Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Rhaglen Lywodraethu wedi blaenoriaethu’r Warant i Bobl Ifanc fel blaenoriaeth allweddol ar gyfer chweched tymor y Senedd, er mwyn lliniaru effeithiau anghymesur pandemig COVID-19 ar blant a phobl ifanc o dan 25 oed. Y bwriad yw sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl nac yn cael ei ddal yn ôl o ganlyniad i bandemig COVID-19.

Mae’r ymrwymiad hwn i bobl ifanc yn un o 5 maes gweithredu allweddol o fewn y Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau, dros dymor y llywodraeth hon.

Disgrifiwch ac esboniwch effaith y cynnig ar blant a phobl ifanc

Mae’r Warant i Bobl Ifanc yn rhaglen uchelgeisiol gyda’r bwriad o ddarparu cynnig o gymorth i bawb sydd o dan 25 oed yng Nghymru i’w cynorthwyo i gael gwaith, hyfforddiant neu hunangyflogaeth. Gyda’r gwarant hwn, rydym am sicrhau nad oes cenhedlaeth goll yma yng Nghymru.

Mae cefnogi pobl ifanc i gael addysg a symud ymlaen mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant, yn ymrwymiad allweddol i liniaru risg unrhyw effeithiau hirdymor yn sgil yr amharu a fu ar addysg, oedi o ran cael mynediad i’r farchnad lafur, ffyrlo neu ddiweithdra o ganlyniad i COVID-19.

Mae angen i ni roi gobaith i blant a phobl ifanc ar gyfer y dyfodol a sicrhau nad ydynt yn cael eu gadael ar ôl. Mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn rhoi cefnogaeth i blant â phobl ifanc i gael y sgiliau a’r profiadau sydd eu hangen arnynt i lwyddo, boed hynny mewn cyflogaeth, addysg neu ddechrau eu busnes eu hunain.

Mae meithrin cenhedlaeth o dalentau ifanc, a chychwyn pobl mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant, yn hanfodol i godi dyheadau a chreu cyfleoedd yn enwedig ar gyfer y bobl hynny y mae diweithdra wedi ei wreiddio yn y teulu, er mwyn atal datgysylltiad o’r farchnad lafur ac effeithiau niweidiol bod yn anweithgar am gyfnodau.

Lle bo’n bosibl, bydd ein dull gweithredu yn ceisio atal yr angen i bobl ifanc gael mynediad at y system lles, sydd â risgiau o ran dibyniaeth glinigol tymor hwy, ac yn hytrach na hynny yn rhoi cefnogaeth i bobl gael gwaith, hunangyflogaeth, addysg neu hyfforddiant yn y tymor byr. Mae hyn yn ychwanegol at atal ac adfer dysgu coll o ganlyniad i’r amharu a ddaeth yn sgil COVID-19 mewn ysgolion, lleoliadau a cholegau.

Esboniwch sut y mae’r cynnig yn debygol o gael effaith ar hawliau plant

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn gytundeb rhyngwladol sy’n diogel hawliau dynol plant a phobl ifanc o dan 18 oed.

Mae’r Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau yn ceisio cefnogi Erthyglau 2, 3, 13, 23, 28, 29, 30 and 32 drwy hybu tegwch o ran mynediad at wybodaeth, cyfleoedd a dilyniant mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth deg. Mae hyn yn cynnwys camau wedi’u targedu i gefnogi pobl anabl yn unol â’r Model Cymdeithasol o Anabledd, hawl pobl ifanc i ddefnyddio iaith eu teulu a hybu dull unigol o gefnogi pobl ifanc i gyrraedd eu potensial.