Cynllun cerdyn cymhorthdal di-glwten Cymru gyfan (WHC/2025/027)
Llythyr i fyrddau iechyd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i gyflenwi bwydydd di-glwten yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Manylion
Statws:
Cam gweithredu.
Categori:
Polisi.
Teitl:
Newidiadau i'r cyflenwad o fwydydd di-glwten yng Nghymru;
cynllun cerdyn cymhorthdal di-glwten Cymru gyfan.
Dyddiad dod i ben / dyddiad yr adolygiad:
Amherthnasol.
I’w weithredu gan:
- Prif weithredwyr, byrddau / ymddiriedolaethau iechyd.
- Cyfarwyddwyr meddygol, byrddau / ymddiriedolaethau iechyd.
- Cyfarwyddwyr gweithredol, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddor gofal iechyd.
- Cyfarwyddwyr gofal sylfaenol a chymunedol, byrddau / ymddiriedolaethau iechyd.
- Cyfarwyddwyr gweithredol nyrsio, byrddau / ymddiriedolaethau iechyd.
- Cyfarwyddwyr fferyllfeydd, byrddau / ymddiriedolaethau iechyd.
- Cyfarwyddwyr iechyd y cyhoedd, byrddau / ymddiriedolaethau iechyd.
- Cyfarwyddwyr cyllid, byrddau / ymddiriedolaethau iechyd.
- Ymarferwyr cyffredinol.
- Fferyllfeydd cymunedol.
- Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru.
- Fferylliaeth Gymunedol Cymru.
Angen gweithredu erbyn:
15 Awst 2025.
Anfonwyd gan:
- Paul Casey, Dirprwy Gyfarwyddwr, Gofal Sylfaenol a Chymunedol.
- Andrew Evans, Prif Swyddog Fferyllol, Llywodraeth Cymru.
Y Grŵp Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar.
Enwau cyswllt Llywodraeth Cymru:
Y Gangen Fferylliaeth a Phresgripsiynu,
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd.
CF10 3NQ.
E-bost: Pharmacyand.PrescribingBranch@gov.wales
Newidiadau i'r cyflenwad o fwydydd di-glwten yng Nghymru; cynllun cerdyn cymhorthdal di-glwten Cymru gyfan
Annwyl Gydweithwyr,
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i weithredu cynllun cerdyn cymhorthdal di-glwten Cymru gyfan ar gyfer cleifion sydd â diagnosis o glefyd seliag neu dermatitis herpetiformis yng Nghymru.
Mae cynllun peilot ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a gwerthusiad gan Ganolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi dangos bod y cynllun cerdyn cymhorthdal yn cael ei ystyried yn dderbyniol gan gleifion ac yn cynnig buddion sylweddol, megis llai o faich ariannol, a mwy o ddewis a chyfleustra o ran cael gafael ar fwydydd di-glwten. Mae mabwysiadu'r cynllun hefyd yn arwain at fuddion i feddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol trwy leihau'r llwyth gwaith sy'n gysylltiedig â rheoli a dosbarthu presgripsiynau ar gyfer bwydydd di-glwten.
Sefydlwyd Bwrdd Cyflawni'r Cynllun Cerdyn Cymhorthdal Di-glwten yn 2023 gan gynnwys rhanddeiliaid allweddol ledled Cymru. Nod y bwrdd oedd goruchwylio'r gwaith o weithredu'r cynllun cerdyn cymhorthdal di-glwten a sicrhau dull cyson o ddarparu cynhyrchion di-glwten i bobl â chlefyd seliag a dermatitis herpetiformis yng Nghymru.
Bydd Partneriaeth Cyd-wasanaethau GIG Cymru yn goruchwylio'r gwaith o weithredu cynllun cerdyn cymhorthdal di-glwten Cymru gyfan a, hyd nes y bydd adolygiad o'r aelodaeth wreiddiol, bydd yn ailsefydlu'r bwrdd cyflawni yn nes ymlaen eleni gyda'r bwriad o gofrestru pobl gymwys ar gyfer y cynllun cyn gynted â phosibl.
Er mwyn cefnogi gweithredu'r cynllun yn amserol, mae'n ofynnol i fyrddau iechyd nodi cyfarwyddwr gweithredol fel uwch berchennog cyfrifol ar gyfer y cynllun a sefydlu trefniadau i alluogi ei weithredu’n lleol cyn gynted â phosibl. Bydd uwch berchennog cyfrifol pob bwrdd iechyd yn aelod o Fwrdd Cyflawni’r Cynllun Cerdyn Cymhorthdal Di-glwten Cenedlaethol, neu bydd yn ofynnol iddo enwebu rhywun i fod yn aelod. Rhaid i fyrddau iechyd hefyd sefydlu trefniadau (er enghraifft cyfeiriad e-bost generig) ar gyfer ymateb i ymholiadau am weithredu'r cynllun yn eu hardal.
Crynodeb:
Rhaid i bob bwrdd iechyd lleol:
- enwi cyfarwyddwr gweithredol i fod yn uwch berchennog cyfrifol ar gyfer gweithredu'r cynllun yn eu bwrdd iechyd
- rhaid i'r uwch berchennog cyfrifol sefydlu trefniadau i alluogi gweithrediad lleol cyn gynted â phosibl
- rhaid i'r uwch berchennog cyfrifol fynychu Bwrdd Cyflawni Cynllun Cerdyn Cymhorthdal Di-glwten Cymru Gyfan, neu enwebu eu cynrychiolydd i fynychu
Camau i’w cymryd
Dylid anfon enw a manylion cyswllt yr uwch berchennog cyfrifol at Pharmacyand.PrescribingBranch@llyw.cymru [troednodyn 1] erbyn 15 Awst 2025 ochr yn ochr â chadarnhad o drefniadau'r bwrdd iechyd i alluogi gweithredu'n lleol cyn dyddiad Bwrdd Cyflawni Cynllun Cerdyn Cymhorthdal Di-glwten Cymru Gyfan yr hydref hwn.
Dylid anfon manylion cyswllt y bwrdd iechyd (er enghraifft, cyfeiriad e-bost generig) ar gyfer ymholiadau cleifion sy'n ymwneud â gweithredu'r cynllun o fewn y bwrdd iechyd at Pharmacyand.PrescribingBranch@llyw.cymru [troednodyn 1].
Dogfennau amgaeedig:
Troednodion
[1] Bydd y manylion yn cael eu rhannu gyda Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ar gyfer cyfeirio ymholiadau cleifion i'r bwrdd iechyd.
