Neidio i'r prif gynnwy

1. Trosfwaol a thrawsbynciol

1.1 Cyhoeddi Cynllun gweithredu strategol newydd pedair blynedd ar gyfer anabledd dysgu 

Statws: Cyflawn/parhaus

Camau gweithredu

  • Byddwn yn gweithio gyda Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Anableddau Dysgu a phartneriaid i ddatblygu a chyhoeddi cynllun gweithredu strategol cyffredinol, trawslywodraethol a chynllun cyflenwi cysylltiedig ar gyfer polisi anabledd dysgu. Bydd y cynllun yn cynnwys camau gweithredu priodol, mesuradwy sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, trefniadau monitro, cytundebau adrodd ac adolygiadau cyfnodol. Cyhoeddwyd ym mis Mai 2022. Byddwn yn gweithio i ddatblygu cynllun Cyflenwi a Gweithredu cyflenwol a fydd yn cynnwys y camau penodol sydd eu hangen i gyflenwi’r blaenoriaethau strategol a amlinellir o fewn y cynllun gweithredu – mis Hydref 2022.
  • Byddwn yn adolygu’n ffurfiol y cynnydd yn erbyn cyflenwi’r camau yn y cynlluniau gweithredu a chyflenwi blynyddol.
  • Byddwn yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r Cynllun Gweithredu Strategol ar ôl dwy flynedd i sicrhau bod blaenoriaethau’r cynllun yn parhau i fod yn briodol ac yn berthnasol – gwanwyn 2024.

Cynnydd hyd yma

  • Cyhoeddwyd y Cynllun Gweithredu ar Anabledd Dysgu 2022 i 2026 ar 24 Mai 2022. Cyhoeddwyd y Cynllun Cyflenwi a Gweithredu cysylltiedig ym mis Hydref 2022. Datblygwyd a chyd-gynhyrchwyd y ddau gynllun gyda phartneriaid rhanddeiliaid gan gynnwys Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Anableddau Dysgu, y trydydd sector, cyrff cyhoeddus, a phobl â phrofiad byw.
  • Dechreuodd yr adolygiad blynyddol cyntaf ar 31 Mawrth 2023, ac mae adroddiadau am gynnydd yn rhan o’r cynllun hwn.
  • Bydd adolygiad ffurfiol o’r cynllun gweithredu yn dechrau ym mis Ebrill 2024 yn dilyn blwyddyn ariannol 2023 i 2024.

1.2 Bydd Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Anableddau Dysgu yn gynhwysol ac yn gwbl hygyrch ar gyfer pobl ag anabledd dysgu

Statws: parhaus

Camau Gweithredu

  • Byddwn yn cynnal o leiaf bedwar cyfarfod o Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Anableddau Dysgu y flwyddyn, ac is-grwpiau lle bo angen – parhaus. 
  • Byddwn yn adolygu prosesau gydag aelodau’n rheolaidd er mwyn sicrhau bod cyfarfodydd yn gynhwysol ac yn hygyrch i bobl ag anabledd dysgu – adolygir hyn yn flynyddol.
  • Byddwn yn cytuno ar adolygiad blynyddol a gwerthusiad o’r Cylch Gorchwyl, aelodaeth a gweithdrefnau – i’w hadolygu’n flynyddol.
  • Byddwn yn gweithio i adolygu effaith, effeithiolrwydd a chanfyddiad y cyhoedd o Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Anableddau Dysgu, gan gynyddu i’r eithaf ei amlygrwydd a’i gyrhaeddiad i sicrhau y gall partneriaid a’r cyhoedd ymgysylltu’n llawn â gwaith y Grŵp – erbyn mis Mawrth 2023 ac i’w adolygu’n flynyddol.

Cynnydd hyd yma:

  • Mae cyfarfodydd Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Anableddau Dysgu yn parhau i gael eu cynnal yn chwarterol, gyda chyfarfodydd is-bwyllgorau a grwpiau gorchwyl a gorffen yn cael eu cynnal yn ôl yr angen. Mae opsiynau ar gyfer dychwelyd i gyfarfodydd wyneb yn wyneb yn cael eu hystyried ar hyn o bryd, gyda’r bwriad o’u hailgyflwyno yn ystod 2023 i 2024.
  • Mae hygyrchedd yn cael ei adolygu fel mater o drefn, gydag adolygiad ffurfiol yn cael ei drafod yn flynyddol yn ystod cyfarfod mis Rhagfyr y Grŵp.
  • Cafodd y Cylch Gorchwyl a’r aelodaeth eu hadolygu a’u diweddaru ym mis Rhagfyr 2022.
  • Dechreuwyd ar adolygiad o ganfyddiad y cyhoedd o Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Anableddau Dysgu ym mis Rhagfyr 2022. Mae nifer o gamau yn cael eu cymryd, gan gynnwys newidiadau i’r wefan, hybu ymwybyddiaeth trwy well cyfathrebu, mynychu digwyddiadau ac ati.

1.3 Cydraddoldeb a chynhwysiant 

  • Ystyried effaith ac effeithiolrwydd polisïau anabledd dysgu o ran pobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a’u gofalwyr o’r gymuned Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. 
  • Sicrhau bod anghenion siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf yn cael eu diwallu wrth ddylunio a darparu gwasanaethau a chefnogaeth.

Statws: parhaus / ar y trywydd cywir

Camau Gweithredu

  • Yn y flwyddyn gyntaf, bydd Llywodraeth Cymru a Grŵp Cynghori’r Gweinidog yn sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i adolygu effaith ac effeithiolrwydd y polisïau presennol i sicrhau bod anghenion unigolion ag anabledd dysgu o gymunedau gwarchodedig neu ddifreintiedig yn cael eu diwallu – erbyn mis Ebrill 2023.
  • Lle nodir bylchau, byddwn yn ystyried camau sy’n sicrhau bod polisïau Llywodraeth Cymru yn diwallu’n llawn anghenion a nodwyd o ran pobl ag anabledd dysgu ac yn eu rhoi ar waith – erbyn mis Ebrill 2024.
  • Ar ôl cwblhau cam cychwynnol y gwaith mewn perthynas â chydraddoldeb hiliol, byddwn yn ymchwilio i effaith polisïau presennol ar bobl ag anableddau dysgu o grwpiau sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig, ac felly hefyd bolisïau sy’n cael eu datblygu – o fis Ebrill 2024.

Cynnydd hyd yma

  • Mae grŵp gorchwyl a gorffen Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Anableddau Dysgu wedi helpu i ddatblygu manyleb i adolygu effaith polisïau Anableddau Dysgu cyfredol ar grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy’n cael eu tangynrychioli. Aeth y fanyleb hon allan i dendr cyhoeddus ym mis Mawrth 2023. Bydd y gwaith hwn yn parhau yn ystod 2023 i 2024.
  • Bydd Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Anableddau Dysgu yn ystyried gweithgarwch blaenoriaeth yn y maes hwn yn y dyfodol o fis Ebrill 2024, gan gynnwys pa faterion cydraddoldeb i’w trafod nesaf ar ôl cwblhau’r gwaith gweithgaredd ethnig.

1.4 Ymchwilio i sefydlu Arsyllfa Anabledd Dysgu Genedlaethol i Gymru

Statws: heb ddechrau eto

Camau gweithredu:

Byddwn yn cynnal astudiaeth ddichonoldeb i nodi costau a manteision sefydlu Arsyllfa Anabledd Dysgu ar gyfer Cymru – erbyn mis Ebrill 2024.

Cynnydd hyd yma:

  • Mae blaenoriaethau llwyth gwaith, adnoddau ariannol ac adnoddau personél presennol Llywodraeth Cymru a sefydliadau partner yn golygu bod y gwaith hwn bellach wedi’i drefnu i gychwyn yn ddiweddarach yn nhymor y llywodraeth.
  • Mae’r gwaith paratoi wedi dechrau.
  • Mae Gwelliant Cymru wedi penodi uwch-ddadansoddwr gwelliant gydag arbenigedd Anabledd Dysgu. Er mai cefnogi’r gwaith gwelliant mewn perthynas â chasglu a dadansoddi data yw diben y rôl, bydd yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r gwaith dichonoldeb hwn. Dechreuwyd ar y gwaith ym mis Mawrth 2023. 
  • Mae Gwelliant Cymru wedi cynnal sgyrsiau cadarnhaol gyda rhanddeiliaid allweddol posibl yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.

1.5 Hyrwyddo cymorth ymddygiad cadarnhaol a gofal gwybodus am drawma mewn iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg

Fframwaith ar gyfer Lleihau Arferion Cyfyngol [HTML] | LLYW.CYMRU.

  • Sicrhau bod egwyddorion Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Lleihau Arferion Cyfyngol yn cael eu hyrwyddo, eu deall a’u hymgorffori mewn hyfforddiant a gwasanaethau ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a gofal plant. Bydd hyn yn cynnwys monitro, cofnodi ac adrodd priodol.
  • Gweithio gyda sectorau i sicrhau eu bod yn ystyried ac yn cytuno ar gamau gweithredu i gefnogi’r gwaith o weithredu’r Fframwaith ar gyfer Lleihau Arferion Cyfyngol yn effeithiol ym meysydd gofal plant, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol – erbyn haf 2023.

Statws: Parhaus/ar y trywydd cywir

Camau gweithredu:

  • Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid a darparwyr gwasanaethau i sicrhau bod egwyddorion Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Lleihau Arferion Cyfyngol yn cael eu hyrwyddo, eu deall a’u hymgorffori mewn hyfforddiant a gwasanaethau ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a gofal plant. Bydd y gwaith hwn hefyd yn sicrhau bod monitro, cofnodi ac adrodd priodol yn cael eu cynnwys – erbyn mis Ebrill 2024.
  • Byddwn yn cynnal cyfres o gynlluniau treialu/profi i nodi’r dulliau mwyaf priodol o gyflenwi’r ymrwymiad hwn ar draws gwahanol rannau o’r sector cyhoeddus – yn ystod 2023 i 2024.
  • Byddwn yn lansio’r animeiddiad (a’r cynllun cyfathrebu cysylltiedig) ar gyfer codi ymwybyddiaeth o’r Fframwaith ar gyfer comisiynwyr a darparwyr – haf 2022.
  • Byddwn yn lansio’r animeiddiad ar gyfer codi ymwybyddiaeth ymhlith pobl sy’n defnyddio lleoliadau a gwasanaethau a’r bobl sy’n bwysig iddyn nhw – haf 2022.
  • Byddwn yn gweithio gyda sectorau i sicrhau eu bod yn ystyried ac yn cytuno ar gamau gweithredu i gefnogi’r gwaith o weithredu’r Fframwaith yn effeithiol ym meysydd gofal plant, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol.

Cynnydd hyd yma

Fel rhan o’i raglen waith ehangach, mae Gwelliant Cymru wedi: 

  • Cyflwyno cyfres o weithdai ledled Cymru gyda phobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd i hybu ymwybyddiaeth o arferion cyfyngol a datblygu adnoddau i gynorthwyo rhanbarthau i barhau i hybu ymwybyddiaeth.
  • Dechrau cynllunio ar gyfer digwyddiad rhithwir cenedlaethol i hybu ymwybyddiaeth a chreu syniadau newid ar gyfer y gweithlu sy’n cefnogi pobl ag anabledd dysgu.
  • Cyfrannu at y Rhwydwaith Lleihau Arferion Cyfyngol/Restraint Reduction Network drwy’r Grŵp Llywio Cenedlaethol.
  • Datblygu rhwydwaith cymheiriaid ar gyfer hyfforddwyr ymarfer cyfyngol y GIG.
  • Cyfrannu at ddatblygu adnoddau cenedlaethol i gefnogi’r fframwaith.
  • Cyd-gynhyrchu cynnig ar gyfer llunio grŵp cyfeirio arbenigol Cymru gyfan ar gyfer lleihau arferion cyfyngol a fydd yn cefnogi gweithredu fframwaith Llywodraeth Cymru

1.6 Cydweithio, cyd-gynhyrchu a chydweithredu

Statws: parhaus

Camau gweithredu:

  • Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid yn y trydydd sector i holi barn pobl ag anableddau dysgu ynglŷn â sut le y dylai Cymru fod iddyn nhw yn 2033, er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn llwyddiant – erbyn mis Ebrill 2024.
  • Byddwn yn adolygu ac yn ymchwilio i arferion gorau o ran cydweithredu a chyd-gynhyrchu – erbyn mis Ebrill 2024.
  • Byddwn yn datblygu ac yn hyrwyddo canllawiau i sicrhau bod cynifer o gyfleoedd â phosibl ar gyfer cydweithredu a chyd-gynhyrchu – erbyn mis Ebrill 2024. 
  • Byddwn yn datblygu ac yn gweithredu strategaeth gyfathrebu ac ymgysylltu sy’n nodi’n glir sut y byddwn yn rhannu gwybodaeth am y gwaith a wnawn ac yn cael mewnbwn ac adborth mewn ffordd hygyrch – erbyn mis Ebrill 2024.

Cynnydd hyd yma

  • Bydd Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Anableddau Dysgu yn trafod cyd-gynhyrchu mewn cyfarfod ym mis Mehefin 2023, gyda’r bwriad o benderfynu ar y ffordd orau o ddatblygu’r mater hwn. 
  • Fel rhan o’i raglen ehangach, mae Gwelliant Cymru yn gweithio gyda Cyd-gynhyrchu Cymru i ystyried sut i ymgorffori cyd-gynhyrchu â mwy o lywodraethu yn ein rhaglen wella.

2. Adfer ar ôl COVID a Llesiant

2.1 Presgripsiynu cymdeithasol ac unigrwydd ac ynysigrwydd – hyrwyddo a gwella llesiant pobl ag anableddau dysgu

Statws: ar y trywydd cywir

Camau gweithredu:

  • Bydd Grŵp Cynghori’r Gweinidog yn cyfrannu at grŵp gorchwyl a gorffen cenedlaethol i ddeall sut y gallai presgripsiynu cymdeithasol helpu Cymru yn ei hadferiad ar ôl COVID-19 a chyflwyno fframwaith Cymru-gyfan i ddarparu presgripsiynu cymdeithasol i fynd i’r afael ag ynysigrwydd.
  • Byddwn yn ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad (dyddiad cau 20 Hydref 2022), gan ofyn am adborth ynghylch cyllid cynaliadwy, yn benodol pa gamau y gellir eu cymryd ar lefel genedlaethol i sicrhau trefniadau cyllido hirdymor. 

Cynnydd hyd yma

Ar 16 Chwefror 2023, cyfarfu’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol, dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, i drafod sut y bydd canfyddiadau’r ymarfer ymgynghori diweddar yn llywio’r ffordd ymlaen o ran y fframwaith cenedlaethol. Mae swyddogion yn ymgymryd â’r gwaith hwn ac yn cyfarfod ag arweinwyr polisi ar draws Llywodraeth Cymru, gan gynnwys arweinwyr polisi anabledd, gyda’r bwriad o gyhoeddi’r fframwaith terfynol a chefnogi cynllun gweithredu yn ystod haf 2023.

2.2 Llesiant

Statws: Heb ddechrau eto

Camau gweithredu:

  • Byddwn yn gweithio gyda Grŵp Cynghori’r Gweinidog a phartneriaid eraill i bennu’r blaenoriaethau gweithredu ar gyfer ffordd strategol newydd o ymdrin â llesiant, o fewn cynllun cyflenwi newydd ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.

Cynnydd hyd yma:

  • Nid yw’r gwaith wedi dechrau yn y maes hwn eto.
  • Dylai gwaith yn y maes hwn ddefnyddio fframwaith NYTH/NEST ar gyfer iechyd meddwl a lles ar gyfer babanod, plant a phobl ifanc. 

2.3 Sicrhau bod anghenion adfer ar ôl COVID-19 pobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a’u gofalwyr yn cael eu cydnabod a’u cefnogi yn Rhaglen Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar Adfer ar ôl COVID-19

Statws: parhaus

Camau gweithredu:

Byddwn yn gweithio gyda Grŵp Cynghori’r Gweinidog a rhanddeiliaid eraill i gyfrannu at y gwaith o adolygu, gwerthuso ac ystyried y gwersi a ddysgwyd am effaith cyfyngiadau ar bobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a’u gofalwyr yn ystod y pandemig COVID-19 – parhaus.

Cynnydd hyd yma:

Er bod gwersi a ddysgwyd yn sgil y pandemig yn parhau i gael eu rhoi ar waith wrth ddatblygu polisïau ôl-Covid, ni fydd gwaith strategol yn y maes hwn yn dechrau hyd nes y bydd gwaith yr Ymchwiliad Covid wedi’i gwblhau.

3. Iechyd a gofal cymdeithasol

3.1 Gweithredu argymhellion yr adolygiad o Wasanaethau Arbenigol i Oedolion yn 2020, ‘Gwella Gofal, Gwella Bywydau’

Statws: Parhaus/ar y trywydd cywir

Camau gweithredu:

  • Byddwn yn sefydlu grŵp rhanddeiliaid cenedlaethol amlasiantaethol i gynghori ar y cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer wasanaethau i oedolion ag anghenion dysgu ychwanegol ac yn goruchwylio’r broses o’i roi ar waith – mis Ionawr 2022.
  • Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i fonitro a gwerthuso cyflenwi camau gweithredu’r adroddiad – parhaus.
  • Byddwn yn ymateb i’r angen am ddarpariaeth diogelwch canolig yng Nghymru a nodwyd gan yr adolygiad cwmpasu a gynhaliwyd gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (sy’n comisiynu’r holl ddarpariaeth diogelwch canolig ac uchel ar ran byrddau iechyd Cymru) – erbyn mis Ebrill 2023.
  • Cylch Archwilio Arbenigol ar gyfer Cleifion Mewnol ag Anabledd Dysgu – byddwn yn dysgu o gylch archwilio chwarterol arbenigol a Dwysach Uned Gyflenwi GIG Cymru ar gyfer cleifion mewnol i gefnogi datblygiad gwasanaethau cymunedol yn gynaliadwy a chael llai o arosiadau amhriodol a hir mewn ysbytai. System adrodd a chynlluniau gwella ar waith erbyn mis Rhagfyr 2022. 
  • Sicrhau bod Gwasanaethau Cymunedol ar gyfer Anabledd Dysgu o’r “Maint Cywir” – byddwn yn cefnogi datblygu darn o waith i ganfod y “maint cywir” ar gyfer Gwasanaethau Anabledd Dysgu, er mwyn hwyluso’r gwaith o weithredu “gofal yn nes at y cartref” a sicrhau llai o arosiadau diangen mewn ysbytai i bobl ag Anabledd Dysgu – erbyn mis Ebrill 2024.
  • Llwybrau Oedi Gofal – byddwn yn cefnogi cynnwys cleifion mewnol ag anabledd dysgu wrth roi “Llwybrau Oedi Gofal” (oedi wrth drosglwyddo gofal gynt) ar waith yn genedlaethol, er mwyn deall yr heriau sy’n wynebu pobl ag anabledd dysgu sy’n barod i drosglwyddo i gam nesaf y gofal – erbyn mis Mawrth 2023.

Cynnydd hyd yma

  • Lansiwyd y Grŵp Gweithredu a Sicrwydd Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Anabledd Dysgu ar ddechrau 2022 i oruchwylio cyflenwi cynllun gweithredu y cytunwyd arno ar gyfer darpariaeth anabledd dysgu arbenigol i gleifion mewnol a chymunedol. Mae hyn yn cynnwys monitro cynnydd rhanbarthol ar gyflenwi argymhellion yr adolygiad Gwella Gofal Gwella Bywydau. Mae’r Grŵp yn parhau i gyfarfod yn chwarterol ac mae wrthi’n cwblhau diweddariad ar gynnydd yn ystod 2022 i 2023. 
  • Roedd grwpiau gorchwyl a gorffen a sefydlwyd i ymgymryd â chamau gweithredu allweddol ar gyfer y Grŵp yn canolbwyntio ar ddatblygu modelau ar gyfer ymyrraeth gynnar, atal a gofal argyfwng a phontio amserol i mewn ac allan o ysbytai arbenigol.
  • Cefnogwyd byrddau iechyd i gydweddu cynlluniau trawsnewid â’r cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer cyflenwi argymhellion Gwella Gofal Gwella Bywydau.
  • Mae Uned Gyflenwi’r GIG wedi’i chomisiynu i gynnal archwiliad chwarterol o gleifion mewnol ag anableddau dysgu er mwyn cynorthwyo i fonitro cynnydd o ran lleihau nifer y bobl ag anableddau dysgu mewn gwelyau ysbyty. 
  • Bydd data Blwyddyn 1 yn cael ei ddadansoddi yn 2023 i 2024 a dechreuwyd archwiliad dwfn i edrych ar y rhesymau sydd wrth wraidd defnydd parhaus o ddarpariaeth cleifion mewnol, cynllunio rhyddhau, oedi wrth ryddhau ac ati.

3.2 Adolygu marwolaethau a’r gwasanaeth archwilio meddygol

Statws: parhaus ond wedi’i ohirio

Camau gweithredu:

  • Byddwn yn datblygu gweithdrefnau sy’n sicrhau bod marwolaethau unigolion ag anabledd dysgu yn cael eu hadolygu fel rhan o’r system adolygu marwolaethau newydd a bod gwersi’n cael eu nodi a’u rhannu’n briodol. 
  • Byddwn yn cyfrannu at ddatblygu “Fframwaith Dysgu yn sgil Marwolaethau”, gan sicrhau bod materion sy’n ymwneud ag anabledd dysgu yn cael eu hadlewyrchu’n briodol – erbyn mis Ebrill 2023
  • Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i sefydlu proses gymesur a phriodol ar gyfer adolygu marwolaethau unigolion ag anabledd dysgu yn systematig – erbyn mis Ebrill 2023

Cynnydd hyd yma

  • Mae gwaith yn mynd rhagddo a thrafodaethau wedi dechrau ynghylch y gwaith hwn, er bod trafferthion staffio annisgwyl o fewn Llywodraeth Cymru wedi effeithio ar hyn.
  • Fel rhan o’i waith ehangach, mae Gwelliant Cymru wedi cefnogi trafodaethau amrywiol ac wedi darparu gwybodaeth arbenigol am anableddau dysgu i nifer o gyfarfodydd mewn perthynas ag adolygiadau marwolaethau a gwasanaethau archwilio meddygol. Mae hyn wedi cynnwys adolygu’r atodiad anableddau dysgu yn y fframwaith a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru a chyfrannu rhestr wirio yn ogystal â phapur ynglŷn â pheidio â cheisio dadebru drwy ddulliau cardio-anadlol.
  • Bydd y gwaith hwn nawr yn cael ei ddatblygu ymhellach yn ystod 2023 i 2024.

3.3 Fframwaith addysg am anabledd dysgu ar gyfer staff gofal iechyd

Statws: ar y trywydd cywir/parhaus

Camau gweithredu:

  • Byddwn yn gwella gwasanaethau ac yn sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud sy’n diwallu anghenion pobl ag anabledd dysgu sy’n defnyddio gwasanaethau. Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy gyflwyno, monitro a gwerthuso Fframwaith Addysg Anabledd Dysgu tair haen ar gyfer staff gofal iechyd. Bydd Haen 1 yn cael ei lansio yn ystod gwanwyn 2022 a haenau 2 a 3 yn dilyn o fis Ebrill 2023. 
  • Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu’r hyfforddiant Haen 2 a Haen 3 i staff y GIG – bydd gwaith cwmpasu yn dechrau o fis Hydref 2022.
  • Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i adolygu a gwerthuso effaith ac effeithiolrwydd yr hyfforddiant Haen 1 ar gyfer staff gofal iechyd yn dilyn blwyddyn lawn gyntaf yr hyfforddiant – gwanwyn 2023.
  • Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ymchwilio i opsiynau ar gyfer addasu ac ehangu’r hyfforddiant hwn ar gyfer maes gofal cymdeithasol a gwasanaethau eraill.

Cynnydd hyd yma:

  • Lansiwyd hyfforddiant Haen 1 ar 1 Ebrill 2022. Mae’r nifer sy’n cymryd rhan wedi cael ei fonitro drwy gydol y flwyddyn. Mae adroddiad sy’n adolygu’r defnydd a dadansoddi’r adborth wedi’i ddrafftio ac mae’n cael ei ystyried cyn ei gwblhau yn derfynol (diwedd mis Ebrill 2023).
  • Datblygwyd ymgyrch gyfathrebu i gefnogi’r gwaith parhaus o gyflwyno’r hyfforddiant Haen 1.
  • Gan ddysgu o waith dadansoddi’r flwyddyn gyntaf, mae cynlluniau ar y gweill i addasu’r hyfforddiant ar gyfer Gofal Cymdeithasol a gwasanaethau eraill.
  • Mae trafodaethau cynnar wedi dechrau ar ddatblygiad Haenau 2 a 3, gyda sgyrsiau pellach i’w cynnal yn ystod 2023 i 2024.

3.4 Sefydlu safonau ansawdd a diogelwch sy’n benodol i anabledd dysgu ar gyfer gwasanaethau arbenigol i oedolion ag anabledd dysgu

Statws: parhaus

Camau gweithredu:

  • Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu safonau a mesurau ansawdd a diogelwch sy’n seiliedig ar dystiolaeth i’w gweithredu ledled Cymru. I’w gweithredu erbyn mis Rhagfyr 2023.
  • Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i fesur a sicrhau y cyrhaeddir y safonau cenedlaethol hyn ledled Cymru – erbyn mis Rhagfyr 2023.

Cynnydd hyd yma

  • Mae trafodaethau cynnar wedi dechrau, gyda’r rhan fwyaf o’r gwaith hwn i’w wneud yn ystod 2023 i 2024.

3.5 Cynyddu mynediad at Archwiliadau Iechyd i bobl ag anabledd dysgu

Statws: parhaus

Camau gweithredu:

  • Byddwn yn gwerthuso effeithiolrwydd y prosiect gwirio iechyd peilot a gynhaliwyd rhwng mis Hydref 2021 a mis Mawrth 2022 ac yn archwilio opsiynau ar gyfer datblygu, gweithredu ac ymgorffori’r fframwaith gwirio iechyd ymhellach – gwanwyn 2022.
  • Byddwn yn adolygu dulliau byrddau iechyd o ddarparu archwiliadau iechyd, nodi dulliau gweithredu effeithiol a rhannu’r hyn a ddysgir ledled Cymru – erbyn mis Ebrill 2023.
  • Byddwn yn datblygu safonau cenedlaethol ar gyfer darparu gwiriadau iechyd ac yn gwella cysondeb dulliau o gyflwyno’r gwiriadau hyn ledled Cymru – erbyn mis Ebrill 2023.
  • Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i fesur a sicrhau y cyrhaeddir y safonau cenedlaethol hyn ledled Cymru – dechrau ym mis Ebrill 2023.

Cynnydd hyd yma

  • Mae’r gwaith yn mynd rhagddo, ond mae’r cynnydd yn arafach na’r disgwyl. Fodd bynnag, mae’r gwaith hwn bellach yn ôl ar y trywydd iawn.
  • Estynnwyd cynllun peilot cynnar 2021 hyd 22 ymlaen i 2022 hyd 2023 er mwyn cynyddu’r dystiolaeth a oedd ar gael i’w dadansoddi.
  • Mae adroddiad cryno mewn perthynas â gwaith prosiect gwiriadau iechyd blynyddol gan Fyrddau Iechyd yn y flwyddyn 2022 i 2023 wedi’i gwblhau.
  • Mae partneriaid yn Gwelliant Cymru wedi ymgymryd â hyfforddiant gwella gyda Byrddau Iechyd penodol mewn perthynas â syniadau i wella’r ddarpariaeth gwiriadau iechyd blynyddol. 
  • Mae Gwelliant Cymru hefyd wedi darparu ymgyrch cyfryngau cymdeithasol a strategaeth gyfathrebu i hyrwyddo adnoddau gwiriadau iechyd blynyddol hygyrch i wasanaethau gofal sylfaenol byrddau iechyd.
  • Gweithdy dydd wyneb yn wyneb i glystyrau gyda nyrs gyswllt Gofal Sylfaenol wedi’i Gynllunio a’i Hwyluso.
  • Gan ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd o’r prosiectau peilot, mae gwaith wedi dechrau ar ddatblygu papur polisi arfaethedig ar wiriadau iechyd blynyddol i’w drafod gyda chydweithwyr polisi Llywodraeth Cymru yn gynnar yn 2023. Bydd yn ystyried pob dull o ymdrin â fformat a darpariaeth gwiriadau iechyd blynyddol yn y dyfodol, gan gynnwys eu rôl bosibl o fewn contractau meddygon teulu, gwasanaethau ychwanegol dan gyfarwyddyd neu gyflenwi ar lefel clwstwr. Mae hefyd yn argymell newidiadau i’r fformat a chynyddu hygyrchedd i ddefnyddwyr trwy welliannau i gwblhau a defnydd electronig gan weithwyr iechyd proffesiynol ar wahân i feddygon teulu.
  • Nid yw’r gwaith ar ddatblygu safonau wedi dechrau eto oherwydd sawl ffactor, yn anad dim yr angen i gytuno ar y papur polisi uchod, trafodaethau contract parhaus gyda meddygon teulu, newidiadau personél ac ati.

3.6 Cynnal gwerthusiad o’r opsiynau i sefydlu platfform digidol i gefnogi gweithredu’r Fframwaith Cydraddoldeb Iechyd mewn ffordd gynhwysfawr ledled Cymru

Statws: cynnydd hyd yma

Camau gweithredu:

  • Byddwn yn cefnogi ac yn cynnal gwaith ymchwil ar ddefnyddwyr i lywio’r gwaith o ddatblygu manyleb ar gyfer platfform Fframwaith Cydraddoldeb Iechyd digidol erbyn gwanwyn 2023.
  • Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i sefydlu a chyflwyno platfform digidol sy’n hawdd ei ddefnyddio i gefnogi defnydd cynhwysfawr a chyson o’r Fframwaith Cydraddoldeb Iechyd – o wanwyn 2023.
  • Byddwn yn monitro ac yn gwerthuso’r broses Fframwaith Cydraddoldeb Iechyd ddigidol i wneud y mwyaf o’i ddefnydd a’i effeithiolrwydd – o wanwyn 2023. 
  • Ar ôl rhoi’r Fframwaith Cydraddoldeb Iechyd newydd ar waith, byddwn yn ymchwilio i sefydlu system adrodd canlyniadau cenedlaethol sy’n mesur effeithiolrwydd ymyriadau therapiwtig – o fis Ebrill 2024.

Cynnydd hyd yma

  • Mae partneriaid yn Gwelliant Cymru wedi comisiynu cyflenwr i gynnal profion alffa gyda defnyddwyr byrddau iechyd i ddatblygu prototeip digidol ar gyfer profion beta erbyn 1 Mai 2023.
  • Rhannu deunyddiau hyfforddi’r Fframwaith Cydraddoldeb Iechyd gyda’r holl fyrddau iechyd a thair prifysgol, Prifysgol Bangor, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Abertawe.
  • Rhannu deunyddiau hawdd eu deall ar draws Cymru.
  • Derbyn adroddiad drafft ar ddilysu adnodd Canlyniadau Hygyrch Anabledd Dysgu y Fframwaith Cydraddoldeb Iechyd.
  • Cynnig cefnogaeth barhaus i bob bwrdd iechyd o ran defnyddio a gweithredu’r Fframwaith Cydraddoldeb Iechyd.

3.7 Iechyd Corfforol – Cynnal prosiectau gwella i leihau anghydraddoldebau iechyd, marwolaethau cynamserol a marwolaethau y gellir eu hosgoi

Statws: parhaus

Camau gweithredu:

  • Byddwn yn datblygu polisïau a/neu ganllawiau i fynd i’r afael â materion iechyd sy’n hysbys / dod i’r amlwg, a gwella sut mae gwasanaethau prif ffrwd y GIG yn nodi ac yn ymateb i anghenion unigolyn ag anabledd dysgu.
  • Ymhlith y meysydd â ffocws fydd yn cael sylw mae:
    • canfod, diagnosis a thriniaeth ar gyfer rhwymedd
    • mynediad at frechiadau a gwasanaethau sgrinio iechyd
    • sicrhau defnydd eang o’r proffil iechyd
    • adolygu’r defnydd o’r system fflagio
    • adolygu’r bwndel gofal – parhaus o fis Ebrill 2022

Cynnydd hyd yma:

  • Mae Gwelliant Cymru wedi arwain y ffrwd waith hon ar ran Llywodraeth Cymru. Mae cynnydd yn digwydd, er ei fod yn arafach na’r disgwyl yn y cyfnod cynnar.
  • Iechyd y Coluddyn – gweithio i gasglu’r sylfaen dystiolaeth ynghyd i ddatblygu rhaglen waith o amgylch rhwymedd mewn pobl ag anabledd dysgu ar draws y rhychwant oes, yn ogystal ag ymgysylltu â rhanddeiliaid i ddilysu adnodd proffil coluddyn addas ar gyfer pobl ag anabledd dysgu.
  • Brechlynnau – Gweithio gyda Rhaglen Afiechydon Ataliadwy Trwy Frechu Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth ddatblygu arolygon, dyrannu cyflenwr gwaith grŵp ffocws ar gyfer cyd-gynhyrchu ymgyrch frechlynnau hygyrch ar gyfer tymor brechlynnau 2023/2024.
  • Proffil Iechyd - Cwblhau rhaglen o hybu ymwybyddiaeth proffil iechyd gyda grwpiau rhanddeiliaid a nodwyd. Ymgysylltwyd hefyd gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru i fapio’r proffil iechyd ar draws systemau fel Cofnod Gofal Nyrsio Cymru ac Ap GIG Cymru. Yn ogystal, cynhaliwyd ymgyrch gyfathrebu seiliedig ar dystiolaeth yn tynnu sylw at y proffil iechyd fel adnodd diogelwch cleifion. Ar ben hynny, comisiynwyd gwerthusiad o ddefnyddioldeb y Proffil Iechyd i’w gyflenwi ym mis Mai 2023.
  • Fflagio – Parhau i ymgysylltu gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru i fapio’r proffil iechyd a’r angen dilynol i ‘fflagio’ ar draws systemau fel Cofnod Gofal Nyrsio Cymru ac Ap GIG Cymru. Rydym wedi bod yn gweithio gyda gwasanaethau iechyd arbenigol anabledd dysgu a ddylai fod yn fflagio’r rhai sy’n defnyddio eu gwasanaethau o fewn systemau digidol Bwrdd Iechyd lleol.
  • Bwndel Gofal – wedi’i ddatblygu a thendr wedi’i ddyfarnu, i gomisiynu sefydliad i gynnal yr arfarniad opsiynau, sydd i fod i gael ei gwblhau ym mis Mehefin 2023.

3.8 Unigrwydd ac ynysigrwydd

Sicrhau bod y cysylltiad yn parhau rhwng y gwaith sydd ar y gweill i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol a’n blaenoriaethau gwella ar gyfer anabledd dysgu.

Statws: parhaus

Camau gweithredu:

  • Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ymchwilio i’r rhesymau dros unigrwydd ac ynysigrwydd i bobl ag anabledd dysgu.
  • Byddwn yn cyfrannu at bolisïau sy’n mynd i’r afael â’r problemau hyn – parhaus o fis Ebrill 2022.

Cynnydd hyd yma

  • Mae cynrychiolydd o Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan bellach wedi ymuno â’r Grŵp Cynghori ar Unigrwydd ac Ynysigrwydd er mwyn sicrhau bod achosion unigrwydd ac ynysigrwydd ymhlith pobl ag anabledd dysgu yn cael eu deall, a bod cyfleoedd yn cael eu nodi i fynd i’r afael â’r rhain.
  • Lansiodd Llywodraeth Cymru Gronfa Unigrwydd ac Ynysigrwydd gwerth £1.5m dros dair blynedd ym mis Medi 2021. Nod y Gronfa oedd cefnogi sefydliadau rheng flaen i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd mewn cymunedau lleol. Mae adborth gan bartneriaid awdurdodau lleol a chynghorau gwirfoddol cymunedol hyd yma yn dangos bod rhywfaint o’r cyllid hwn wedi’i ddefnyddio i ddarparu ystod o gyfleoedd i bobl ag anabledd dysgu gysylltu a chymdeithasu ag eraill.

3.9 Dulliau newydd o ymdrin â gwasanaethau dydd, gofal seibiant a seibiannau byr

Statws: parhaus ac ar y trywydd cywir

Camau gweithredu:

  • Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i roi ar waith y camau gweithredu yn y Cynllun Cyflenwi sy’n cefnogi Blaenoriaeth 3 y Strategaeth ar gyfer Gofalwyr Di-dâl: cefnogi bywyd gofalwyr ochr yn ochr â’u cyfrifoldebau gofalu, gan gynnwys gweithio tuag at well dealltwriaeth o sut y gellir cael gafael ar seibiant oddi wrth eu dyletswyddau gofalu, a sut i ariannu a darparu hynny – parhaus.
  • Byddwn yn gweithio gydag ADSS Cymru/awdurdodau lleol a phartneriaid i edrych ar ailagor gwasanaethau dydd awdurdodau lleol yn ddiogel a sicrhau bod y gwasanaethau hynny yn diwallu anghenion pobl ag anabledd dysgu, eu teuluoedd a’u gofalwyr – dechrau ym mis Hydref 2022 gydag adolygiad parhaus.

Cynnydd hyd yma:

  • Rydym wedi comisiynu Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS-Cymru) i gynnal adolygiad a dadansoddiad o ddarpariaeth gwasanaeth dydd awdurdodau lleol, gyda’r bwriad o ddeall y dirwedd newidiol a helpu i sicrhau bod newidiadau i wasanaethau yn diwallu anghenion pobl ag anableddau dysgu. Mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo, ac mae disgwyl i adroddiad gael ei gyflwyno yn ystod haf 2023. Bydd gweithgarwch dilynol yn y maes hwn yn dibynnu ar ganfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad hwn.
  • Mae Cronfa Seibiannau Byr newydd wedi’i chyd-gynhyrchu â Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar gyfer Gofalwyr. Cyhoeddwyd gwerth £9m o gyllid dros dair blynedd (2022 i 2025) yn 2022, a phenodwyd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn gorff rheoli. Mae’r cyllid ar gyfer pob blwyddyn yn cael ei ddyrannu ar draws y 7 Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a thrwy’r llinyn Amser i sefydliadau trydydd sector sy’n cyflwyno cynigion. Bydd y gronfa yn cefnogi datblygu mwy o weithgarwch seibiannau byr, a seibiannau byr newydd, ar gyfer gofalwyr di-dâl o bob oed, gan gynnwys gofalwyr ifanc.

3.10 Galluogi gofal a chymorth integredig drwy daliadau uniongyrchol a gofal iechyd parhaus

Statws: ar y trywydd cywir

Camau gweithredu:

  • Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i ymchwilio i’r rhyngwyneb rhwng Taliadau Uniongyrchol a Gofal Iechyd Parhaus i sicrhau’r effaith a’r effeithiolrwydd mwyaf posibl ar gyfer pobl ag anabledd dysgu, eu teuluoedd a’u gofalwyr – o fis Ebrill 2022.

Cynnydd hyd yma:

  • Mae ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ddatblygu’r gwaith hwn. Mae gweithgor wedi’i sefydlu sy’n cynnwys sefydliadau pobl anabl, byrddau iechyd, awdurdodau lleol a swyddogion Llywodraeth Cymru. Ymgynghorwyd ar opsiynau deddfwriaethol posibl i gyflwyno Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus yng Nghymru rhwng mis Awst a mis Tachwedd 2022, a bydd yr ymatebion yn cael eu cyhoeddi’n fuan. 
  • Yn y cyfamser, mae opsiwn yn cael ei archwilio i sefydlu model trydydd parti (Ymddiriedolaeth Defnyddiwr Annibynnol) i alluogi Byrddau Iechyd Lleol i dalu’r Ymddiriedolaeth ac i ymddiriedolwyr drefnu a phrynu gofal i unigolyn sy’n derbyn Gofal Iechyd Parhaus. Bydd y trefniant hwn yn caniatáu mwy o lais a rheolaeth i bobl anabl sy’n derbyn Gofal Iechyd Parhaus, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Mae opsiwn Ymddiriedolaeth Defnyddiwr Annibynnol o’r fath yn bosibl o dan y fframwaith deddfwriaethol presennol, ac mae canllawiau’n cael eu cyd-gynhyrchu gyda’r gweithgor ar hyn o bryd.

3.11 Cefnogi rhieni ag anabledd dysgu

Statws: ar y trywydd cywir

Camau gweithredu:

  • Byddwn yn sicrhau bod cynnydd mewn dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o anghenion rhieni ag anabledd dysgu ar draws gwasanaethau, gan sicrhau bod rhieni ag anabledd dysgu yn cael gwell cefnogaeth gan beri gostyngiad dilynol yn nifer y plant sy’n cael eu cymryd i ofal. Cyflawnir hyn drwy ddatblygu, cyhoeddi a lansio canllawiau cenedlaethol dwyieithog ar gyfer Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Plant ar yr arfer gorau o ran sut y gellir cefnogi rhieni neu ddarpar rieni ag anabledd dysgu orau er mwyn i deuluoedd allu aros gyda’i gilydd ac i’r plant allu ffynnu. Byddwn yn datblygu a chyhoeddi canllawiau cysylltiedig i rieni ag anabledd dysgu -
  • Cyhoeddwyd y Canllawiau ar gyfer gweithwyr cymdeithasol sy’n gweithio gyda theuluoedd ble mae gan y rhiant anabledd dysgu ar 11 Mai, hysbyswyd rhanddeiliaid a defnyddiwyd trydariad ar gyfer cyhoeddusrwydd.
  • Mae cynlluniau i hyrwyddo’r Canllawiau ymhellach yn ystod Wythnos Anabledd Dysgu rhwng 19 a 25 Mehefin.

Cynnydd hyd yma:

  • Mae canllawiau wedi’u cyd-gynhyrchu’n llawn wedi cael eu datblygu, i’w cyhoeddi yn ystod gwanwyn 2023.

3.12 Adolygu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Statws: coch.

Camau gweithredu:

  • Byddwn yn cwblhau gwaith ar adolygu a gwerthuso Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 – parhaus.
  • Byddwn yn sicrhau bod barn a phrofiadau pobl ag anableddau dysgu yn cael eu hadlewyrchu yng nghanlyniadau’r adolygiad i fynd i’r afael â bylchau a nodwyd yn y ddarpariaeth – parhaus.

Cynnydd hyd yma

Ni dderbyniwyd unrhyw ddiweddariad.

3.13 Y gweithlu gofal cymdeithasol

Statws: coch

Camau gweithredu:

  • Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi cynllunio’r gweithlu er mwyn sicrhau bod gweithlu gwydn sydd wedi’i hyfforddi’n briodol yn cael ei recriwtio a’i ddatblygu.

Cynnydd hyd yma:

  • Ni dderbyniwyd unrhyw ddiweddariad.

3.14 Gweithlu nyrsys anableddau dysgu

Statws: Parhaus, ond mae’r broses recriwtio yn dal i fod yn heriol

Camau gweithredu:

  • Modelu’r gweithlu. Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol ar draws lleoliadau i nodi modelau o ran y gweithlu sy’n diwallu anghenion cyfannol pobl ag anabledd dysgu i ddeall yn well lle mae angen Nyrsys Anableddau Dysgu a pham – parhaus.
  • Byddwn yn ystyried gyda phartneriaid yr opsiynau ar gyfer ehangu mynediad at addysg mewn anabledd dysgu i nyrsys cofrestredig – parhaus, adolygu’r recriwtio ar gychwyn pob blwyddyn academaidd (mis Hydref 2023 a 2024).
  • Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i adolygu llwybrau gyrfa presennol ar gyfer nyrsys anableddau dysgu, gan nodi’r strwythurau presennol ac ystyried dulliau o wella’r llwybrau gyrfa ar gyfer nyrsys anableddau dysgu presennol – parhaus.

Cynnydd hyd yma

  • Mae adroddiad blynyddol ‘cofrestr NMC Cymru 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023’ a gyhoeddwyd ar 24 Mai 2023, yn nodi bod nifer y nyrsys anableddau dysgu wedi cynyddu ychydig.
  • Mae ‘Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer y Gweithlu: Mynd i’r Afael â Heriau Gweithlu GIG Cymru‘, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2023, yn cydnabod yr heriau presennol.
  • Mae gwaith yn mynd rhagddo o fewn AaGIC mewn perthynas â modelu’r gweithlu a chynyddu ceisiadau i gyrsiau nyrsio anableddau dysgu. Lansiwyd ymgyrch i’r cyfryngau ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrsys, 12 Mai 2023, sy’n cysylltu â gwelliant parhaus i dudalennau Tregyrfa.
  • Mae’r prifysgolion sy’n cynnig cyrsiau Nyrsio Anableddau Dysgu yn gweithio gyda’i gilydd ac yn unigol i ehangu mynediad at addysg. Mae myfyrwyr nyrsio blwyddyn gyntaf (oedolion, plant, iechyd meddwl) yn cael dewis trosglwyddo i nyrsio anableddau dysgu yn dilyn profiad ar leoliad. Mae recriwtio nyrsys ar gyfer mis Medi 2023 yn parhau’n anodd. Fodd bynnag, byddwn yn gweithio tuag at gynyddu gwelededd nyrsio anableddau dysgu yn ystod Wythnos Anabledd Dysgu 19 i 25 Mehefin, 2023.
  • Mae Grŵp Nyrsio Anableddau Dysgu Cymru Gyfan yn ystyried opsiynau ar gyfer cefnogi llwybrau gyrfa presennol ar gyfer nyrsys anableddau dysgu, e.e. cyflwyniad gan y Sefydliad Astudiaethau Nyrsio yn ymwneud â chymrodoriaeth creu diwylliannau o ofal ar gyfer darpar arweinwyr a Nyrsys Anableddau Dysgu Cofrestredig ar ddechrau eu gyrfa, mis Rhagfyr 2022.
  • Fel rhan o’u gwaith ehangach, mae partneriaid yn Gwelliant Cymru wedi cefnogi cyfarfodydd Grŵp Nyrsio Anableddau Dysgu Uwch Cymru Gyfan, yn ogystal â gwaith Nyrsys Cyswllt Gofal Sylfaenol a Nyrsys Cyswllt Acíwt. Mae Gwelliant Cymru wedi cefnogi sgyrsiau cychwynnol mewn perthynas â chynnig Academi Gwelliant i’r gweithlu Nyrsys Anableddau Dysgu.

3.15 Gofalwyr a pholisi gofalwyr

Statws: parhaus

Camau gweithredu: 

  • Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid mewnol/allanol i ddatblygu polisïau sy’n sicrhau bod anghenion gofalwyr pobl ag anableddau dysgu, gan gynnwys gofalwyr teulu a brodyr a chwiorydd a gofalwyr ag anableddau dysgu yn cael eu deall a bod cymorth hygyrch ar gael iddynt – parhaus.

Cynnydd hyd yma

  • Mae’r Strategaeth ar gyfer Gofalwyr Di-dâl a’i chynllun cyflenwi cysylltiedig yn cydnabod pwysigrwydd mynd i’r afael ag anghenion pob grŵp o ofalwyr di-dâl, gan gynnwys mynediad at wybodaeth, cyngor a chymorth, a chymorth gan wasanaethau cymorth statudol lle bo hynny’n briodol. Cafodd yr adroddiad cyntaf ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2023. Adroddiad blynyddol cynllun cyflawni gofalwyr di-dâl | LLYW. CYMRU

4 Eiriolaeth, hunaneiriolaeth, ymgysylltu a chydweithio

4.1 Hyrwyddo dewis, llais a rheolaeth i bobl ag anableddau dysgu a’u gofalwyr. Bydd hyn yn cynnwys eiriolaeth, hunaneiriolaeth, cynhwysiant digidol

Statws: parhaus ac ar y trywydd cywir

Camau gweithredu:

  • Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i archwilio ac adolygu arfer gorau a modelau gwahanol o gymorth eiriolaeth, er mwyn datblygu gwasanaethau eirioli ar gyfer oedolion yn unol â Chanllawiau Comisiynu – dechrau ym mis Hydref 2022.

Cynnydd hyd yma

  • Bu’n rhaid oedi dechrau’r gwaith hwn ychydig wrth i drafodaethau cychwynnol ynghylch ei gwmpas a’i gyrhaeddiad gael eu cynnal. Ym mis Ionawr 2023, cafodd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS-Cymru) gomisiwn gan Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad a gwerthusiad o wasanaethau eiriolaeth a hunaneiriolaeth ledled Cymru, gyda’r bwriad o ddatblygu fframwaith i’w ddefnyddio ar draws y sector cyhoeddus. Mae’r gwaith wedi dechrau ac mae disgwyl i’r Gymdeithas adrodd yn gynnar yn 2024.
  • Bydd gwaith dilynol yn y maes hwn yn dibynnu ar ganlyniadau ac argymhellion cam cychwynnol y gweithgaredd.

4.2 Cynhwysiant digidol a defnyddio technoleg

Statws: heb ddechrau eto

Camau gweithredu:

  • Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i archwilio ac adolygu’r defnydd priodol o dechnoleg ac opsiynau digidol er mwyn i bobl ag anableddau dysgu allu ymgysylltu cymaint â phosibl, a meithrin a gwella’u cysylltiadau – o fis Ebrill 2023.
  • Byddwn yn ymchwilio i ffyrdd o wella cysylltiadau i bobl sy’n ei chael yn anodd cael gafael ar wybodaeth neu godi eu llais – parhaus.

Cynnydd hyd yma:

  • Dim diweddariad ar gael.

4.3 Cyfeillgarwch a pherthynas ag eraill

Statws: heb ddechrau eto

Camau gweithredu:

  • Byddwn yn gweithio gyda Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Anabledd Dysgu i ymchwilio i’r potensial ar gyfer darparu canllawiau a chyngor ynghylch cyfeillgarwch a pherthynas rywiol i bobl ag anabledd dysgu, eu teuluoedd/gofalwyr a darparwyr gwasanaethau – o fis Ebrill 2023.
  • Byddwn yn sicrhau bod pobl ag anabledd dysgu yn cael cyngor priodol sy’n caniatáu iddynt gynnal perthynas iach ag eraill – erbyn mis Ebrill 2024.

Cynnydd hyd yma:

  • Nid yw’r gwaith hwn wedi dechrau eto. Os yw Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Anableddau Dysgu yn cytuno y bydd yn un o’r ffrydiau gwaith sy’n cael blaenoriaeth, bydd y grŵp yn bwrw iddi.

5 Addysg, plant a phobl ifanc

5.1 Gwasanaethau anabledd dysgu plant a phobl ifanc

Statws: ambr

Camau gweithredu:

  • Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid a darparwyr gwasanaethau i wella gweithio ar y cyd wrth ddarparu gwasanaethau plant, gan gynnwys gwasanaethau pontio, ar gyfer pobl ag anableddau dysgu ar draws iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg – o fis Ebrill 2022.
  • Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ystyried cwmpas y gwaith hwn a datblygu cynlluniau priodol sy’n edrych ar arfer gorau, bylchau yn y ddarpariaeth, gwelliannau posibl i’r gwasanaethau, a chynllun ar gyfer darparu a gweithredu gwasanaethau anabledd dysgu integredig i blant a phobl ifanc – rhwng mis Ebrill 2022 a mis Ebrill 2025.
  • Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i fesur a sicrhau bod y cynlluniau hyn yn cael eu cyflawni.

Cynnydd hyd yma:

  • Profwyd oedi sylweddol cyn dechrau’r ffrwd waith hon oherwydd trafferthion o ran staffio ac adnoddau, felly ni ddechreuwyd arni tan ddiwedd 2022.
  • Mae Gwelliant Cymru wedi comisiynu adolygiad llenyddiaeth, gan edrych ar y sylfaen dystiolaeth ar gyfer modelau gwasanaeth / egwyddorion cyflenwi gwahanol, sy’n benodol i blant a phobl ifanc ag anableddau dysgu (i’w chyflwyno ym mis Mai 2023).
  • Cychwyn ymarfer cwmpasu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ar gyfer oes y prosiect i grynhoi gwybodaeth arbenigol a phrofiad byw er mwyn llunio’r rhaglen.
  • Dechrau ar y gwaith i ganfod arweinwyr o bob ardal Bwrdd Iechyd / Awdurdod Lleol gyda chyfrifoldeb ac atebolrwydd am Blant a Phobl Ifanc ag Anableddau Dysgu, megis drwy Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol.
  • Mae gwaith wedi parhau i ddatblygu’r Gymuned Ymarfer Plant a Phobl Ifanc drwy bwyso ar brofiad yr holl randdeiliaid: er mwyn trafod a chydweithio; rhannu ffeithiau a gwybodaeth am arfer gorau; nodi materion cyfredol a hyrwyddo atebion arloesol. 
  • Dechrau’r broses gomisiynu a dyfarnu tendrau am grantiau prosiectau gwella wedi’u targedu ledled Cymru er mwyn profi modelau cyflenwi gwasanaethau sy’n berthnasol i’r boblogaeth hon.

5.2 Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) – gweithredu

Statws: parhaus

Camau gweithredu:

  • Byddwn yn sefydlu grŵp llywio ADY cenedlaethol ym mis Medi 2022 i ddarparu gwybodaeth am gyfeiriad strategol, a chyngor i gefnogi’r broses barhaus o roi diwygiadau ar waith. Parhaus – grŵp wedi’i sefydlu a’r gwaith wedi dechrau.
  • Bydd Estyn yn cynnal adolygiad thematig o’r system ADY gyda’r bwriad o gynnal gwaith cwmpasu yn ystod haf 2022 a gwaith maes yn nhymor yr hydref gan anelu at gyhoeddi yn ystod gwanwyn 2023. Parhaus – gwaith thematig ar y gweill.
  • Byddwn yn gweithredu’r cychwyn deddfwriaethol yn raddol gan symud plant i’r system newydd dros gyfnod o dair blynedd o fis Medi 2021.
  • Byddwn yn penodi arweinwyr gweithredu ym mis Mawrth 2023 i ddarparu cymorth strategol parhaus i’r sector.  
  • Byddwn yn cyhoeddi canllawiau gweithredu ar gyfer ymarferwyr, rhieni a phlant, y sector ôl-16 a chanllawiau technegol ym mis Medi 2022. Cyflawn.
  • Byddwn yn datblygu ac yn hyrwyddo’r llwybr dysgu proffesiynol ADY cenedlaethol.
  • Byddwn yn sefydlu grŵp cyfranogiad plant a phobl ifanc yn ystod gwanwyn 2023 er mwyn cryfhau cyfranogiad dysgwyr, gwella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o weithredu parhaus a sicrhau ystyriaeth i leisiau dysgwyr a rhieni - parhaus.

Cynnydd hyd yma:

  • Mae’r cam gweithredu ar y gweill, a’r cyfnod gweithredu wedi’i ymestyn hyd at fis Awst 2025, gan adlewyrchu’r dystiolaeth fod angen amser ychwanegol er mwyn cynllunio’n effeithiol ar gyfer anghenion dysgwyr, a’u diwallu - parhaus.
  • Mae arweinwyr gweithredu addysg bellach a chenedlaethol ar waith. Cyflawn.
  • Mae canllawiau gweithredu ar gyfer ymarferwyr, rhieni a phlant, y sector ôl-16 a chanllawiau technegol wedi cael eu cyhoeddi. Mae’r canllawiau bellach yn cael eu diweddaru i adlewyrchu’r cyfnod gweithredu estynedig.
  • Mae penodau craidd, canolradd ac uwch llwybr dysgu proffesiynol ADY ar gael ar Ystorfa – Hwb (llyw.cymru), gyda dim ond dwy bennod olaf y modiwlau uwch ar ôl i’w cyhoeddi - parhaus.
  • Mae sefydlu grŵp cyfranogiad plant a phobl ifanc ar y gweill drwy Plant yng Nghymru, er mwyn cryfhau cyfranogiad dysgwyr, gwella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o weithredu parhaus a sicrhau ystyriaeth i leisiau dysgwyr a rhieni - parhaus.

6 Cyflogaeth a sgiliau

6.1 Gwella mynediad at gyflogaeth, hyfforddiant a chymorth i bobl ag anableddau dysgu i’w galluogi i aros yn y gweithle

Statws: parhaus ac ar y trywydd cywir

Camau gweithredu:

  • Byddwn yn ystyried gwersi a ddysgwyd o’r rhaglen Ymgysylltu i Newid ac yn ymchwilio i gwmpas a dichonoldeb gwasanaeth hyfforddi ar gyfer swyddi cenedlaethol ar y cyd ag Adran Gwaith a Phensiynau’r DU – erbyn haf 2023.
  • Byddwn yn cynnal adolygiad o’r cynllun dysgu o’r cynllun Peilot Cyflogaeth â Chymorth ar Hyfforddeiaethau a rhaglen Twf Swyddi Cymru+ ar ôl iddi ddod i ben ym mis Mawrth 2022.
  • Byddwn yn adolygu’r gefnogaeth sydd eisoes ar gael i gyflogwyr, fel y Pecyn Cymorth Cyflogwyr ar-lein er mwyn sicrhau ei fod yn gyfredol – erbyn mis Ebrill 2023.
  • Byddwn yn gweithio gyda Grwpiau Cyflogaeth Pobl Anabl i gael yr effaith fwyaf ar wella canlyniadau cyflogaeth i bobl anabl – o fis Rhagfyr 2022. 

Ers 2017, mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru wedi cyflwyno portffolio o gystadlaethau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer pobl ifanc ag anableddau ac anawsterau dysgu i herio, meincnodi a mireinio eu sgiliau drwy gymryd rhan mewn cystadlaethau sy’n cwmpasu ystod o sectorau. Mae portffolio’r gystadleuaeth wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, o 6 chystadleuaeth yn 2017 i fwriad i gyflwyno 11 cystadleuaeth yn 2024. Mae’r cystadlaethau’n amrywio o TG a Gwaith Coed i’r Cyfryngau ac Arlwyo a llawer mwy, ac yn denu ymgysylltiad gan bob darparwr addysg bellach yng Nghymru ochr yn ochr â darparwyr hyfforddiant annibynnol a chyflogwyr.

Mae Cymru’n parhau i gefnogi’r drefn cystadlaethau Sgiliau Cynhwysol ledled y DU, ac mae fel arfer yn arwain y ffordd drwy ddarparu esiampl o fodel cyflenwi enghreifftiol. Mae Cymru’n aml yn cyrraedd brig tabl cynghrair y DU am gyfranogiad a llwyddiant mewn cystadlaethau Sgiliau Cynhwysol yn rownd derfynol genedlaethol WorldSkills UK. 

Yn fwy diweddar, mae Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau wedi cydweithio â choleg arbenigol Coleg Elidyr i wella ei bortffolio cyflawni ymhellach. Yn dilyn cyflwyniad llwyddiannus i gystadlaethau sgiliau gyda Choleg Elidyr, mae’r coleg wedi cyflwyno wythnos Sgiliau i gyflwyno cyfres o 4 cystadleuaeth yn fewnol i ddysgwyr.

Cynnydd hyd yma

Cynhaliwyd cynllun treialu Anogwr Cyflogaeth Gefnogol 18 mis gyda’r rhaglen Twf Swyddi Cymru+ gyda’r nodau canlynol:

  • darparu adnoddau i ddatblygu ymwybyddiaeth a hyder ymhellach wrth gefnogi dysgwyr anabl a rhai ag anghenion dysgu ychwanegol;
  • llywio gwell dealltwriaeth o’r garfan o ddysgwyr a fyddai’n elwa fwyaf o ddilyn llwybr dysgu yn unol â’r Model Cyflogaeth Gefnogol; a
  • llywio sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi pobl ifanc ag anableddau dysgu cymedrol i ddifrifol a/neu awtistiaeth i symud tuag at ganlyniadau cadarnhaol, gan gynnwys prentisiaethau cynhwysol a chyflogaeth â thâl.  

Cynhaliwyd gwerthusiad a arweiniodd at wyth argymhelliad, ac rydym wrthi’n ceisio eu gweithredu, ynghyd ag ymgorffori a phrif ffrydio’r gefnogaeth sy’n cael ei chynnig gan yr anogwyr yn y brif raglen. Bydd y gwaith hwn yn cael ei fonitro’n barhaus fel rhan o gyflenwi’r rhaglen, ynghyd â gwerthusiadau yn y dyfodol.

Rydym hefyd wedi ailsefydlu Gweithgor Cyflogaeth Pobl Anabl, grŵp allanol sy’n rhoi cyngor ac arweiniad i Lywodraeth Cymru ar faterion a blaenoriaethau sy’n dod i’r amlwg ar gyfer cyflogi pobl anabl yng Nghymru ac i gynorthwyo gyda’r nod o gynyddu nifer y bobl anabl ym myd gwaith.

6.2 Prentisiaethau â chymorth 

Statws: parhaus ac ar y trywydd cywir

Camau gweithredu:

  • Byddwn yn ymdrechu i gyflawni a chynnal nifer y prentisiaethau a gychwynnir gan ddysgwyr sydd wedi nodi eu hunain fel unigolion ag anabledd / anabledd dysgu ar lefel dros 9% – o 2023 ymlaen.
  • Byddwn yn treialu cynllun rhannu prentisiaeth a gynorthwyir i roi prawf ar addasrwydd ac ymarferoldeb y model cymorth/rhannu ar gyfer prif ffrydio yn y dyfodol – o 2023 ymlaen.
  • Byddwn yn parhau i gynnig cymhellion ariannol i gyflogwyr ddarparu cyfleoedd prentisiaeth i bobl anabl – o fis Ebrill 2022 gydag adolygiad parhaus.

Cynnydd hyd yma:

  • Gyda chefnogaeth y cynllun Cymhellion i Gyflogwyr i gyflogi prentisiaid anabl, mae lefel y prentisiaid sy’n disgrifio eu hunain fel anabl wedi cael ei chadw dros 10% ar gyfer 2021/22. 
  • Ar hyn o bryd, mae rhannu prentisiaeth a gynorthwyir yn y cyfnod profi a dysgu, a chafwyd buddsoddiad sylweddol i weithredu’r systemau cymorth sy’n angenrheidiol i baru unigolion ag anghenion cyflogaeth a dysgu cymhleth gyda lleoliadau gwaith cyflogedig sy’n darparu cyfleoedd dysgu i ddangos cymhwysedd ar gyfer y sgiliau sydd eu hangen i gwblhau’r fframwaith prentisiaeth a ddewiswyd. Mae cyfleoedd gyda byrddau iechyd ar draws Cymru yn cael eu datblygu ar hyn o bryd.
  • Bydd taliadau cymhelliant i gyflogwyr yn cael eu hadolygu ac, os yn briodol, yn parhau tan fis Mawrth 2024.

7 Tai (gan gynnwys darparu cymorth cydgysylltiedig o fewn iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau bod tai priodol yn cael eu darparu, a hynny mor agos â phosibl i gartref yr unigolyn

7.1 Hyrwyddo ymgysylltiad byrddau partneriaeth rhanbarthol â rhanddeiliaid i sicrhau bod llais a barn pobl ag anabledd dysgu yn cael eu cynnwys

Statws: parhaus ac ar y trywydd cywir

Camau gweithredu:

  • Byddwn yn sicrhau bod trefniadau asesu a chynllunio ar gyfer anghenion byrddau partneriaeth rhanbarthol yn cynnwys ymgysylltu ystyrlon â rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys y rhai ag anabledd dysgu.
  • Byddwn yn sicrhau, fel rhan o raglen waith ‘Ailgydbwyso Gofal a Chymorth’ Llywodraeth Cymru, y byddwn yn gweithio gyda’r byrddau partneriaeth rhanbarthol i hyrwyddo a hwyluso cyd-gynhyrchu a chynnwys llais defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr wrth gynllunio a darparu gwasanaethau.

Cynnydd hyd yma:

  • Bydd ymgynghoriad ar ddiwygiadau i Ran 2 y Cod Ymarfer ac i Ran 9 y Canllawiau Statudol ar Drefniadau Partneriaeth yn cael ei lansio ar 22 Mai 2023. Mae’r rhain yn cynnwys diweddaru ac ehangu’r canllawiau ar ymgysylltu, llais a chyd-gynhyrchu ym mhob agwedd ar gynllunio a darparu gwasanaethau, gan gynnwys asesiadau poblogaeth a threfniadau cynllunio.  
  • Mae’r grŵp gorchwyl a gorffen ar ymgysylltu a llais yn paratoi deunyddiau arfer da pellach ar gyd-gynhyrchu i’w defnyddio gan fyrddau partneriaeth rhanbarthol.

7.2 Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol

Statws: ar y trywydd cywir

Camau gweithredu:

  • Byddwn yn gweithio gyda byrddau partneriaeth rhanbarthol i sicrhau bod anghenion a safbwyntiau pobl ag anableddau dysgu yn cael eu hystyried yn llawn wrth gydgysylltu rhaglenni refeniw a chyfalaf newydd y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol yn y dyfodol.

Cynnydd hyd yma:

  • Wrth gynllunio pob model gofal integredig cenedlaethol, mae’n rhaid i fyrddau partneriaeth rhanbarthol ystyried sut y byddant yn diwallu anghenion penodol grwpiau poblogaeth y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol. Nodwyd y grwpiau poblogaeth hyn yn grwpiau blaenoriaeth ar gyfer gwasanaeth integredig o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac maent yn cynnwys ‘pobl ag anableddau dysgu, cyflyrau niwroamrywiol a chyflyrau niwroddatblygiadol’.
  • Mae’r gronfa yn adeiladu ar egwyddorion a blaenoriaethau Anabledd Dysgu: Rhaglen Gwella Bywydau (2018 i 2021); lleihau anghydraddoldebau iechyd, cynyddu integreiddio cymunedol a gwella systemau cynllunio ac ariannu.
  • Ym mlwyddyn gyntaf y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol, rhoddwyd 62 o brosiectau ar waith gan y saith bwrdd partneriaeth rhanbarthol lle’r oedd ‘pobl ag anableddau dysgu, cyflyrau niwroamrywiol a chyflyrau niwroddatblygiadol’ yn cael eu nodi fel grŵp poblogaeth a oedd yn elwa ar y prosiectau trawsnewid.
  • Byddwn yn parhau i weithio gyda byrddau partneriaeth rhanbarthol i sicrhau bod anghenion a safbwyntiau pobl ag anableddau dysgu yn cael eu hystyried yn llawn wrth gydlynu rhaglenni refeniw a chyfalaf newydd y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol yn y dyfodol, ac rydym ar hyn o bryd yn adolygu adroddiadau diwedd y flwyddyn gyda’r bwriad o gyhoeddi adroddiad refeniw blynyddol maes o law.

7.3 Tai a llety – llais a rheolaeth wrth wneud penderfyniadau

Statws: coch

Camau gweithredu:

  • Rydym wedi cyhoeddi canllawiau i fyrddau partneriaeth rhanbarthol ynghylch y Gronfa Tai â Gofal (Y Gronfa Tai â Gofal (CTG) Canllaw 2022 i 2023 Mai 2022 (llyw.cymru) i sicrhau ein bod yn parhau i fuddsoddi mewn tai a llety i bobl ag anableddau dysgu i gefnogi byw’n annibynnol; cynyddu’r ddarpariaeth o dai a llety yn agos at eu cartrefi a lleihau nifer y lleoliadau y tu allan i’r sir; a sicrhau bod preswylwyr a defnyddwyr gwasanaethau yn cymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.
  • Mae’r Gronfa Tai â Chymorth yn cefnogi blaenoriaethau rhaglen Gwella Bywydau Anabledd Dysgu a’r cynllun gweithredu ar gyfer anabledd dysgu, ac mae’r canllawiau’n nodi y dylai comisiynwyr llety ar gyfer byw’n annibynnol i bobl ag anableddau dysgu ddilyn y canllawiau “Comisiynu Llety a Chefnogaeth ar gyfer Bywyd Da i Bobl ag Anabledd Dysgu” a gyhoeddwyd gan y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol yn 2019, Arweiniad.pdf (ldw.org.uk). Mae’r canllawiau hyn yn pwysleisio hawliau, dewis, rheolaeth a chynhwysiant.
  • Byddwn yn monitro ac yn gwerthuso effaith ac effeithiolrwydd y rhaglenni a’r canllawiau hyn.

Cynnydd hyd yma

Ni ddarparwyd unrhyw ddiweddariad.

8 Trafnidiaeth

8.1 Gwella trafnidiaeth gyhoeddus

Statws: ambr

Camau gweithredu:

  • Wrth ddatblygu Strategaeth Drafnidiaeth Cymru buom yn gweithio’n agos â phob grŵp sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig gan gynnwys y rhai ag anableddau dysgu. O ganlyniad i’r trafodaethau hynny, gosodwyd hygyrchedd yn biler allweddol yn y strategaeth. Rydym wedi datblygu llwybr cydraddoldeb fel rhan o’r Cynllun Cyflenwi Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth. Byddwn yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad 12 wythnos presennol ac yn datblygu cynigion pellach yn unol â hynny – o hydref 2022.
  • Yn amodol ar sêl bendith Gweinidogol, byddwn yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i ddatblygu grwpiau rhanddeiliaid cydraddoldeb i gynghori ynghylch cyflwyno, o safbwynt polisi a gweithrediadau ac i gynnal cynllun peilot ar gyfer gyrwyr bysiau i godi eu hymwybyddiaeth o gydraddoldeb a hygyrchedd.

Cynnydd hyd yma:

  • Mae’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2023, yn cynnwys nifer o gamau gweithredu penodol a fydd yn cynyddu hygyrchedd a diogelwch pobl sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys hygyrchedd corfforol ynghyd â sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar wybodaeth am deithio mewn nifer o fformatau a chael cymorth wrth deithio drwy orsafoedd a chyfnewidfeydd.
  • Mae swyddogion yn gweithio i gefnogi Tasglu Hawliau Anabledd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, sydd â ffrwd waith benodol sy’n canolbwyntio ar deithio. Hyd yma, mae’r gweithgor wedi cyfarfod deirgwaith allan o gyfanswm o bedwar cyfarfod (gyda’r gallu i gael cyfarfod ychwanegol os teimlir bod angen hynny). Bydd canfyddiadau’r tasglu hwn yn cael eu cyflwyno i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd weithredu arnynt. Mae’r tasglu yn cynnwys pobl sydd â phrofiad byw o anabledd, gan gynnwys anabledd dysgu.
  • Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, rydym yn datblygu’r llwybr cydraddoldeb a fydd yn cyfuno’r ymrwymiadau a wnaed yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru o ran materion hygyrchedd, cynhwysiant a chydraddoldeb gyda’r camau y byddwn yn eu cymryd i’w cyflawni.