf iechyd

Aseswyd cyfanswm o 25,261 o aelwydydd gyda'r meini prawf iechyd rhwng Gorffennaf 2019 a diwedd Mawrth 2023 ar ôl methu â bodloni meini prawf budd-daliadau prawf modd y cynllun. O'r rhain, roedd 11,929 (47.2%) yn bodloni'r meini prawf cyflwr iechyd ac eiddo ac fe'u hatgyfeiriwyd am asesiad incwm gyda 6,838 (27.1%) yn pasio'r asesiad incwm ac felly'n bodloni'r holl feini prawf iechyd - mae mesurau wedi’u gosod i 5,188 o'r rhain.

Roedd llawer o atgyfeiriadau meini prawf iechyd yn aelwydydd agored i niwed:

  • 68.2% yn 60 oed neu'n hŷn;
  • 49.9% mewn aelwydydd incwm sengl 60 oed neu’n hŷn;
  • 25.2% mewn aelwydydd dau oedolyn 60 oed neu’n hŷn;
  • Roedd 52.2% o aelwydydd yn byw mewn eiddo gyda sgôr effeithlonrwydd ynni o E, F neu G;
  • Roedd 47.8% o aelwydydd yn byw mewn eiddo gyda sgôr effeithlonrwydd ynni o D;
  • Roedd 59.7% o aelwydydd yn ennill incwm sydd 80% islaw'r trothwyon incwm; ac
  • Roedd 18.6% yn is na 50% o'r trothwy incwm.

Proses gosod pecyn gwelliannau ynni cartref

Mae Nyth yn gweithio mewn partneriaeth â Rhentu Doeth Cymru i sicrhau bod pob landlord preifat wedi'i gofrestru'n swyddogol cyn cael mynediad at gymorth o'r cynllun ar gyfer eu heiddo rhent.

Bydd aseswr cymwys:

  • yn ymweld â chartref y cwsmer i gwblhau asesiad tŷ cyfan;
  • yn nodi'r mesurau mwyaf priodol a chost-effeithiol ar gyfer yr eiddo; ac 
  • yn cadarnhau cymhwysedd y cwsmer.

Mae tîm Nyth yn sicrhau bod yr holl ganiatadau a chydsyniad gofynnol (landlordiaid, cynllunio ac ati) a gofynion trydydd parti (cysylltiadau nwy, tynnu asbestos ac ati) yn cael eu cwblhau cyn cytuno ar ddyddiadau gosod gyda'r cwsmer.

Mae rhwydwaith o osodwyr yng Nghymru yn darparu'r gwasanaethau gosod o dan reolaeth tîm Nyth. Cynhelir archwiliad o'r pecyn gosod wedi'i gwblhau a chwblheir gwaith adfer unrhyw ddiffygion a nodwyd yn gyflym ac yn effeithiol.

Mae pecynnau gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref Nyth wedi'u cynllunio ar gyfer eiddo unigol, felly nid oes pecyn safonol o fesurau, ond gallai gynnwys boeler newydd, system gwres canolog, neu inswleiddio’r atig a gall rhai gynnwys technolegau mwy newydd fel paneli solar PV, pympiau gwres ffynhonnell aer ac inswleiddio waliau allanol.

Math o fesurau wedi'u gosod

Canran

Gosod Gwres Canolog

75.1%

Inswleiddio Safonol

6.5%

Gwelliannau Inswleiddio

0.1%

Solar

14.8%

Solar + batri

3.5%

Image
Mae'r siart yn dangos y mesurau gwella ynni cartref a osodwyd gan Nyth fel canrannau. Yr uchaf yw Gosod Gwres Canolog 75.1% a'r isaf yw Gwellianau Inswleiddio ar 0.1%.

 

Math o fesurau oddi ar nwy a osodwyd 2022-23

Roedd mwyafrif y gwelliannau i ynni cartref ar gyfer tanwydd nwy (82.47%). Dangosir cyfradd gosod mathau eraill o danwydd yn y siart isod:

Image
Mae'r siart yn dangos gwelliannau ynni cartrefyn ôl y math o danwydd. Yr uchaf yw Olew 7.4% a'r isaf yw Pwmp gwres o’r awyr ar 0.2%.

Nodweddion aelwydydd ac eiddo

Nodweddion aelwydydd ac eiddo

Nod Nyth yw codi pobl allan o dlodi tanwydd lle y bo’n bosibl.

Yn ystod y broses ymgeisio gychwynnol, gofynnir i ddeiliaid tai gadarnhau eu hincwm. Caiff y wybodaeth hon ei hasesu yn erbyn costau rhedeg wedi'u modelu ar gyfer eu haelwyd. Mae hyn yn caniatáu i Dîm Cynghori Nyth asesu a yw'r cwsmer yn byw mewn tlodi tanwydd.

Ystyrir bod aelwydydd sy'n gwario dros 10% o'u hincwm ar filiau ynni yn byw mewn tlodi tanwydd, gydag aelwydydd sy'n gwario dros 20% yn cael eu hystyried yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol.

Proffil tlodi tanwydd

Cyn derbyn gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref, amcangyfrifwyd bod 63.3% o aelwydydd sy'n cysylltu â Nyth yn byw mewn tlodi tanwydd. Mae hyn yn cynnwys 25.8% o aelwydydd sy'n byw mewn tlodi tanwydd difrifol.

Deiliadaeth y rhai sy'n derbyn pecyn gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref

Roedd 81.2% o aelwydydd a dderbyniodd becyn gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref wedi’u meddiannu gan y perchennog, gyda 18.8% o aelwydydd yn cael eu rhentu'n breifat.

Proffil oedran derbynwyr pecyn gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref

Roedd gan fwy na hanner yr aelwydydd sy'n derbyn pecyn gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref broffil oedran o 60 neu’n hŷn:

  • Roedd 0.7% o dan 24 oed;
  • Roedd 45.3% rhwng 24 a 59 oed;
  • Roedd 20.6% rhwng 60 a 69 oed; ac
  • Roedd 33.4% yn 70 oed neu'n hŷn.

Derbynwyr pecyn gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref yn ôl dosbarthiad trefol a gwledig

Mae'r dadansoddiad yn ôl dosbarthiad trefol a gwledig y cwsmeriaid a gafodd becyn gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref yn dangos bod 59.6% o aelwydydd yn byw mewn ardaloedd trefol a 40.4% yn byw mewn ardaloedd gwledig.

Derbynwyr pecyn gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref yn ôl cysylltiad nwy

Cyfran y cwsmeriaid nad oeddent wedi'u cysylltu â'r prif gyflenwad nwy cyn derbyn mesurau o dan y cynllun oedd 16.3%.

Derbynwyr pecyn gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref yn ôl math o eiddo

Mae cyfran y rhai a gafodd becyn gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref yn seiliedig ar y math o eiddo fel a ganlyn:

•    Roedd 30.7% yn dŷ pâr;
•    Roedd 30.4% yn ganol-teras;
•    Roedd 12.4% yn fyngalos;
•    Roedd 10.3% ar ben y teras;
•    Roedd 9.3% yn dai ar wahân;
•    Roedd 6.2% yn fflatiau; ac
•    Roedd 0.7% yn gartrefi mewn parciau.

Gwella effeithlonrwydd ynni

Mae gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref Nyth wedi sicrhau arbedion amcangyfrifedig o £422 y flwyddyn fesul cartref ar filiau ynni ar gyfartaledd, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i aelwydydd sydd mewn tlodi tanwydd.

Sgoriau SAP: esboniad

Mae cynllun Nyth yn cyfrifo effeithiau gwelliannau effeithlonrwydd ynni ar gartrefi gan ddefnyddio sgôr 1 Gweithdrefn Asesu Safonol Data Gostyngol (SAP) [1].  Mae'r feddalwedd yn mesur y sgôr SAP cyn ac ar ôl gosod mesurau addas. Y nod yw gosod pecyn o fesurau i gynyddu sgôr ynni eiddo tuag at sgôr SAP o C lle bo hynny'n bosibl a phan fydd yn gost-effeithiol i wneud hynny. Caiff y mesurau gwirioneddol a osodwyd eu hailfodelu i gyfrif am unrhyw newidiadau i'r pecyn gwreiddiol oherwydd problemau technegol neu am fod cwsmeriaid yn newid eu meddwl.

Mae asesydd Nyth yn sefydlu sgôr SAP bresennol yr eiddo a'r sgôr SAP bosibl os byddai pecyn gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref yn cael ei osod. Mae eiddo Band A yn effeithlon iawn o ran ynni a a’r eiddo yma fydd â’r costau rhedeg isaf tra bod gan eiddo Band G sgoriau effeithlonrwydd ynni gwael ac o ganlyniad bydd ganddynt gostau rhedeg uwch i gynnal yr un safonau gwresogi a goleuo.

Mae buddiannau yn seiliedig ar ganlyniadau wedi'u modelu a bydd y gostyngiadau a'r arbedion gwirioneddol yn dibynnu ar ymddygiad y cwsmer unigol. Yn aml, nid yw aelwydydd mewn tlodi tanwydd yn gwresogi eu cartrefi'n effeithiol ac felly, mewn rhai achosion y budd i'r cwsmer fydd cynnydd mewn cysur a llesiant wrth i’r cartref gael ei wresogi yn fwy effeithiol yn hytrach na gostyngiad mewn biliau tanwydd.

Newidiadau mewn sgôr SAP cyn ac ar ôl gosod pecynnau gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref

Sgôr SAP cyn gosod y pecyn

Roedd sgoriau SAP aelwydydd cyn gosod pecynnau gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref fel a ganlyn:

  • Roedd gan 5.2% o aelwydydd sgôr SAP o E;
  • Roedd gan 32.6% o aelwydydd sgôr o F; ac
  • Roedd gan 62.3% o aelwydydd sgôr o G.

Nodyn: Oherwydd y modd mae'r canrannau wedi'u cyfrifo, mae gwall talgrynnu o 0.1% ar gyfer yr adran hon.

Sgôr SAP ar ôl gosod y pecyn

Roedd graddfeydd SAP aelwydydd ar ôl gosod pecynnau gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref fel a ganlyn:

  • Roedd gan 23.2% o aelwydydd sgôr SAP o C;
  • Roedd gan 60.2% o aelwydydd sgôr o D;
  • Roedd gan 13.7% o aelwydydd sgôr o E; a
  • Roedd gan 2.9% o aelwydydd sgôr o F.

Arbedion aelwydydd: costau, ynni ac allyriadau carbon deuocsid

Mae'r tabl yn dangos dadansoddiad o arbedion ynni wedi'u modelu fesul aelwyd lle gosodwyd mesurau yn ôl awdurdod lleol, gydag arbediad amcangyfrifedig o £422 y flwyddyn ar gyfartaledd neu 21,715 megajoule (unedau ynni) y flwyddyn.

Mae hefyd yn dangos y dadansoddiad yn ôl gostyngiadau allyriadau carbon oes i aelwydydd a gafodd becyn gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref.

Mae cyfanswm yr allyriadau oes yn cael eu modelu ar gyfer gostyngiad o dros 109,301 tunnell mewn CO2.

Awdurdod lleol

Swm Arbedion CO2 Oes gyfan (tCO)

Cyfartaledd Arbedion Ynni (megajoules)

Cyfartaledd Arbedion Cost Tanwydd Blynyddol

Blaenau Gwent

3,570

25,002

£363

Pen-y-bont ar Ogwr

6,053

22,029

£361

Caerffili

8,234

22,611

£470

Caerdydd

7,125

17,778

£460

Sir Gâr

10,079

23,853

£461

Ceredigion

4,873

25,426

£463

Conwy

2,188

21,626

£256

Sir Ddinbych

2,822

19,683

£242

Sir y Fflint

2,239

19,955

£193

Gwynedd

4,174

26,283

£410

Ynys Môn

2,444

22,438

£469

Merthyr Tudful

3,379

21,911

£592

Sir Fynwy

1,433

21,407

£384

Castell-nedd Port Talbot

5,710

21,515

£361

Casnewydd

4,125

20,494

£323

Sir Benfro

4,731

22,571

£469

Powys

3,182

25,440

£367

Rhondda Cynon Taf

16,572

21,526

£668

Abertawe

8,912

19,655

£380

Torfaen

2,146

20,692

£319

Wrecsam

2,270

21,964

£260

Bro Morgannwg

3,040

19,837

£491

 [1] RdSAP a SAP – Y Weithdrefn Asesu Safonol (SAP) yw methodoleg Llywodraeth y DU ar gyfer asesu a chymharu perfformiad ynni a pherfformiad amgylcheddol anheddau.

Cyflwynwyd y data SAP gostyngol (RdSAP) yn ddiweddarach fel offeryn mwy cost-effeithiol i asesu anheddau oedd yn bodoli eisoes.

Buddsoddiad Llywodraeth Cymru

Yn ystod 2022-23, buddsoddodd Llywodraeth Cymru £26.9 miliwn drwy fesurau Nyth.

Mae’r gosodiadau pecynnau gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref yn ôl ardal awdurdod lleol yn erbyn dosbarthiad aelwydydd sy’n profi tlodi tanwydd yn ôl ardal awdurdod lleol

Mae'r graff yn dangos canran y gosodiadau a gwblhawyd yn ôl ardal awdurdod lleol yn 2022-23.

Image
– Mae'r siart yn dangos Gosodiadau yn ôl Ardal Awdurdod Lleol 2022-23. Mae'r ganran uchaf o osodiadau yn Rhondda Cynon Taf ar 10.9% a'r isaf yn Sir Fynwy ar 1.3%.

Gwariant cyfartalog fesul cartref ar wella effeithlonrwydd ynni cartref yn ôl awdurdod lleol

Mae'r siart hon yn dangos y gwariant cyfartalog ar welliannau effeithlonrwydd ynni cartref yn ôl awdurdod lleol. Mae'r gwariant yn uwch mewn rhai awdurdodau lleol oherwydd nifer yr eiddo nad ydynt wedi’u cysylltu â’r prif gyflenwad nwy.

Image
– Mae'r siart yn dangos Gwariant Cyfartalog Awdurdodau Lleol fesul Aelwyd. Yr uchaf yw Ceredigion ar £7,227 a'r isaf yw  ar £3,921.

Boddhad deiliaid tai

Mae boddhad cwsmeriaid gyda Nyth wedi bod yn gyson uchel dros oes y cynllun: Yn 2022-23, dywedodd 98.8% o gwsmeriaid eu bod yn fodlon ar y gwasanaethau cynghori a'r gosodiadau a ddarparwyd gan Nyth.

Caiff pob deiliad tŷ sy'n cael cyngor gan y cynllun arolwg drwy'r post a gofynnir iddynt sgorio'r gwasanaeth yn unol â'u boddhad. Caiff boddhad deiliad tai ei gofnodi a'i reoli (gan gynnwys unrhyw gwynion) sy'n ymwneud â phob cam o daith y cwsmer.

Dim ond 1% o'r holl gwsmeriaid a dderbyniodd becyn gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref wnaeth gŵyn yn 2022-23. Roedd y mwyafrif o gwsmeriaid yn fodlon ar y gwasanaeth gosod a ddarparwyd.

Meithrin partneriaethau ledled Cymru

Mae'r Rheolwyr Datblygu Partneriaethau wedi gweithio gydag ystod eang o sefydliadau i helpu i gyrraedd aelwydydd agored i niwed gyda chymorth Nyth yn ystod 2022-2023.

Roedd y rhain yn cynnwys:

  • pob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru;
  • Byrddau Iechyd: Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr;
  • Cwmnïau ynni a dŵr: SP Energy Networks, Y Grid Cenedlaethol, Dŵr Cymru, Hafren Dyfrdwy;
  • asiantaethau cynghori: Cyngor ar Bopeth Cymru, Cymru Gynnes, Groundwork ac asiantaethau lleol/rhanbarthol;
  • sefydliadau sy'n cefnogi pobl hŷn: Age Cymru, Age Connects, Gofal a Thrwsio;
  • cynghorau gwirfoddol rhanbarthol: Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO), Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (DVSC), Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO), Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVO), Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS), Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint (FLVC), Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Wrecsam (AVOW);
  • gwasanaethau sy'n cefnogi cwsmeriaid â chyflyrau iechyd: Parkinson's UK, Cymdeithas Alzheimer, Cymorth Gwaed wedi'i Heintio Cymru, Hosbis y Cymoedd; a
  • sefydliadau sy'n cefnogi cymunedau ymylol yng Nghymru: Race Equality First

Gweithgaredd allgymorth

Mynychodd y Rheolwyr Datblygu Partneriaethau nifer o sesiynau allgymorth a chyfarfodydd rhwydwaith ledled Cymru yn ystod 2022-23. Roedd eu gweithgareddau’n cynnwys:

  • Mynychu digwyddiadau "sioe deithiol costau byw" Aelodau Seneddol ac Aelodau o’r Senedd, gyda Dŵr Cymru, Cyngor ar Bopeth, Cymru Gynnes, Undeb Credyd Cambrian, Groundwork, Cyngor Ceredigion, a Chyngor Gwynedd;
  • Mynd i ddigwyddiadau costau byw yn Aberconwy, Rhydaman, Aberteifi, Port Talbot, ac Ynys Môn;
  • Cyflwyno sgyrsiau cyhoeddus i ddefnyddwyr gwasanaethau sy’n agored i niwed mewn partneriaeth ag Anabledd Cymru a Parkinson's UK;
  • Ymweld â Hybiau Cynnes Cyngor Bwrdeistref Sirol Ceredigion, Powys a Wrecsam drwy gydol y gaeaf;
  • Cyflwyno i gynghorwyr a staff Cymru Gynnes, Cyngor ar Bopeth Lleol, Macmillan, canghennau Gofal a Thrwsio lleol, Hafren Dyfrdwy a Scope; a
  • Mynychu cyfarfodydd Rhwydweithio a gynhaliwyd gan Rwydwaith Lles Gogledd-ddwyrain Cymru, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO), Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (DVSC), Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVO), Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS), a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mynychu digwyddiadau

Mynychodd y Rheolwyr Datblygu Partneriaethau 413 o ddigwyddiadau a chyfarfodydd yn 2022-2023. Roedd y rhain yn cynnwys llawer o ddigwyddiadau costau byw mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, elusennau a sefydliadau cymorth, gan gynnwys Dŵr Cymru, Age Well Nefyn, a Race Equality First.

Cyflwyno hyfforddiant

Cyflwynodd y Rheolwyr Datblygu Partneriaeth gyfanswm o 19 sesiwn hyfforddi i sefydliadau gan gynnwys Hyfforddwyr Gwaith Canolfan Byd Gwaith Pen-y-bont ar Ogwr a Chanolfan Byd Gwaith Rhondda Cynon Taf, Ymwelwyr Iechyd Dechrau'n Deg Ceredigion, Cysylltwyr Cymunedol Ceredigion, Gweithwyr Achos Gofal a Thrwsio Torfaen, Tîm Cymorth Covid Hir Hywel Dda, a Thimau Iechyd Meddwl Cymunedol.

Post uniongyrchol awdurdodau lleol

Gweithiodd y Rheolwyr Datblygu Partneriaethau gyda 18 o awdurdodau lleol i ddarparu ymgyrchoedd postio uniongyrchol i hyrwyddo Nyth, gan gyrraedd cyfanswm o 44,029 o aelwydydd, sef, Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir y Fflint, Gwynedd, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen, ac Ynys Môn. Roedd hyn yn ffordd effeithiol o gyrraedd aelwydydd agored i niwed sydd mewn perygl o dlodi tanwydd.

Pwysigrwydd gwaith partneriaeth ar gyfer Nyth

Mae'r Rheolwyr Datblygu Partneriaethau wedi parhau i weithio ochr yn ochr â phrif bartneriaid fel Dŵr Cymru, Cyngor ar Bopeth Cymru, Gofal a Thrwsio Cymru, SP Energy, Cymru Gynnes ac eraill i sicrhau bod preswylwyr yng Nghymru yn cael gwybod sut i gael gafael ar y cymorth sydd ar gael.

Sicrhau buddiannau ychwanegol

Mae Nyth yn sicrhau bod ein strategaeth buddion cymunedol yn ymgorffori ac yn sicrhau canlyniadau i:

  • greu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant ar gyfer grwpiau blaenoriaeth;
  • cyflawni a chefnogi mentrau addysgol a chydraddoldeb ac amrywiaeth;
  • helpu i feithrin gallu mewn sefydliadau cymunedol; a
  • chefnogi datblygiad ein cadwyn gyflenwi.

Mae'r llwyddiannau allweddol yn 2022-23 yn cynnwys:

Mentrau cymorth addysgol

Mae tîm Nyth yn parhau i gyflwyno ein gweithdy technoleg adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni rhyngweithiol i ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru, gyda ffocws cynyddol ar sero net a lleihau carbon. Eleni, mae dros 500 o fyfyrwyr wedi cymryd rhan; gan greu syniadau newydd, arloesol am gynnyrch.

Mae tîm Nyth hefyd wedi cefnogi ysgolion gyda sesiynau 'parod ar gyfer cyflogaeth', gan gynnwys cynnal ffug gyfweliadau a darparu arweiniad CV.

Am yr ail flwyddyn, mae Ysgol Maelor yn Wrecsam wedi cymryd rhan yn ein her Cyflogadwyedd a Menter Bagloriaeth Cymru CBAC.

Meithrin gallu mewn sefydliadau cymunedol

Cymdeithas Alzheimer Cymru

Roedd Rheolwr Ymgysylltu Cymunedol Nyth yn Hyrwyddwr Cyfaill Dementia. Mae'r swydd wirfoddol hon bellach wedi datblygu i fod yn Llysgennad Cymdeithas Alzheimer. Fel rhan o'r rôl hon, mae tîm Nyth yn gallu cyflwyno sesiynau ymwybyddiaeth Cyfaill Dementia fel o'r blaen, ond hefyd yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd eraill o ran ymweld â grwpiau cymorth a chodi arian.

Gwahoddwyd tîm Nyth i fynychu nifer o grwpiau cymdeithasu Cymdeithas Alzheimer ar draws y de ddwyrain, lle mae'r tîm yn cynnal gweithgaredd addurno cacennau.

Argyfwng costau byw

Cefnogodd tîm Nyth nifer o sesiynau cynghori argyfwng costau byw ledled Cymru, a drefnwyd gan ASau ac awdurdodau lleol, gan helpu preswylwyr i gael gafael ar gymorth y mae mawr ei angen.

Cefnogi datblygiad ein cadwyn gyflenwi

Eleni, cefnogodd tîm Nyth ein contractwyr i uwchsgilio eu staff a thyfu eu busnes ar gyfer Solar PV, gyda chronfa ymgeisio o hyd at £1500 ar gael ar gyfer hyfforddiant gweithwyr.

Tysteb datblygu'r gadwyn gyflenwi: Electrical Innovation

"Ein prif ffocws yw ehangu ein gwybodaeth a'n harbenigedd yn y sector ynni adnewyddadwy yn erbyn newid hinsawdd byd-eang a'r costau ynni cynyddol y mae cwsmeriaid yn eu hwynebu. 

Rydyn ni wedi nodi gofynion hyfforddi ac wedi galluogi tri gweithiwr arall i gael mynediad at yr hyfforddiant hwn gyda chyllid gan Nyth. Mae hyn bellach wedi gwella ein set sgiliau busnes ac wedi cynyddu ein gwaith o ran gosodiadau PV solar.''

Ein rhagolwg ar gyfer 2023 – 2024

Ein nod yw buddsoddi mwy yn ein hamser gwirfoddoli yn ogystal â help ymarferol i weithgareddau cymunedol sydd angen cymorth. Mae tîm Nyth yn parhau i wella a datblygu ei weithgareddau buddiannau cymunedol trwy chwilio am bartneriaethau newydd a chefnogi sefydliadau cymunedol ledled Cymru.

Edrych tua'r dyfodol

Mae cynllun Nyth wedi bod yn rhedeg ers 2011, ond mae argyfwng costau byw parhaus yn golygu bod yr angen i fynd i'r afael â thlodi tanwydd a helpu'r rhai mwyaf anghenus yr un mor bwysig ag erioed.

Bydd cynllun Nyth yn parhau i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru ac yn gwneud y canlynol:

  • Gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau partner i sicrhau bod y cynllun yn cyrraedd yr aelwydydd hynny sydd â'r angen mwyaf;
  • Parhau i gyflwyno solar PV a storio batris i aelwydydd cymwys a defnyddio technolegau mwy newydd gan gynnwys pympiau gwres o’r awyr;
  • Parhau i gyfrannu at strategaethau ynni a thlodi Llywodraeth Cymru;
  • Parhau i gynorthwyo mentrai tai cydweithredol a chefnogi'r sector rhentu preifat; a
  • Gweithredu yn unol â’r gwerthoedd a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol gan gynnwys cydweithredu, integreiddio ac atal.

Cysylltu

Ewch i wefan Nyth am ragor o wybodaeth am gynllun Nyth, gan gynnwys sut i gysylltu â'r tîm.