Rydym am sefydlu cynllun cofrestru a thrwyddedu statudol ar gyfer pob darparwr llety ymwelwyr yng Nghymru.
Cynnwys
Cyflwyniad
Bydd y cynllun cofrestru a thrwyddedu yn creu cofrestr o bob math o lety i ymwelwyr. Bydd hyn yn:
- dweud wrthym pwy sy'n gweithredu yn y sector
- helpu darparwyr llety i ddangos eu bod yn bodloni ein safonau diogelwch ac ansawdd
- gwella profiad a diogelwch ymwelwyr yng Nghymru
Rydym yn cyflwyno'r cynllun hwn fel rhan o'n Cytundeb Cydweithredu â Phlaid Cymru. Mae cyflwyno cynllun trwyddedu statudol ar gyfer llety gwyliau hefyd yn ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.
Ein nod yw cyhoeddi Bil drafft ar y cynigion hyn cyn diwedd y flwyddyn.
Rydyn ni eisiau dangos i ymwelwyr pa mor ddifrifol rydyn ni'n cymryd eu diogelwch a'r safonau uchel rydyn ni'n eu disgwyl ym maes twristiaeth. Rydym hefyd am sicrhau bod y rheolau ar gyfer darparwyr llety yn deg ac yn rhesymol.
Ar hyn o bryd rydym yn ystyried arfer gorau i ddylunio cynllun sy'n syml ac yn hawdd ei ddefnyddio.
Cefndir
Mae'r Cytundeb Cydweithredu gyda Phlaid Cymru yn ymrwymo i gynllun trwyddedu statudol ar gyfer llety gwyliau. Nod hyn yw datrys y problemau a achosir gan ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr. Gall y rhain ei gwneud hi'n anodd i bobl leol ddod o hyd i dai yn ein cymunedau a'u fforddio.
Ym mis Gorffennaf 2022, cyhoeddodd y Prif Weinidog ac Arweinydd Plaid Cymru gynlluniau i gyflwyno cynllun trwyddedu statudol ar gyfer pob math o lety ymwelwyr yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys llety tymor byr.
Y cynigion
Bydd y cynllun cofrestru a thrwyddedu yn cael ei sefydlu mewn tri cham:
- Cyfnod cofrestru: bydd angen i bob darparwr llety ymwelwyr yng Nghymru gofrestru. Yn ystod y broses hon, byddant yn rhannu manylion gan gynnwys perchnogaeth, lleoliad, a sut maent yn gweithredu.
- Cyfnod trwyddedu diogelwch: er mwyn gweithredu, bydd angen trwydded ar ddarparwyr llety. Bydd y drwydded yn gadarnhad eu bod yn bodloni safonau diogelwch penodol
- Cyfnod trwyddedu ansawdd: bydd hyn yn ychwanegu safonau ansawdd i'r trwyddedu.
Bydd y cynllun yn gwella diogelwch ac ansawdd mewn llety yng Nghymru. Bydd hyn yn sicrhau bod llety yn parhau i gynnal enw da.
Byddwn yn rhoi rhybudd a chefnogaeth i ddarparwyr llety yn ystod y broses.
Bydd y gofrestr hefyd yn ein helpu i:
- ddeall y sector yn well a helpu i lywio polisiau'r dyfodol
- cyfathrebu ac ymgysylltu â'r sector
- rhannu arfer gorau a darparu diweddariadau ynghylch gofynion cydymffurfio
- cefnogi ymrwymiad arall, cyflwyno ardoll ymwelwyr.
Bydd ffi am drwydded a bydd angen ei hadnewyddu yn gyfnodol.
Cewch wybod mwy am y cynigion yn natganiad Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden AS: Cyfarfod Llawn 09/01/2024 – Senedd Cymru (senedd.cymru)
Sut rydyn ni yn ymgynghori
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus gennym ar y cynllun arfaethedig: Cynllun trwyddedu statudol i ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru
Cynhaliwyd rhagor o ddigwyddiadau ymgynghori gennym ledled Cymru yng ngwanwyn 2023. Roedd y rhain yn canolbwyntio ar elfennau penodol o'r cynllun. Roedd y rhai oedd yn bresennol yn cynrychioli cymdeithasau twristiaeth cenedlaethol, rhanbarthol a lleol yn ogystal â chynrychiolwyr:
- awdurdodau lleol
- asiantau teithio ar-lein
- undebau a chymdeithasau ffermio a chefn gwlad
- asiantau llety hunanddarpar
Mae'r adroddiad Cynllun trwyddedu statudol i ddarparwyr llety ymwelwyr: barn defnyddwyr a phreswylwyr yn cyflwyno canlyniadau arolwg rhai o gynigion y cynllun.
Y camau nesaf
Wrth i'r gwaith fynd rhagddo, byddwn yn parhau i ymgysylltu ac ymgynghori â'n rhanddeiliaid gan gynnwys busnesau, cymunedau ac ymwelwyr.
Bydd cyhoeddiadau am y cynllun yn cael eu gwneud drwy gylchlythyrau a bwletinau diwydiant Croeso Cymru.
Cysylltu â ni
I gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost at StatutoryLicensing@llyw.cymru