Cymorth i wneud eich cartref yn fwy ynni effeithlon
Beth all Nyth ei wneud i chi
Mae Nyth yma i’ch helpu gyda chyngor diduedd am ddim y gallwch ymddiried ynddo.
Gallwn ddarparu cyngor am effeithlonrwydd ynni ac os ydych yn gymwys, cynnig cymorth i osod gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn eich cartref.
Cefnogaeth i wneud eich cartref yn fwy ynni effeithlon
Pan fyddwch yn cysylltu â ni, gall ein tîm cynghori eich helpu i weld a ydych chi’n gymwys i gael pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim.
Gall y gwelliannau yma helpu i ostwng eich biliau ynni, lleihau eich ôl troed carbon a gwella eich iechyd a lles.
Os ydych chi’n gymwys, gallwn argymell pecyn o welliannau wedi'u teilwra ar eich cyfer. Gallai hyn gynnwys:
- inswleiddio
- pwmp gwres
- paneli solar
- gwres canolog
Cael cymorth gydag effeithlonrwydd ynni
Rydyn ni’n gwybod y gall costau byw uchel fod yn destun pryder os ydych chi’n ei chael hi’n anodd talu’ch biliau ynni.
Gall ein cynghorwyr cyfeillgar roi cyngor diduedd am ddim i chi ar y canlynol:
- gwneud yn siŵr eich bod ar y tariff ynni a dŵr gorau ar gyfer eich cartref
- hawlio unrhyw fudd-daliadau i roi hwb i incwm eich cartref
Cyngor ar wneud dewisiadau ynni gwyrdd
Gallwn ni i gyd wneud newidiadau bach i leihau ein heffaith ar y blaned. Mae dechrau arni’n llawer haws na’r disgwyl. Gallwn ddarparu cyngor ar ddewisiadau ynni gwyrdd gan gynnwys:
- beth allwch chi ei wneud i leihau eich ôl troed carbon
- beth i’w wneud os ydych chi’n ystyried gosod technoleg carbon isel
Cael cymorth gan Nyth
Dysgwch fwy am y cymorth a’r cyngor arbed ynni y gallwn ei ddarparu.