Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair y Cadeirydd

Image
Kathryn Bishop, Chair of the Welsh Revenue Authority

Fel awdurdod trethi newydd Cymru ac adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru, rydym yn gweithredu i gefnogi Gweinidogion Cymru a’u rhaglen lywodraethu.

Ers ein sefydlu ym mis Hydref 2017, rydym wedi gosod sylfaeni’r sefydliad, wedi dylunio ein prosesau a’n systemau ac wedi datblygu rhai dulliau arloesol o gasglu refeniw, ar y cyd â’n partneriaid.

Hwn yw ein hail gynllun corfforaethol, sy’n cael ei gyhoeddi wrth i ni gwblhau ein blwyddyn gyntaf o weithredu. Ynddo rydym yn rhoi sylw i rai o’r themâu sydd wedi bod yn ganolog i ddatblygiad y sefydliad hyd yma – er enghraifft, y syniadau arloesol rydym wedi bod yn eu defnyddio wrth ffurfio’r sefydliad ac Ein Dull o Weithredu, a ddisgrifir isod.

Mae partneriaeth hefyd yn thema allweddol: rydym yn deall mai’r ffordd orau i sicrhau llwyddiant wrth weinyddu trethi yw drwy ymgysylltu’n weithredol â phartneriaid a’r rheini sy’n defnyddio ein gwasanaethau, fel mae Ein Siarter yn egluro – ac mae’r dull hwn yn gallu gweithio’n arbennig o dda yng Nghymru, oherwydd ein maint, ein ffocws a’n natur gysylltiedig. Er enghraifft, rydym wedi bod yn gwneud ein gwaith yng nghyswllt y Dreth Gwarediadau Tirlenwi mewn partneriaeth â chydweithwyr yn Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd wedi bod yn cydweithio â ni er mwyn darparu arbenigedd yn y maes gwaith pwysig hwn.

Mae’r cynllun hwn yn esbonio sut rydym yn bwriadu datblygu fel sefydliad dros y tair blynedd nesaf. Mae wedi’i seilio ar ein Datganiad o Bwrpas, sy’n crisialu ein pwrpas a’r gwaith y byddwn yn ei wneud i wasanaethu Cymru.

Rydym yn cymryd y cyfrifoldeb sydd arnom i godi refeniw dros Gymru o ddifrif; mae ein blwyddyn gyntaf wedi bod yn llwyddiannus – fel y bydd ein Hadroddiad Blynyddol, sydd i’w gyhoeddi yn Haf 2019, yn dangos – ond mae mwy i’w wneud, fel y mae’r ddogfen hon yn egluro.

Mae cynlluniau’n bwysig, ond eu rhoi ar waith sy’n cyfrif. Mae angen pobl i wneud hynny, ac rydym yn gwybod bod ein tîm bach amlsgiliau yn llawn cymhelliant ac ymroddiad, oherwydd canlyniadau Arolwg Ymgysylltiad y Gwasanaeth Sifil eleni - roeddem ymysg y pump uchaf o blith dros 100 o sefydliadau’r gwasanaeth sifil yn y DU.

Rydym i gyd wedi bod yn rhan o’r gwaith o lunio’r ail Gynllun Corfforaethol hwn, a byddwn yn canolbwyntio’n holl ymdrechion ar gyflawni’r nodau rydym wedi’u mynegi ynddo i helpu i sicrhau system drethi deg i Gymru.

Kathryn Bishop

Rhagair y Prif Weithredwr

Image
Dyfed Alsop

Gan fod yr ail gynllun corfforaethol hwn yn nodi diwedd ein blwyddyn gyntaf yn gweithredu ac yn mynegi ble rydym am fynd nesaf, teimlaf nad yw ond yn iawn dechrau drwy ddweud diolch.

Rydym yn falch iawn o’r llwyddiant rydym wedi’i gael hyd yma ac yn sylweddoli faint o waith oedd ynghlwm â chyflawni hyn. Mae fy niolch yn fawr i’n partneriaid cyflawni; i drethdalwyr a’u hasiantau; i’n cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ac, wrth gwrs, i bawb yn Awdurdod Cyllid Cymru. Mae ymgysylltu wrth galon Ein Dull o Weithredu. Ac mae Ein Dull o Weithredu yn seiliedig ar barch tuag at y naill a’r llall, sy’n rhywbeth y byddwn yn parhau i’w feithrin yn y dyfodol. Rydym yn credu mai dyma’r ffordd orau i barhau i ddysgu a thyfu mewn modd cynaliadwy fel sefydliad.

Ac i’r ymgysylltiad dwyffordd hwn y mae diolch ein bod wedi gallu gwella’r ffordd rydym yn gweithio. Mae hyn wedi ein helpu i wneud newidiadau i’n systemau, ar sail adborth, sy’n cefnogi trethdalwyr o ran talu’r swm iawn o dreth ac i addasu ein gwasanaethau i anghenion y rheini sy’n eu defnyddio. Rydym hefyd yn gwerthfawrogi’r newidiadau y mae pobl eraill wedi’u cwblhau i wneud pethau’n fwy syml; er enghraifft, mae nifer y taliadau sy’n cael eu gwneud â siec wedi gostwng traean yn ystod y flwyddyn gyntaf.

Fel y mae Kathryn wedi dweud, rydym wedi neilltuo amser, gan weithio gyda’n rhanddeiliaid a’n pobl, i bwyso a mesur sut rydym am weld Awdurdod Cyllid Cymru yn datblygu yn y blynyddoedd i ddod. Mae ein datganiad o bwrpas newydd yn helpu i ddiffinio ein rôl wrth symud tua’r dyfodol ac mae ein hamcanion yn hoelio ein sylw.

Mae her y cyflawni yn gwneud inni deimlo’n gyffrous iawn ac rydym yn awyddus i archwilio’r posibiliadau newydd a allai godi yn sgil data trethdalwyr Cymru a’r cyfle i rannu ein harbenigedd wrth gynllunio gwasanaethau cyllid newydd i Gymru.

Bydd y gwaith hwn yn cyfrannu at gyflawni ‘Cynllun Gwaith Polisi Trethi’ Llywodraeth Cymru.

Yn y blynyddoedd i ddod, rydym am gryfhau ein gallu digidol ac o ran data, mireinio ffyrdd newydd o weithio a pharhau i ddarparu gwasanaethau effeithlon er mwyn ei gwneud yn hawdd i eraill gydweithio â ni. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn cynnal yr awydd a’r penderfyniad hwn i ddatblygu, arloesi a gwella’n barhaus.

Rydym yn falch bod gennym ddangosyddion perfformiad a gytunwyd sy’n mesur pa mor dda mae’r system trethi datganoledig yn gweithio yn gyffredinol. Rydym wedi gweithio ag eraill i greu ffyrdd newydd ac arloesol o fesur sy’n adlewyrchu Ein Dull o Weithredu. Maent yn ein hannog i barhau i weithio’n agos â threthdalwyr a’u hasiantau, er mwyn creu system drethi sy’n deg ac sy’n adlewyrchu blaenoriaethau Cymru.

Mae ein hagwedd ataliol a chydweithredol yn ymgorffori naws Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n treiddio drwy ein sefydliad.

Gyda’i gilydd, dyma yw ysbryd arloesi yn fy marn i, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’n gilydd i wireddu hyn.

Dyfed Alsop

Ein Dull o Weithredu

Rydym wedi ymrwymo i helpu i gyflawni system drethi deg i Gymru. Rydym wedi bod yn gwneud hyn drwy Ein Dull o Weithredu - ffordd Gymreig o drethu. Drwy weithio â chynrychiolwyr, sefydliadau partner, trethdalwyr a’r cyhoedd, rydym am i’r dull hwn, sy’n cael ei weithredu mewn partneriaeth, sicrhau bod trethi’n cael eu casglu a’u rheoli’n effeithlon ac yn effeithiol.

Mae Ein Dull o Weithredu yn cynnwys tri therm: Cydweithio, Cadarnhau, Cywiro, ac mae wedi’i ysbrydoli gan Ein Siarter, sy’n cynnwys wyth o gredoau, gwerthoedd a chyfrifoldebau a rennir. Yma, rydym yn rhannu rhai enghreifftiau o sut rydym wedi defnyddio Ein Dull o Weithredu hyd yma.

Cydweithio

Ystyr hyn yn llythrennol yw ‘gweithio gyda’n gilydd’ ac mae’n golygu gweithio tuag at nod gyffredin.

Cadarnhau

Mae hyn yn awgrymu nodwedd gadarn a chryf y gellir dibynnu arni. Mae’n golygu darparu sicrwydd, bod yn gywir ac atgyfnerthu ymddiriedaeth.

Cywiro

Ystyr hyn yn llythrennol yw ‘dychwelyd at y gwir’ ac mae’n ymwneud â sut rydyn ni’n gweithio gyda chi i ddatrys gwallau neu bryderon.

Cydweithio: Gweithio gyda’n gilydd i dalu’r dreth gywir

Sefyllfa

Mae’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi wedi disodli’r Dreth Dirlenwi yng Nghymru ers 1 Ebrill 2018, gan effeithio ar 17 o weithredwyr safle tirlenwi cofrestredig yng Nghymru. Roedd angen i ni weithio gyda’n gilydd i’w cefnogi gyda’r gwaith o ffeilio’r dreth newydd i sicrhau eu bod yn talu’r swm cywir o dreth.

Dull Gweithredu

Buom yn gweithio gyda’n partner, Cyfoeth Naturiol Cymru, i sefydlu perthynas gref â phob gweithredwr safle tirlenwi. Ymwelodd ein tîm Cymru-gyfan â phob safle er mwyn dod i ddeall sut roeddynt yn gweithio. Cawsom wybod nad oedd y ddeddfwriaeth yn cynnig rhyddhad treth pan oedd uwchbridd yn cael ei osod yn ystod y gwaith o adfer safle tirlenwi. Buom yn gweithio gyda swyddogion polisi Llywodraeth Cymru i awgrymu newidiadau i’r ddeddfwriaeth er mwyn caniatáu rhyddhad o’r fath.

Effaith

Pasiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddeddfwriaeth newydd mewn perthynas ag uwchbridd chwe mis ar ôl i’r dreth ddod i rym, gan ei gwneud yn decach i drethdalwyr. Chwe mis yn ddiweddarach, roedd rhai gweithredwyr safle tirlenwi wedi defnyddio’r ddeddfwriaeth newydd i hawlio rhyddhad.

Cadarnhau: Cynnig cymorth drwy’r gwasanaeth opiniwn treth

Sefyllfa

Wrth gyflwyno’r Dreth Trafodiadau Tir, roeddem am wneud yn siwˆ r bod ein canllawiau’n glir ac yn gryno er mwyn inni allu helpu cynrychiolwyr i ffeilio’r dreth gywir ar yr amser cywir. Roeddem hefyd am gynnig cymorth ychwanegol i gynrychiolwyr pan oedd y gyfraith yn amwys, neu os oedd eu trafodiad yn un cymhleth, gan gynnwys cyflwyno gwasanaeth opiniwn treth.

Dull Gweithredu

Penderfynwyd sefydlu gwasanaeth opiniwn treth drwy dîm ein desg gymorth fel bod trethdalwyr yn teimlo’n fwy hyderus wrth ffeilio ffurflenni treth mwy cymhleth. Rydym yn rhoi diweddariadau ar statws ymholiadau opiniwn treth a’n nod yw darparu ymateb ysgrifenedig llawn drwy e-bost neu lythyr cyn pen 25 diwrnod gwaith.

Effaith

Rydym wedi cael adborth cadarnhaol gan unigolion sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth opiniwn treth oherwydd ei fod yn rhoi gwell eglurder ynghylch sut y mae’r rheolau’n cael eu defnyddio yn eu sefyllfa nhw ac oherwydd bod y broses wedi bod yn un hawdd ei dilyn. Mae cynrychiolwyr wedi dweud eu bod yn hoffi cyflwyno drwy’r wefan er cyflymder. Rydym wedi newid ein canllawiau yn sgil ymholiadau opiniwn treth.

Cywiro: Helpu i gael y gyfradd dreth uwch yn gywir

Sefyllfa

Rydym yn amcangyfrif bod oddeutu 80% o’r galwadau i dîm y ddesg gymorth yn ymwneud â thrafodiadau ar gyfradd uwch y Dreth Trafodiadau Tir. Gwelsom fod rhai cynrychiolwyr yn dewis yr opsiwn anghywir ar gyfer trafodiadau cyfradd uwch ar ein system rheoli trethi wrth ffeilio ffurflenni treth. Arweiniodd hyn at ddiwygiadau diangen i ffurflenni treth, data anghywir ar ein system a thaliadau anghywir.

Dull Gweithredu

Aethom ati i gyflawni gwaith ymgysylltu a chyfathrebu i helpu i egluro sut roedd trafodiadau cyfradd uwch cymhleth yn gweithio. Buom yn cynnal gweminarau ac ymgyrchoedd pwrpasol ar Twitter; buom yn trafod ymholiadau yn ein Fforymau Treth a chynnig cymorth parhaus drwy dîm y ddesg gymorth. Rydym hefyd wedi gwella ein canllawiau ar sail adborth i alwadau ac wedi gwneud newidiadau i’n system drethi ddigidol.

Effaith

Rydym wedi cael adborth cadarnhaol i’r gwaith hwn, sy’n dal i fynd rhagddo. Yn sgil ein sgyrsiau â chynrychiolwyr, rydym yn gwybod bod llawer ohonynt erbyn hyn yn teimlo’n fwy hyderus eu bod yn ffeilio ac yn talu’r dreth gywir. Rydym hefyd wedi gwella’r data sydd gennym ar ein system ac rydym yn cael llai o ymholiadau am gyfraddau uwch.

Ein pwrpas a’n hamcanion strategol

Ein pwrpas yw:

  • cynllunio a darparu gwasanaethau cyllid cenedlaethol i Gymru
  • arwain y gwaith o ddefnyddio data trethdalwyr Cymru’n well er mwyn Cymru

Byddwn yn gwneud hyn mewn modd effeithiol drwy:

  • gwneud pethau’n haws: Byddwn yn ei gwneud yn haws talu’r swm cywir o dreth
  • sicrhau ein bod yn deg: Byddwn yn deg ac yn gyson yn y ffordd rydym yn casglu ac yn rheoli trethi, gan weithredu’n gymesur pan nad yw pobl yn cyflawni eu rhwymedigaethau
  • bod yn fwy effeithlon: Byddwn yn darparu mewn ffordd sy’n gynaliadwy ac
  • ehangu ein gallu: Byddwn yn datblygu ein gallu unigol a chyfunol

Byddwn yn datblygu dau faes arall er mwyn gwneud y defnydd gorau posibl o’n rôl:

  • data: Byddwn yn defnyddio ein hasedau data i’r eithaf, gan gydweithio ag eraill sy’n cadw data trethdalwyr yng Nghymru i wella’r ffordd rydym yn rhannu, yn defnyddio ac yn dadansoddi’r data hynny, er budd Cymru
  • dylunio: Byddwn yn defnyddio ein profiad a’n harbenigedd i gefnogi dyluniad gwasanaethau cyllid Cymru

Haws

Byddwn yn ei gwneud yn haws talu’r swm cywir o dreth.

Beth fyddwn ni’n ei wneud a sut

Defnyddio adborth i wneud ein gwasanaethau’n haws eu defnyddio

  • Annog defnyddwyr i roi adborth ar sut mae ein gwasanaethau’n gweithio o’u safbwynt nhw a seilio unrhyw welliannau ar hyn.
  • Bod ar gael a chefnogi pobl ag anghenion amrywiol i ddefnyddio ein gwasanaethau.

Rhoi cymorth er mwyn helpu i gael pethau’n iawn

  • Rhoi cymorth a chanllawiau clir drwy amrywiaeth o sianeli.
  • Datblygu ffyrdd arloesol o gynnig hyfforddiant a chefnogaeth, er enghraifft, gweminarau technegol neu wasanaethau digidol pwrpasol newydd.

Defnyddio gwybodaeth a chraffter i atal unrhyw gamgymeriadau yn y dyfodol

  • Gweithio gydag asiantau a threthdalwyr i ddeall beth sy’n achosi camgymeriadau a helpu i atal camgymeriadau rhag digwydd yn y dyfodol.
  • Canfod risgiau treth drwy ddadansoddi data a gwybodaeth a gwneud newidiadau i system dreth Cymru er mwyn lleihau’r risgiau hynny gymaint â phosibl.

Beth rydym am ei gyflawni

Mae arnom eisiau cefnogi pobl, gan ei gwneud yn haws iddynt dalu’r swm cywir o dreth ac i ddefnyddio ein gwasanaethau digidol. Byddwn yn defnyddio dau ddull allweddol o fesur perfformiad (MP) i weld pa mor dda mae hyn yn gweithio.

MP 1: Pa mor aml mae ein gwasanaethau digidol yn cael eu defnyddio

  1. Cyfran y ffurflenni treth sy’n cael eu ffeilio’n ddigidol.
  2. Cyfran y taliadau sy’n cael eu gwneud yn ddigidol.

MP 2: Sut mae pobl yn teimlo wrth ddelio â ni

Byddwn yn defnyddio adborth i ddeall:

  1. Pa mor hawdd y mae pobl yn ei chael i ddefnyddio ein gwasanaethau – yn hanner cyntaf 2019/20 byddwn yn mynd ati i sefydlu gwaelodlin a phennu targed ar gyfer gwella.
  2. I ba raddau y mae pobl yn gallu rhyngweithio â ni yn Gymraeg - byddwn yn gwella ein gwasanaethau Cymraeg er mwyn darparu’r un gwasanaeth di-dor yn Gymraeg ag yr ydym yn Saesneg.

Byddwn hefyd yn egluro natur cwynion ac yn egluro beth rydym wedi’i ddysgu ohonynt, ynghyd â pha gamau rydym wedi’u cymryd i’w datrys.

Teg

Byddwn yn deg ac yn gyson yn y ffordd rydym yn casglu ac yn rheoli trethi, gan weithredu’n gymesur pan nad yw pobl yn cyflawni eu rhwymedigaethau.

Beth fyddwn ni’n ei wneud a sut

Gweithredu mewn modd cymesur a chyson

  • Defnyddio dull sy’n seiliedig ar wybodaeth a data i adnabod risgiau treth.
  • Cydweithio â threthdalwyr a chynrychiolwyr i ddatrys camgymeriadau a dyledion lle bo modd.
  • Defnyddio ein pwerau i herio ymddygiadau bwriadol ac achosion o osgoi ac efadu trethi.

Sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn yr un modd drwy ei gwneud yn anos osgoi ac efadu trethi

  • Casglu tystiolaeth er mwyn canfod a datrys risgiau treth, gan gynnwys rhannu gwybodaeth mewn modd diogel â sefydliadau eraill.
  • Cydweithio ag asiantaethau gorfodi i atal neu i stopio gweithgarwch troseddol.
  • Cydweithio ag eraill i newid canfyddiadau ac ymddygiadau perthnasol i osgoi ac efadu trethi a throseddau gwastraff.
  • Gwneud newidiadau i system drethi Cymru fel bod llai o gyfle i bobl i osgoi ac efadu trethi.

Beth rydym am ei gyflawni

Rydym am weinyddu trethi’n deg er mwyn i bawb gael eu trin yn yr un modd ac i helpu i gefnogi system drethi Cymru. Rydym am weld llai o bobl yn gwneud camgymeriadau a llai o bobl yn talu llai o dreth yn fwriadol. Byddwn yn defnyddio dau.

MP 3: Sut rydym wedi cefnogi pobl i gael eu treth yn iawn

Bydd y dangosydd hwn yn edrych ar y newid dros amser yng nghyfran y ffurflenni treth:

  • sydd ddim yn cael eu hamlygu gan un o’n proffiliau risg
  • nad yw diwygiad sy’n newid faint o dreth sy’n daladwy yn berthnasol iddynt

Byddwn yn rhoi adroddiad ar y newid bob blwyddyn o ran y bobl sy’n talu’r dreth gywir drwy gymharu’r sefyllfa ar ddechrau’r flwyddyn ac ar ddiwedd y flwyddyn, yn ogystal ag o flwyddyn i flwyddyn. Byddwn hefyd yn parhau i nodi risgiau treth newydd gydol y flwyddyn. Wrth nodi risgiau newydd, byddwn yn canfod mwy o bobl sydd heb dalu’r swm iawn o dreth a byddwn yn gweithio i ddatrys hyn. Byddwn yn egluro hyn yn y ffordd rydym yn rhoi adroddiad ar ein perfformiad.

MP 4: Sut rydym wedi lleihau’r posibiliadau o ran risgiau treth

Byddwn yn rhoi adroddiad ar y cynnydd a fu o ran sut rydym wedi datrys ac atal risgiau treth. Byddwn yn gwneud hyn drwy rannu’r newid yn nifer y bobl sy’n gwneud camgymeriadau; amcangyfrif o’r dreth a gollwyd neu a ordalwyd a’r dreth a adenillwyd neu a ad-dalwyd yng nghyswllt pob risg. Byddwn hefyd yn egluro’r camau a gymerwyd i atal unrhyw golled o ran treth yn y dyfodol. Dros amser, byddwn yn gobeithio dangos tueddiad ar i lawr yng nghyswllt sawl gwaith mae pob risg wedi digwydd.

Effeithlon

Byddwn yn darparu mewn ffordd sy’n gynaliadwy ac sy’n cynnig gwerth am arian.

Beth fyddwn ni’n ei wneud a sut

Symleiddio’r ffordd rydym yn gweinyddu gwasanaethau

  • Defnyddio adborth i wella’r ffordd rydym yn gweithio.
  • Defnyddio dull gweithredu digidol yn gyntaf i leihau’r angen am brosesau y mae angen pobl i’w cwblhau.

Rhoi gwerth am arian drwy ganolbwyntio ar atal

  • Buddsoddi mewn cefnogi a chynorthwyo pobl i dalu’r swm iawn o dreth.
  • Defnyddio data a chraffter i ddeall a dylanwadu ar ymddygiadau i wella’r amgylchedd ac ategu talu’r swm iawn o dreth.

Defnyddio data i gynllunio, blaenoriaethu a gwneud penderfyniadau cynaliadwy

  • Deall ein data fel bod modd inni wneud penderfyniadau doeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
  • Ystyried yr effaith yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir ar ein pobl, trethdalwyr a chynrychiolwyr wrth wneud penderfyniadau buddsoddi.

Beth rydym am ei gyflawni

Rydym am fod mor effeithlon â phosibl drwy ganolbwyntio ar sicrhau gwerth am arian ym mhopeth rydym yn ei wneud. Byddwn yn gwneud hyn drwy sicrhau prosesau llywodraethu cadarn ledled y sefydliad a drwy seilio ein penderfyniadau ar ddata a gwybodaeth. Dros amser, rydym am gynyddu nifer ein prosesau a’n systemau awtomatig er mwyn bod yn fwy effeithlon. Byddwn yn defnyddio dau ddull allweddol o fesur perfformiad (MP) i weld pa mor effeithiol rydym wedi bod.

MP 5: Prydlondeb

  1. Amser a gymerir i ffeilio.
  2. Amser a gymerir i dalu.
  3. Amser a gymerir i wneud ad-daliadau.

MP 6: I ba raddau rydym wedi awtomeiddio

Byddwn yn adolygu faint o ffurflenni treth a thaliadau digidol sy’n dod i law mewn pryd ac yn dadansoddi faint sy’n cael eu cysylltu’n awtomatig gan ein systemau. Rydym am weld mwy a mwy o drafodiadau yn cael eu cwblhau’n llwyddiannus heb yr angen am ymyriad gan bobl.

Gallu

Byddwn yn datblygu ein gallu unigol a chyfunol.

Beth fyddwn ni’n ei wneud a sut

Cynnal diwylliant o ymrwymiad i berfformiad uchel lle mae ein pobl yn teimlo’n llawn cymhelliant a’u bod wedi’u grymuso ac wedi cyflawni eu dyheadau

  • Ysgogi ein pobl drwy fynegi ein pwrpas a’n hamcanion yn glir, a’u rhan nhw yn y gwaith o gyflawni hyn.
  • Grymuso ac ymddiried yn ein pobl i gymryd risgiau sydd wedi’u rheoli drwy roi annibyniaeth a hyblygrwydd iddynt.
  • Hybu a chefnogi lles ein gweithwyr.

Datblygu gweithlu tra medrus sy’n gallu cynyddu a defnyddio eu sgiliau, eu profiad a’u gwybodaeth

  • Annog diwylliant o ddysgu a chau bylchau mewn sgiliau.
  • Lleihau prosesau y mae angen pobl i’w cyflawni lle bynnag y bo modd er mwyn rhoi mwy o le ac amser i’n pobl fynd i’r afael â phroblemau cymhleth.

Manteisio ar y grym sy’n deillio o fod yn sefydliad bach, cynhwysol, ei ddefnyddio a dal gafael arno

  • Sicrhau bod pobl yn cael pob cyfle posibl i arloesi, cydweithio a bod yn rhan o’r penderfyniadau rydym yn eu gwneud.
  • Bod ar gael i’n trethdalwyr, ein cynrychiolwyr a’n pobl.
  • Creu diwylliant cynhwysol sy’n gwneud i bawb deimlo eu bod yn werthfawr ac yn gallu cyflawni eu potensial.

Beth rydym am ei gyflawni

Bydd ein gallu ar y cyd, ein natur gynhwysol a’r ffordd rydym yn cydweithio yn golygu ein bod, fel corff, yn gallu cyflawni gymaint mwy. Rydym am fod yn sefydliad lle y mae ei ddiwylliant arloesol, ymroddedig ac ymgysylltiol yn hyrwyddo dysgu a datblygu parhaus. Byddwn mor amrywiol â’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a bydd ein gallu a’n diwylliant yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion. Byddwn yn defnyddio tri dull allweddol o fesur perfformiad (MP) i weld pa mor effeithiol rydym wedi bod:

MP 7: Sut mae ein pobl yn teimlo

Bydd y dangosydd hwn yn dweud wrthym ba mor ymroddedig ac ymgysylltiol yw ein pobl. Rydym am gadw ein sgôr ymroddiad cyffredinol yn y 25% uchaf o blith sefydliadau’r Gwasanaeth Sifil.

Byddwn yn nodi newidiadau dros amser, a meysydd penodol i’w datblygu yn ogystal â darparu datganiad naratif i ddangos beth rydym wedi’i wneud i wella.

Byddwn hefyd yn gwneud dadansoddiad o’r cwestiynau sydd â chyswllt uniongyrchol â’r diwylliant rydym am ei gael er mwyn deall pa mor effeithiol ydym ni o ran creu a chynnal y diwylliant hwnnw.

MP 8: Ein cyfuniad o sgiliau

Rydym am barhau i fod yn sefydliad bach arbenigol, gan gynnal ein hystod o broffesiynau a datblygu cryfder y sgiliau allweddol sydd gennym. Mae tair rhan i’r dangosydd hwn, a byddwn yn cadw golwg ar unrhyw newidiadau yn ein cyfuniad sgiliau dros amser:

  1. Nifer y proffesiynau y mae ein pobl yn rhan ohonynt.
  2. Cyfran y siaradwyr Cymraeg sydd gennym ar draws y sefydliad.
  3. Sut mae ein pobl yn datblygu.

MP 9: Amrywiaeth

Rydym am fod yn sefydliad cynhwysol sy’n gwerthfawrogi ac yn cynnwys pobl, waeth be fo’u cefndir neu eu sefyllfa. Byddwn yn adolygu ein hystadegau amrywiaeth yn rheolaidd ac yn cymryd camau ystyrlon o ganlyniad i hynny. Oherwydd ein maint, mae’n annhebygol y byddwn yn gallu cyhoeddi’r ystadegau hynny, ond byddwn yn rhannu’r hyn rydym yn ei ganfod a sut rydym wedi mynd ati i wneud newidiadau. Byddwn yn cyhoeddi ystadegau ar y canlynol:

  1. Cydbwysedd rhwng y rhywiau.
  2. Amrywiaeth y bobl sy’n ymgeisio am swyddi yn y sefydliad ac sy’n cael eu penodi.

Ein rôl ehangach

Rydym am wneud y defnydd gorau posibl o’r buddsoddiad sydd wedi’i wneud yn Awdurdod Cyllid Cymru. I wneud hyn, ar ben y pedwar amcan strategol sydd wedi’u nodi uchod, byddwn yn datblygu ein rôl mewn dau faes arall:

Data

Ein nod yw sicrhau bod data trethdalwyr yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf gwerthfawr bosibl. Drwy weithio ledled y Llywodraeth rydym am archwilio ffyrdd effeithiol a diogel o rannu, defnyddio a datblygu data – gan droi’r data hynny yn ased i drethdalwyr Cymru.

Yn y lle cyntaf, ein nod yw archwilio’r ffyrdd posibl o ddefnyddio’r data rydym yn eu dal a sut i’w darparu i’n partneriaid perthnasol, gan gadw’r agweddau cyfreithiol ar rannu data mewn cof.

Dylunio

Ein nod yw bod yn bartner y gall pobl ymddiried ynddo i gynllunio gwasanaethau cyllid cyflawn sy’n cyflawni amcanion Llywodraeth Cymru, p’un ai a fydd y gwasanaethau hynny’n cael eu darparu gennym ni neu gan eraill.

Wrth weithio ledled Llywodraeth Cymru ar wasanaethau cyllid newydd neu ar wasanaethau sy’n bodoli eisoes, gallwn ddefnyddio ein profiad a’n harbenigedd yng nghyswllt deall cwsmeriaid a’u barn, gweithrediadau, data, prosesau digidol a pholisi i gefnogi dylunio systemau, polisi a fframweithiau cyfreithiol mewn ffordd integredig sy’n gweithio’n dda o safbwynt defnyddwyr ac sy’n bodloni amcanion Llywodraeth Cymru.

Data

Rydym am ddefnyddio’r data sydd gennym yn y ffordd orau bosibl, gan gydweithio ag eraill sy’n cadw data trethdalwyr yng Nghymru i wella’r ffordd rydym yn rhannu, yn defnyddio ac yn dadansoddi’r data hynny, er budd ein trethdalwyr.

Beth fyddwn ni’n ei wneud a sut

Archwilio ffyrdd o gael mwy o ddefnydd o ddata trethdalwyr yng Nghymru

  • Meithrin perthnasoedd ledled Llywodraeth Cymru a gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn deall cwmpas data trethdalwyr yng Nghymru.
  • Deall sut y gellir defnyddio data trethdalwyr yn ddiogel er mwyn gwella pethau i drethdalwyr.
  • Deall yr heriau y mae’r rheini sy’n gweinyddu gwasanaethau cyllid yn eu hwynebu er mwyn canfod atebion o ddata newydd a data sydd eisoes ar gael.

Gweithio o fewn y fframwaith cyfreithiol i ddiogelu data trethdalwyr a’u defnyddio yn y ffordd orau bosibl, a chanfod pa newidiadau y mae angen eu gwneud i wella hyn ymhellach

  • Archwilio’r posibiliadau o fewn y fframwaith cyfreithiol er mwyn inni allu rhannu data a sicrhau bod y data trethdalwyr rydym yn eu diogelu yn parhau i fod yn ddiogel.
  • Rhoi cytundebau ar waith a fydd yn gwneud data yn fwy hygyrch a chydweithio’n agos ag adrannau Llywodraeth Cymru pan fo angen gwneud newidiadau deddfwriaethol.
  • Cynnal prosiect profi a dysgu i rannu rhai o’n data i ganfod gwir raddfa’r heriau sydd ynghlwm â rhannu data.

Gweithio i wella ein mynediad ein hunain, a mynediad eraill, at y data sydd eu hangen arnom ni neu arnyn nhw

  • Gwerthuso’r prosiect profi a dysgu er mwyn deall pwˆ er posibl data a manteision rhannu data.
  • Adeiladu ar waith a wnaed eisoes i atgyfnerthu ac ehangu prosesau rhannu data â sefydliadau eraill er mwyn mynd i’r afael â throsedd, dyled a gwarediadau heb eu hawdurdodi.
  • Cyhoeddi data defnyddiol o ansawdd uchel am y Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

Ein perfformiad

Byddwn yn darparu crynodeb o’r gwaith rydym wedi’i wneud a’r cynnydd rydym yn ei wneud yn y maes hwn, gan gynnwys adrodd ar gynnydd prosiectau data rydym wedi’u sefydlu â phobl eraill a’r adborth rydym wedi’i gael ganddynt.

Dylunio

Byddwn yn defnyddio ein profiad a’n harbenigedd i gefnogi dyluniad gwasanaethau cyllid Cymru.

Beth fyddwn ni’n ei wneud a sut

Canfod cyfleoedd i weithio ar draws Llywodraeth Cymru

  • Codi ymwybyddiaeth o’n hamcanion dylunio a datblygu’r rhain yn ymarferol.
  • Darparu data a gwybodaeth i ysgogi pobl i feddwl am sut y gellid defnyddio gwasanaethau cyllid fel adnoddau effeithiol yng nghyswllt polisïau.
  • Defnyddio ein harbenigedd ym maes dylunio ‘o’r dechrau i’r diwedd’ i gefnogi cyflawni ymrwymiadau yn y ‘Cynllun Gwaith Polisi Trethi’ blynyddol.

Dod â syniadau polisi a dylunio systemau a’u rhoi ar waith at ei gilydd yn gynnar yn y broses

  • Parhau i arloesi a gweithredu fel model rôl ar gyfer ymarfer gorau wrth inni wella ein gwasanaethau ein hunain.
  • Gweithio ar ddatblygu trethi newydd a gwelliannau i’r trethi datganoledig cyfredol.
  • Meithrin perthynas ag eraill er mwyn ychwanegu at ein gwybodaeth a rhannu arferion gorau, profiad a gwersi a ddysgwyd.

Ein perfformiad

Byddwn yn darparu crynodeb o’r gwaith rydym wedi’i wneud ac yn rhannu astudiaethau achos i ddangos y gwerth rydym yn ei gyfrannu at wasanaethau cyllid Cymru.

Esbonio mesurau

Mae datblygu’r mesurau perfformiad (MP) cywir yn rhywbeth rydym wedi rhoi cryn ystyriaeth iddo. Yn ein cynllun corfforaethol cyntaf fe wnaethom egluro bod Ein Dull o Weithredu yn wahanol ac felly bod angen i’n mesurau fod yn wahanol hefyd. Roeddem yn teimlo bod y dull gweithredu gwahanol hwn yn rhoi’r cyfle i ni gynnwys MP sydd nid yn unig yn dal y sefydliad i gyfrif ond rhai sydd hefyd yn mesur llwyddiant y system drethi gyfan. Byddwn yn cydweithio â threthdalwyr a chynrychiolwyr i gyflawni hyn mewn cydweithrediad. Mae ein MP wedi’u llunio i asesu os ydym yn gweithio gyda’n gilydd i gael y canlyniadau rydym am eu cael neu i gyflawni bob amcan. Byddwn yn defnyddio’r rhain i fesur ein perfformiad yn y dyfodol a byddwn hefyd yn eu defnyddio, os yw’r data ar gael, i adolygu ein perfformiad dros y flwyddyn gyntaf. Byddwn yn cyhoeddi hwn yn ein ‘Datganiad Ystadegol Blynyddol’ ym mis Mehefin (2019).

Yn ystod ein blwyddyn gyntaf yn gweithredu rydym wedi bod wrthi’n datblygu’r mesurau rydym am eu gweld, ac mae rhai o’n syniadau gwreiddiol wedi esblygu. Rydym wedi’u nodi yn yr atodiad isod.

Mae rhai pwyntiau i’w nodi ynglyˆn â’r mesurau rydym wedi’u datblygu:

  • y ffordd orau i ddisgrifio rhai o’n mesurau yw ar ffurf naratif ac nid oes modd eu disgrifio fel un rhif. Nid yw ffigurau bob amser yn hawdd eu canfod ac nid ydynt chwaith, o anghenraid, yn dweud y cwbl. Pan fyddwn yn darparu naratif, byddwn yn aml yn cynnwys basged o rifau fel rhan o’r datganiad naratif
  • er enghraifft, mae dull naratif yn fwy addas i ddata am berfformiad y Dreth Gwarediadau Tirlenwi oherwydd bod y data yn eithaf gwahanol ac oherwydd mai nifer fach o weithredwyr safleoedd tirlenwi sydd yng Nghymru
  • y targedau rydym wedi’u pennu yw’r rhai rydym am eu cyrraedd ymhen tair blynedd ac rydym am weld cynnydd parhaus tuag at y targedau hyn yn ystod y cyfnod hwn. Byddwn yn adolygu ein targedau bob blwyddyn ac yn ystyried a oes angen eu diwygio

Atodiad

Crynodeb o’n mesurau perfformiad (MP)
MP Dangosydd Yr hyn rydym yn ei fesur Targed * Amcanion cysylltiedig
1 Pa mor aml
mae ein
gwasanaethau
digidol yn cael
eu defnyddio

1.1 Cyfran y ffurflenni treth sy’n cael eu ffeilio’n ddigidol

1.2 Cyfran y taliadau sy’n cael eu gwneud yn ddigidol

1.1 98-100%

1.2 90-95%

Hawdd

Effeithlon

2 Sut mae pobl yn teimlo wrth ddelio â ni

2.1 Pa mor hawdd mae pobl yn ei chael i ddefnyddio ein gwasanaethau

2.2 I ba raddau y mae pobl yn gallu rhyngweithio â ni yn Gymraeg.

Byddwn hefyd yn darparu esboniad o’r mathau o gwynion rydym yn eu cael, pam mae’r rhain wedi codi a beth rydym yn ei wneud i’w datrys.

2.1 Mwy o bobl yn ei chael yn hawdd defnyddio ein gwasanaethau. Byddwn yn sefydlu gwaelodlin yn hanner cyntaf 2019/20 cyn pennu targed ar gyfer gwella.

2.2 Gwasanaethau gwell yn yr iaith Gymraeg er mwyn rhoi’r un gwasanaeth di-dor yn Gymraeg ag yr ydym yn ei roi yn Saesneg.

Hawdd

Teg

Gallu

3 Sut rydym wedi cefnogi pobl i gael eu treth yn iawn A ydy pobl yn talu’r dreth gywir. I wneud hyn byddwn yn mesur y newid dros amser yng nghyfran y ffurflenni treth:
  • sydd ddim yn cael eu hamlygu gan un o’n proffiliau risg
  • nad oes angen eu diwygio gan newid faint o dreth sy’n daladwy
Rydym am weld cynnydd dros amser yn nifer y bobl sy’n cael eu treth yn iawnt.

Hawdd

Teg

Effeithlon

4 Sut rydym wedi lleihau’r posibilrwydd o risgiau treth Sut rydym yn gwneud gwahaniaeth yn ein prif feysydd risg. I wneud hyn, byddwn yn rhoi adroddiad ar sut rydym wedi datrys ac atal risgiau treth. Rydym am weld gostyngiad mewn risgiau unigol dros amser.

Hawdd

Teg

Effeithlon

5 Prydlondeb

5.1 Amser a gymerwyd i ffeilio

5.2 Amser a gymerwyd i dalu

5.3 Amser a gymerwyd i wneud ad-daliadau

5.1 98- 100% cyn pen 31 diwrnod ar ôl y dyddiad y daw’r trafodiad i rym

5.2 90-95% o ddyledion wedi’u talu cyn pen 30 diwrnod ar ôl eu creu

5.3 98-100% cyn pen 30 diwrnod prosesu ar ôl cael y cais am ad-daliad, neu ar ôl i’r ad-daliad ddod yn ddyledus

Effeithlon

Hawdd

Teg

6 I ba raddau rydym wedi awtomeiddio Nifer y trafodiadau sy’n cael eu cwblhau’n llwyddiannus heb yr angen am ymyriad gan bobl. Rydym am weld cyfran y trafodiadau awtomatig yn cynyddu i 90-95%. Effeithlon
7 Sut mae ein pobl yn teimlo Pa mor ymroddedig yw ein pobl. Byddwn hefyd yn nodi meysydd penodol i’w datblygu ac yn darparu datganiad naratif i ddangos beth rydym wedi’i wneud i wella. I aros yn y 25% uchaf o sefydliadau’r Gwasanaeth Sifil yn yr arolwg pobl. Gallu
8 Ein cyfuniad o sgiliau

8.1 Nifer y proffesiynau y mae ein pobl yn rhan ohonynt

8.2 Cyfran y siaradwyr Cymraeg sydd gennym ar draws y sefydliad

8.3 Sut mae ein pobl yn datblygu – mae hyn yn mesur i ba raddau y mae ein staff yn cynyddu lefel eu sgiliau

8.1/8.3 Cynnal ein hystod o broffesiynau a datblygu cryfder y sgiliau sydd gennym drwy ganfod a chau bylchau mewn sgiliau.

8.2/8.3 Datblygu ein sgiliau Cymraeg a sicrhau bod gennym siaradwyr Cymraeg ar draws ein hystod o brosesau.

Gallu
9 Amrywiaeth

9.1 Cydbwysedd rhwng y rhywiau

9.2 Amrywiaeth y bobl sy’n ymgeisio am swyddi yn y sefydliad ac sy’n cael eu penodi

Rydym yn sylweddoli bod amrywiaeth yn golygu llawer mwy na’r ddwy elfen uchod rydym yn gallu adrodd yn ôl arnynt, felly byddwn yn rhannu hanesion am y materion amrywiaeth ehangach rydym yn eu canfod ac am newidiadau rydym yn eu gwneud i greu sefydliad mwy cynhwysol.

9.1 Cynnal cydbwysedd rhwng y rhywiau ar draws holl lefelau’r sefydliad.

9.2 Sicrhau cyfle teg a chyfartal i bawb, a bod y bobl sy’n ymgeisio am swyddi ac sy’n cael eu penodi yn gynrychioliadol o’r gymuned.

Gallu

* Rydym am weld gwelliant dros amser, gyda’r nod o gyrraedd y targedau hyn erbyn 2022.

Atodiad: Y cysylltiad rhwng mesurau dichonol blwyddyn un a’r mesurau perfformiad (MP) rydym wedi’u dewis
Mesur dichonol Ystyriaethau blwyddyn un 

MP

Esboniad a’r cyswllt â’r MP perthynol

Datrys ymholiadau yn syth ac ar y cyswllt cyntaf â’r sefydliad.

Arolwg bodlonrwydd

Gall mesurau ganolbwyntio ar amseroedd aros ar gyfer galwadau a hyd galwadau, ond rydym yn teimlo ei bod yn bwysicach eich bod yn cael yr help sydd ei angen arnoch pan rydych yn ffonio. Mae ymchwil wedi dangos y gall y dull hwn gynyddu ymddiriedaeth a chynyddu bodlonrwydd cwsmeriaid. Bydd ein staff llinell gymorth yn gweithio i ateb eich ymholiad y tro cyntaf rydych yn cysylltu â ni, felly ni fydd angen i chi ffonio’n ôl. Rydym hefyd yn awyddus i feddwl am sut y gallwn fesur eich bod yn gofyn am help pan mae ei angen arnoch.

2

3

Fel rhan o’n gwaith i sicrhau system drethi deg, byddwn yn nodi risgiau treth posibl yn barhaus. Byddwn yn defnyddio hyn i ganfod pa bryd yr aeth pethau o chwith er mwyn inni fynd ati i’w cywiro (MP 2). Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i greu proffiliau risg a fydd yn amlygu’r ffurflenni treth sydd, o bosibl, yn cynnwys y risgiau treth hyn.

Yng nghyswllt y mesurydd hwn, mae arnom eisiau gwybod pan mae pethau wedi mynd yn iawn. Gallwn hefyd ddefnyddio’r wybodaeth hon i fesur cyfran y ffurflenni treth rydym yn credu sy’n risg isel neu’n gywir drwy nodi’r rheini sydd ddim wedi cael eu hamlygu gan un o’n proffiliau risg. Bydd MP 3 yn edrych ar y newid yn y ffigur hwn dros amser. Bydd hyn yn dweud wrthym ba mor effeithiol ydym wrth eich cefnogi i gael pethau’n iawn.

Y gyfran ohonoch a allai siarad a rhyngweithio â ni yn eich dewis iaith (Cymraeg, Saesneg) neu gyfuniad o’r ddwy, os mai dyna yw eich dymuniad Byddwn yn cyfri’r gyfran o drafodiadau neu ohebiaeth yn Gymraeg/Saesneg, ond dim ond rhan o’r stori a gawn felly. Yr hyn sy’n bwysig i ni yw eich bod yn gallu defnyddio pa bynnag iaith rydych am ei defnyddio, a byddwn yn eich helpu a’ch cefnogi i wneud hynny.

2.2

8.2

Rydym yn cynnig gwasanaethau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Yr hyn sy’n bwysig yw ein bod yn gallu cynnig gwasanaeth o’r un ansawdd uchel yn Gymraeg ac yn Saesneg mewn amser real, yn hytrach na gwasanaeth cyfieithu i’r Gymraeg. I wneud hyn, mae angen i’n sgiliau Cymraeg barhau i wella (MP 8.2) ac mae angen i ni fesur sut hwyl rydym yn ei gael arni o ran darparu’r un gwasanaeth di-dor yn Gymraeg ac yn Saesneg (MP 2.2).
Nifer y ffurflenni treth nad oes angen i’r sefydliad gymryd camau mewn perthynas â nhw ar ôl iddynt gael eu cyflwyno a nifer yr achosion perthnasol i ymholiadau y mae’r sefydliad yn gweithio arnynt Mae arnom eisiau canolbwyntio ar eich cefnogi chi i gael pethau’n iawn y tro cyntaf ac rydym am ganolbwyntio ein hymdrechion ar y cymorth cychwynnol hwnnw yn hytrach na chywiro pethau wedyn.

2

3

Rydym wedi egluro uchod y bydd MP 3 yn edrych ar y newid dros amser yng nghyfran y ffurflenni treth rydym yn credu eu bod yn risg isel neu’n gywir drwy nodi’r rheini sydd ddim yn cael eu hamlygu gan un o’n proffiliau risg neu sy’n destun diwygiad.

Bydd MP 2 yn rhoi manylion y risgiau treth ar sail bob risg unigol, a’r camau rydym yn eu cymryd i ddatrys y risgiau hyn.

Cwynion, adborth a’n hymateb ni Nifer a natur y digwyddiadau ymgysylltu a chyfranogiad

Byddwn yn cyfrif nifer y cwynion. Ond byddwn hefyd yn gwrando’n astud ar adborth sy’n cael eu cyfeirio at ein sylw drwy gyfrwng cwynion a sianeli eraill, gan gynnwys digwyddiadau ymgysylltu.

Yn bwysicach na dim, rydym am wneud yn siwˆ r ein bod yn cael ein dal i gyfrif am weithredu mewn ymateb i’ch adborth.

2

Byddwn yn rhoi manylion ynghylch y cwynion sy’n dod i law, a byddwn yn gwneud hyn mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar beth sydd wedi ysgogi’r cwynion, a beth rydym ni’n ei wneud i’w datrys fel bod modd ein dal i gyfrif am weithredu ar adborth drwy’r sianel hon.

Byddwn yn cofnodi nifer a natur digwyddiadau ymgysylltu ac yn defnyddio hyn i reoli ein busnes, ond nid oeddem o’r farn y byddai’n ychwanegu gwerth fel MP.

Ystadegau gweithredol y gwnaethom ddweud y byddem yn rhoi adroddiad arnynt Swmp y cyswllt wedi’i ddosbarthu yn ôl sianel (er enghraifft, ffôn, post, ac ati). n/a Byddwn yn cofnodi hyn ac yn ei ddefnyddio i reoli ein busnes, ond nid oeddem o’r farn y byddai’n ychwanegu gwerth fel MP. Mae’n bwysicach fod pobl yn cael y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i wneud pethau’n iawn (MP 3) a bod pobl yn ei chael yn hawdd defnyddio ein gwasanaethau (MP 2).
Amseroedd ymateb. 5.3 Byddwn yn mesur pa mor gyflym rydym yn prosesu ad-daliadau. Byddwn hefyd yn defnyddio cwynion ac adborth (MP 2) i ddeall a ydym yn ymateb yn brydlon.
Nifer y ffurflenni treth a ffeiliwyd (rhaniad papur/digidol). 1.1

Bydd y rhain yn cael eu defnyddio fel MP a bydd manylion ychwanegol yn yr adran perfformiad yn ein datganiad ystadegau blynyddol.

Er mwyn deall taliadau hwyr, roeddem yn teimlo y byddai’n briodol canolbwyntio ar gael y nifer isel o bobl sydd ddim yn talu o fewn y terfyn amser statudol o 30 diwrnod i dalu o fewn 30 diwrnod ar ôl hynny. Byddwn yn canolbwyntio ar hyn a dyma sy’n cael ei fesur gan MP 5.2.

Cyfanswm y derbyniadau treth (rhaniad siec/BACS). 1.2
Cyfran y ffurflenni treth hwyr a’r taliadau hwyr. 5
Nifer y cwynion a ddaeth i law. 2 Byddwn yn cynnwys datganiad naratif i ddisgrifio nifer a natur cwynion, pam yr oedd y rhain wedi codi, a beth rydym wedi’i wneud i’w datrys.