Neidio i'r prif gynnwy

Yn esbonio pwy sy'n gymwys i gael y cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol a sut i wneud cais.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae'r cynllun hwn wedi bod ar gael ers Medi 2022. Mae’n cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru Wrth-hiliol. Nod y cynllun yw cynyddu nifer yr athrawon sydd o gymunedau ethnig lleiafrifol, fel bod dysgwyr Cymru yn cael profiad dysgu mwy amrywiol.

Mae’r cynllun hwn yn darparu grant o £5,000. Gall myfyrwyr cymwys sy’n dilyn Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) sy’n arwain at SAC wneud cais. Rhaid i fyfyrwyr fodloni'r meini prawf.

Nid yw myfyrwyr sy'n ymgymryd ag unrhyw Gynllun Hyfforddi Athrawon ar sail Cyflogaeth yn gymwys. Mae hyn yn cynnwys y ‘cynllun TAR Cyflogedig’.

Nid yw’r cynllun hwn yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni hyfforddi sy'n eu galluogi i addysgu yn y Sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol.

Mae'r canllawiau hyn yn ymwneud â blwyddyn academaidd 2024 i 2025.

Bydd Cynllun 2024 yn weithredol ar 1 Medi 2024. Gall myfyrwyr cymwys sy’n dechrau rhaglenni AGA sy’n arwain at SAC rhwng 1 Medi 2024 a 31 Awst 2025 wneud cais.

Dylech ddarllen y canllawiau hyn ochr yn ochr â’r cynllun cyfreithiol sy’n ymwneud â’r flwyddyn astudio berthnasol. Mae’r rhain yn amlinellu gofynion statudol y cynllun.

Meini prawf cymhwysedd ar gyfer y Cynllun Cymhelliant AGA o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol

Mae grantiau cymhelliant AGA yn adlewyrchu’r blaenoriaethau recriwtio cyfredol o fewn y gweithlu addysgu yng Nghymru. Gall myfyrwyr o gefndir amrywiol wneud cais:

  • os ydynt yn dilyn tystysgrif addysg i raddedigion, sy’n achrededig ac sy’n arwain at SAC
    ac
  • os ydynt yn bodloni meini prawf y grant.

Mae gan Weinidogion Cymru ddisgresiwn i beidio â thalu grant cymhelliant i fyfyriwr os yw’r nifer targed ar gyfer y rhaglen wedi’i gyrraedd. Dylech ofyn i’ch darparwr am gadarnhad nad yw hyn yn effeithio arnoch chi.

Rhaglenni cymwys

Mae rhaglen yn gymwys os yw’n rhaglen AGA TAR yng Nghymru, sydd wedi'i hachredu, ac sy'n arwain at SAC.

Pwy sy'n gymwys

I fod yn gymwys i gael Grant Cymhelliant AGA o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol, rhaid i fyfyriwr:

  • fod wedi dilyn rhaglen gymwys yng Nghymru a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi ond cyn 31 Awst y flwyddyn astudio
  • bod yn gymwys am gymorth ariannol o dan reoliadau sydd mewn grym ar hyn o bryd o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998
  • peidio â bod yn athro cymwysedig eisoes wrth ddechrau astudio tuag at SAC
  • peidio â bod wedi’i gyflogi i addysgu mewn ysgol neu sefydliad arall fel athro neu athrawes wrth ddechrau ar raglen AGA ôl-raddedig gymwys
  • peidio â bod yn dilyn hyfforddiant a drefnwyd o dan gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth. Mae hyn yn cynnwys y TAR cyflogedig
  • uniaethu â grŵp ethnig leiafrifol a datgan hynny i'w Partneriaeth AGA. Rhaid i’r datganiad ymwneud ag un o’r grwpiau ethnig canlynol:

Asiaidd:

  • Bangladeshaidd neu Fangladeshaidd Prydeinig
  • Tsieinïaidd neu Dsieinïaidd Prydeinig
  • Indiaidd neu Indiaidd Prydeinig
  • Pacistanaidd neu Bacistanaidd Prydeinig
  • Unrhyw gefndir Asiaidd arall

Du, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd:

  • Affricanaidd neu Affricanaidd Prydeinig
  • Caribïaidd neu Garibïaidd Prydeinig
  • Unrhyw gefndir Du arall

Grwpiau cymysg neu aml-ethnig:

  • Gwyn neu Wyn Prydeinig ac Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig
  • Gwyn neu Wyn Prydeinig a Du Affricanaidd neu Ddu Affricanaidd Prydeinig
  • Gwyn neu Wyn Prydeinig a Du Caribïaidd neu Ddu Caribïaidd Prydeinig
  • Unrhyw gefndir Cymysg neu Aml-ethnig arall

Gwyn:

  • Sipsiwn neu Deithwyr Gwyddelig
  • Roma
  • Iddewig

Grŵp ethnig arall:

  • Arabaidd
  • Cwrdaidd

I fod yn gymwys i gael rhandaliad SAC, rhaid i fyfyriwr:

  • fodloni'r gofynion cymhwysedd ar gyfer y Cynllun Cymhelliant AGA o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol 
  • bod wedi cwblhau rhaglen AGA gymwys yn llwyddiannus . Bod wedi ennill SAC yn unol â Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012

I fod yn gymwys i gael y rhandaliad olaf, ar ôl cwblhau’r broses sefydlu, rhaid i athro newydd gymhwyso:

  • fod wedi bodloni'r gofynion cymhwysedd ar gyfer y grant a bod wedi derbyn taliad cymhelliant SAC
  • bod wedi cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus a chael tystysgrif sefydlu o fewn tair blynedd ar ôl ennill SAC mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, fel sy’n ofynnol o dan Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015.

Os oes gennych gwestiynau ynghylch cymhwysedd, dylech eu trafod gyda’ch Partneriaeth AGA.

Pa grant sydd ar gael a phryd caiff taliadau eu gwneud

O dan y cynllun hwn mae grant cymhelliant o hyd at £5,000 ar gael i bob myfyriwr sy'n bodloni’r meini prawf cymhwysedd. 

Gwneir y taliadau cymhelliant o £5,000 mewn 2 randaliad. Cânt eu talu ar yr adegau canlynol:

  • £2,500 ym mis Gorffennaf/Awst ar ôl cwblhau TAR yn llwyddiannus a dyfarnu SAC. Pan fydd myfyriwr yn cael ei asesu gan fwrdd arholi sy’n delio ag ail geisiadau, bydd y taliadau yn cael eu gwneud cyn 31 Rhagfyr.
  • £2,500 ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus yng Nghymru.

Sut i wneud cais a sut caiff taliadau eu gwneud

Gweinyddir y cynllun hwn gan Llywodraeth Cymru ac ar ran Llywodraeth Cymru gan Bartneriaethau AGA. Cysylltwch â’ch Partneriaeth AGA i drafod a ydych yn gymwys, i wneud cais am y cymhelliant, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael eich taliad SAC gan eich Partneriaeth AGA. Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud y cymelldaliad olaf. Caiff ei dalu ar ôl cwblhau cyfnod sefydlu yn llwyddiannus a chael tystysgrif sefydlu.

Datganiad y Myfyriwr a Chofrestru

I sicrhau bod dysgwyr ysgolion Cymru yn cael gweithlu addysgu mwy amrywiol, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i:

  • wneud Cymru yn genedl wrth-hiliol
  • cynyddu nifer yr athrawon sydd o gymunedau ethnig lleiafrifol

Rydym yn gofyn i fyfyrwyr sy’n gwneud cais am y Grant Cymhelliant AGA o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol am wybodaeth am eu hethnigrwydd. Gwneir hyn er mwyn:

  • sefydlu p’un a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun
  • deall yr amrywiaeth gyffredinol sydd o fewn y garfan o fyfyrwyr
  • ceisio amcangyfrif amrywiaeth gweithlu'r dyfodol

Gofynnwn ichi ddewis o blith restr o grwpiau ethnig sy'n adlewyrchu'r rhai a ddefnyddir gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch. Bydd hyn yn sicrhau dull cyson o ddeall amrywiaeth ethnig o fewn addysg uwch yng Nghymru.

Bydd Partneriaethau AGA yn darparu ffurflen gofrestru i fyfyrwyr cymwys. Rhaid llofnodi hon ar ddechrau eich rhaglen AGA. Mae hyn yn cadarnhau eu bod yn gymwys ac yn ei gwneud yn bosibl gwneud taliadau o dan y cynllun hwn. Mae’r ffurflen gofrestru yn gofyn ichi gadarnhau eich bod wedi darllen a deall yr wybodaeth sydd ar y gwe-dudalennau hyn. Os na dderbynnir y cadarnhad hwn, ni ellir gwneud taliadau grant.

Caiff yr wybodaeth ar y ffurflen gofrestru ar gyfer y cynllun cymhelliant ei rhannu â phartneriaethau AGA a Llywodraeth Cymru. 

Mae adran Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi manylion am yr hyn a wnawn â gwybodaeth.

Taliad SAC

Gwneir y taliad hwn i fyfyrwyr cymwys ar ôl cwblhau rhaglen AGA gymwys yng Nghymru sy'n arwain at SAC (ar ôl dyfarnu SAC).

Mae Partneriaethau AGA y myfyrwyr yn gyfrifol am wneud y taliadau SAC. Nhw fydd yn penderfynu ar yr union ddyddiad. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau atyn nhw.

Ni fydd gan fyfyrwyr sy’n methu ag ennill SAC hawl i gael y cymhelliant hwn.

Y cymelldaliad olaf

Gwneir y taliad hwn i athrawon newydd gymhwyso cymwys ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus ac ar ôl cael tystysgrif sefydlu. Rhaid i’r broses sefydlu ddigwydd mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am wneud y taliad hwn. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn cysylltu â myfyrwyr yn ystod y broses sefydlu. Gwnânt hyn i sicrhau bod ganddynt yr holl fanylion perthnasol i brosesu’r taliad grant hwn.

Ni ellir hawlio’r taliad hwn oni bai bod y myfyriwr cymwys wedi derbyn y taliad SAC ar gyfer y cynllun hwn.

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn gyfrifol am wneud y cymelldaliad olaf. Nhw fydd yn penderfynu ar yr union ddyddiad. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau at datblygiadproffesiynol@cga.cymru.

Rhaid i chi hawlio'r cymelldaliad olaf o fewn blwyddyn i gwblhau eich cyfnod sefydlu, neu ni fydd modd gwneud y taliad. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod wedi hawlio’r taliad.

Gohirio, tynnu'n ôl ac ailgydio

Os byddwch yn gadael rhaglen AGA gymwys cyn ei chwblhau a chyn dyfarnu SAC, ni fydd hawl gennych i’r cymhelliant hwn.

Os byddwch:

  • yn ailgydio mewn rhaglen gymwys
  • yn dechrau rhaglen gymwys, ar ôl ei gohirio

gwneir taliadau ar yr un gyfradd a oedd yn weithredol y flwyddyn academaidd pan wnaethoch ddechrau neu pan wnaethoch ohirio, oni bai bod Gweinidogion Cymru yn cytuno fel arall yn ysgrifenedig.

Dychwelyd at Raglen AGA ar ôl Medi 2022

Os:

  • gwnaethoch ddechrau eich rhaglen AGA cyn Medi 2022
  • rydych yn dychwelyd i gwblhau eich rhaglen ar neu ar ôl 1 Medi 2022

nid ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun cymhelliant hwn.

Taliad SAC

Os byddwch yn gohirio eich astudiaethau cyn ennill SAC, ni fyddwch yn gymwys i gael y taliad SAC. Fodd bynnag, os byddwch yn ailgydio yn eich astudiaethau ac yn ennill SAC, bydd gennych hawl i’r taliad pan ddyfernir SAC ichi. Gwneir y taliad ar ôl cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy'n arwain at SAC (ar ôl dyfarnu SAC). Gwneir y taliad yn unol â'r amodau hyn.

Os byddwch yn ailgydio mewn rhaglen AGA mewn blwyddyn academaidd wahanol, bydd angen llenwi ffurflen ohirio ac ailgydio. Siaradwch â’ch partneriaeth AGA. Caiff yr wybodaeth ar y ffurflen a ddaw i law ei rhannu â phartneriaethau AGA a Llywodraeth Cymru.

Ni fydd gan fyfyrwyr nad ydynt yn ennill SAC ar ddiwedd eu rhaglen AGA hawl i gael y taliad SAC.

Y cymelldaliad olaf

Os ydych yn gymwys i gael y cymhelliant hwn ac wedi ennill SAC, ond nad ydych yn cwblhau eich proses sefydlu, ni fydd hawl gennych i gael y taliad hwn.

Rhaid cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru.

Rhaid cwblhau'r broses sefydlu yn llwyddiannus o fewn tair blynedd i ennill SAC.

Adennill grantiau

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i adennill grantiau a dalwyd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol. Mae ganddynt ddisgresiwn i arfer y pwerau hyn ai peidio, a byddant yn ystyried pob achos yn ôl ei deilyngdod.

Dyma sefyllfaoedd pan ganiateir i’r pwerau hyn gael eu harfer gan Weinidogion Cymru:

  • os bydd y derbynnydd, ar ôl cael unrhyw randaliad o grant cymhelliant, yn methu â bodloni unrhyw feini prawf cymhwysedd a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru ac a nodir yn y cynllun cyfreithiol neu'r canllaw hwn mewn perthynas â rhandaliad dilynol
  • os yw’r derbynnydd, yn ei gais am grant, neu mewn cysylltiad â’r cais hwnnw, wedi darparu gwybodaeth ffug neu wybodaeth sy’n gamarweiniol mewn ffordd berthnasol
  • os oes tystiolaeth ddigamsyniol nad oedd y derbynnydd erioed wedi bwriadu cwblhau'r rhaglen neu nad oedd yn fwriad ganddo, ar ôl ei chwblhau, fynd i addysgu

Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth

Mae’r wybodaeth y mae myfyrwyr yn ei chyflwyno, fel rhan o'u hawliad o dan Gynllun Cymhelliant AGA o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (“y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth"), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (yr "EIR"), Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018 (“y Ddeddf Diogelu Data").

Mae myfyrwyr hefyd yn cydnabod mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu yn ôl ein disgresiwn llwyr:

  • a ddylid datgelu unrhyw wybodaeth yr ydym wedi’i chael o dan neu mewn cysylltiad â’r Cyllid i’r graddau y mae’n ofynnol inni ddatgelu gwybodaeth o’r fath i berson sy’n gwneud cais am ddatgeliad o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r EIR a/neu
  • a yw unrhyw wybodaeth wedi’i heithrio rhag cael ei datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r EIR
  • a ddylid cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych. Mae angen y gwiriadau hyn i brosesu data personol amdanoch i asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol y mae'n ei chael. Bydd unrhyw ddata personol a gasglwn yn cael ei reoli yn unol â'n Hysbysiad Preifatrwydd a’n 'Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru'.

Grantiau cymhelliant AGA eraill sydd ar gael

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu 3 chynllun cymhelliant sydd ar gael i fyfyrwyr AGA.

Bydd partneriaethau AGA yn gweithio gyda’u myfyrwyr i helpu i nodi pwy sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer pob cynllun. Efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer mwy nag un cynllun. Nid yw’r ffaith eich bod yn gymwys o dan un cynllun yn effeithio ar eich cymhwysedd ar gyfer cynlluniau cymhelliant AGA eraill. Mae’n bosibl derbyn cyllid grant o dan bob un o’r 3 chynllun cymhelliant. Rhaid bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer pob cynllun unigol.

Yr effaith ar unrhyw gymorth ariannol arall

Treth

Fel rheol, ni chaiff grantiau cymhelliant ar gyfer myfyrwyr llawn-amser eu trethu.

Efallai y trethir y cymelldaliad olaf yn achos unigolion sy’n gweithio.

Gallwch ofyn i Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi am gyngor ynghylch eich union amgylchiadau chi.

Cymorth ariannol i fyfyrwyr

Ni ystyrir grant cymhelliant yn rhan o incwm aelwyd at ddibenion darpariaethau cyllid myfyrwyr. Ni ddylid cynnwys grantiau wrth gyfrifo incwm trethadwy nas enillwyd.

Dylech ofyn i’ch darparwr cyllid myfyrwyr am gyngor ynghylch eich union amgylchiadau chi.

Ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr

Yn achos myfyrwyr llawn-amser, ni fydd y grant yn arwain at orfod ad-dalu benthyciad myfyriwr.

Yn achos myfyrwyr rhan-amser, bydd yn dibynnu p’un a yw eich cyflog gwaith yn ddigon uchel ichi fod angen ad-dalu benthyciad myfyriwr.

Mae’n bosibl y bydd y cymelldaliad olaf yn arwain at orfod ad-dalu benthyciad myfyriwr. Bydd yn dibynnu p’un a yw eich cyflog gwaith yn ddigon uchel.

Yr effaith ar fudd-daliadau

Bydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.

Dylech ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau am gyngor.

Yr effaith ar bensiynau

Nid yw’r grant cymhelliant yn bensiynadwy.

Manylion cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â’ch partneriaeth AGA.