Neidio i'r prif gynnwy

Y camau mae llywodraeth cymru’n eu hystyried a pham?

Dechreuodd yr achosion cyntaf o Covid-19 (coronafeirws) yn Tsieina ym mis Rhagfyr 2019 gan ledaenu i'r DU ym mis Ionawr 2020. Yn ystod gwanwyn 2020, cynyddodd Llywodraethau'r DU a Chymru fesurau cadw pellter cymdeithasol yn raddol er mwyn arafu lledaeniad y feirws. Caeodd ysgolion, colegau, prifysgolion a darparwyr hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb ddydd Gwener 20 Mawrth 2020 (ar wahân i ddarpariaeth graidd mewn ysgolion ar gyfer plant bregus a phlant gweithwyr allweddol).

Mae'r asesiad effaith hwn yn canolbwyntio ar Gynllun Cadernid Ôl-16 2020, a'i Gynllun Cyflawni a'i fesurau canllaw cyfatebol, sy'n nodi camau tymor canolig a thymor hwy i helpu i gefnogi darparwyr dysgu, dysgwyr a staff i baratoi ar gyfer y dyfodol.

Mae'r cynllun wedi'i rannu yn dri cham:

  • Achub - sicrhau bod gan ddarparwyr sicrwydd cyllid a bod trefniadau sydyn ar waith i sicrhau bod dysgu’n parhau - Mawrth i Gorffennaf 2020
  • Adolygu - cynllunio ar gyfer newidiadau posibl i ddarpariaeth, cyllid a darparu dysgu ar gyfer hydref 2020 a thu hwnt - Mai i Medi 2020
  • Adnewyddu - rhoi trefniadau diwygiedig ar waith ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020 i 2021, a gwerthuso effeithiau Covid-19 - Medi 2020 i Mawrth 2021.

Ar ôl gosod cyfyngiadau symud y Covid-19 a symud i ddarparu addysg ar-lein

Caeodd ysgolion, colegau, prifysgolion a darparwyr hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb ddydd Gwener 20 Mawrth (ar wahân i ddarpariaeth graidd mewn ysgolion ar gyfer plant bregus a phlant gweithwyr allweddol).

Yn y sector ôl-16, newidiodd darparwyr i ddulliau dysgu o bell i’r graddau yr oedd hynny’n bosibl, yn bennaf trwy ddulliau digidol; yn ymarferol, roedd y trefniadau'n amrywio, o ystyried yr ystod eang o amgylchiadau dysgwyr, mynediad at ddyfeisiau a chysylltedd, a’r math o gwrs.

Canolbwyntiodd y gwaith cychwynnol ar roi eglurder a sicrwydd i'r sector ynghylch meysydd gan gynnwys cyllid, cymorth i ddysgwyr, a gofynion perfformiad, fel y gallai darparwyr wneud penderfyniadau a gweithredu arnynt.

Rhoddodd y sector AB ei feincnod ei hun ar gyfer ymgysylltu ar-lein a oedd yn adlewyrchu'r oriau cyswllt dan arweiniad wythnosol ar gyfer prif gymhwyster Lefel 2 neu Lefel 3 ar gyfartaledd. Nododd colegau fod tua 75 y cant o ddysgwyr yn bodloni’r meincnod hwn, er bod hyn yn amrywio o goleg i goleg ac yn cael ei effeithio gan allu dysgwyr i gael mynediad at ddyfeisiau a chysylltedd, a oedd yn ei dro yn adlewyrchu gwahaniaethau economaidd a daearyddol. Roedd rhai prentisiaid wedi eu rhoi ar ffyrlo gan eu cyflogwyr felly nid oedd modd iddynt barhau â'u dysgu “yn y gwaith”. Unwaith eto, roedd hyn yn amrywio'n fawr yn ôl sector, gan olygu bod bron pob un o'u prentisiaid yn dal i weithio i rai darparwyr, ond i eraill roedd hyd at 75 y cant ar ffyrlo ond o bosib wedi bod yn parhau i ddysgu ar-lein. Gan mwyaf, roedd darparwyr wedi cyflwyno dysgu ar-lein hyblyg, a defnyddio strategaethau “cadw mewn cysylltiad” i ennyn diddordeb dysgwyr. O ran addysg oedolion a ariannwyd trwy awdurdodau lleol, defnyddiwyd amrywiaeth o ddulliau a phlatfformau, ond nid oedd gan lawer o ddysgwyr fynediad at y dyfeisiau, y cysylltedd a / neu'r sgiliau i allu dysgu o bell.

Hyd yn oed cyn i ddarparwyr dysgu gau eu drysau, daeth yn amlwg bod graddfa'r achosion o Covid-19 yn golygu y byddai angen rhai penderfyniadau polisi digynsail. Ar 16 Mawrth trwy fideo ar y cyd, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg ac Estyn y byddai arolygu a gweithgareddau cysylltiedig eraill ar gyfer ysgolion a darparwyr yn cael eu hatal o'r dyddiad hwnnw hyd y daw'r sefyllfa bresennol i ben. Gwnaed y penderfyniad hwn i helpu darparwyr addysg a hyfforddiant i ganolbwyntio'n llawn ar les eu dysgwyr, eu staff a'u teuluoedd.

Ar 18 Mawrth, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg na fyddai cyfres arholiadau haf 2020 (TGAU, UG ac Uwch) yn digwydd; byddai dysgwyr yn cael graddau ar sail eu gwaith a gwblhawyd yn flaenorol ac amcangyfrifon athrawon. Mae Cymwysterau Cymru wedi bod yn gweithio gyda rheoleiddwyr eraill y DU a sefydliadau dyfarnu i ddatblygu dull ar gyfer cymwysterau galwedigaethol, sy'n cynnwys cymysgedd o ganlyniadau wedi'u cyfrifo lle bo hynny'n bosibl, ac asesiadau wedi'u haddasu neu eu gohirio.

Mae effaith economaidd yr argyfwng yn cynyddu’n rhyfeddol o sydyn, gyda nifer y diswyddiadau posib, y busnesau a gaewyd, a lefelau diweithdra yn debygol o godi i dros 10%. Mae hyn yn effeithio ar filiynau o bobl, rhai wedi eu rhoi ar ffyrlo, yn colli incwm, neu'n colli eu swyddi yn llwyr.

Fel ar adegau o ddirwasgiad yn y gorffennol, byddem yn disgwyl y bydd yr effaith fwyaf difrifol ar y rhai mwyaf difreintiedig yn barod yn y farchnad lafur. Mae tystiolaeth dda, fel y nodwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a'r Resolution Foundation, fod effeithiau niweidiol yn debygol o gael eu dioddef gan bobl mewn swyddi â chyflog isel; pobl gyda lefelau sgiliau is; pobl sydd â thelerau cyflogaeth mwy “bregus”; a gweithwyr iau. Mae'r rhain hefyd yn bobl sydd wedi dioddef yn anghymesur yn sgil cyfnodau o ddirwasgiad yn y gorffennol.

Mae newydd-ddyfodiaid i'r farchnad lafur yn arbennig o agored i niwed. Mae tystiolaeth ryngwladol yn awgrymu bod “dosbarth 1981” wedi profi creithiau hirhoedlog trwy fynediad i’r farchnad lafur yn ystod dirwasgiad a diweithdra cynnar, a bu ffocws parhaus ar y grŵp hwn yn ystod y dirwasgiad diwethaf. Mae pobl ifanc hefyd yn fwy tebygol o fod ar gontractau dim oriau, ac felly mewn mwy o berygl o golli incwm.

Cynllun Cadernid Ôl-16 2020

Mae cynnig Llywodraeth Cymru ar draws sgiliau a chyflogadwyedd yn hanfodol er mwyn cefnogi’r rhai sydd fwyaf tebygol o ddioddef effaith negyddol yn y farchnad lafur yng Nghymru yn y dyfodol. Mae'r rhwydwaith darparwyr ôl-16 wrth wraidd yr adferiad economaidd a chymdeithasol. Mae mewn sefyllfa dda i gymryd y rôl hon, gyda chenhadaeth ddinesig sy'n cynnwys gwasanaethu grwpiau difreintiedig cymdeithas yn ogystal â diwallu anghenion y farchnad lafur.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda darparwyr a sefydliadau ar draws y sector i ddatblygu’r ymateb i Covid-19, gan gynnwys; CCAUC, Prifysgolion Cymru, Colegau Cymru, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Ffederasiwn Hyfforddi Cenedlaethol Cymru (NTFW), Cymwysterau Cymru, JISC ac Estyn.

Ymgynghorwyd hefyd â darparwyr unigol yn y sector ynghylch cynnwys y cynllun. Nid oedd yn bosibl cynnwys dysgwyr yn y trafodaethau ar y pryd, ond mae cynlluniau ar waith i sicrhau bod dysgwyr yn cymryd rhan mewn ymchwil ac yn y gwaith o werthuso'r cynigion, ac o ddatblygu unrhyw ganllawiau a chymorth pellach.

Mae'r cynllun cadernid yn nodi camau yn y tymor canol a’r tymor hwy i helpu i gefnogi darparwyr dysgu, dysgwyr a staff i baratoi at y dyfodol.

Roedd y cynllun yn hanfodol gan nad oedd unrhyw ffordd ymarferol i’r sector ddychwelyd i fod yn ‘normal’ yn yr hinsawdd oedd ohoni. Roedd angen gweithredu i sicrhau diogelwch dysgwyr a staff yn y sector.

Roedd y cynllun yn cynnwys y sectorau addysg uwch, addysg bellach, prentisiaethau, cyflogadwyedd ac addysg oedolion. Nid oedd dosbarthiadau chwech o fewn cwmpas uniongyrchol y cynllun hwn, gan fod cynllun dysgu parhaus ar wahân ar gyfer ysgolion. Fodd bynnag, cydlynwyd y gwaith o gyflwyno'r cynllun hwn â gweithgareddau yn y sector ysgolion; roedd hyn o gymorth i gefnogi cyfnodau pontio dysgwyr er gwaethaf y tarfu a gafwyd ar eu haddysg a’u hasesu, ac yn helpu dysgwyr i wneud dewisiadau a oedd yn iawn iddyn nhw a’u galluogi i ddatblygu eu llwybrau dysgu goleuedig eu hunain. Roedd yn bwysig bod negeseuon clir a chydgysylltiedig i ddysgwyr a rhieni ar draws pob sector addysg, yn enwedig o ran ailagor lleoliadau ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb.

Yn sgil y cynllun, roedd modd i Lywodraeth Cymru wneud y canlynol:

  • Mynegi’n glir ei disgwyliadau o ran sut y bydd darparwyr ôl-16 yn ymateb
  • Diffinio'r cymorth a'r wybodaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn eu darparu i'r sector
  • Amlinellu’r grwpiau blaenoriaeth sy'n debygol o fod wedi eu heffeithio fwyaf ac y dylid eu blaenoriaethu ar gyfer cymorth
  • Strwythuro ei gwaith gyda'r sector ôl-16 trwy gydol 2020 a thu hwnt
  • Gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i gyfathrebu penderfyniadau, cynlluniau a gofynion yn brydlon ac yn effeithiol
  • Cyfleu gwybodaeth allweddol i ddysgwyr cyfredol a darpar ddysgwyr, rhieni a gofalwyr, a chyflogwyr wrth i'r sefyllfa esblygu.

I ddechrau, talwyd y costau am gyflwyno o bell neu drwy ddysgu cyfunol o fewn y cyllidebau presennol, er bod ceisiadau wedi'u gwneud i Siambr y Seren am gyllid ychwanegol i dalu am brosiectau ac ymyriadau penodol (gan gynnwys cyllid ar gyfer gliniaduron ar gyfer dysgwyr difreintiedig; a chyllid ychwanegol i gefnogi dysgwyr i gwblhau eu cyrsiau dros yr haf).

Mae gan Lywodraeth Cymru eisoes y pwerau sy'n angenrheidiol i gyflawni'r gwaith hwn. Nid oes angen deddfwriaeth ychwanegol.

Wrth gwblhau'r Asesiad Effaith Integredig hwn, rydym wedi defnyddio ystadegau sydd ar gael trwy'r Cofnod Dysgu Gydol Oes (LLWR) fel y'i cyhoeddir ar wefan Stats Cymru; a thystiolaeth a gasglwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg (EWC) fel rhan o astudiaeth gwmpasu Datblygu'r Gweithlu.

Cymorth parhaus

Ar ôl cyhoeddi'r Cynllun Cadernid, rydym wedi gweithio gyda'r sector i barhau i ddatblygu canllawiau a chymorth i baratoi at barhau’r ddarpariaeth ddysgu o fis Medi. Mae hyn yn cynnwys datblygu dogfen ‘Adnewyddu’ sy’n darparu fframwaith strategol i bob darparwr a dogfen ganllaw sy’n darparu cyngor ar weithrediad diogel y ddarpariaeth o dymor yr hydref. Yn ogystal, mae ffrydiau gwaith wedi'u sefydlu sy'n canolbwyntio ar feysydd allweddol i'w cyflwyno wrth symud ymlaen - gan gynnwys ffocws ar ddysgu digidol, Lles Dysgwyr, a thystiolaeth.

O ganlyniad, mae'r asesiad effaith hwn yn asesu ein hymateb sydyn i'r argyfwng, datblygiad canllawiau a chymorth cychwynnol ac yn llywio’r gwaith o ddatblygu cymorth parhaus.

Casgliad

Sut y mae’r bobl sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y cynnig wedi cael eu cynnwys yn y gwaith o ddatblygu’r cynllun?

Wrth ddrafftio’r cynllun hwn rydym wedi gweithio gydag ystod o gydweithwyr sy’n cynrychioli’r rhai a gânt eu heffeithio’n uniongyrchol ganddo. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Colegau Cymru
  • Colegau Unigol
  • Ffederasiwn Hyfforddi Cenedlaethol Cymru
  • Estyn
  • Jisc
  • Asiantaeth Sicrhau Ansawdd AU (QAA)
  • Coleg Cymraeg Cenedlaethol
  • Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU)

Oherwydd y cyfyngiadau symud, nid oedd modd gofyn am farn dysgwyr ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae cynigion i gynnwys dysgwyr yn natblygiad ehangach canllawiau a pholisïau er mwyn parhau i gefnogi darpariaeth yn cael eu datblygu o fewn y ffrydiau gwaith.

Trafodwyd y cynllun yn y Bwrdd Newid Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PCET) lle cynigiwyd cyfle i aelodau wneud sylwadau a diwygio'r ddogfen.

Mae canllawiau ac adnoddau sylfaenol, megis canllawiau ar ailddechrau dysgu wyneb yn wyneb yn y sector ôl-16, yn destun ymgynghoriad helaeth gyda darparwyr dysgu, Undebau Llafur ar y Cyd a rhanddeiliaid eraill.

Beth yw'r effeithiau mwyaf arwyddocaol, cadarnhaol a negyddol?

Bydd ailddechrau dysgu ym maes addysg ôl-16 yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles dysgwyr ac yn cael effaith gadarnhaol ar yr economi yn gyffredinol.

Mewn astudiaeth gan yr elusen iechyd meddwl YoungMinds, gofynnwyd i 2,111 o bobl o dan 25 oed oedd â hanes o anghenion iechyd meddwl, sut yr oedd y pandemig wedi effeithio arnynt.

  • Cytunodd 32% ei fod wedi gwneud eu hiechyd meddwl yn waeth o lawer
  • Cytunodd 51% ei fod wedi gwneud eu hiechyd meddwl ychydig yn waeth

Bydd ailddechrau dysgu wyneb yn wyneb yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles meddyliol  oherwydd mae’n hysbys bod natur arferol ysgolion a bywyd coleg yn helpu i gefnogi salwch meddwl.

Bydd rhai buddion economaidd hefyd oherwydd rhoddir blaenoriaeth i ddysgwyr galwedigaethol sy'n cwblhau rhaglenni/asesiadau. Fodd bynnag, nid oes modd pwyso a mesur effaith economaidd uniongyrchol.

Bydd ailagor y rhwydwaith darparwyr yn cael effeithiau cadarnhaol ar gadwyni cyflenwi - glanhawyr dan gontract, cwmnïau trafnidiaeth, staff ffreutur ac ati.

Bydd hefyd yn helpu i ymgysylltu â dysgwyr NEET/di-waith gan gynnwys trwy ddarpariaeth cyflogadwyedd (presennol a newydd).

Er y bydd prif effaith y polisïau hyn yn gadarnhaol, rhaid inni gofio rhai effeithiau a allai fod yn negyddol.

Yn gyffredinol, mae'r gweithlu o fewn AB a dysgu seiliedig ar waith yn hŷn na'r gweithlu mewn ysgolion. O'r herwydd, gellid ystyried bod y gweithlu'n fwy agored i ddal y feirws.

Nid yw’n hysbys pa ganran o’r gweithlu neu ddysgwyr cyfredol sydd yn y categorïau ‘Risg Uchel’ neu ‘Bregus’. Er i’r gwarchod ddod i ben ar 16 Awst, mae rhai dysgwyr yn parhau i fod yn agored i niwed a bydd angen i ddarparwyr fod yn ymwybodol o hyn cyn iddynt ailddechrau dysgu wyneb yn wyneb.

Mae'n ofynnol i ddarparwyr dysgu gwblhau Asesiadau Risg manwl cyn y gellir cytuno ar unrhyw awgrymiadau i agor. Fel cyflogwyr, mae darparwyr dysgu yn ddarostyngedig i Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999.

Yng ngoleuni'r effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:

  • yn darparu’r cyfraniad mwyaf at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant; a/neu,

  • yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Mae galluogi dysgwyr i ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb ar y cyfle cyntaf yn atgyfnerthiad cadarnhaol o'r amcanion llesiant. Mae'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt fynediad at ddarpariaeth ar-lein dan anfantais ar hyn o bryd; a byddai ailddechrau arferion a drefnwyd yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a lles staff a dysgwyr.

Fodd bynnag, mae yna effeithiau negyddol posibl. Nid oes tystiolaeth ar gael i ddarganfod pa lefel o risg yw pobl ifanc (sef mwyafrif y dysgwyr llawn amser mewn AB) - naill ai iddyn nhw eu hunain neu i eraill – o ran cael eu heintio gan Covid-19. Yn ogystal, mae'r staff yn y sector ôl-16 yn gyffredinol yn hŷn na'r rhai mewn ysgolion ac felly gallant fod mewn mwy o berygl.

Er mwyn lliniaru unrhyw effeithiau a allai fod yn negyddol, bydd yn ofynnol i ddarparwyr gwblhau asesiadau risg cyn y caniateir unrhyw ddysgwyr i mewn i adeiladau.

Sut y bydd effaith y cynnig yn cael ei fonitro a'i werthuso wrth iddo fynd yn ei flaen a phan ddaw i ben?

Mae llif gwaith penodol sy'n canolbwyntio ar Fonitro a Gwerthuso wedi'i ymgorffori yn y cynllun cyflawni gyda’r bwriad o:

  • nodi “gwersi a ddysgwyd” o'n hymateb i Covid-19
  • nodi a rhannu arferion da, gan gynnwys dulliau arloesol o ddarparu dysgu, cefnogi dysgwyr a dysgu proffesiynol
  • sefydlu trefniadau diwygiedig ar gyfer mesurau cynllunio, cyllido a pherfformiad
  • gwerthuso effaith Covid-19 ar ddysgwyr ac ar y sector cyfan
  • gwerthuso effaith Covid-19 ar Ddarpariaeth Cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog
  • nodi dysgu y gellir ei gymhwyso'n effeithiol i heriau parhad busnes yn y dyfodol
  • dod o hyd i gyfleoedd i gadw'r canlyniadau cadarnhaol, megis llai o fiwrocratiaeth, gwneud penderfyniadau chwim, mwy o ddysgu ar-lein, a gwell cyfathrebu.

Bydd y Ffrwd Waith hon yn ceisio gweithio gyda rhanddeiliaid a dysgwyr i bennu effeithiau'r cynigion.