Yn esbonio pwy sy'n gymwys i gael y cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon ar gyfer rhai o gymunedau ethnig lleiafrifol a sut i wneud cais.
Cynnwys
Trosolwg
Mae'r grant cymhelliant AGA hwn yn adlewyrchu’r blaenoriaethau recriwtio presennol yn gweithlu addysgu. Nod y cynllun yw cynyddu nifer yr athrawon sydd o gymunedau ethnig lleiafrifol, fel bod dysgwyr yn cael profiad dysgu mwy amrywiol. Mae’n cefnogi ein uchelgais ar gyfer Cymru Wrth-hiliol.
Mae’r cynllun yn darparu grant o £5,000 ar gyfer athrawon dan hyfforddiant. I fod yn gymwys, rhaid eich bod yn astudio ar gyfer Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC). Rhaid i chi hefyd fodloni'r holl feini prawf cymhwystra.
Mae'r canllawiau hyn yn ymwneud â blwyddyn academaidd 2026 i 2027. Gallwch wneud cais os ydych ar raglen AGA sy’n arwain at SAC rhwng 1 Medi 2026 a 31 Awst 2027.
Dylech ddarllen y canllawiau hyn ochr yn ochr â thelerau ac amodau’r cynllun.
Meini prawf cymhwystra ar gyfer y Cynllun Cymhelliant AGA i’r Rhai o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol
Gallwch wneud cais os ydych:
- yn dilyn tystysgrif addysg i raddedigion sy’n achrededig ac sy’n arwain at SAC
ac - yn bodloni meini prawf cymhwystra’r cymhelliant
Mae’r cymhelliant ar gael i fyfyrwyr amser llawn a rhan-amser.
Mae’n bosibl na fyddwch yn gallu cael y cymhelliant hwn os yw’r nifer targed ar gyfer y rhaglen wedi’i gyrraedd. Dylech ofyn i’ch darparwr am gadarnhad nad yw hyn yn effeithio arnoch chi.
Pwy sy'n gymwys
I fod yn gymwys i gael Grant Cymhelliant AGA i’r Rhai o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol, rhaid i chi:
- fod yn dilyn rhaglen gymwys yng Nghymru a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi ond cyn 31 Awst y flwyddyn astudio
- bod yn gymwys am gymorth ariannol o dan reoliadau sydd mewn grym ar hyn o bryd o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998
- peidio â bod yn athro cymwysedig eisoes wrth ddechrau astudio tuag at SAC
- peidio â bod wedi’ch cyflogi i addysgu mewn ysgol neu sefydliad arall fel athro neu athrawes wrth ddechrau ar raglen AGA ôl-raddedig gymwys
- peidio â bod yn dilyn hyfforddiant a drefnwyd o dan gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth. Mae hyn yn cynnwys y TAR cyflogedig
- bodloni’r meini prawf cymhwystra ar gyfer y taliadau
- uniaethu â grŵp ethnig leiafrifol o dan un o’r grwpiau cymwys a datgan hynny i'ch partneriaeth AGA
Ethnigrwydd a grwpiau ethnig sy’n gymwys ar gyfer y cynllun hwn
Asiaidd:
- Bangladeshaidd neu Fangladeshaidd Prydeinig
- Tsieinïaidd neu Dsieinïaidd Prydeinig
- Indiaidd neu Indiaidd Prydeinig
- Pacistanaidd neu Bacistanaidd Prydeinig
- Unrhyw gefndir Asiaidd arall
Du, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd:
- Affricanaidd neu Affricanaidd Prydeinig
- Caribïaidd neu Garibïaidd Prydeinig
- Unrhyw gefndir Du arall
Grwpiau cymysg neu aml-ethnig:
- Gwyn neu Wyn Prydeinig ac Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig
- Gwyn neu Wyn Prydeinig a Du Affricanaidd neu Ddu Affricanaidd Prydeinig
- Gwyn neu Wyn Prydeinig a Du Caribïaidd neu Ddu Caribïaidd Prydeinig
- Unrhyw gefndir Cymysg neu Aml-ethnig arall (lle mae o leiaf un o’r cefndiroedd cymysg neu aml-ethnig o fewn y categorïau ethnigrwydd neu grwpiau ethnig sy’n gymwys ar gyfer y cymhelliant hwn)
Gwyn:
- Sipsiwn neu Deithwyr Gwyddelig
- Roma
- Iddewig
Grŵp ethnig arall:
- Arabaidd
- Cwrdaidd
Os oes gennych gwestiynau ynghylch cymhwysedd, dylech eu trafod gyda’ch partneriaeth AGA.
Cyrsiau nad ydynt yn gymwys ar gyfer y grant hwn
Nid yw myfyrwyr sy'n ymgymryd ag unrhyw gynllun hyfforddi athrawon sy’n seiliedig ar gyflogaeth yn gymwys. Mae hyn yn cynnwys y 'cynllun TAR Cyflogedig'.
Nid yw myfyrwyr ar raglenni sy'n eu galluogi i addysgu yn y sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (TAR AHO) yn gymwys.
Sut i wneud cais
Cysylltwch â’ch partneriaeth AGA os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am y cynllun hwn. Byddant:
- yn trafod gyda chi p’un a ydych yn gymwys
- yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych
- yn rhoi arweiniad ichi ar y broses gais.
Gallant hefyd eich helpu gyda’ch cais.
Gallwch wneud cais rhwng 1 Medi a 15 Tachwedd 2026.
Datganiad y myfyriwr a gwneud cais
Rydym yn gofyn i fyfyrwyr sy’n gwneud cais am y Grant Cymhelliant AGA i’r Rhai o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol am wybodaeth am eu hethnigrwydd. Gwneir hyn er mwyn:
- sefydlu p’un a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun
- deall yr amrywiaeth gyffredinol sydd o fewn y garfan o fyfyrwyr
- ceisio amcangyfrif amrywiaeth gweithlu'r dyfodol
Gofynnwn ichi ddewis o blith rhestr o grwpiau ethnig sy'n adlewyrchu'r rhai a ddefnyddir gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch. Mae hyn yn sicrhau dull cyson o ddeall amrywiaeth ethnig o fewn addysg uwch.
Gweinyddir y cynllun hwn gan Lywodraeth Cymru ac ar ran Llywodraeth Cymru gan Bartneriaethau AGA.
Mae adran Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi manylion am yr hyn a wnawn â gwybodaeth.
Bydd eich partneriaeth AGA yn rhoi arweiniad ichi ar y broses gais.
Sut y cewch eich talu
O dan y cynllun hwn, mae grant cymhelliant o £5,000 ar gael i bob myfyriwr sy'n bodloni’r meini prawf cymhwysedd.
Gwneir y taliadau cymhelliant o £5,000 mewn 2 randaliad. Cânt eu talu ar yr adegau canlynol:
- £2,500 ym mis Gorffennaf neu Awst ar ôl cwblhau TAR yn llwyddiannus a dyfarnu SAC. Pan fydd myfyriwr yn cael ei asesu gan fwrdd arholi sy’n delio ag ail geisiadau, bydd y taliadau yn cael eu gwneud cyn 31 Rhagfyr
- £2,500 ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus yng Nghymru
Cymhwystra am daliadau a sut i’w hawlio
Y rhandaliad SAC
I fod yn gymwys ar gyfer y rhandaliad SAC, rhaid ichi:
- fod wedi cwblhau eich rhaglen addysg gychwynnol athrawon
- bod wedi cael Statws Athro Cymwysedig
Byddwch yn derbyn eich rhandaliad SAC gan eich partneriaeth AGA. Byddant yn penderfynu ar yr union ddyddiad. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau atyn nhw.
Ni fydd gan fyfyrwyr sy’n methu ag ennill SAC hawl i gael y cymhelliant hwn.
Y rhandaliad sefydlu
I fod yn gymwys i gael y rhandaliad sefydlu, ar ôl cwblhau’r broses sefydlu, rhaid i athro newydd gymhwyso:
- fod wedi bodloni'r gofynion cymhwysedd ar gyfer y cynllun hwn
- bod wedi derbyn y rhandaliad SAC
- bod wedi cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus o fewn 3 blynedd ar ôl ennill SAC mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, fel sy’n ofynnol o dan Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015
- bod wedi cael tystysgrif sefydlu
- gwneud cais am y rhandaliad sefydlu o fewn blwyddyn i gwblhau ei gyfnod sefydlu
Bydd eich partneriaeth AGA yn rhoi gwybodaeth ichi ynghylch sut i wneud cais. Bydd yn gwneud hyn unwaith y byddwch wedi cwblhau eich rhaglen AGA ac ar ôl dyfarnu SAC ichi. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau at CymelldaliadauAGA@llyw.cymru.
Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am brosesu a thalu’r rhandaliad sefydlu. Bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu ar union ddyddiad y taliad.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn gwneud cais o fewn yr amserlen a neilltuwyd.
Gohirio, tynnu'n ôl ac ailgydio
Os byddwch yn gadael rhaglen AGA gymwys cyn ei chwblhau a chyn dyfarnu SAC, ni fydd hawl gennych i’r cymhelliant hwn.
Os byddwch:
- yn ailgydio mewn rhaglen gymwys
- yn dechrau rhaglen gymwys, ar ôl ei gohirio
gwneir taliadau ar yr un gyfradd a oedd yn weithredol y flwyddyn academaidd pan wnaethoch ddechrau neu pan wnaethoch ohirio, oni bai bod Gweinidogion Cymru yn cytuno fel arall yn ysgrifenedig.
Dychwelyd at Raglen AGA ar ôl Medi 2022
Os:
- gwnaethoch ddechrau eich rhaglen AGA cyn Medi 2022
- rydych yn dychwelyd i gwblhau eich rhaglen ar neu ar ôl 1 Medi 2022
nid ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun cymhelliant hwn.
Talu’r rhandaliad SAC
Os byddwch yn gohirio eich astudiaethau cyn ennill SAC, ni fyddwch yn gymwys i gael y rhandaliad SAC. Fodd bynnag, os byddwch yn ailgydio yn eich astudiaethau ac yn ennill SAC, bydd gennych hawl i’r taliad pan ddyfernir SAC ichi. Gwneir y taliad ar ôl cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy'n arwain at SAC (ar ôl dyfarnu SAC). Gwneir y taliad yn unol â'r amodau hyn.
Os byddwch yn ailgydio mewn rhaglen AGA mewn blwyddyn academaidd wahanol, bydd angen llenwi ffurflen ddychwelyd. Siaradwch â’ch partneriaeth AGA. Caiff yr wybodaeth ar y ffurflen a ddaw i law ei rhannu â phartneriaethau AGA a Llywodraeth Cymru.
Ni fydd gan fyfyrwyr nad ydynt yn ennill SAC ar ddiwedd eu rhaglen AGA hawl i gael y rhandaliad SAC.
Talu’r rhandaliad sefydlu
Os ydych yn gymwys i gael y cymhelliant hwn ac wedi ennill SAC, ond nad ydych yn cwblhau eich proses sefydlu, ni fydd hawl gennych i gael y taliad hwn.
Rhaid cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru.
Rhaid cwblhau'r broses sefydlu yn llwyddiannus o fewn 3 blynedd i ennill SAC.
Adennill grantiau
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i adennill grantiau a dalwyd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol. Mae ganddynt ddisgresiwn i arfer y pwerau hyn ai peidio, a byddant yn ystyried pob achos yn ôl ei deilyngdod.
Dyma sefyllfaoedd pan ganiateir i’r pwerau hyn gael eu harfer gan Weinidogion Cymru:
- os bydd y derbynnydd, ar ôl cael unrhyw randaliad o grant cymhelliant, yn methu â bodloni unrhyw feini prawf cymhwysedd a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru ac a nodir yn nhelerau ac amodau’r cynllun neu yn y canllawiau hyn mewn perthynas â rhandaliad dilynol
- os yw’r derbynnydd, yn ei gais am grant, neu mewn cysylltiad â’r cais hwnnw, wedi darparu gwybodaeth ffug neu wybodaeth sy’n gamarweiniol mewn ffordd berthnasol
- os oes tystiolaeth ddigamsyniol nad oedd y derbynnydd erioed wedi bwriadu cwblhau'r rhaglen neu nad oedd yn fwriad ganddo, ar ôl ei chwblhau, fynd i addysgu
Diogelu data a Rhyddid gwybodaeth
Mae’r wybodaeth y mae myfyrwyr yn ei chyflwyno, fel rhan o'u hawliad o dan Gynllun Cymhelliant AGA o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (“y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth"), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (yr "EIR"), Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018 (“y Ddeddf Diogelu Data").
Mae myfyrwyr hefyd yn cydnabod mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu yn ôl ein disgresiwn llwyr:
- a ddylid datgelu unrhyw wybodaeth yr ydym wedi’i chael o dan neu mewn cysylltiad â’r Cyllid i’r graddau y mae’n ofynnol inni ddatgelu gwybodaeth o’r fath i berson sy’n gwneud cais am ddatgeliad o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r EIR a/neu
- a yw unrhyw wybodaeth wedi’i heithrio rhag cael ei datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r EIR
- a ddylid cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych. Mae angen y gwiriadau hyn i brosesu data personol amdanoch i asiantaethau atal twyll trydydd parti.
Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol y mae'n ei chael. Bydd unrhyw ddata personol a gasglwn yn cael ei reoli yn unol â'n Hysbysiad Preifatrwydd a’n 'Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru'.
Grantiau cymhelliant AGA eraill sydd ar gael
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu 3 chynllun cymhelliant sydd ar gael i fyfyrwyr AGA.
Bydd partneriaethau AGA yn gweithio gyda’u myfyrwyr i helpu i nodi pwy sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer pob cynllun. Efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer mwy nag un cynllun. Nid yw’r ffaith eich bod yn gymwys o dan un cynllun yn effeithio ar eich cymhwysedd ar gyfer cynlluniau cymhelliant AGA eraill. Mae’n bosibl derbyn cyllid grant o dan bob un o’r 3 chynllun cymhelliant. Rhaid bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer pob cynllun unigol.
Gall eich Partneriaeth AGA eich helpu i ddarganfod p’un a ydych yn gymwys ar gyfer cynllun cymhelliant. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau atyn nhw.
Yr effaith ar unrhyw gymorth ariannol arall
Treth
Fel rheol, ni chaiff grantiau cymhelliant ar gyfer myfyrwyr llawn-amser eu trethu.
Efallai y trethir y rhandaliad sefydlu yn achos unigolion sy’n gweithio.
Gallwch ofyn i Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi am gyngor ynghylch eich union amgylchiadau chi.
Cymorth ariannol i fyfyrwyr
Ni ystyrir grant cymhelliant yn rhan o incwm aelwyd at ddibenion darpariaethau cyllid myfyrwyr. Ni ddylid cynnwys grantiau wrth gyfrifo incwm trethadwy nas enillwyd.
Dylech ofyn i’ch darparwr cyllid myfyrwyr am gyngor ynghylch eich union amgylchiadau chi.
Ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr
Yn achos myfyrwyr llawn-amser, ni fydd y grant yn arwain at orfod ad-dalu benthyciad myfyriwr.
Yn achos myfyrwyr rhan-amser, bydd yn dibynnu p’un a yw eich cyflog gwaith yn ddigon uchel ichi fod angen ad-dalu benthyciad myfyriwr.
Mae’n bosibl y bydd y rhandaliad sefydlu yn arwain at orfod ad-dalu benthyciad myfyriwr. Bydd yn dibynnu p’un a yw eich cyflog gwaith yn ddigon uchel.
Yr effaith ar fudd-daliadau
Bydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.
Dylech ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau am gyngor.
Yr effaith ar bensiynau
Nid yw’r grant cymhelliant yn bensiynadwy.
Manylion cyswllt
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â’ch partneriaeth AGA.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am y taliad sefydlu, cysylltwch â CymelldaliadauAGA@llyw.cymru
