Neidio i'r prif gynnwy

1. Cronfa Her i arbrofi â ffyrdd newydd o daclo problemau sylfaenol yn yr ES

Y canlyniadau hyd at ddiwedd tymor y Senedd hon:

  • Sefydlu Cronfa Her o £4.5m a chyhoeddi’r broses ymgeisio.
  • 52 o brosiectau  wedi’u helpu mewn amrywiaeth o sectorau a chategorïau, yn arbennig caffael, gofal cymdeithasol, bwyd ac adfywio.
  • Trafod â phrif swyddogion polisi LlC i gefnogi prosiectau’r Gronfa Her a gwerthuso’u heffaith.
  • Penodi Cynnal Cymru yn Gorff 2020 i sefydlu Cymuned Ymarfer ac i helpu i ledaenu ac ehangu prosiectau’r Gronfa Her wedi iddynt gau.
  • Gwerthuso’r prosiectau sydd wedi’u cynnal i weld a fyddan nhw’n debygol o gael eu cwblhau yn unol ag amodau’r cynnig grant erbyn diwedd Mawrth 21.
  • Gan ddefnyddio adnoddau gweddilliol y Gronfa Her, ariannwyd nifer o restrau wrth gefn o brosiectau sydd â'r gallu i gwblhau'r prosiect erbyn diwedd Mawrth 2021: mae'r rhain yn cynnwys ymestyn prosiect Cyfle a phrosiectau newydd a gychwynnwyd ar gyfer Amaethyddiaeth yr Amgylchedd Rheoledig, Canolfan Cenedl y Goedwig, ymchwil Cynllun Gweithredu Strategaeth Bwyd a phrosiect pecyn cymorth ‘Can Do’.
  • Prosiectau y mae arweinwyr polisi wedi’u dewis i’w ‘Lledaenu a’u Hehangu’
  • Cyhoeddi astudiaethau achos Cronfa Her y Economi Sylfaenol (CHES).
  • Sicrhau parhad y Gymuned Ymarfer.
  • Helpu prosiectau CHES i gael yr arian ac i gwblhau
  • Llunio adroddiadau prosiectau unigol a CHES, a chytuno arnynt, i fwydo’r rhaglen lledaenu ac ehangu

Cynigion ar gyfer Rhaglen ES y Gweinidog nesaf:

  • Cyngor wedi’i ddatblygu i argymell sut i wario £3m y gyllideb ES.
  • Bydd y Gweinidog nesa’n cytuno sut i ddyrannu’r arian ar gyfer y blaenoriaethau ‘Lledaenu ac Ehangu’.

Cynigion gweithredu i'w harchwilio yn ystod chwe mis cyntaf gweinyddiaeth newydd:

  • Cyhoeddi’r broses gyllido.
  • Gweithio gyda rhanddeiliaid i wneud yr arfer gorau’n ‘Fusnes Fel Arfer’ e.e. ymgorffori egwyddorion prosiectau ‘Gallu Gwneud’ o fewn y rhaglenni buddsoddi sydd â chysylltiadau penodol â’r Rhaglen ôl-osod er mwyn Optimeiddio.

2. Caffael Blaengar: defnyddio grym caffael/prynu’r sector cyhoeddus i gefnogi’r ES, Gwerth Cymdeithasol/Buddion Cymunedol a Datgarboneiddio

Y canlyniadau hyd at ddiwedd tymor y Senedd hon:

  • Defnyddio’r Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol (CLES) i helpu Llywodraeth Cymru â’i chynllun cyfun i annog cyrff sy’n aelodau o Fyrddau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSBs) i ddatblygu cynlluniau caffael blaengar i wario arian yn lleol.
  • Gweithio gyda rhanddeiliaid i asesu cynlluniau gweithredu’r PSB.
  • Edrych ar wariant caffael hanesyddol ac arfaethedig i weld a oes cyfleoedd i ddenu busnesau lleol i dendro am y gwaith hwn, gyda chymorth Busnes Cymru a Diwydiant Cymru i chwalu unrhyw rwystrau.
  • Ystyried cyfleoedd i’r ES elwa ar gynlluniau buddsoddi adrannol.
  • Ystyried sut gall y Nodyn Polisi newydd ar Gaffael ynghylch cadw contractau ar gyfer BBaChau a hysbysebion rhanbarthol helpu’r ES.
  • Gweithio i bennu 5 categori gwariant lleol tymor hir/canolig.
  • Sicrhau bod y 5 categori gwariant yn ymgorffori amodau cyflogaeth deg.
  • Datblygu cynllun i weithio â phartneriaid/cyrff angori a rhannu gwybodaeth i nodi bylchau mewn cyflenwadau ac ystyried ffyrdd gwahanol o ddatblygu’r economi o fewn rhanbarthau fydd yn cyfrannu at helpu busnesau sefydlog a llwyddiannus i dyfu, gyda phwyslais ar werth cymunedol a chymdeithasol.
  • Ystyried cynigion ar gyfer troi hyn yn weithredu mesuradwy, gyda ffrydiau cymorth penodol i fusnesau.
  • Defnyddio sefydliadau angori allweddol yn y sector cyhoeddus i ddatblygu gwybodaeth a rennir gyda chadwyni cyflenwi yng Nghymru, gyda chymorth arweinwyr a defnyddwyr prynu categorïau allweddol i chwilio am gyfleoedd i:
    • adolygu cyfleoedd i wario’n lleol, yn enwedig lle roedd gwariant ofer yn cyd-fynd â gwendidau yn yr economi leol
    • nodi cyfleoedd posibl yn y contractau fydd yn cael eu gosod o fis Mawrth 2021
    • ystyried a oes angen am raglenni cymorth wedi’u targedu i wella tendro a chonsortia adeiladu.

Cynigion ar gyfer Rhaglen ES y Gweinidog nesaf:

  • Cytuno ar gynllun ar gyfer gweddill rhaglen CLES i gynnal ail gyfnod fydd yn canolbwyntio ar gynhyrchu lleol yn unol â’r Cynllun Gweithredu ar Weithgynhyrchu.
  • Gweithio gyda phrif randdeiliaid i ddatblygu cynllun i gynyddu gwariant lleol 5 categori gwariant yn y tymor canolig/hir.
  • Ystyried sut y gall pecynnau cymorth i fusnesau wella’r cymorth i fusnesau/ES gan helpu troi micro-fusnesau’n BBaChau llwyddiannus.
  • Taclo’r hyn sy’n rhwystro busnesau bach a chanolig rhag cystadlu am gontractau cyhoeddus (e.e. Cymru gyfan).
  • Adolygu’r cymorth a roddir i fusnesau o Gymru all cyflawni contractau cyhoeddus a llenwi bylchau cyflenwi a chaniatáu i sefydliadau angori yn y sector cyhoeddus wneud mwy i siapio sectorau e.e. gweithgynhyrchu

Cynigion gweithredu i'w harchwilio yn ystod chwe mis cyntaf gweinyddiaeth newydd:

  • Datblygu opsiynau ar gyfer ymgorffori gwaith blaenorol CLES fel gwaith ’busnes fel arfer’ LlC a’r sector cyhoeddus.

3. Y cyfleoedd a ddaw o ddiwygio’r drefn Gaffael

Y canlyniadau hyd at ddiwedd tymor y Senedd hon:

  • Cynllunio cyfeiriad y diwygiadau i’r drefn Gaffael yng Nghymru

Cynigion ar gyfer Rhaglen ES y Gweinidog nesaf:

  • Ystyried y cyfleoedd a ddaw i’r ES yn sgil diwygio’r drefn Gaffael

4. Gwneud ‘Swyddi Gwell yn Nes Adre’ yn rhan o fusnes fel arfer pob rhan o Lywodraeth Cymru

Y canlyniadau hyd at ddiwedd tymor y Senedd hon:

  • Gan gymryd y gwersi a ddysgwyd o'r rhaglen 'Gwell Swyddi yn Agosach at Gartref' a gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i nodi'r potensial ar gyfer prif ffrydio i mewn i fusnes fel arfer, bydd hyn yn cynnwys rhaglen Fwyd Sir Fynwy er mwyn deall y dirwedd gynyddol i ddylanwadu ar ddatblygiad graddol, dull graddadwy i gefnogi'r sector bwyd.

Cynigion ar gyfer Rhaglen ES y Gweinidog nesaf:

Cael rhanddeiliaid i ddatblygu cynllun i wneud ‘Swyddi Gwell yn Nes Adre’ yn rhan o’n ‘busnes fel arfer’ i sicrhau bod ein hymyriadau polisi ac adnoddau’n helpu i greu gwaith ystyrlon mewn cymunedau â lefelau uchel o ddiweithdra.

Cynigion gweithredu i'w harchwilio yn ystod chwe mis cyntaf gweinyddiaeth newydd:

Gweithio gyda rhanddeiliaid i benderfynu beth yw eu gallu a’u capasiti a pha gymorth sydd ei angen, i roi’r gwersi a ddysgwyd oddi wrth Swyddi Gwell yn Nes Adref ar waith.

5. Adeiladu: Datblygu camau blaenoriaeth a dechrau ar ddatblygu Cynllun Gweithredu ar Adeiladu sy’n gyson â Datganiad Polisi Caffael Cymru

Y canlyniadau hyd at ddiwedd tymor y Senedd hon:

  • Sefydlodd grŵp sector adeiladau ac mae'n ymgysylltu â rhanddeiliaid i drafod a nodi blaenoriaethau'r diwydiant adeiladu, gan gynnwys datblygu piblinell gontractio hir, sefydlu rhwydwaith cysylltiadau o arbenigwyr gwerth cymdeithasol a chreu cymhwyster “amgylchedd adeiledig” newydd

Cynigion ar gyfer Rhaglen ES y Gweinidog nesaf:

  • Datblygu opsiynau a chyngor i’r Gweinidog nesaf eu hystyried wrth gyhoeddi cynllun gweithredu ar Adeiladu.
  • Cael rhanddeiliaid perthnasol i ystyried sut y gallai’r cynllun gweithredu ar adeiladu fod yn berthnasol ar draws meysydd buddsoddi mewn adeiladu a seilwaith.

Cynigion gweithredu i'w harchwilio yn ystod chwe mis cyntaf gweinyddiaeth newydd:

  • Gwneud gwerth cymdeithasol yn ystyriaeth annatod yng ngham dylunio a phroses gaffael pob prosiect adeiladu a gyllidir gan Lywodraeth Cymru. Gwneir hynny trwy a) greu polisi traws-sectorol, b) sicrhau bod dyluniad / asesiad yn ystyried gwerth cymdeithasol c) datblygu hyfforddiant ar gyfer dylunwyr cynlluniau / timau caffael ac esbonio hyn wrth y diwydiant / eu hyfforddi yn y broses newydd d) rhoi’r broses fewnol ac allanol ar waith e) cysylltu yn ôl i’r WIIP ac WLG f) monitro a gwerthuso

6. Cryfhau’r sector bwyd fel sector economaidd â blaenoriaeth yng Nghymru

Y canlyniadau hyd at ddiwedd tymor y Senedd hon:

  • Gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol i weld faint o fwyd o’r tu allan i Gymru y mae’r sector cyhoeddus yn ei brynu.
  • Rhestru llinellau cynnyrch bwyd o Gymru a allai cyflenwi’r sector cyhoeddus. 
  • Asesu’r rhwystrau i ddefnyddio cynhyrchwyr lleol, nodi’r gwersi a ddysgwyd a’u defnyddio i chwalu’r rhwystrau (Gweithred 10)
  • Llunio cynllun ar gyfer newid i ddefnyddio cynnyrch o Gymru, i’w roi ar waith yn y Senedd nesaf.
  • Cael swyddogion perthnasol i ystyried pa mor ymarferol yw’r prosiect ‘Coginio/Oeri’ a ddatblygwyd gan randdeiliaid yn y sector cyhoeddus.
  • Cefnogi prosiect i ymchwilio i’r system fwyd yng Nghymru i gytuno ar dargedau ar gyfer gwaith pellach a nodi’r gefnogaeth sydd ei hangen i gynyddu cyfran y cynnyrch Cymreig yng nghadwyni cyflenwi’r archfarchnadoedd.
  • Ystyried opsiynau ar gyfer lledaenu ac ehangu prosiect Cronfa Her Bwyd Sir Gaerfyrddin.
  • Gweithio gyda rhaglenni bwyd y sector cyhoeddus sy’n seiliedig ar dystiolaeth, er mwyn lledaenu ac ehangu arferion da.

Cynigion ar gyfer Rhaglen ES y Gweinidog nesaf:

  • Cytuno ar gynllun tymor canolig i hir gyda chyflenwyr Haen Un i ehangu llinellau bwyd Cymreig ymhellach.
  • Os caiff y prosiect ei dderbyn fel cynnig ymarferol, ystyried opsiynau ar gyfer cefnogi’r prosiect Coginio/Oeri ac ystyried y cyfleoedd i ledaenu ac ehangu.
  • Dadansoddi’r sbardunau sydd ar gael a disgrifio’r ymyriadau a gynigir.
  • Cael swyddogion polisi LlC i gefnogi’r gwaith lledaenu ac ehangu.

Cynigion gweithredu i'w harchwilio yn ystod chwe mis cyntaf gweinyddiaeth newydd:

  • Datblygu trywyddau fyddai’n gwneud y galw yn amlwg ac yn fwy sicr yn y tymor hir, hynny i ennyn diddordeb cynhyrchwyr lleol. Hefyd ystyried pa gymorth sydd ei angen ar fusnesau i gael mwy o gynhyrchwyr lleol i ymuno â’r chadwyni cyflenwi bwyd.
  • Cael rhanddeiliaid perthnasol i ystyried rhoi’r ymyriadau dan sylw ar waith.

7. Gofal Cymdeithasol

Y canlyniadau hyd at ddiwedd tymor y Senedd hon:

  • Defnyddio rhanddeiliaid i godi ymwybyddiaeth am yr hyn y dysgodd Cronfa Her Adolygu’r Economi Sylfaenol i ni ac am y cyfleoedd sy’n deillio o’r deuddeg prosiect gofal cymdeithasol.  Ystyried hefyd sut y gallent lywio newidiadau a gwasanaethau yn y dyfodol.
  • Dod i ddeall blaenoriaethau Gofal Cymdeithasol a’u cwmpasu ar gyfer eu halinio â’r Economi Sylfaenol.

Cynigion ar gyfer Rhaglen ES y Gweinidog nesaf:

  • Helpu i lywio cynlluniau’r rhaglen ar gyfer dyrannu £3m cyllideb yr Economi Sylfaenol.

Cynigion gweithredu i'w harchwilio yn ystod chwe mis cyntaf gweinyddiaeth newydd:

  • Cynllun gweithredu i ystyried opsiynau perchnogaeth gofal preswyl

8. Coedwigo: Ystyried sut y gellid defnyddio tir yn well ledled Cymru yn y blynyddoedd i ddod i gefnogi rhai o amcanion hinsawdd y llywodraeth a’i huchelgeisiau cymdeithasol ac economaidd

Y canlyniadau hyd at ddiwedd tymor y Senedd hon:

  • Gweithio gyda rhanddeiliaid i ddeall ble y gallai’r rhwystrau fod ac a oes cyfleoedd i ddatblygu cynllun gweithredu traws-Lywodraeth ar goedwigo.
  • Cynnal prosiect dichonolrwydd i ystyried y cyfleoedd i ddefnyddio tir sector cyhoeddus i ddatblygu diwydiant domestig a allai cyflenwi pren adeiladu tai mwy cynaliadwy a sut y bydd hyn yn cefnogi’r defnydd effeithiol o dir i fynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd.

Cynigion ar gyfer Rhaglen ES y Gweinidog nesaf:

  • Ceisio cytundeb i fwrw ymlaen â llunio cynllun gweithredu ar goedwigo, gan ddefnyddio’r gwersi a ddysgwyd oddi wrth brosiectau’r Gronfa Her gyda Chanolfan Cenedl y Goedwig a stiwardiaeth gymunedol ar goetir.

9. PPE: Datblygu cadwyn gyflenwi ddibynadwy a chynaliadwy. Helpu i greu cyflenwad sefydlog a dechrau’r broses o geisio nwyddau hanfodol sy’n gystadleuol, dibynadwy a chynaliadwy yn nes adref

Y canlyniadau hyd at ddiwedd tymor y Senedd hon:

  • Gwaith ar draws y Llywodraeth i sicrhau digon o PPE i gwrdd â’r angen/diffyg ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, oherwydd ansefydlogrwydd y galw a’r amharu a fu ar y cadwyni cyflenwi.
  • Gweithio gyda busnesau gweithgynhyrchu lleol i gynhyrchu digon o PPE i ddiwallu gofynion GIG/Gofal Cymdeithasol a staff rheng flaen eraill Cymru.
  • Gweithio i helpu i greu cyflenwad sefydlog a dechrau’r broses o geisio nwyddau hanfodol sy’n gystadleuol, dibynadwy a chynaliadwy yn nes adref.

Cynigion ar gyfer Rhaglen ES y Gweinidog nesaf:

  • Ceisio cytundeb i fynd â’r gwaith yn ei flaen gyda rhanddeiliaid cyhoeddus a phreifat allweddol.

Cynigion gweithredu i'w harchwilio yn ystod chwe mis cyntaf gweinyddiaeth newydd:

  • Datblygu opsiynau ar gyfer ymgorffori’r gwersi a ddysgwyd yn y gwaith caffael yn lleol mewn categorïau gwariant eraill.

10. Gweithio i chwalu’r rhestrau i gontractau cyflenwi’r sector cyhoeddus

Y canlyniadau hyd at ddiwedd tymor y Senedd hon:

  • Defnyddio’r gwersi a ddysgwyd ynghylch bwyd a PPE i weld sut i ddelio â rhwystrau megis achredu, cystadlu yn y farchnad ac o ran pris, yr amgylchedd a’r broses gaffael. Dyma’r rhesymau yn ôl cyflenwyr sy’n fusnesau bach a chanolig o Gymru dros beidio â chaffael i’r sector cyhoeddus
  • Gweithio gyda rhanddeiliaid o weld a oes modd i’r Bil Partneriaethau Cymdeithasol a’r Ddyletswydd Gaffael helpu i leihau rhai o’r rhwystrau hyn
  • Dysgu gwersi prosiectau’r Gronfa Her a phrofiad gwaith CLES ar gaffael blaengar i ddatblygu system gaffael gydweithredol i gefnogi’r ES a sbardunau polisi cymdeithasol eraill.

Cynigion ar gyfer Rhaglen ES y Gweinidog nesaf:

  • Cyflwyno cynigion ar gyfer ymgorffori’r gwersi a ddysgwyd ar draws sectorau a chategorïau gwario.

Cynigion gweithredu i'w harchwilio yn ystod chwe mis cyntaf gweinyddiaeth newydd:

  • Cynllun tymor canolig i hir o ymyriadau polisi ar draws y Llywodraeth a chefnogaeth i fusnesau allu chwalu’r rhwystrau i gaffael cyhoeddus.