Neidio i'r prif gynnwy

Ein cynllun i leihau effaith amgylcheddol GIG Cymru a chefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer sero net yn y sector cyhoeddus.

Cyhoeddwyd gyntaf: 7 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 7 Tachwedd 2025

Rhan 1: Rhagair

Pedair blynedd ers cyhoeddi’r 'Cynllun cyflawni strategol datgarboneiddio GIG Cymru' cyntaf ym mis Mawrth 2021, mae'r argyfwng hinsawdd yn parhau i fod yn un o heriau iechyd mwyaf ein hoes ac mae’r dystiolaeth o’r effeithiau ar iechyd y boblogaeth a'r system iechyd yn tyfu.

Mae'r 'Cynllun cyflawni strategol datgarboneiddio GIG Cymru' hwn wedi'i adnewyddu ac yn ailddatgan ymrwymiad GIG Cymru i leihau ei effaith amgylcheddol. Mae'n nodi map ffordd clir ar gyfer cyflawni ein huchelgeisiau hinsawdd ar y cyd a'i nod yw cefnogi sefydliadau i flaenoriaethu'r camau sydd eu hangen i roi GIG Cymru mewn sefyllfa i gyflawni targed deddfwriaethol sero net 2050.

Mae'r cynllun hwn yn rhan annatod o'r trawsnewidiad ehangach i gyflawni 'Cymru iachach', ein cynllun hirdymor ar gyfer y system iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r weledigaeth honno ar gyfer 'Cymru iachach' yn canolbwyntio ar atal a chyflawni lleol, y ddau yn gonglfeini i system iechyd carbon isel. Mae 'Cymru iachach' hefyd yn ymrwymo sefydliadau i ymgorffori gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd wrth wneud penderfyniadau a chynlluniau ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol; mae'r cynllun hwn sydd wedi'i adnewyddu yn nodi'r camau blaenoriaeth sydd eu hangen i gefnogi GIG Cymru i gyflawni'r ymrwymiad hwnnw.

Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar helpu GIG Cymru i:

  • cryfhau effeithlonrwydd ynni a chynyddu'r defnydd o ynni adnewyddadwy
  • cefnogi teithio mwy cynaliadwy ar draws ein fflyd a chan staff a chleifion
  • gweithio gyda'n cyflenwyr i leihau eu heffaith amgylcheddol, gan gynnwys trwy fwy o ddefnydd o egwyddorion economi gylchol
  • cyflawni cynaliadwyedd amgylcheddol fel rhan o'n dull presennol sy'n seiliedig ar werth o ddarparu clinigol
  • dod yn fwy effeithlon gyda phwyslais cryfach ar ddileu pob math o wastraff
  • sicrhau’r cyd-fuddion i gleifion, i staff, ar ein cyllid ac i'r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt o weithio mor gynaliadwy â phosibl

Mae'r cynllun hwn yn cyd-fynd â'r camau addasu sydd eu hangen i ategu gwydnwch i effeithiau newid hinsawdd yr ydym eisoes yn eu gweld gan gynnwys digwyddiadau tywydd mwy eithafol. Disgwylir i sefydliadau gymryd dull integredig, gan ystyried yr angen i liniaru risgiau hinsawdd yn y dyfodol wrth i ni ddatgarboneiddio, a sicrhau bod ein camau addasu mor isel â phosibl.

Rydym yn adeiladu ar sylfeini cadarn y cynnydd sydd eisoes wedi'i wneud a'r gwersi a ddysgwyd ar draws GIG Cymru. Fe'i datblygwyd drwy ymgysylltu helaeth, gan dynnu ar arbenigedd, arloesedd ac ymroddiad staff a phartneriaid ledled GIG Cymru. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi'r adnewyddu ac i'r cydweithwyr sy'n cymryd yr awenau ar yr agenda hon.

Mae'r cynllun a'i dargedau yn parhau i fod yn uchelgeisiol, ac rwy'n cydnabod y cyd-destun heriol yr ydym yn gweithio ynddo. Bydd rhai camau gweithredu yn gofyn am fuddsoddiad ariannol ar adeg pan fo adnoddau ariannol eisoes wedi'u hymestyn. Fodd bynnag, ni allwn osgoi lefel yr uchelgais sydd ei angen os ydym am gyflawni system iechyd carbon is a chyflawni targedau hinsawdd heriol. Mae dull cydweithredol yn hanfodol, gyda'r cynllun hwn yn darparu'r mandad i bob rhan o'r system iechyd ddod at ei gilydd i gyfuno adnoddau, dod o hyd i atebion creadigol, eu lledaenu a’u cyflwyno ar raddfa fwy, a chymryd y cam nesaf tuag at system iechyd fwy cynaliadwy.

Jacqueline Totterdell
Cyfarwyddwr Cyffredinol Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Blynyddoedd Cynnar, a Phrif Weithredwr GIG Cymru

Rhan 2: Rolau ac ymrwymiadau

Bydd GIG Cymru yn dangos arweinyddiaeth ac ymrwymiad i gyflawni'r Cynllun Cyflawni Strategol (CCS) hwn, gan ymgorffori camau gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd wrth wneud penderfyniadau a chynlluniau.

Bydd sefydliadau GIG Cymru yn creu neu adolygu ac yn diweddaru eu cynlluniau gweithredu hinsawdd yn unol â’r CCS hwn ac yn sicrhau atebolrwydd clir ar gyfer cyflawni mentrau o fewn eu sefydliadau.

Bydd GIG Cymru yn sicrhau dull cydgysylltiedig rhwng lliniaru ac addasu, gan gynnwys drwy asesu gofynion addasu wrth weithredu mentrau CCS yn lleol.

Mae GIG Cymru yn gyfrifol am ystyried asesiad effaith a gofynion cyfreithiol, gan gynnwys y rhai a nodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2025, wrth weithredu eu cynlluniau gweithredu ar newid hinsawdd.

Bydd sefydliadau GIG Cymru yn darparu data a gwybodaeth amserol o ansawdd uchel i gefnogi gofynion adrodd hinsawdd Llywodraeth Cymru.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal sylfaen dystiolaeth gadarn ar allyriadau carbon ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn nodi cyfleoedd ariannu, gan flaenoriaethu cymorth i’r mentrau datgarboneiddio sydd â’r effaith fwyaf.

Rhan 4: Mentrau a chamau gweithredu arfaethedig

Llywodraethu a gweithredu'r rhaglen

  1. Targedu cymorth ariannol ar fentrau datgarboneiddio effaith uchel.
  2. Goruchwylio gweithrediad y cynllun cyflawni strategol a sicrhau perthnasedd parhaus.
  3. Meithrin gweithlu o staff sy'n hinsawdd-ddeallus, ac sy'n teimlo eu bod wedi'u grymuso i hyrwyddo arferion cynaliadwy a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd drwy eu rolau.
  4. Sefydlu dull cenedlaethol i gyflymu lledaeniad a graddfa arferion cynaliadwy ar draws GIG Cymru.

Adeiladau a thir

  1. Bydd defnydd ynni a chyfleustodau adeiladau yn cael ei reoli a'i leihau'n weithredol.
  2. Nodi cyfleoedd (cyfalaf a chynnal a chadw) yn weithredol i ddatgarboneiddio adeiladau'r GIG.
  3. Bydd cynlluniau datgarboneiddio asedau yn cael eu gweithredu i ddatgarboneiddio adeiladau'r GIG.
  4. Bydd y gwaith gwres a phŵer cyfunedig presennol yn cael ei gynnal ar ei effeithlonrwydd mwyaf tan ddiwedd ei oes. Ni fydd unrhyw orsaf gwres a phŵer cyfunedig tanwydd ffosil arall yn cael ei gosod, ond bydd gwres a phŵer cyfunedig adnewyddadwy yn cael ei gefnogi.
  5. Bydd cyfleoedd ynni adnewyddadwy yn cael eu datblygu i gynyddu gweithgareddau cynhyrchu ynni a sicrhau y bydd tir y GIG yn cael ei ddefnyddio hyd eithaf ei botensial.
  6. Bydd contractwyr gofal sylfaenol a chymunedol, perchnogion busnesau a landlordiaid yn ceisio gwella effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio eu hadeiladau.
  7. Bydd pob adeilad newydd ac adnewyddiad mawr yn cyd-fynd â'r dehongliad Cymreig newydd o safon adeiladu carbon sero net y GIG.
  8. Ymgysylltu'n rhagweithiol â landlordiaid a thenantiaid ar draws eiddo ar brydles i ysgogi gweithrediadau adeiladu carbon isel.

Fflyd

  1. Bydd sefydliadau’r GIG yn rheoli ac yn monitro gweithgareddau teithio yn weithredol o fewn eu sefydliad i nodi a gweithredu cyfleoedd i wneud y defnydd gorau o effeithlonrwydd fflydoedd.
  2. Bydd sefydliadau'r GIG yn diffinio eu dull o ymdrin â seilwaith gwefru Cerbydau Trydan (EVCI) er mwyn nodi, blaenoriaethu a gosod EVCI
  3. Bydd pob cerbyd a brynwyd neu brydleswyd gan GIG Cymru yn Gerbydau Di-allyriadau (ZEVs) lle bynnag y bo'n ymarferol bosibl. Os nad yw'n bosibl, bydd cerbydau hybrid a cherbydau allyriadau isel iawn yn cael eu prynu neu brydlesu yn lle.

Teithio gan staff a gweithio gartref

  1. Nodi a chyfleu arferion gorau i hyrwyddo teithio cynaliadwy ac arferion gweithio ystwyth gan staff.
  2. Ymgorffori a hyrwyddo hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy (llwybr newydd, strategaeth trafnidiaeth Cymru 2021) ym mhob agwedd ar gynllunio a pholisïau teithio.

Caffael

  1. Cryfhau arferion rheoli data ar draws cadwyn gyflenwi GIG Cymru i wella gwelededd i allyriadau cyflenwyr, amlygiad i risg hinsawdd, a strategaethau lliniaru.
  2. Creu a chymhwyso trefn Cymru gyfan i ddylunio, asesu ac olrhain gweithgareddau caffael sy'n cefnogi darpariaeth carbon isel ac effeithlon o ran adnoddau.
  3. Gweithio ar y cyd â chontractwyr gofal sylfaenol i ddatgarboneiddio arferion gweithredol, gan gynnwys ystyried defnyddio mecanweithiau contractio.
  4. Pontio caffael trydan i gyd-fynd â'r egwyddorion ar gyfer caffael trydan adnewyddadwy o ansawdd a nodir gan Gyngor Adeiladau Gwyrdd y DU (UKGBC).
  5. Optimeiddio rheoli stoc ac ymddygiadau defnydd i wella effeithlonrwydd adnoddau a lleihau gwastraff deunyddiau.

Gwasanaethau clinigol

  1. Integreiddio cynaliadwyedd amgylcheddol i ddatblygu a monitro canllawiau clinigol.
  2. Manteisio i’r eithaf ar effaith gynaliadwy atebion digidol a data mewn darpariaeth glinigol drwy werthuso eu manteision amgylcheddol a blaenoriaethu arloesi graddadwy.

Gwastraff

  1. Lleihau effaith amgylcheddol cynhyrchu gwastraff ar draws GIG Cymru drwy gynyddu ailddefnyddio ac atgyweirio, meithrin dysgu dan arweiniad cyfoedion a chryfhau systemau gwahanu ac ailgylchu gwastraff.

Rhan 5: Llywodraethu a gweithredu'r rhaglen

1: Targedu cymorth ariannol ar gyfer mentrau datgarboneiddio effaith uchel

1a: Ymgynghori, cwmpasu, dylunio a lansio ffrwd ariannu datgarboneiddio bwrpasol i olynu'r Gronfa Ystadau wedi'i Thargedu (TEF) cyn iddi ddod i ben yn 2027

Perchnogion arfaethedig: Llywodraeth Cymru; NWSSP SES (Gwasanaeth Ystadau Arbennig Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru).

Gweithredu erbyn: Rhagfyr 2026.

1b: Ymgorffori mecanwaith strwythuredig o fewn prosesau cynllunio gweithredol i gefnogi mentrau cynaliadwyedd amgylcheddol dan arweiniad staff

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG; SPPC (Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol).

Gweithredu erbyn: yn dibynnu ar amserlenni IMTP (Cynllun Tymor Canolig Integredig).

2: Goruchwylio gweithrediad y cynllun cyflawni strategol a sicrhau perthnasedd parhaus

2a: Mewn ymgynghoriad â sefydliadau'r GIG, bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu llwyddiant gweithredu'r cynllun cyflawni strategol ac yn rhoi diweddariad

Perchnogion arfaethedig: Llywodraeth Cymru.

Gweithredu erbyn: Rhagfyr 2027.

3: Meithrin gweithlu o staff sy'n hinsawdd-ddeallus, ac sy'n teimlo eu bod wedi'u grymuso i hyrwyddo arferion cynaliadwy a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd drwy eu rolau

3a: Creu strategaeth cynllun datblygu hinsawdd-ddeallus sy'n amlinellu sut y gellir integreiddio egwyddorion cynaliadwyedd amgylcheddol ar draws pob ffrwd gwaith ar gyfer pob grŵp staff

Perchnogion arfaethedig: grŵp hinsawdd-ddeallus; AaGIC (Addysg a Gwella Iechyd Cymru).

Gweithredu erbyn: Rhagfyr 2026.

3b: Sefydlu sianel gyfathrebu ac ymgysylltu cynaliadwyedd amgylcheddol Cymru gyfan; yn ogystal, archwilio a gweithredu cyfleoedd i ymgysylltu ymwelwyr a chleifion mewn ymdrechion cynaliadwyedd amgylcheddol

Perchnogion arfaethedig: grŵp hinsawdd-ddeallus.

Gweithredu erbyn: Mai 2026.

3c: Creu dull cyfathrebu sefydliadol, neu gynllun, i gynnal cefnogaeth ac adeiladu momentwm ar gyfer gweithredu ar hinsawdd

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: adroddiad blynyddol.

3d: Datblygu strategaeth gweithlu i gefnogi cyflawniad ‘Darparu gofal iechyd cynaliadwy: datganiad o’r sefyllfa’

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: Rhagfyr 2026.

4: Sefydlu dull cenedlaethol i gyflymu lledaeniad a graddfa arferion cynaliadwy ar draws GIG Cymru

4a: Datblygu offeryn gwerthuso safonol i asesu, olrhain ac adrodd ar yr effaith glinigol, amgylcheddol ac economaidd arloesi, gan alluogi gwaith gwerthuso a chymharu cyson ar draws GIG Cymru

Perchnogion arfaethedig: NWSSP (Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru), Perfformiad a Gwelliant y GIG, Llywodraeth Cymru.

Gweithredu erbyn: Medi 2026.

4b: Creu dull neu gynllun cyfathrebu i gynnal cymorth ac adeiladu momentwm ar gyfer gweithredu ar hinsawdd; olrhain cyrhaeddiad a llwyddiant wrth i weithgareddau cyfathrebu fynd rhagddynt

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: adroddiad blynyddol.

4c: Creu storfa genedlaethol o brosiectau peilot wedi'u gwerthuso, gan gynnwys data effaith carbon, mewnwelediadau gweithredu, a statws mabwysiadu, i gefnogi dysgu ar y cyd a thryloywder

Perchnogion arfaethedig: NWSSP, Perfformiad a Gwelliant y GIG, Llywodraeth Cymru.

Gweithredu erbyn: Ionawr 2027.

Rhan 6: Adeiladau a thir

5: Bydd defnydd ynni a chyfleustodau adeiladau yn cael ei reoli a'i leihau'n weithredol

5a: Sefydlu a gwreiddio proses i fonitro defnydd ynni pob adeilad (neu safle) yn weithredol er mwyn nodi a mynd i'r afael â gorddefnydd a llywio datblygiad prosiectau arbed ynni

Mathau o adeiladau yr effeithir arnynt [troednodyn 1]: A, C.

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: Medi 2026.

5b: Cynnal adolygiadau tymhorol o reolaethau adeiladau (hynny yw BMS (System Rheoli Adeiladau), amseryddion gwresogi, thermostatau) i wneud y gorau o effeithlonrwydd a sicrhau bod Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs) yn cael eu dilyn

Mathau o adeiladau yr effeithir arnynt: A, C.

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: Mawrth 2026.

5c: Addasu fforwm WHEF (Fforwm Amgylcheddol Iechyd Cymru) i gynnwys yn ei agenda adran sy'n rhannu llwyddiannau datgarboneiddio ystadau, rhannu gwybodaeth ac arloesi

Perchnogion arfaethedig: WHEF.

Gweithredu erbyn: Mawrth 2026.

5d: Ymgorffori arferion rheoli ynni mewn arferion gofal iechyd o ddydd i ddydd drwy ymgyrchoedd lleihau ynni (er enghraifft posteri, labeli, ymgyrchoedd mewnrwyd, ac ati)

Mathau o adeiladau yr effeithir arnynt: A, C, D.

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: Medi 2026.

6: Nodi cyfleoedd (cyfalaf a chynnal a chadw) yn weithredol i ddadgarboneiddio adeiladau

6a: Creu proses casglu data safonol ar gyfer casglu gwybodaeth benodol i asedau i gefnogi’r broses o nodi cyfleoedd datgarboneiddio sydd ar ddod yn rhagweithiol

Mathau o adeiladau yr effeithir arnynt: A, B.

Perchnogion arfaethedig: NWSSP (Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru) i ddatblygu.

Gweithredu erbyn: Medi 2026.

6b: Darparu rhestr i NWSSP o brosiectau a mesurau datgarboneiddio cyfeirio graddadwy ar draws ystâd GIG Cymru a'i halinio â fframweithiau contract Cymru gyfan er mwyn galluogi gwaith caffael a chyflawni effeithlon; dylai hyn gynnwys y canlyniadau o 9a

Mathau o adeiladau yr effeithir arnynt: A, B.

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: rhestr wedi'i darparu erbyn Rhagfyr 2026 ac wedi'i diweddaru bob dwy flynedd wedi hynny.

6c: Bydd timau ystadau neu gyfleusterau yn ymgysylltu'n weithredol â thimau trafnidiaeth ar draws y GIG (er enghraifft WAST (Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru), NWSSP) i nodi a gweithredu gofynion ar gyfer gwefru cerbydau trydan rheng flaen y GIG yn eu safleoedd er mwyn galluogi trydaneiddio cerbydau, ac yn ymgysylltu'n weithredol â Llywodraeth Cymru i nodi cyfleoedd ariannu ar gyfer gweithredu

Mathau o adeiladau yr effeithir arnynt: A, B, C (mae math C yn berthnasol dim ond os bod yr adeilad yn brydles hir sy'n fwy nag 10 mlwydd).

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: i gyd-fynd â therfynau amser perthnasol yn 15.

6d: Adolygu capasiti trydanol ar draws safleoedd i bennu cyfyngiadau ar gyfer trydaneiddio, a nodi lleoliadau blaenoriaeth ar gyfer uwchraddio cyflenwad trydanol

Mathau o adeiladau yr effeithir arnynt: A, B, C (mae math C yn berthnasol dim ond os bod yr adeilad yn brydles hir sy'n fwy nag 10 mlwydd).

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: Mawrth 2027.

6e: Lle bo cyfleoedd i resymoli lleoedd (er enghraifft swyddfeydd) yn bodoli, monitro'r defnydd drwy dechnolegau clyfar (er enghraifft synwyryddion meddiannaeth) i lywio penderfyniadau ar resymoli ystadau, mannau gwaith a rennir, a defnyddio adeiladau sy'n effeithlon o ran ynni

Mathau o adeiladau yr effeithir arnynt: A, B.

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG (gofal eilaidd).

Gweithredu erbyn: Mawrth 2028.

7: Bydd cynlluniau datgarboneiddio asedau yn cael eu gweithredu i ddatgarboneiddio adeiladau'r GIG

7a: Ar gyfer safleoedd nad ydynt yn acíwt (er enghraifft ysbytai cymunedol, canolfannau neu glinigau iechyd, swyddfeydd), cynllunio a gweithredu prosiectau datgarboneiddio wedi'u targedu sy'n cyd-fynd ag egwyddorion fframwaith adeiladau carbon sero net cyngor bwrdeistref y DU (er enghraifft optimeiddio, uwchraddio effeithlonrwydd ynni) i gyrraedd targedau datgarboneiddio adeiladau; dylai prosiectau mwy ddilyn ymagwedd gwneuthuriad yn gyntaf (gall arolygon thermol fod o fudd) a chynnwys disodli systemau gwresogi tanwydd ffosil gyda dewisiadau amgen carbon isel

Mathau o adeiladau yr effeithir arnynt: A, B.

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: integreiddio â thargedau’r cynllun gweithredu erbyn Rhagfyr 2026.

7b: Ar gyfer safleoedd acíwt ac ysbytai mawr, cynllunio a gweithredu prosiectau datgarboneiddio wedi'u targedu (er enghraifft optimeiddio, uwchraddio effeithlonrwydd ynni) i gyrraedd targedau datgarboneiddio adeiladau; dylai prosiectau mwy, lle mae cyfleoedd hyfyw ac effeithiol yn weithredol yn bodoli, ddilyn ymagwedd gwneuthuriad yn gyntaf sy'n cyd-fynd ag egwyddorion fframwaith adeiladau carbon sero net UKGBC (Gyngor Adeiladau Gwyrdd y DU)

Mathau o adeiladau yr effeithir arnynt: A, B.

Perchnogion arfaethedig: byrddau iechyd; Felindre.

Gweithredu erbyn: wedi’i intergreiddio â thargedau’r cynllun gweithredu erbyn Rhagfyr 2026.

8: Bydd y gwaith gwres a phŵer cyfunedig presennol yn cael ei gynnal ar ei effeithlonrwydd mwyaf tan ddiwedd ei oes

Ni fydd unrhyw orsaf gwres a phŵer cyfunedig tanwydd ffosil arall yn cael ei gosod, ond bydd gwres a phŵer cyfunedig adnewyddadwy yn cael ei gefnogi.

8a: Parhau i weithredu'r holl waith CHP (Gwres a Phŵer Cyfunedig) presennol hyd at ddiwedd ei fywyd gwaith heb waith adnewyddu mawr ac ardystio i'r rhaglen sicrhau ansawdd gwres a phŵer cyfunedig i sicrhau gweithrediad effeithlon

Mathau o adeiladau yr effeithir arnynt: A, B, C.

Perchnogion arfaethedig: byrddau iechyd.

Gweithredu erbyn: adroddiad blynyddol.

8b: Datgomisiynu gwres a phŵer cyfunedig tanwydd ffosil yn unol â diwedd oes y planhigyn, gan flaenoriaethu datgomisiynu dros adnewyddu mawr (er enghraifft ailosod injan), gyda'r holl wres a phŵer cyfunedig tanwydd ffosil i'w ddatgomisiynu erbyn 2035

Mathau o adeiladau yr effeithir arnynt: A, B.

Perchnogion arfaethedig: byrddau iechyd.

Gweithredu erbyn: bydd yr holl bŵer gwres a phŵer cyfunedig tanwydd ffosil wedi'i ddatgomisiynu erbyn 2035.

8c: Bydd gwres a phŵer cyfunedig adnewyddadwy newydd (er enghraifft biomas) a thechnolegau cynaliadwy sy'n dod i'r amlwg yn cael eu cefnogi (yn amodol ar ymarferoldeb ac effeithiau ar ansawdd aer); ni fydd unrhyw unedau gwres a phŵer cyfunedig tanwydd ffosil na 'parod ar gyfer hydrogen' newydd yn cael eu gosod

Mathau o adeiladau yr effeithir arnynt: A, B.

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.

9: Bydd cyfleoedd ynni adnewyddadwy yn cael eu datblygu i gynyddu gweithgareddau cynhyrchu ynni a sicrhau y bydd tir yn cael ei ddefnyddio hyd eithaf ei botensial

9a: Cynnal asesiadau o gyfleoedd ynni adnewyddadwy (er enghraifft paneli solar ffotofoltäig wedi'u gosod ar y to, pyrth solar ceir, adfer gwres gwastraff, ac ati) ar gyfer pob safle i nodi cyfleoedd gwifrau preifat ar y safle ac oddi ar y safle; dylid datblygu neu osod cyfleoedd hyfyw i sicrhau bod pob sefydliad yn cyrraedd ei dargedau cynhyrchu ynni adnewyddadwy

Mathau o adeiladau yr effeithir arnynt: A, B, C.

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: Rhagfyr 2028.

9b: Datblygu cynllun rheoli perfformiad safonol i fonitro a chynhyrchu trydan i'r eithaf mewn gorsafoedd cynhyrchu trydan adnewyddadwy ar y safle, ac ychwanegu'r metrigau at adrodd EFPMS (System Rheoli Perfformiad Ystadau a Chyfleusterau)

Mathau o adeiladau yr effeithir arnynt: A, B, C.

Perchnogion arfaethedig: NWSSP.

Gweithredu erbyn: Mawrth 2027.

9c: Cefnogi mentrau lleol i ehangu neu gynnal mannau gwyrdd ar safleoedd ysbytai a chymunedau (er enghraifft coedwig y GIG) i'w defnyddio gan staff, y cyhoedd a chleifion, er mwyn gwella llesiant a chynorthwyo adferiad a rhagnodi cymdeithasol

Mathau o adeiladau yr effeithir arnynt: A, B, C.

Perchnogion arfaethedig: byrddau iechyd; Felindre.

Gweithredu erbyn: Rhagfyr 2026.

10: Bydd contractwyr gofal sylfaenol a chymunedol, perchnogion busnesau a landlordiaid yn ceisio gwella effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio eu hadeiladau

10a: Nodi a pharhau i hyrwyddo adnoddau (er enghraifft pecyn cymorth gofal sylfaenol gwyrddach a modiwlau hyfforddi ar-lein) sy'n tynnu sylw at rôl gofal sylfaenol yn uchelgeisiau datgarboneiddio GIG Cymru; bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei dylanwad i hyrwyddo'r adnoddau hyn i annog datgarboneiddio

Mathau o adeiladau yr effeithir arnynt: A, B, C.

Perchnogion arfaethedig: Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru; Llywodraeth Cymru.

Gweithredu erbyn: Ebrill 2027.

11: Bydd pob adeilad newydd ac adnewyddiad mawr yn cyd-fynd â'r dehongliad Cymreig newydd o safon adeiladu carbon sero net y GIG

Safon Adeiladu Carbon Sero Net y GIG

11a: Cynhyrchu Hysbysiad Gwasanaethau Ystadau Arbenigol (SESN) neu nodyn canllaw ar gyfer safon adeiladu carbon sero net y GIG yn amlinellu sut y bydd cynaliadwyedd amgylcheddol yn cael ei ymgorffori mewn adeiladau newydd ac adnewyddiadau mawr; bydd pob sefydliad yn y GIG yn sicrhau bod y sefydliad yn cyd-fynd â'r canllawiau ar bob adeilad newydd ac adnewyddiadau mawr, a byddant yn adrodd ar gydymffurfiaeth lle bo angen

Mathau o adeiladau yr effeithir arnynt: A, B, C.

Perchnogion arfaethedig: NWSSP.

Gweithredu erbyn: Medi 2026.

11b: Sicrhau bod y sefydliad yn cyd-fynd â'r canllawiau ar bob adeilad newydd ac adnewyddiadau mawr, a byddant yn adrodd ar gydymffurfiaeth lle bo angen

Mathau o adeiladau yr effeithir arnynt: A, B, C.

Perchnogion arfaethedig: Pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: Rhagfyr 2026.

11c: Bydd byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yn gweithio gyda phartneriaid y GIG (er enghraifft WAST, NWSSP) drwy gydol prosiectau newydd i nodi gofynion presennol a gofynion y dyfodol ar gyfer seilwaith gwefru cerbydau trydan ar gyfer darparu gwasanaethau rheng flaen y GIG

Mathau o adeiladau yr effeithir arnynt: A, B.

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: Mawrth 2026.

12: Ymgysylltu'n rhagweithiol â landlordiaid a thenantiaid ar draws eiddo ar brydles i ysgogi gweithrediadau adeiladu carbon isel

12a: Bydd NWSSP yn cynhyrchu ac yn rhannu canllawiau prydlesu gwyrdd ar gyfer GIG Cymru (i gwmpasu'r GIG yn gweithredu fel tenant a landlord); bydd hyn yn seiliedig ar addasiad o Fframwaith Les Werdd GIG Lloegr a chanllawiau Les Werdd Partneriaeth Adeiladau Gwell

Mathau o adeiladau yr effeithir arnynt: B, C, D.

Perchnogion arfaethedig: NWSSP.

Gweithredu erbyn: Medi 2026.

12b: Lle mae les adeilad newydd neu wedi’i hadnewyddu yn cael ei harchwilio (fel tenant a landlord), bydd byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yn dilyn canllawiau'r NWSSP yn ystod trafodaethau i sicrhau y bydd adeiladau'n gweithredu mor effeithlon â phosibl

Mathau o adeiladau yr effeithir arnynt: B, C, D.

Perchnogion arfaethedig: Pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: Rhagfyr 2026.

Footnote

[1]. Math A: Adeiladau sy'n eiddo i GIG Cymru ac yn cael eu gweithredu neu ddefnyddio gan GIG Cymru.

Math B: Adeiladau sy'n eiddo i GIG Cymru ac wedi'u prydlesu i sefydliad nad yw'n rhan o'r GIG.

Math C: Adeiladau sy'n eiddo i drydydd parti ac wedi'u prydlesu i'r GIG.

Math D: Adeiladau sy'n eiddo i drydydd parti ac yn cael eu gweithredu ganddo, ond a ddefnyddir ar gyfer gweithgareddau'r GIG (er enghraifft adeiladau a ddefnyddir gan gontractwyr gofal sylfaenol, naill ai'n eiddo iddynt neu wedi'u prydlesu, i ddarparu gwasanaethau'r GIG megis deintyddiaeth gymunedol, gwasanaethau meddygol cyffredinol (meddygfeydd teulu, fferyllfa gymunedol, optometreg).

Rhan 7: Fflyd

13: Bydd sefydliadau’r GIG yn rheoli ac yn monitro gweithgareddau teithio yn weithredol o fewn eu sefydliad i nodi a gweithredu cyfleoedd ar gyfer gwneud y gorau o effeithlonrwydd fflydoedd

13a: Darparu hyfforddiant gyrru effeithlon neu eco i staff y mae'n ofynnol iddynt yrru'n rheolaidd (hynny yw mwy nag unwaith yr wythnos) fel rhan o'u rôl (gan gynnwys teithio i'r gwaith mewn cerbyd sy'n eiddo i'r gweithwyr)

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: Mawrth 2027.

13b: Bydd system delemateg wedi'i gosod ym mhob cerbyd GIG newydd sy'n eiddo i neu ar brydles adeg gwerthu neu brydlesu

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: Rhagfyr 2025.

14: Bydd sefydliadau'r GIG yn diffinio eu dull o ymdrin â seilwaith gwefru Cerbydau Trydan (EVCI) er mwyn nodi, blaenoriaethu a gosod EVCI

14a: Diffinio dull pob sefydliad ei hun o hwyluso a manteisio ar gyllid ar gyfer EVCI ar gyfer staff ac ymwelwyr ar safleoedd y GIG; bydd hyn yn ystyried y capasiti grid sydd ar gael mewn safleoedd a'r gofyniad i flaenoriaethu gwasanaethau rheng flaen

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG (gan gynnwys AaGIC (Addysg a Gwella Iechyd Cymru)).

Gweithredu erbyn: Mawrth 2027.

14b: Bydd timau trafnidiaeth a thimau ystadau yn cydweithio i ddatblygu cynllun seilwaith gwefru EVCI clir, wedi'i deilwra i ofynion penodol y sefydliad ac yn cyd-fynd â gofynion caffael cerbydau di-allyriadau ym menter 15a

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: cwblhau’r cynllun ym mis Rhagfyr 2027.

14c: Gosod seilwaith EVCI ar safleoedd y GIG fel y'i nodir yng nghynllun seilwaith gwefru cerbydau trydan yn unol â chanllawiau arfer gorau pwyntiau gwefru cerbydau trydan GIG Cymru (lle bo'n berthnasol)

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: gweler menter 15a.

14d: Datblygu polisi clir sy'n amlinellu dull pob sefydliad o ariannu gosod gwefru gartref lle mae gweithwyr yn cael cerbydau trydan sy'n eiddo i'r GIG neu wedi'u prydlesu ar gyfer eu rolau

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: Mawrth 2027.

14e: Darparu ffordd gyfleus i weithwyr a fydd yn gyrru cerbyd trydan ar gyfer eu gwaith gael mynediad at bwyntiau gwefru ar draws yr ardaloedd lle maent yn gweithio

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: Medi 2026.

14f: Cadw grŵp fflyd a thrafnidiaeth Cymru Gyfan er mwyn helpu i nodi cyfleoedd EVCI ar y cyd, cefnogi prosesau dyrannu cyllid, rhannu arferion gorau, a chynllunio gweithredu, yn enwedig mewn achosion lle mae safleoedd yn cael eu defnyddio ar y cyd (er enghraifft mae ambiwlansys yn ymweld â nifer o adrannau damweiniau ac achosion brys)

Gweithredu erbyn: Mawrth 2026.

15: Bydd pob cerbyd a brynwyd neu brydleswyd gan GIG Cymru yn gerbydau di-allyriadau (ZEVs) lle bynnag y bo'n ymarferol bosibl; os nad yw'n bosibl, bydd cerbydau hybrid a cherbydau allyriadau isel iawn yn cael eu prynu neu brydlesu yn lle

15a: Alinio prynu neu brydlesu cerbydau gyda’r targedau canlynol:

2025:

Bydd cerbydau safonol newydd (trydan llai nag 3.5 tunnell fetrig neu lai nag 4.25 tunnell fetrig) yn gerbydau di-allyriadau (hybrid drwy eithriad).

Lle nad yw cerbydau di-allyriadau yn ymarferol oherwydd cyfyngiadau ystod, dylid caffael cerbydau hybrid llawn.

Dim ond lle gellir dangos y bydd y cerbyd yn defnyddio modd cerbyd trydan yn unig am o leiaf 75% o'i filltiroedd y dylid ystyried cerbydau trydan hybrid plygio i mewn.

Lle nad yw'r un o'r opsiynau uchod, sef cerbyd di-allyriadau, hybrid llawn na cherbyd trydan hybrid plygio i mewn, yn ymarferol nac ar gael, dylid prynu neu brydlesu cerbyd sydd ag allyriadau nwyon tŷ gwydr is na'r eraill yn ei ddosbarth (hynny yw y gorau yn ei ddosbarth).

Bydd cerbydau nwyddau ysgafn a thrwm newydd yn bodloni safon fodern y dyfodol ar gyfer cerbydau allyriadau isel iawn yn eu dosbarth ac yn gerbydau di-allyriadau lle mae amgylchiadau'n caniatáu (er enghraifft cludo nwyddau ysgafnach yn rheolaidd).

2026: 

Bydd cerbydau arbenigol newydd (trydan llai nag 3.5 tunnell fetrig neu lai nag 4.25 tunnell fetrig) (er enghraifft faniau oergell) o leiaf yn gerbydau hybrid neu LCEV (Cerbyd Trydan Masnachol Dyletswydd Ysgafn), ond yn gerbydau di-allyriadau lle bynnag y bo'n ymarferol bosibl. Bydd cerbydau'n parhau i ddefnyddio technoleg arloesol ar gyfer gofynion arbenigol (er enghraifft systemau ategol solar ffotofoltäig).

2027:

Bydd pob cerbyd ymateb unigol newydd yn gerbydau di-allyriadau (hybrid drwy eithriad). Dylai cerbydau a gaffaelwyd cyn y dyddiad hwn fod yn gerbydau di-allyriadau lle bo modd.

2030:

Bydd ambiwlansys brys newydd yn gerbydau di-allyriadau (hybrid neu LCEV drwy eithriad).

Dylai byrddau iechyd neu ymddiriedolaethau barhau i archwilio cyfleoedd lleol ar gyfer seilwaith trafnidiaeth carbon isel wrth iddynt godi (er enghraifft ffynonellau trafnidiaeth carbon isel lleol, peiriannau torri gwair trydan, ac ati) a'u gweithredu os ystyrir bod hynny'n ymarferol.

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: yn unol â thestun y fenter.

15b: Cymryd rhan weithredol mewn treialon ac ymchwil ar gyfer ambiwlansys brys trydan ac adrodd bob 2 flynedd ar barodrwydd i grŵp fflyd a thrafnidiaeth Cymru gyfan

Perchnogion arfaethedig: WAST (Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru).

Gweithredu erbyn: Rhagfyr 2027, 2029, 2031.

15c: Parhau i ymchwilio i'r farchnad a chymryd rhan mewn treialon cerbydau trydan (er enghraifft cludo nwyddau canolig) a cherbydau tanwydd amgen eraill ac adrodd bob 2 flynedd ar barodrwydd i grŵp fflyd a thrafnidiaeth Cymru gyfan

Perchnogion arfaethedig: NWSSP (Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru).

Gweithredu erbyn: Rhagfyr 2027, 2029, 2031.

Rhan 8: Teithio staff a gweithio gartref

16: Nodi a chyfleu arferion gorau i hyrwyddo teithio cynaliadwy ac arferion gweithio ystwyth gan staff

16a: Datblygu arolwg safonol ar deithio, cymudo a gweithio gartref staff i gasglu mewnwelediadau demograffig a seiliedig ar rolau sy'n gysylltiedig ag ymddygiadau cymudo a gweithio gartref, rhwystrau i arferion carbon isel, ac effeithiolrwydd canfyddedig atebion

Perchnogion arfaethedig: NWSSP (Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru).

Gweithredu erbyn: Rhagfyr 2026.

16b: Cynnal arolwg teithio, cymudo a gweithio gartref staff y sefydliad i gasglu data sylfaenol a nodi cyfleoedd i gynyddu'r defnydd o arferion teithio a gweithio gartref carbon isel

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: Mai 2027 ac yn flynyddol wedi hynny.

16c: Casglu ac adolygu polisïau a chanllawiau teithio a gweithio gartref y sefydliad i nodi enghreifftiau o arferion gorau wrth hyrwyddo arferion cynaliadwy; dosbarthu canllawiau i'r byrddau iechyd a'r ymddiriedolaethau

Perchnogion arfaethedig: NWSSP.

Gweithredu erbyn: Rhagfyr 2026.

16d: Ymgysylltu â thimau AD a chyfreithiol i gynnal adolygiad a diweddariad Cymru gyfan o lwfansau ad-dalu milltiroedd ar gyfer defnydd cerbydau cwmni a milltiroedd fflyd lwyd i ysgogi defnyddio cerbydau di-allyriadau a rhannu lifftiau y tu hwnt i gerbydau â phŵer peiriant tanio mewnol

Perchnogion arfaethedig: NWSSP.

Gweithredu erbyn: Rhagfyr 2026.

16e: Cryfhau'r adran trafnidiaeth a gweithio’n glyfar o'r 'Fframwaith Gofal Sylfaenol Gwyrddach' (yn seiliedig ar ganfyddiadau 16b ac 16c) i annog contractwyr i gynnig cymhellion ychwanegol megis cyfleoedd cynllun beicio i'r gwaith i staff a chaffael cerbydau trydan drwy aberthu cyflog

Perchnogion arfaethedig: Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Gweithredu erbyn: Mawrth 2027.

16f: Darparu cyngor ac adnoddau wedi'u targedu (er enghraifft drwy'r fewnrwyd) i gefnogi gweithio gartref carbon isel, gan gynnwys canllawiau ar arferion effeithlon o ran ynni ac ymwybyddiaeth o fesurau datgarboneiddio domestig

Perchnogion arfaethedig: NWSSP, grŵp hinsawdd-ddeallus.

Gweithredu erbyn: Gorffennaf 2026.

17: Ymgorffori a hyrwyddo hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy (llwybr newydd, strategaeth trafnidiaeth Cymru 2021) ym mhob agwedd ar gynllunio a pholisïau teithio

17a: Datblygu cynllun teithio staff sy'n amlinellu dull sefydliadol o annog hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy ac ymgorffori siarteri teithio iach ar draws teithio staff, gan gynnwys cymudo a theithio busnes

Perchnogion arfaethedig: ymddiriedolaethau a byrddau iechyd rhanbarthol.

Gweithredu erbyn: Mai 2028.

17b: Creu canllaw hawdd ei ddefnyddio sy'n mapio opsiynau trafnidiaeth carbon isel ymarferol ar gyfer staff a'r cyhoedd, gan gynnwys llwybrau, manylion hygyrchedd, ac awgrymiadau teithio cynaliadwy

Perchnogion arfaethedig: pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: Medi 2026.

Rhan 9: Caffael a’r gadwyn gyflenwi

18: Cryfhau arferion rheoli data ar draws cadwyn gyflenwi GIG Cymru i wella gwelededd i allyriadau cyflenwyr, amlygiad i risg hinsawdd, a strategaethau lliniaru

18a: Cyhoeddi map trywydd cyflenwyr net sero GIG Cymru sy'n diffinio data cynaliadwyedd amgylcheddol cyflenwyr presennol a disgwyliedig a gofynion adrodd yn glir

Perchnogion arfaethedig: NWSSP (Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru).

Gweithredu erbyn: Mawrth 2026.

18b: Datblygu rhaglen hyfforddi wedi’i thargedu mewn cydweithrediad â Busnes Cymru (gan gynnwys canllawiau ac offer cysylltiedig) er mwyn helpu cyflenwyr – yn enwedig busnesau bach a chanolig – i ddeall a bodloni'r gofynion a amlinellir ym map trywydd y cyflenwyr; bydd hyn yn cynnwys datblygu canllawiau penodol i'r sector ar gyfer sectorau problemus

Perchnogion arfaethedig: NWSSP.

Gweithredu erbyn: Mawrth 2027.

18c: Mewn ymgynghoriad â gwledydd eraill y DU, gwerthuso opsiynau ar gyfer platfform digidol i symleiddio sut mae gwybodaeth am gyflenwyr yn cael ei chasglu a'i rheoli

Perchnogion arfaethedig: NWSSP.

Gweithredu erbyn: Mawrth 2027.

19: Creu a chymhwyso trefn Cymru gyfan i ddylunio, asesu ac olrhain gweithgareddau caffael sy'n cefnogi darpariaeth carbon isel ac effeithlon o ran adnoddau

19a: Ehangu cod ymarfer caffael cynaliadwy GIG Cymru, i osod a chyhoeddi “amcanion llesiant” caffael, yn unol â Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023; bydd amcanion penodol yn mynd i'r afael â chyflawni carbon isel a lleihau gwastraff

Perchnogion arfaethedig: NWSSP.

Gweithredu erbyn: Awst 2026.

19b: Datblygu dull symlach a thryloyw mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid allweddol i asesu effeithiolrwydd meini prawf caffael wrth hyrwyddo darpariaeth carbon isel ac effeithlon o ran adnoddau

Perchnogion arfaethedig: NWSSP; pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: Rhagfyr 2026.

19c:Yn unol â gweithredu'r SPPP, ymgorffori egwyddorion cynaliadwyedd amgylcheddol ac adrodd drwy gydol cylch oes y caffael

Perchnogion arfaethedig: NWSSP.

Gweithredu erbyn: Mehefin 2027.

19d: Cynnwys cynrychiolydd cynaliadwyedd amgylcheddol sefydliadol mewn unrhyw ymarfer caffael sy'n fwy na £6 miliwn (gan gynnwys TAW)

Perchnogion arfaethedig: Pob sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: Medi 2026.

20: Gweithio ar y cyd â chontractwyr gofal sylfaenol i ddadgarboneiddio arferion gweithredol, gan gynnwys ystyried defnyddio mecanweithiau contractio

20a: Ymgysylltu â llofnodwyr tair rhan i archwilio integreiddio cymesur egwyddorion cynaliadwyedd amgylcheddol o fewn contractau gofal sylfaenol, gan sicrhau aliniad â blaenoriaethau allweddol eraill megis mynediad a hyfwyedd ariannol

Perchnogion arfaethedig: Llywodraeth Cymru; DPCC (Gyfarwyddwyr Gofal Sylfaenol a Chymunedol).

Gweithredu erbyn: Medi 2026.

20b: Bydd y grŵp DPCC (Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol a Chymunedol) gydag SPPC (Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol) yn sefydlu fframwaith ar gyfer cefnogi gofal sylfaenol cynaliadwy drwy drefniadau cynllunio byrddau iechyd a chlystyrau, ac yn ymhelaethu ar ddeunyddiau a gyfeirir atynt drwy gynllun Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru i hyrwyddo negeseuon cyson, blaenoriaethau a rennir, a chamau cydlynol ar draws y system

Perchnogion arfaethedig: DPCC.

Gweithredu erbyn: Medi 2026.

21: Pontio caffael trydan i gyd-fynd â'r egwyddorion ar gyfer caffael trydan adnewyddadwy o ansawdd a nodir gan Gyngor Adeiladau Gwyrdd y DU (UKGBC)

(Egwyddorion ar gyfer caffael trydan adnewyddadwy o ansawdd).

21a: Cwblhau offeryn graddio trydan UKGBC yn flynyddol i fonitro cynnydd a nodi cyfleoedd; fel rhan o'r broses, ymgysylltu â chyflenwyr ynni i ddeall ac annog eu cydymffurfiaeth ag egwyddorion caffael trydan adnewyddadwy o safon

Perchnogion arfaethedig: NWSSP.

Gweithredu erbyn: blynyddol.

21b: Creu a chynnal cofnod o gyfleoedd Cytundebau Prynu Ynni (PPAs); mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru (WGES), ymgysylltu â grwpiau cymunedol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus i ddeall cyfleoedd cyflenwi cynhyrchu lleol

Perchnogion arfaethedig: NWSSP (pennaeth); pob sefydliad y GIG; WGES.

Gweithredu erbyn: Medi 2026.

22: Optimeiddio rheoli stoc ac ymddygiadau defnydd i wella effeithlonrwydd adnoddau a lleihau gwastraff deunyddiau

22a: Datblygu methodoleg meintioli allyriadau ar gyfer stoc dros ben (gan gynnwys warysau canolog a stoc sefydliadol) sy'n arwain at ddileu a gwaredu, gan gynnwys archebion nad ydynt yn rhan o'r catalog, cyfarpar diogelu personol sydd wedi'i or-stocio, a gwastraff bwyd

Perchnogion arfaethedig: NWSSP (pennaeth) mewn ymgynghoriadâ sefydliad y GIG.

Gweithredu erbyn: Medi 2026.

22b: Adrodd yn chwarterol ar allyriadau stoc dros ben o fewn mecanweithiau adrodd presennol i gefnogi a llywio mentrau sy'n canolbwyntio ar optimeiddio'r defnydd o adnoddau

Perchnogion arfaethedig: NWSSP; byrddau iechyd a Felindre.

Gweithredu erbyn: adroddiadau chwarterol o fis Medi 2026.

22c: Integreiddio adrodd ar effaith amgylcheddol i raglenni rheoli stoc a defnydd – er enghraifft, eich meddyginiaethau eich iechyd, scan4safety, gloves off – i gefnogi eu dyluniad, eu cyfathrebu a'u gweithredu, a sicrhau bod canlyniadau amgylcheddol yn cael eu hystyried ochr yn ochr â blaenoriaethau allweddol eraill

Perchnogion arfaethedig: NWSSP; byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau; Llywodraeth Cymru.

Gweithredu erbyn: yn dibynnu ar 22b.

22d: Penodi arweinydd neu arweinwyr rhaglen Eich Meddyginiaethau, Eich Iechyd (YMYH) ar gyfer gofal sylfaenol ac eilaidd i ymgorffori egwyddorion YMYH wrth leihau gwastraff meddyginiaethau a gwella ymlyniad, gyda phresenoldeb rheolaidd yng nghyfarfodydd arweinwyr rhaglen YMYH

Perchnogion arfaethedig: arweinwyr rhaglen YMYH; byrddau iechyd a Felindre.

Gweithredu erbyn: Medi 2026.

22e: Dechrau ymgyrch archebwch yr hyn sydd ei angen arnoch yn unig

Perchnogion arfaethedig: byrddau iechyd a Felindre (arweinwyr rhaglen YMYH).

Gweithredu erbyn: Medi 2027.

Rhan 10: Gwasanaethau clinigol

23: Integreiddio cynaliadwyedd amgylcheddol i ddatblygiad canllawiau clinigol a’u monitro

23a: Datblygu methodoleg i asesu effaith amgylcheddol llwybrau gofal iechyd – ffarmacolegol ac anffarmacolegol – i’w chynnwys yn y broses o ddatblygu canllawiau clinigol

Perchnogion arfaethedig: NWSSP (Partneriaeth Cydgwasanaethau GIG Cymru).

Gweithredu erbyn: Medi 2026.

23b: Yn yr adolygiad o'r fframwaith optimeiddio meddyginiaethau sydd ar ddod, ymgorffori'r gofyniad am asesiad effaith amgylcheddol (gan ddefnyddio'r fethodoleg a ddatblygwyd yn 23a) yn y broses o ddatblygu canllawiau clinigol

Perchnogion arfaethedig: AWTTC (Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan).

Gweithredu erbyn: hyd nes adolygir y fframwaith optimeiddio meddyginiaethau.

23c: Integreiddio maen prawf cynaliadwyedd amgylcheddol fel rhan o'r broses gymeradwyo ar gyfer canllawiau clinigol

Perchnogion arfaethedig: Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru.

Gweithredu erbyn: tra’n disgwyl 23b.

23d: Ymgorffori Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs) lle bo modd i gefnogi monitro gweithrediad yr ymddygiadau clinigol dymunol a amlinellir yn y canllawiau – er enghraifft, drwy ddangosyddion rhagnodi cenedlaethol, dangosfyrddau, neu offer tebyg

Perchnogion arfaethedig: Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan; byrddau iechyd.

Gweithredu erbyn: adroddiad blynyddol.

24: Hyrwyddo effaith gynaliadwy atebion digidol a data mewn darpariaeth glinigol drwy werthuso eu manteision amgylcheddol a blaenoriaethu arloesi graddadwy

24a: Ymgorffori adrodd ar effaith amgylcheddol ar draws ffrydiau gwaith y rhaglen meddyginiaethau digidol, gan gynnwys gwerthuso rhaglenni a dylunio rhaglenni yn y dyfodol

Perchnogion arfaethedig: Iechyd a Gofal Digidol Cymru, gyda chefnogaeth partneriaid sy'n cyfrannu.

Gweithredu erbyn: Mai 2027.

24b: Cefnogi cydweithio a rhannu gwybodaeth ar gyfer ePMA trwy gyfarfodydd 'gwybodaeth a gweithredu cymunedol' rheolaidd

Perchnogion arfaethedig: Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Gweithredu erbyn: adroddiad blynyddol.

24c: Datblygu dull arfer gorau ar gyfer defnyddio technoleg ddigidol ac archwilio technoleg ymgynghori ddigidol ymhellach; cydweddu hyn â gweledigaethau taith gofal iechyd Cymru yn y dyfodol a'r cysyniad o ddarparu gofal yn nes at y cartref

Perchnogion arfaethedig: Iechyd a Gofal Digidol Cymru, gyda chefnogaeth partneriaid sy'n cyfrannu.

Gweithredu erbyn: Medi 2026.

24d: Parhau i ddigideiddio cofnodion a chyfathrebiadau clinigol i gynyddu effeithlonrwydd adnoddau a lleihau gofynion adnoddau argraffu

Perchnogion arfaethedig: byrddau iechyd a Felindre.

Gweithredu erbyn: adroddiad blynyddol.

Rhan 11: Gwastraff

25: Lleihau effaith amgylcheddol cynhyrchu gwastraff ar draws GIG Cymru drwy gynyddu ailddefnyddio ac atgyweirio, meithrin dysgu dan arweiniad cyfoedion a chryfhau systemau gwahanu ac ailgylchu gwastraff

25a: Datblygu Strategaeth Gwastraff GIG Cymru sy'n adlewyrchu egwyddorion economi gylchol ac yn sefydlu targedau penodol i ffrydiau gwastraff (gan gynnwys ailddefnyddio ac atgyweirio, defnyddio bagiau teigr, newid o eitemau arlwyo untro i eitemau y gellir eu hailddefnyddio, a gwahanu blychau eitemau miniog)

Perchnogion arfaethedig: NWSSP (Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru).

Gweithredu erbyn: Ionawr 2027.

25b: Datblygu cynllun rheoli gwastraff sefydliadol wedi'i deilwra sy'n ystyried hierarchaeth gwastraff ac egwyddorion yr economi gylchol. Yn ogystal â sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau Cyfoeth Naturiol Cymru, dylai'r cynllun hwn amlinellu:

  • strategaeth gyfathrebu i hyrwyddo gwahanu gwastraff yn effeithiol yn y man cychwyn ar draws pob adran
  • trefniadau cydweithio sy'n cynnwys rhanddeiliaid mewnol (er enghraifft rheolwyr caffael) a phartneriaid allanol (er enghraifft contractwyr rheoli gwastraff trwyddedig)
  • rolau a chyfrifoldebau wedi'u diffinio o fewn sefydliad y GIG

Perchnogion arfaethedig: WHEF (Fforwm Amgylcheddol Iechyd Cymru); pob sefydliad GIG (rheolwr gwastraff neu gyfatebol).

Gweithredu erbyn: Medi 2026.

25c: Datblygu a gweithredu hyfforddiant Cymru gyfan ar gyfer rheolwyr gwastraff a rheolwyr caffael byrddau iechyd i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â rheoliadau gwastraff a strategaeth wastraff GIG Cymru sydd ar ddod

Perchnogion arfaethedig: NWSSP.

Gweithredu erbyn: Ionawr 2027.

Rhan 12: Acronymau allweddol

Mae acronymau allweddol yn cynnwys:

  • AHU (Uned Trin Aer)
  • AWTTC (Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan)
  • BMS (System Rheoli Adeiladau)
  • BREEAM (Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu)
  • CAP (Tîm Partneriaeth Gweithredu ar Newid Hinsawdd)
  • CHP (Gwres a Phŵer Cyfunedig)
  • CHPQA (Rhaglen Sicrhau Ansawdd Gwres a Phŵer Cyfunedig)
  • DCHW (Iechyd a Gofal Digidol Cymru)
  • DNO (Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu)
  • DPCC (Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol a Chymunedol)
  • Ffaniau EC (Ffannau Cymudo Trydanol)
  • EFPMS (System Rheoli Perfformiad Ystadau a Chyfleusterau)
  • ePMA (Presgripsiynu a Gweinyddu Meddyginiaethau yn Electronig)
  • ESR (Cofnod Staff Electronig)
  • EV (Cerbyd Trydan)
  • EVCI (Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan)
  • GHG (Nwy Tŷ Gwydr)
  • GWP (Potensial Cynhesu Byd-eang)
  • HB (Bwrdd Iechyd)
  • AaGIC (Addysg a Gwella Iechyd Cymru)
  • CThEF (Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi)
  • HSCEY (Y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar)
  • ICE (Peiriant Tanio Mewnol)
  • IMTP (Cynllun Tymor Canolig Integredig)
  • LCEV (Cerbyd Trydan Masnachol Dyletswydd Ysgafn)
  • LTHW (Dŵr Poeth Tymheredd Isel)
  • NWSSP (Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru)
  • NWSSP SES (Gwasanaeth Ystadau Arbennig Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru)
  • PI (Perfformiad a Gwella GIG Cymru)
  • PADR (Arfarnu Perfformiad ac Adolygiad Datblygu)
  • ICC (Iechyd Cyhoeddus Cymru)
  • PPE (Cyfarpar diogelu personol)
  • PV (Ffotofoltaig (solar))
  • RFID (Adnabod Amledd Radio)
  • SDP (Cynllun Datgarboneiddio Strategol)
  • SESN (Hysbysiad Gwasanaeth Ystadau Arbennig)
  • SOP (Gweithdrefn Weithredu Safonol)
  • SPPC (Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol)
  • SPPP (Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023)
  • TEF (Cronfa ystadau wedi'i thargedu)
  • TrC (Trafnidiaeth Cymru)
  • VRF (Llif Oerydd Amrywiol)
  • WAST (Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru)
  • LlC (Llywodraeth Cymru)
  • WGES (Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru)
  • WHEF (Fforwm Amgylcheddol Iechyd Cymru)
  • WPPN (Nodyn Caffael Cyhoeddus Cymru)
  • YMYH (Eich Meddyginiaethau Eich Iechyd)
  • ZEV (Cerbyd di-allyriadau)