Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r cynllun sy'n ategu'r Cynllun Gweithredu Economaidd a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn amlinellu'r pedwar cam gweithredu i wella cyflogadwyedd...

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Tra bo'r cyfraddau diweithdra yng Nghymru yn gymharol isel ar 5.0 y cant ac yn debyg iawn i'r cyfraddau yn y Deyrnas Unedig, mae bron i chwarter nifer yr oedolion yng Nghymru sydd mewn oedran i weithio (24.3 y cant) yn economaidd anweithgar - heb fod yn ddi-waith nac ar gael i weithio - o'u cymharu â 22.0 ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan. Nod y cynllun yw mynd i'r afael â hyn yn ogystal â gosod gweledigaeth hirdymor i sicrhau y bydd gan weithwyr y dyfodol y sgiliau sydd eu hangen ar fusnesau.

Mae'r cynllun a gafodd ei lansio heddiw gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan yn amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r rhai hynny sydd ymhellach o'r farchnad lafur, y rhai hynny sy'n economaidd anweithgar a'r rheini sydd mewn perygl o gael eu diswyddo, yn eu hymgais i chwilio am waith. Diben y cynllun sy'n dwyn ynghyd ac yn adeiladu ar waith nifer o raglenni sydd eisoes yn bodoli megis Cymunedau am Waith, PaCE, Twf Swyddi Cymru, ReAct, Swyddi Gwell yn Nes at Adref ac Esgyn, yw cefnogi pobl i ddatblygu'r sgiliau a'r hyder i ddod o hyd i waith ac i aros mewn gwaith a hefyd i sicrhau y gall cyflogwyr ddod o hyd i'r sgiliau sydd eu hangen arnynt er mwyn i'w busnes ffynnu.

Mae'r cynllun sy'n ategu'r Cynllun Gweithredu Economaidd a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn amlinellu'r pedwar cam gweithredu i wella cyflogadwyedd sef:

  • Dull unigolyddol o fynd ati i gynnig cymorth i hybu cyflogadwyedd sy'n ymateb i anghenion unigolion ac yn ystyried amgylchiadau personol, rhwystrau, ymagweddau ac uchelgeisiau.
  • Rhoi cymorth i gyflogwyr gynnig gwaith sy'n gynhwysol ac yn deg gan dynnu sylw hefyd at eu cyfrifoldeb i wella sgiliau eu staff. Bydd hyn yn ei dro yn golygu y bydd cyflogadwyedd unigolyn a'i sgiliau yn gwella gyda golwg ar sicrhau cyfle i fynd yn ei flaen yn y byd gwaith a lleihau'r perygl y bydd y teulu yn byw mewn tlodi.
  • Ymateb i’r bylchau sy’n bodoli ar hyn o bryd o ran sgiliau a’r bylchau a ragwelir at y dyfodol er mwyn addasu i'r newidiadau parhaus yn y farchnad ac mewn cymdeithas.
  • Paratoi ar gyfer newidiadau mawr yn y byd gwaith i sicrhau bod y gweithlu yn barod am yr heriau a'r cyfleoedd a fydd yn ei wynebu yfory megis awtomeiddio, deallusrwydd artiffisial a roboteg.

Dywedodd y Gweinidog:

"Heddiw, mae gan Gymru lefel gymharol isel o ddiweithdra ond mae lefelau anweithgarwch economaidd wedi aros yn uchel ers tro byd er gwaetha'r ymdrechion sylweddol a wnaed yn hyn o beth. Nid oes amheuaeth y byddai lefelau diweithdra, yn arbennig ymhlith pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn uwch oni bai am ymyrraeth sylweddol gan Lywodraeth Cymru ond fe allwn ni wneud mwy ac mae angen i ni wneud mwy.

"Mae tlodi yn dal i fod yn felltith yn ein cymdeithas yng Nghymru, ond cyflogaeth yw'r ffordd fwyaf cynaliadwy allan o dlodi ac mae datblygu sgiliau'n rhan hanfodol o hyn. Gorau'n byd yw sgiliau pobl, gorau'n byd fydd eu cyfle o gael gwaith sy'n deg ac yn ddiogel ac a fydd yn rhoi boddhad iddynt. Yn ogystal â hynny, cadarna’n byd yw ein sylfaen sgiliau, mwya'n byd o gyfle sydd gennym o ddenu busnesau newydd a thyfu'r rhai sydd gennym ar hyn o bryd i gynyddu cyfleoedd i gael swyddi a gwella ffyniant.

"Mae llawer o heriau o'n blaen. Mae ein poblogaeth yn heneiddio, mae technoleg yn datblygu'n gyflymach nag erioed ac mae'r ansicrwydd gwleidyddol ac economaidd ynghylch Brexit yn golygu y bydd yna effaith niweidiol ar ein marchnad lafur a'n heconomi.

"Mae'r cynllun cyflogadwyedd hwn yn amlinellu sut y bwriadwn wynebu'r heriau hyn nid yn unig i ymdopi â'r hyn fydd yn cael ei daflu atom ond i ddod allan y pen draw yn gryfach. Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Bydd angen ymdrech fawr ar ran awdurdodau lleol, addysg bellach a darparwyr hyfforddiant preifat, y trydydd sector, cyflogwyr ac wrth gwrs unigolion, ond gyda'n gilydd gallwn achub ar y cyfle i wella ffyniant Cymru."