Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol 2025 i 2029
Yr hyn rydym yn ei wneud i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac i sicrhau bod ein cymdeithas yn decach ac yn fwy cynhwysol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair y Gweinidog
Mae cydraddoldeb a hawliau dynol yn ganolog i waith Llywodraeth Cymru a'n gweledigaeth ar gyfer Cymru. Credwn y dylai pob person gael ei drin yn deg, ac rydym yn gweithio tuag at Gymru fwy cyfartal, gwlad sy'n sicrhau cydraddoldeb o ran mynediad at wasanaethau, yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb a gwahaniaethu ac yn ceisio canlyniadau tecach i'n holl ddinasyddion, sy'n cynnwys cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Mae'r nodau hyn yn bwysicach nag erioed. Mae'r bwlch rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf yn ein cymdeithas yn parhau i ehangu. Yr hyn sy'n destun pryder enfawr yw bod rhai lleisiau eithafol yn manteisio ar y cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo anoddefgarwch a chasineb, gan geisio tanseilio ein gwerthoedd cyffredin a rhannu ein cymunedau.
Wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldeb yng Nghymru, mae'n bwysig diogelu a hyrwyddo'r hawliau dynol sy'n amddiffyn pob un ohonom. Mae'n rhaid inni ddiogelu hawliau'r grwpiau a'r unigolion hynny sy'n wynebu'r risg fwyaf o wahaniaethu a chael eu trin yn annheg sydd, yn ei dro, yn gallu arwain at ganlyniadau anghyfartal iawn mewn bywyd. Gall yr annhegwch fod hyd yn oed yn fwy pan fo gwahanol fathau o wahaniaethu ac anfantais yn cyd-ddigwydd. Er enghraifft, gall pobl brofi hiliaeth a rhywiaeth ar yr un pryd.
Rwy'n falch o'r cynnydd yr ydym wedi'i wneud yn ystod y pedair blynedd diwethaf, sydd wedi cynnwys Cynllun Gweithredu Wrth-hiliol Cymru, ein Cynllun Hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau, ein penderfyniad i fabwysiadu'r Model Cymdeithasol o Anabledd (a gaiff ei egluro yn nes ymlaen) sydd wedi ysgogi ein camau gweithredu i gefnogi pobl anabl, a'n camau gweithredu i gefnogi cymunedau LHDTC+ sydd wedi'u nodi yn ein Cynllun Gweithredu LHDTC+. Bydd Cynllun Hawliau Pobl Anabl Cymru yn cael ei gyhoeddi yn 2025. Bydd yr holl waith hwn yn cael effaith arwyddocaol drwy gydol cyfnod y Cynllun Strategol hwn a thu hwnt.
Mae'r Cynllun Strategol hwn ar gyfer Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn dwyn ynghyd ein Hamcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol â'n gwaith i hyrwyddo hawliau dynol. Mae'r Amcanion Cydraddoldeb yn nodi ein huchelgais am newid ystyrlon ar draws pob maes mewn amgylchedd sy'n newid. Maent yn cael eu cefnogi gan Ddatganiad ar Hawliau Dynol sy'n nodi y byddwn yn ymgorffori ffordd o weithredu hawliau dynol yn ein gwaith. Mae'r camau gweithredu i gefnogi cyflawni ein hamcanion cydraddoldeb cenedlaethol a hawliau dynol hefyd wedi'u cynnwys yn y cynlluniau cydraddoldeb neilltuol.
Jane Hutt AS
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
Cyflwyniad
Mae'r cynllun hwn yn cyflawni ein dyletswyddau mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig a nodir yn rheoliad 14(2) (c) o Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011. Mae hefyd yn amlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru at Hawliau Dynol. Mae'r cynllun hwn yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn rhan annatod o ddiwylliant Llywodraeth Cymru. Drwy nodi ein Hamcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol hirdymor a'n Datganiad ar Hawliau Dynol, mae'r cynllun hwn yn cyflwyno fframwaith sy'n dod â chynlluniau cydraddoldeb Llywodraeth Cymru at ei gilydd, gan lywio gwaith cynllunio a chyflawni amcanion yn y dyfodol, er mwyn iddo gael yr effaith fwyaf.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflawni'r holl nodau llesiant cenedlaethol, sef 'Cymru lewyrchus, Cymru gydnerth, Cymru iachach, Cymru sy'n fwy cyfartal, Cymru o gymunedau cydlynus, Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, a Chymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang', a gyflwynwyd drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Heb Gymru fwy cyfartal, ni fyddwn yn cyflawni'r nodau eraill.
Cam hanfodol tuag at gyflawni Cymru fwy cyfartal yw cydnabod y berthynas bwysig rhwng cydraddoldeb a hawliau dynol wrth ddatblygu polisi a gwneud penderfyniadau. Credwn fod cydraddoldeb yn egwyddor ac yn ganlyniad i barchu, amddiffyn a chyflawni hawliau dynol yn effeithiol. Bydd ymgorffori hawliau dynol yn ein gwaith yn cryfhau ac yn hyrwyddo tegwch i bawb.
Bydd ymgorffori dulliau gweithredu ar gydraddoldeb a hawliau dynol yng ngwaith Llywodraeth Cymru yn golygu newid systemig a diwylliannol, a bydd yn cymryd amser. Trwy ein Hamcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol a'n Datganiad ar Hawliau Dynol, mae'r cynllun hwn yn cyflwyno fframwaith cydlynol ar gyfer cynllunio a chyflawni gwaith. Bydd y fframwaith hwn yn sail i'n cynlluniau unigol ac yn sicrhau eu bod yn cyfrannu at ein hamcanion cyffredinol, gan dargedu camau gweithredu er mwyn iddynt gael yr effaith fwyaf. Bydd hyn yn darparu sail ar gyfer gweithgareddau prif ffrydio ehangach, ac yn galluogi cyfathrebu mwy cydlynol â rhanddeiliaid allanol ar rinweddau ac agendâu hawliau dynol Llywodraeth Cymru.
Mae'r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol a'r Datganiad ar Hawliau Dynol wedi'u datblygu mewn partneriaeth â rhanddeiliaid. Mae camau gweithredu penodol i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r amcanion wedi'u cynnwys mewn amrywiol gynlluniau sy'n gysylltiedig â chydraddoldeb a hawliau dynol (adran 5).
Ein hymrwymiad i hawliau dynol a chydraddoldeb
Hawliau dynol
Mae hawliau dynol yn sylfaenol i sicrhau urddas, rhyddid a chydraddoldeb i bob unigolyn, gan ffurfio sylfaen cymdeithasau cyfiawn, teg a democrataidd. Gan gydnabod cydgysylltiad cydraddoldeb a hawliau dynol, ac ochr yn ochr â chyflawni ein Dyletswyddau o ran Cydraddoldeb sy'n benodol i Gymru, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i egwyddor yr ydym yn ei nodi yn y Datganiad canlynol ar Hawliau Dynol.
Datganiad ar Hawliau Dynol
Mae hawliau dynol yn hawliau sy'n eiddo i bawb. Byddwn yn parchu, yn diogelu ac yn cyflawni ein dyletswyddau hawliau dynol a chydraddoldeb fel y gall pawb yng Nghymru fyw eu bywydau gydag urddas, rhyddid, diogelwch a heb wahaniaethu. Rydym yn ymrwymo i ddull o weithredu hawliau dynol sy'n rhoi pobl wrth wraidd popeth a wnawn, gan wella lles cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Ein nod yw bod 'dull o weithredu ar hawliau dynol' yn cael ei ymgorffori ar draws holl feysydd polisi Llywodraeth Cymru. Byddwn yn gwneud hyn drwy weithredu'r camau yr ydym wedi cytuno eu cymryd mewn ymateb i adroddiad ymchwil Cryfhau a Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru 2021, a thrwy gymryd camau i gefnogi amcanion hawliau dynol mewn cynlluniau cydraddoldeb penodol. Byddwn yn datblygu ein dull wrth inni fynd â'n gwaith ar hawliau dynol rhagddo, gan ddysgu a gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid i fireinio'r camau a gymerwn. Byddwn yn parhau i gynnal ein rhwymedigaethau mewn perthynas â chyfraith hawliau dynol rhyngwladol, gan gynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, y Confensiwn Rhyngwladol ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol, y Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod, a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, yn ogystal â'r holl rwymedigaethau hawliau dynol rhyngwladol eraill yng Nghymru sy'n rhwymol o dan gyfraith ryngwladol.
Cydraddoldeb
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau canlyniadau tecach a mwy cyfartal i bobl Cymru.
Ein nod hirdymor i Gymru
Mae Cymru'n wlad sy'n seiliedig ar degwch, cynhwysiant ac atal gwahaniaethu, trwy gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol.
Ein Hamcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol 2024 i 2028
Amcan cydraddoldeb cenedlaethol 1: Byddwn yn creu Cymru lle mae pawb yn cael cyfleoedd i ffynnu yn unol â'n nod sefydliadol i leihau tlodi.
Amcan cydraddoldeb cenedlaethol 2: Byddwn yn creu Cymru lle gall pawb fod yn ymwybodol o'u hawliau dynol, lle cânt eu diogelu, eu hyrwyddo a lle maent yn sail i bob polisi cyhoeddus.
Amcan cydraddoldeb cenedlaethol 3: Byddwn yn creu Cymru lle gall pawb fod yn ymwybodol o wasanaethau cyhoeddus o safon uchel a chael mynediad cyfartal atynt.
Amcan cydraddoldeb cenedlaethol 4: Byddwn yn creu Cymru sy'n atal gwahaniaethu, erledigaeth, aflonyddu, cam-drin, troseddau casineb a/neu fwlio yn erbyn pawb.
Amcan cydraddoldeb cenedlaethol 5: Byddwn yn creu Cymru lle gall pawb o'r amrywiaeth lawn o gefndiroedd gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus, cael eu lleisiau wedi'u clywed, a gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu mewn swyddi arwain.
Amcan cydraddoldeb cenedlaethol 6: Byddwn yn creu Cymru â chyfleoedd teg a chyfartal i gael swydd ac sy'n sicrhau triniaeth deg a chyfartal yn y gweithle, gan gynnwys cyflog ac amodau teg.
Amcan cydraddoldeb cenedlaethol 7: Byddwn yn creu Cymru sy'n amgylcheddol gynaliadwy gyda'r gallu i sicrhau bod ein taith i sero net yn deg a'n bod yn ymateb i effeithiau annheg newid yn yr hinsawdd.
Gweithredu ar gydraddoldeb a hawliau dynol
Mae ein dull o weithredu'r amcanion ar gydraddoldeb ac ar hawliau dynol yn un trawsbynciol, a bydd angen gweithredu ar draws holl feysydd polisi Llywodraeth Cymru. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae'r cynlluniau gweithredu sydd eisoes yn bodoli ac wedi'u cyhoeddi yn nodi'r camau gweithredu sy'n targedu meysydd gwaith penodol neu grwpiau penodol o randdeiliaid sy'n fwyaf tebygol o ysgogi newid. Bydd cyflawni'r cynlluniau penodol hyn yn cyfrannu at sicrhau bod wardiau yn bodloni nodau cyfunol yr Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol, ac yn ei dro ein Nod Hirdymor ochr yn ochr â chefnogi dull o weithredu ar hawliau dynol. Mae'r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol a'r Cynllun hwn yn darparu fframwaith ar gyfer y canlyniadau, ac mae'r cynlluniau hyn yn cydymffurfio â'r fframwaith hwnnw. Amlinellir y cynlluniau wedi'u targedu isod.
Dros amser, byddwn yn parhau i gadw golwg ar gysondeb y cynlluniau unigol a datblygu ein dull o dargedu camau gweithredu er mwyn iddynt gael yr effaith fwyaf, gan gynnwys cymryd camau a gosod cerrig milltir sy'n cefnogi'r gwaith o gyflawni'r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol sydd wedi'u nodi'n glir.
Amlinellir isod y meysydd gwaith allweddol, gan gynnwys y cynlluniau wedi'u targedu, sy'n cyfrannu at gyflawni'r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol ac sy'n canolbwyntio ar nodweddion gwarchodedig penodol neu ar hawliau dynol.
Anabledd
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau cydraddoldeb i bob person anabl yng Nghymru a dileu rhwystrau i gynhwysiant, yn unol â'r 'Model Cymdeithasol o Anabledd' sy'n gwneud y gwahaniaeth pwysig rhwng 'amhariad' ac 'anabledd'. Mae’r Model Cymdeithasol yn cydnabod bod pobl ag amhariadau yn cael eu hanablu gan rwystrau sy’n bodoli’n gyffredin mewn cymdeithas. Mae'r rhwystrau hyn yn cynnwys agweddau negyddol, a rhwystrau ffisegol a sefydliadol, a all atal pobl anabl rhag cymryd rhan a chael eu cynnwys ym mhob rhan o fywyd. Nod ein Cynllun Hawliau Pobl Anabl, sydd i'w gyhoeddi yn 2025, yw cael gwared ar rwystrau a gwella cyfle pob person anabl yng Nghymru i gael eu cynnwys a chymryd rhan.
Rhywedd
Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhywiol systematig. Mae ein Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru:yn nodi sut rydym yn bwriadu cyflawni'r uchelgais hon. Rydym yn gwneud cynnydd da tuag at gyflawni'r cynllun hwn ac yn ystyried diweddaru'r gwaith eleni i sicrhau ein bod yn parhau i roi sylw i'r camau gweithredu hynny a fydd yn cael yr effaith fwyaf ar wella canlyniadau.
Hil
Mae ein Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn nodi sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud gwahaniaeth mesuradwy ar y cyd i fywydau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, gan gynnwys cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, erbyn 2030. Dengys Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol: adroddiad blynyddol 2022 i 2023 ei bod yn bosibl nad yw effaith y Cynllun Gweithredu mor amlwg eto ym mhrofiad bywyd cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ag y byddem yn dymuno, ond bod sylfeini strwythurol sylweddol wedi'u gosod ar gyfer newid hirdymor. Diweddarwyd Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn 2024.
Cyfeiriadedd Rhywiol a Hunaniaeth Rhywedd
Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i sicrhau mai Cymru yw'r genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop. Mae ein Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru yn nodi sut rydym yn bwriadu cyflawni hyn erbyn 2026.
Hawliau dynol
Drwy ein hymateb yn 2021 a nodir yn y ddogfen Adroddiad ymchwil Cryfhau a Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru: Ymateb Llywodraeth Cymru amlinellwyd y camau rydyn ni'n eu cymryd i ddiogelu a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol pawb yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys camau gweithredu i ymgymryd â gwaith deddfwriaethol o flaen llaw, datblygu asesiad effaith integredig o hawliau dynol, a datblygu cynlluniau i godi ymwybyddiaeth o hawliau dynol. Rydym yn parhau i fwrw ymlaen â'r camau gweithredu hyn, gan gynnwys mewn perthynas â'n hymrwymiad i archwilio sut i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, a'r Confensiwn ar gyfer Dileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod yng Nghymru.
Ysgogiadau’r Llywodraeth
Yn ogystal â'r camau rydyn ni'n eu cymryd fel rhan o'r cynlluniau unigol, byddwn yn defnyddio'r ysgogiadau (adnoddau, deunyddiau, gwasanaethau) sydd ar gael inni i lywio'r canlyniadau ac i ysgogi'r newid sydd ei angen ar draws Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol ar bob cyfle. Bydd y camau a gymerwn yn cyfrannu'n uniongyrchol at gyflawni ein Hamcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol (Canlyniad) a gwireddu ein Datganiad ar Hawliau Dynol (Canlyniad). Yr ysgogiadau hyn yw.
Cyllid
Mae cyflawni ein Hamcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol yn golygu gwaith trawsbynciol, gan sicrhau bod pob maes polisi yn cefnogi'r ymdrechion hynny. Mae cyllid yn adnodd pwysig a fydd yn ein helpu i gyflawni'r amcanion.. Rydym wedi diwygio ein Rhaglen Cyllido Cydraddoldeb a Chynhwysiant, ac wedi lansio grantiau cyllid ar gyfer gwaith arloesi ac ar gyfer codi ymwybyddiaeth a meithrin cysylltiadau i gyflawni nodau'r cynllun hwn. Rydym yn ystyried ar gyfer y tymor hwy sut y gallai ysgogiadau fel proses y gyllideb, y broses gaffael a grantiau gael eu datblygu yn ehangach i adlewyrchu ystyriaeth o gydraddoldeb a hawliau dynol, a sut i dreialu dulliau a fydd yn gwneud cyllid yn fwy hygyrch i'r trydydd sector. Rydym hefyd yn archwilio sut i ymgorffori dulliau cyllidebu ar sail rhywedd ymhellach.
Llywodraethu ac arweinyddiaeth
Llywodraethu
Fel sefydliad rydym yn cryfhau ein prosesau llywodraethu mewnol i wella atebolrwydd, sy'n unol â'n diwygiadau ehangach i wella'r canlyniadau.
Arweinyddiaeth
Byddwn yn cydnabod ac yn cefnogi gwaith cydweithwyr sy'n arwain ar ymrwymiadau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a'u galluogi i ymgorffori ymddygiadau a gwerthoedd cynhwysol, gan annog penderfyniadau polisi tecach.
Y gweithlu
Er ein bod yn glir bod gwaith i'w wneud o hyd, fel sefydliad, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn anelu at adlewyrchu amrywiaeth Cymru yn llawn ar bob lefel. Mae Strategaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant y gweithlu Llywodraeth Cymru: 2021 i 2026 yn nodi sut rydym yn bwriadu cyflawni hyn.
Cyflawni a deddfwriaeth
Deddfwriaeth
Fel rhan o'r gwaith ar hawliau dynol, rydym yn parhau i weithio gyda'r Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol i fwrw ymlaen â'n hymrwymiad i archwilio'r posibilrwydd o ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau a Chonfensiwn Dileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod yng nghyfraith Cymru.
Cyflwynodd Deddf Cydraddoldeb 2010 Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus sy’n dweud bod rhaid i’r rhai sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd roi sylw dyledus i’r angen i wneud y canlynol:
- dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon ac ymddygiad arall a waherddir gan y Ddeddf
- hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a phobl nad ydynt yn ei rhannu
- meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rhai nad ydynt yn ei rhannu.
Nod Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yw sicrhau bod y rhai sy'n ddarostyngedig iddi yn ystyried hyrwyddo cydraddoldeb yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cynnwys llunio polisïau a darparu gwasanaethau, ac mewn perthynas â gweithwyr.
Yng Nghymru, mae'r Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol yn cynnwys nifer o ofynion statudol penodol ar gyfer cyrff cyhoeddus, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, y mae angen eu dilyn. Nod y gofynion hynny yw sicrhau bod Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn perfformio'n well ac yn cynnwys gosod amcanion cydraddoldeb ac amlinellu camau i gyflawni'r amcanion, cynnal gwaith ymgysylltu, cynnal asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb, coladu data cyflogaeth, darparu adroddiadau blynyddol ac ystyried cydraddoldeb fel rhan o weithgareddau caffael. Mae gan Weinidogion Cymru ofyniad ychwanegol i adrodd ar berfformiad sefydliadau'r sector cyhoeddus yn erbyn Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru.
Bydd yr ystyriaeth a roddir i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru yn cael ei chryfhau drwy annog gwelliannau yn yr asesiadau o effaith. Bydd yr Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol yn cael eu hyrwyddo fel fframwaith cynllunio ar gyfer cynlluniau cyflawni cydraddoldeb yn y dyfodol. Bydd fframwaith mesur yn cael ei ddatblygu i ddarparu dull tryloyw o ddeall a rhannu cynnydd, gan roi cyfle i gryfhau'r camau gweithredu yn ôl yr angen.
Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol
Mae'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus a restrir, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, pan fyddant yn gwneud penderfyniadau strategol, roi sylw dyladwy i'r angen i leihau anghydraddoldeb canlyniadau sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol. Gall anghydraddoldeb canlyniadau o'r fath gynnwys er enghraifft, cyrhaeddiad addysgol, canlyniadau iechyd, y gallu i fwynhau safon byw gyfforddus, teimlo'n ddiogel, y gallu i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus neu fywyd bob dydd a manteisio ar wasanaethau. Byddwn yn datblygu dull i sicrhau bod y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn cael ei hystyried yn llawn i sicrhau cydymffurfiaeth â'i gofynion, fel bod penderfyniadau yn cael eu gwneud i gyflawni'r effaith orau wrth leihau anghydraddoldebau o'r fath.
Asesiad o effaith a dulliau eraill
Mae gwaith ar y gweill i greu dull integredig o Asesu'r Effaith ar gydraddoldeb a hawliau dynol. Rydym hefyd yn archwilio ystod o wahanol ddulliau i wella'r broses o wneud penderfyniadau. Byddwn yn ceisio gwella ein prosesau yn barhaus i sicrhau'r canlyniadau gorau, gwella'r ystyriaeth o rwystrau croestoriadol (h.y. lle mae person yn wynebu rhwystrau o ganlyniad i gyfuniad o nifer o nodweddion gwarchodedig, e.e. bod yn fenyw anabl) a deall a lliniaru effeithiau negyddol neu anfwriadol yn well.
Integreiddio
Er mwyn cwrdd â chanlyniadau'r cynllun strategol hwn, rydym am wella'r gallu o fewn y Llywodraeth ymhellach. Byddwn yn cyfathrebu'n effeithiol ac yn cynnig hyfforddiant, er mwyn sicrhau bod yr Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol yn cael eu deall, a bod yr holl ysgogiadau sydd ar gael yn cael eu defnyddio'n effeithiol. Byddwn yn nodi ac yn bwrw ymlaen â chyfleoedd i integreiddio cydraddoldeb a hawliau dynol i'n prosesau a'n systemau presennol. Byddwn yn dangos arweinyddiaeth wrth amlygu ymddygiadau cadarnhaol a galluogi arloesedd, gan sicrhau bod ein dull yn dryloyw.
Cyfrannu, ymgysylltu a chodi ymwybyddiaeth
Rydym yn archwilio cyfleoedd i weithio'n well gyda rhanddeiliaid allanol i fwrw ymlaen â diwygiadau a chodi ymwybyddiaeth o'n gwaith, er mwyn gwella canlyniadau yn ei dro. Dros gyfnod y cynllun hwn, bydd hyn yn cynnwys adolygu effeithiolrwydd ein grwpiau rhanddeiliaid a chymunedau ehangach sydd o ddiddordeb yn unol â gofynion Deddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol 2015. Byddwn hefyd yn adeiladu ar ein digwyddiadau ymgysylltu presennol, gan gynnwys digwyddiadau sy'n gysylltiedig â'n Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a'r camau rydym wedi'u cymryd i godi ymwybyddiaeth o hawliau dynol.
Cydweithio
Ar hyn o bryd mae gan Lywodraeth Cymru ystod o wahanol ffyrdd y mae'n ymgysylltu â'r trydydd sector a'r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru ochr yn ochr â gweithio gyda Llywodraethau eraill yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Rydym yn parhau i gwrdd â chynrychiolwyr o sefydliadau rhanddeiliaid trwy fforymau penodol ar gydraddoldeb a hawliau dynol, gan gynnwys, er enghraifft, y Grŵp Cynghori ar Hawliau Dynol. Rydym yn adolygu sut y gallem gymryd dull mwy cydgysylltiedig o weithio gyda phartneriaid allanol a Llywodraethau eraill ac i rannu'r dysgu. Bydd hyn yn cynnwys adolygu sut rydym yn defnyddio rhwydweithiau presennol ac yn chwilio am gyfleoedd i ddysgu gan eraill.
Tystiolaeth
Rydym yn datblygu ffordd o gael gwell dealltwriaeth o'r cynnydd yr ydym yn ei wneud wrth geisio cyflawni ein Hamcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol, gan bennu canlyniadau a dangosyddion allweddol ar draws cynlluniau cydraddoldeb penodol a allai gyfrannu at gyflawni'r Amcanion ac at y ffordd yr ydym yn adrodd am y cynnydd a wnaed. Bydd crynodeb rheolaidd o dystiolaeth o gydraddoldeb yn cael ei gyflwyno sy'n coladu tystiolaeth Llywodraeth Cymru drwy ystod o grwpiau cydraddoldeb. Rydym hefyd yn cymryd camau i wella'r ffordd yr ydym yn mesur ac yn monitro'r hyn yr ydym yn ei gyflawni a chanlyniadau hynny, gan gynnwys y ffordd yr ydym yn cynnal gwerthusiadau o wahanol gynlluniau.
Monitro'r hyn a gyflawnir
Adroddiadau Blynyddol, gan gynnwys adroddiad cynnydd Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus bob dwy flynedd
Mae'n ofynnol inni o dan ein Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol yng Nghymru adrodd ar gynnydd yn flynyddol. Bob blwyddyn bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar gydraddoldeb a hawliau dynol sy'n nodi cynnydd yn erbyn ein gwaith i gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Bydd cynnydd yn erbyn yr Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol yn cael ei gynnwys mewn adroddiadau yn y dyfodol.
Fframwaith mesur i ddangos sut mae'r newid wedi digwydd
Dros amser, er mwyn cefnogi canlyniadau gwell, bydd y fframweithiau mesur a ddefnyddir ar gyfer cynlluniau cydraddoldeb a hawliau dynol Llywodraeth Cymru sydd eisoes yn bodoli yn cael eu dwyn ynghyd i ddangos newidiadau yn erbyn canlyniadau'r cynllun hwn mewn fframwaith mesur perfformiad cyffredinol. Bydd ystyried 'profiad bywyd' yn parhau i fod yn elfen bwysig o'n cynlluniau, a'n dulliau gwerthuso, a bydd yn cael ei adlewyrchu yn y fframwaith mesur perfformiad cyffredinol.
Mae'r Grŵp Cynghori ar Hawliau Dynol yn cael diweddariadau rheolaidd ar y cynnydd o ran cyflawni argymhellion y cytunwyd arnynt gan Lywodraeth Cymru sydd wedi'u cynnwys yn yr Adroddiad Ymchwil Cryfhau a Hyrwyddo Hawliau Dynol.
Yn ogystal, fel sy'n ofynnol gan y Cenhedloedd Unedig a Chyngor Ewrop, mae Llywodraeth Cymru yn diweddaru ar gynnydd (drwy Lywodraeth y DU, fel Gwladwriaeth sy'n Barti) mewn perthynas â chydymffurfio â'r cytundebau Hawliau Dynol sydd wedi'u cadarnhau gan Lywodraeth y DU, o ran meysydd lle y mae cymhwysedd wedi eu datganoli ar eu cyfer. Gwneir diweddariadau trwy adroddiad ysgrifenedig a thrwy fod yn bresennol yn sesiynau holi'r Cenhedloedd Unedig a gynhaliwyd yn Genefa. Mae'r amserlenni ar gyfer adrodd ar gynnydd i'r Cenhedloedd Unedig a Chyngor Ewrop yn cael eu pennu gan y sefydliadau hynny, ac maent yn fandadol.
Mae'r cynnydd a wnaed yn erbyn cyflwyno argymhellion a wnaed gan y Cenhedloedd Unedig a Chyngor Ewrop hefyd yn cael ei fonitro gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol trwy ei system dracio ar-lein.
