Neidio i'r prif gynnwy

Astudiaeth ymchwil yn asesu effaith y Cynllun Cymhell Cyflogwyr ar gefnogi busnesau i greu prentisiaethau i bobl ifanc 16 i 19 oed.

Roedd y Cynllun Cymell Prentisiaethau i Gyflogwyr yn annog busnesau bach a chanolig (BBaCh) i recriwtio pobl ifanc 16 i 19 oed.

Cyflwynwyd y cynllun gan rwydwaith o ddarparwyr ledled Cymru. Derbyniodd cyflogwyr a gymerodd ran daliad cymhelliant gan eu darparwr wyth mis ar ôl recriwtio prentis, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae canfyddiadau'r astudiaeth yn ymwneud â phum thema.

Canfyddiadau darparwyr a chyflogwyr am y Cynllun Cymell

Yn gyffredinol, cafodd y grant dderbyniad da gan gyflogwyr. Roedd llawer yn teimlo bod Llywodraeth Cymru yn ‘rhoi rhywbeth yn ôl’ i fusnesau bach a chanolig. Yn aml, roedd y grant yn cael ei ystyried fel un budd yn unig o'r cynllun. Roedd llawer o gyflogwyr hefyd wir yn gwerthfawrogi'r berthynas a gafwyd gyda'r darparwr.

Barn y mwyafrif o ddarparwyr oedd bod y dirwedd brentisiaeth yng Nghymru yn weddol fywiog ar adeg cyflwyno'r cynllun. Felly, roedd llawer yn teimlo y gallai'r cronfeydd fod wedi cael eu defnyddio'n well mewn mannau eraill, megis cefnogi anghenion datblygu prentisiaid presennol.

Gwybodaeth am y Cynllun Cymell

At ei gilydd, roedd cyflogwyr yn fodlon ag ansawdd ac argaeledd gwybodaeth cyn gwneud cais am y cynllun.

Roedd darparwyr yn gyffredinol gadarnhaol am ansawdd ac eglurder gwybodaeth am y cynllun a gawsant gan Lywodraeth Cymru.

Roedd rhai darparwyr yn betrusgar i hyrwyddo'r cynllun yn weithredol rhag ofn iddo ddenu cyflogwyr sydd â diddordeb yn y cymhelliant ariannol yn unig. Yn yr achosion hyn, rhannodd darparwyr wybodaeth am y cynllun â chyflogwyr a oedd eisoes wedi dangos diddordeb mewn recriwtio prentis.

Y broses ymgeisio a thaliad

Yn gyffredinol, roedd cyflogwyr yn fodlon â'r prosesau ymgeisio a thalu.

Teimlai rhai darparwyr fod amser a chost gweinyddu'r cynllun yn sylweddol. Roedd hyn yn tueddu i fod y rheini â nifer fawr o gyflogwyr yn cymryd rhan yn y cynllun.

Barnau am elfennau strwythurol y Cynllun Cymell

Roedd y rhan fwyaf o gyflogwyr o'r farn bod swm y taliad (£2,500 yn safonol neu £3,500 os yw'r prentis yn cychwyn o Orffennaf-Medi neu Ionawr-Mawrth) yn briodol.

Fodd bynnag, prin oedd y gefnogaeth i'r dull dwy haen. Credai cyflogwyr a darparwyr nad oedd wedi bod yn arwyddocaol wrth gymell recriwtio ar adegau penodol o'r flwyddyn.

Yn gyffredinol, roedd darparwyr a chyflogwyr yn cefnogi aros wyth mis ar ôl recriwtio i ryddhau'r taliad cymhelliant. Roeddent yn teimlo ei fod yn sicrhau nad oedd y cynllun yn manteisio ar gyflogwyr.

Effaith a boddhad

Llwyddodd y cynllun i ddenu cyflogwyr sy'n newydd i brentisiaethau. Ni fyddai llawer o gyflogwyr a gymerodd ran wedi cyflogi prentis heb gefnogaeth y cynllun.

Roedd mwyafrif y cyflogwyr yn gadarnhaol ynghylch eu rhan yn y cynllun. Byddai'r mwyafrif yn debygol o gyflogi prentisiaid yn y dyfodol.

Cafodd llawer o brentisiaid gyfle i gael gwaith parhaol o ganlyniad i'w cyflogwyr gymryd rhan yn y cynllun.

Adroddiadau

Astudiaeth ymchwil: Cynllun Cymell Prentisiaethau i Gyflogwyr , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Hannah Smith

Rhif ffôn: 0300 062 2038

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.